Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
YR UNDEB YN 1916. YNHULIR Cyfarfodydd yr Undeb yn 1916 ym Mrynaman ar y 12fed, 13eg, I4eg, a'r i5fed o Pehefin. JOHN WILLIAMS, Ysg. Hynaf. DALIEIR SYLW. PWYSIG. Byddwn ddiolchgar i'n Gohebwyr air eu sylw i'r Cyfarwyddiadau canlynol. i. Anfoner pob adioddiad o newydd- ion lleol, cyfarfodydd, galwadau, cynhadl- eddau, Cyfarfodydd Chwarterol, &c., yn uniongyrchol i'r Swyddfa. 2. Ond anfoner pob Uythyr i'r Gol- ygydd,' llenyddiaeth i'w hadolygu, a gohebiaethau i "Golofn yr Eglwys' yn syth iddo ef- } 7 GLYNRHONDDA STREET, CARDIFF. GOIi.
.- .. fi- .-.- ..-.-"-AT EIN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
fi- AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-Y Milwyr yn Ilanduduo- I Rhanbarth Penybout.
JCYNLLWYN Y GORFODWYR.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JCYNLLWYN Y GORFODWYR. MAE dadleniad y Daily News o ystryw olaf y Gorfodwyr milwrol yn ddigon i frawychu pawb sy'n caru ei wlad ac yn pryderu am ei goruchafiaeth yn y rhyfel ofnadwy hwn. Gwyr pawb mor ddibris a beiddgar yw NORTHCLIFFE a'i wasg a'i gynffonwyr wedi bod yn yr ymgyrch hon, ac nid oes ond y dall yn unig na wel drwy ei holl driciau gwarthus a niweidiol. Yr amcan yn syml yw manteisio ar y rhyfel i ddwyn gorfodaeth i mewn fel sefydliad milwrol parhaol, a'i ddefnyddio yn offeryn i ddinistrio undebau llafnr a chadw'r werin yn is-wasanaethgar i gyfalafwyr a mawrion y tir. Fel y dywedodd un eadfridog sy'n awr ar y maes, 'Eu hamcan yw ennill gorfodaeth, ac nid ennill y dydd.' Maent wrthi yn gweithio a dyfeisio yn haerllug er dechreu y rhyfel. Yn gyntaf, gwelsant nad oedd KITCHENER, eu heilun perffaith ar y dechreu, yn barod i ddawnsio i'w pibell, a cheisiwyd ymhob modd ei warth- ruddo a'i ddinistrio ond camgymerasant eu dyn a'r werin, ac yn wir eu pleidwyr arferol eu hunain, a gwelwyd y Times a'r Daily Mail yn cael eu llosgi ar lawnt yr Exchange a'i ymlid o ddarllenfeydd llawer lie. Yna gwelsant gyfle i ddiswyddo CHURCHILL oherwydd trychinebau'r Dar- danelles. Er ei fod dros orfodaeth, yr oeddynt yn barod i'w aberthu er mwyn peth mwv, sef dinistrio'r Weinyddiaeth Ryddfrydig, am y gwyddent na cheid gor- fodaeth byth tra parhai honno mewn awdurdod. Pan welsant na lwyddwyd yn hyn, er i CHURCHILL orfod mynd, y cam nesaf oedd gweiddi am Lywodraeth gy- mysg o Doriaid a Rhyddfrydwyr. Credent pe ceid hyn y diorseddid ASQUITH a HAL- DANE a GREY—eu prif rwystrau ar ffordd gorfodaeth. Gyrrwyd HALDANE, un o feddylwyr mwyaf y dydd, ynghylch ei fusnes, a chafwyd Llywodraeth gymysg ond methiant oedd hyn i gyd, tra parhai ASQUITH a GREY yn eu swydd. A'r game yn awr yw haeru fod y Wein- yddiaeth yn rhy fawr a lluosog; rhaid cael un lai ac ymddiried mwy ynddi, a gadael 1 iddi wneud fel y myn Yr amcan, bid siwr, yw chwynnu ASQUITH a KITCHENER a'r gwirfoddolwyr i gyd allan, a gadael ffawd y deyrnas a'r byd yng ngofal sypyn o orfodwyr wrth fodd calon NORTHCLIFFE a'r Times. Y sciam oedd cael y lleiafrif o orfodwyr yn y Weinyddiaeth i ymddiswyddo os na chaent eu ffordd, a gwneud hynny cyn i ffeithiau a chanlyniadau y Cofrestriad Cenedlaethol gael eu casglu a'u dosbarthu, ac i'r Cabinet benderfynu ar ei gynllun. oddiwrthynt. (Tybed fod arnynt ofn gwersi'r Cofrestriad ?) Canlyniad yr ym- ddiswyddiad fyddai dryllio'r Llywodraeth a rhannu'r wlad, ac yna crochfloeddiai'r taranwr N ORTHCLIFFE-canvs efe bellach yw Dictator y Cabinet-am etholiad eyff- redinol, gan ddisgwyl, bid siwr, y llwyddai i ennill ei bwynt yn y llanastr a'r tryblith ganlynai. Gwyr pawb na byddai etholiad yn ddim ond farce hollol dan yr amgylch- iadau, ac y byddai'r genedl yn goelcerth eirias cyn pen yr wythnos wedi i'r wys! fyned allan. Rhennid y genedl yn ddau wersyll nwydwyllt, a chrechwenai Germani yn braf wrth weld ein drych. Digalonnid yr Unolwyr (Allies) eraill, a pharlysid ein holl achos. < Ond beth ped enillai y dydd, un ai trwy godi arswvd ar y Cabinet, neu trwy ffug- etholiad ? Beth hefyd ? Onid yw Mr J. H. THOMAS, yr Aelod dros Derby, ysgrif- ennydd y Rheilwyr, wedi mynegi yn ddi- floesgni mai gwrthryfel diatreg ddilynai ? Byddai pob rheilffordd yn segur cyn pen teirawr, ac undebau llafur a chrefftwyr y wlad yn galw ar eu lluoedd i roi i fyny weithio, y foment yr elai'r gair allan fod gorfodaeth filwrol yn ddeddf y wlad. Maent wedi ymladd yn rhy hir a chaled i ennill eu breintiau presennol byth i'w rhoi i fyny ar archiad Cabinet na Senedd a ildio fodfedd i'r Times a'i berchennog. Mae ffynhonnell yr holl fudiad yn amheus ac ysgymun yn eu golwg o'r dechreu, ac nid oes ddim a'u gorfydd i blygu i'r bobl hyn. Ond beth os yw tynged y wlad yn y glorian, ac yn dibynnu am ymwared ar orfodaeth filwrol ? Dyna'r very peth sydd i'w brofi, a ffeithiau diymwad yn unig dderbynnir gan werin a gweithwyr bellach. Ni chymerant air hyd yn oed y Llywodr- aeth arno, am y gwyddant erbyn hyn fod amryw o'i haelodau yn ddilynwyr NORTH- CLIFFE. Pe buasai'r IJywodraeth wedi gweinyddu cyfiawnder ynglyn a'r gwr hwn cyn iddo gael cyfle i arwain Prydain i fin y dibyn, a'i roi yn ddiogel dan glo-efe a'i bapurau—buasai wedi cyrraedd dau amean mawr, sef ufudd-dod ac ymddiriedaeth drylwyr y gweithwyr, ac undeb a cyd- weithrediad holl bobl y tir-ac mae'r ddau yn hanfodol i lwyddiant yn y rhyfel hwn. Os daw gorfodaeth, daw dau ganlyniad andwyol yn sell eu gilydd, sef gwrthryfel gartref, a chlytio heddwch â Germani fydd yn golygu dinistr bythol Prydain fel un o alluoedd mawr y byd. Ac i feddalwch y Ivhywodraeth a gwallgofrwydd NORTH- CLIFFE y bydd raid priodoli'r tychineb arswydus i gyd. Lloyd George j a'r Helynt. DYWEDID unwaith fod ein cydwladwr enwog, Mr. Lloyd George, wedi ei lygad-dynnu gan or- fodaeth, ac yn chware i ddwylo beiddgar- wyr y Times. O'r braidd y gallem gredu'r fath beth, ac ni chredwn ef ychwaith hyd nes yr eddyf ei hun yn orfodwr. Mae meddwl am Lloyd George yn yr un gorlan a Curzon a Milner a Northcliffe tuhwnt i'n hamgyffrediad, ac arhoswn yn bryd- erus am fwy o sicrwydd ar y mater. Nid hawdd yw llyncu'r anhygoel, yn enwedig un mor eithriadol a hyn. A da oedd gennym ddarllen ei lythyr yn y wasg-ei fod ef a'r Cabinet yn aros nes gweled beth or- fyddai'r ffeithiau iddynt wneud. Parod yw efe hyd yn oed i fabwysiadu unrhyw fesur fo yn amlwg angenrheidiol er arbed yr Ymerodraeth. Cwestiwn o ffeithiau ac nid o egwyddor ydyw ganddo ef. Mae hyn yn swnio yn eithaf rhesymol, ac eto nid yw yn tawelu ysbryd neb sy'n sylweddoli y sefyllfa. Ac mae holl don y llythyr yn amwys ar gwestiwn gorfodaeth yn y pen draw. Ymddengys mai yr unig beth sydd eisiau yw gwneud case boddhaol drosto. Nid ydym am foment yn ameu dilys- rwydd a "diffuantrwydd Mr George yn y mater hwn, a gwyddom nas gall byth gael ei hud-ddenu gan yr un ystyriaethau a Northcliffe a Milner i gymeradwyo gor- fodaeth. Yr un pryd, mae rhai pethau, os nad yn ei lythyr, yn codi yn naturiol ohono, sydd yn ein gorfodi i ymholi a phryderu. Er enghraifft, paham y mae rhai yn y Cabinet, cyn i'r ffeithiau y sonia am danynt gael eu llawn drafod, eisoes yn orfodwyr proffesedig, ac wedi hen gau pen y mwdwl arno ? Os geilw ar y werin i ymatal rhag rhuthro i benderfyniad, pam na roddai gorfodwyr y Cabinet esiampk iddi ? Eto, dwrdia yn enbyd yn erbyn rhyw ddynion bach (mean) sy'n cyn- hyrfu ac yn corddi'r wlad, gan wenwyno meddwl pobl i'w hamcanion gelynol a phersonol eu hunain. Meddai— Nid ydynt ond clymblaid fechan, ond dyna'r terfysgwyr niweidiol (mis- chief-makers) sydd lawer tro wedi troi trafodaeth yn gynnen. Eu hamcan, mae,ii debyg, yw gwasgaru drwgdybiau ac anghydfod ymhlith dynion y mae'n hanfodol i lwyddiant y genedl eu cael i gydweithio. Dylai'r creaduriaid hyn gael eu stampio allan yn ddidrugaredd gan bob plaid cyn gynted ag y gwelir hwy yn ymgripian ar hyd y llawr.' Rhagorol ond pam na ddechreuir gyda Northcliffe a'r Times, sydd er's yn agos i flwyddyn yn hau gwenwyn ac anghydfod a chelwydd i bob cyfeiriad ? A phwy sydd i sathru ysgrubliaid fel hyn allan os na wna'r Ltywodraeth ? Gwyr yn dda y difrod a'r drygfyd gyflawna gwyr y Times gartref ac oddicartref, ac eto nid yw hi wedi symud bys i'w rhwystro. A sut y gall ddisgwyl i bleidiau wneud hyn pan mae hi ei hun yn ddiymadferth hollol ? A-mwy na'r cwbl, sut na bai wedi rhoi hint i'r giwaid hyn fod yn ddistaw hyd nes buasent yn gwybod y ffeithiau ? A wyddai'r Times fwy na Kitchener nac Asquith na Gweinidog y Cadarlwy ? Hefyd, paham y dywedid mai silver bullets oedd eisiau bennaf pan oedd Mr George yn si