Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
- - - - The Welsh Hospital…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
The Welsh Hospital at Netley. Mrs Lloyd George, accompanied by Lady Mond and Miss Megan TJoyd George, visited the National Hospital on Friday last. The Hospital was full, there being 204 men and 8 officer patients, a large number having been admitted from the Dardanelles on the previous evening. It was a beautiful day, and the Hos- pital was looking its best. All the wards were visited, and Mrs floyd George took the greatest interest in conversing with the patients, par- ticularly those from Welsh regiments, of whom there were a number recently admitted. The majority of the wounded are from the Dardan- elles, comprising members of many British terri- torial regiments, besides Australians, New Zea. landers and Canadians.—'all sorts and condi- tions of men.' The Lloyd George bed was occupied by an Irishman, who said it was a very good bed to sleep on Others of the endowed beds which exited interest were the Women's Suffrage beds and the Welsh Dogs bed. The occupant of one of the former beds expressed his sympathy with the Suffrage cause, although he did not approve of window-smashing methods. The Welsh Dogs bed represents £ 250 collected by dogs throughout Wales and a photograph album of the dogs in their collect- ing costumes, which is placed near the bed, much interested Miss Megan. The visitors lunched with the staff, after which further wards were visited, also the operating theatre, X-ray, domestic and other departments. During the eleven months it has been at Netley the Welsh Hospital has thoroughly established itself, and with its open corridors, surrounded by shrubs, bright, cheerful country surroundings, and spacious wards, presents a most attractive appearance, and drew the warmest praises from the visitors. A packet of letters which had saved a man's life caused Mrs Lloyd George to voice her ap- proval of armour. The tales of the wounded, particularly dramatic incidents connected with the landing and fighting in the Dardanelles, excited much interest. Gifts of cigarettes for the patients and flowers for the wards from the visitors were greatly appreciated. The visitors were shown round by the Com- manding Officer, Col. A. W. Sheen the Matron, Miss E. G. Evans, A.N.S.R. and other officers of the Hospital, and spent between three and four hours on their visit. Before leaving, Mrs Lloyd George expressed her great admiration of the Hospital and the work it was doing, and said she hoped. to bring her husband on another occasion when he had time to spare.
Soar, ger Tregaron.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Soar, ger Tregaron. Darlith.—Traddodwyd darlith yn y lie uchod prydnawn dydd Gwener, y lOfed cyfisol, gan yr Athro Joseph Jones, M.A., B D, Aber- honddu Daeth torf luosog yngbyd i wrando ar yr Athro yn ymdrin &'r pwnc Dyled (Iwar- eiddiad i fan Genhedloedd.' Llywyddwyd mewn dull deheuig gan Mr John Rowland, Y.H M V.O. Cyfaill calon i'r achos yn Soar yw efe. Ni fu cyfarfod o'r math hwn yn Soar erioed o'r blaen, a golygfa ddiddorol oedd gweld y dorf, yn wyr a gwragedd, yn dod bob un ar ei ferlyn i wrando y ddarlith. Nid gormod aberth oedd ganddynt adael y cynhaeaf a dod erbyn hanner awr wedi pedwar i'r addoldy i glywed rhywbeth am werth cenhedl- oedd bychain. Hoff yw r Athro o'r pwne hwn, ac ni chlybn wyd ef erioed yn traethn yn fwy effeithiol nag i wyr a gwragedd Soar ar y mynydd.
I -.. CYPARFOPYPP.---CYFARFODYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYPARFOPYPP. CYFARFODYDD. LORD DUNCAN-STREET, SALFORD.- Cynhaliodd yr eglwys hou ei chyfarfod preg- ethu blynyddol nos Sadwrn a'r Saboth, Medi lleg a'r 12fed, pryd y gwasanaethwyd gan yr Hybarch Dr Owen Evans, Lerpwl. Cafwyd gwasanaeth cerddorol prydnawn Saboth gan Gor Hope Chapel. Mawr fwynhawyd yr holl odfeuon. CARMEL, PENRHIWCEIBR.—Dyddiau Sul a Llun, Medi 12fed a'r 13eg, cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd pyegethu blyn- yddol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn Peter Price, D.D., Rhos, a Stanley Jones, Caer- narfon. Cafwyd pregethu grymus, dylanwad dwfn, a chynulliadau lluosog.
JCYNLLWYN Y GORFODWYR.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ganghellor, a nwyddau rhyfel pan ddaeth yn Gadarlwywr ? A beth sydd yn peri troi'r stori at orfodaeth yn awr ? Tra yn diolch am y llythyr, ac yn gwybod yn dda y bydd ein cydwladwr dewr uwchlaw'r dylanwadau sy'n cymell y Times a'i griw i grochdar yn dragyfyth am orfodaeth, eto ychydig gysur allwn dynnu ohono, yn enwedig pan awgryma y gall y ffeithiau ei orfodi i gymryd cwrs fydd yn cau allan o'r cyfrif bob ystyr- iaeth o'i ragolygon politicaidd. Swn drycin sydd yn hyn, os na chwyd gwawr o'r ffeithiau.' Tybed y gwna ? R. J. Campbell. MAE R. J. Campbell wedi ymddiswyddo o weinid- ogaeth y City Temple, a'r ymddiswyddiad wedi ei dderbyn gan yr eglwys. Y rheswm eyntaf roddwyd am yr ymddiswyddiad oedd cyflwr ei iechyd, ac mae yn hollol wybyddus ei fod beth amser yn ol wedi ei gystuddio yn drwm, a digon bregus oedd ei iechyd cyn hynny. Ond ymddanghosai yn ddiweddar, trwy y cymorth oedd wedi ei drefnu iddo gan yr eglwys, yn alluog i gyflawni ei waith yn y pulpud yn hollol lwyddiannus a myn- egir fod yr eglwys wedi datgan ei pharod- rwydd i barhau y cynllun hwn. Ac yr oedd yntau wedi bod allan yn Ffrainc yn gweini i'r milwyr yn ystod yr wythnosau diweddaf, a bwriada ddychwelyd yno eto yn ddiymdroi. Nid yw hyn yn dynodi gwendid corfforol eithafol iawn, canys gwaith go galed yw gwaith gweinidog ar faes y gad. Ofnwn fod mwy na hyn dan yr ymddiswyddiad ac nid yw rhai pap- urau wedi bod yn ol o hysbysu yn ben- dant mai gwir fwriad Mr Campbell yw cilio i'r Bglwys Wladol, a myned dan law esgob i'w urddo. Ac nid yw gwadiad Mr Campbell ond un doff iawn. Ceir gweled. Dywedasom adeg y Ddiwinyddiaeth Newydd mai ansefydlog ac anwadol oedd ei hanes erioed, ac ni ryfeddem weled unrhywbeth yn digwydd ynglyn ag ef. Mae yn ddyn galluog iawn, ac yn breg- ethwr gwych. Mae hefyd yn hollol onest a brwdfrydig gyda phopeth yr ymgymer ag ef ond nid yw sefydlogrwydd na balast wedi bod yn elfen amlwg yn ei yrfa o gwbl, ac ofnwn mai prin y gellir disgwyl ei gweled bellach. Yn wir, ni ryfeddem ei weled, er yr ymddiswyddiad, yn ail-gydio yn ei waith yn y City Temple mor aiddgar ag erioed. Byddai tro sydyn felly yn ei siwtio i'r dim. C no'r Enwadau yn Lloegr. MAE'R Saeson wedi cynnal Cynhadledd fawr i drafod y cwestiwn o uno yr en- wadau, ac wedi penodi pwyllgor i edrych i mewn 1 r mater a dwyn adroddiad 1 Cynhadledd arall. Dau beth mawr gaethiwai sylw'r Gynhadledd mor bell ag y gwelsom ni. Un oedd y lluosogi achosion mewn ardal- oedd lie nad oes eu heisiau, a'r priodoldeb o'u huno i wneud un eglwys rydd gref mewn man bentrefi a mannau gwledig. Mae overlapping wedi ei gario i eithafion yn lyloegr, a phair nychtod a niwed i achos Crist. Ac yr oedd y Gynhadledd yn weddol unol ei barn y dylid wynebu y sefyllfa o ddifrif a rhoi pen arni. Peth arall ddaeth yn glir yn y drafodaeth oedd fod Ymneill- tuwyr Lloegr wedi llwyr ddeffroi i broMem fawr eu lleihad blynyddol, ac fod cysyllt- iad agos rhwng y mater a/r un blaenorol, sef lliosogi diangen ar achosion. Nid hawdd cael gan bob! i ymuno ag achos lianner marw, a'i nychtod yn hysbys i bawb ac nid hawdd cael plant y pentref i Ysgol Sul aneffeithiol mewn adeilad anghymwys, tra mae Eglwys Loegr yn meddu ar adeil- i adau pwrpasol yr ysgolion dyddiol, ac yn troi pob ffrwd at ei melin. Pe gellid uno'r achosion gweiniaid yn un achos cryf, gellid troi a chymhwyso un neu ychwaneg o'r capeli gweigion at wasanaeth yr Ysgol Sul, a cheid eglwys gref tucefn iddi. Mae y solution i'r broblem felly yn gorwedd i'r un cyfeiriad yn hollol pe gellid lleihau'r achosion gellid lluosogi'r Ysgolion Sul a chadw'r un achos cryf i gerdded ymlaen ac ennill nerth o flwyddyn i flwyddyn. Efallai nad yw'r ysbryd enwadol mor gryf yn Lloegr ag yw yng Nghymru, ac fod rhifedi'r achosion mewn pentref bach yn gwreiddio mor ddwfn yn anianawd ein cenedl ni fel nad yw mor hawdd ei setlo, a dywedyd y lleiaf, ag yw yn Lloegr. Ond yn sicr dylai mwy o gydweithredu a chyd- ddeall a chydymdeimlo fod yn ein mysg nag y sy a dylai hyn, beth bynnag, gael sylw ymarferol gennym yn ddioed. Gallai yr Undeb Efengylaidd newydd fod o werth amhrisiadwy yn y cyfeiriad hwn, heb fathru o gwbl ar deimlad na chydwybod yr un enwad. Am y mater arall, y lleihad cyson, ofnwn mai ychydig iawn gymer unrhyw ddiddordeb ynddo—hynny yw, diddordeb a digon o blwc ynddo i'w drafod, a digon o grefydd ynddo i wneud hynny yn ddoeth a gweddigar. Mae'r Saeson yn amlwg ar y blaen inni yn y ddeubeth, a bendith arnynt. Gohirio Datgysylltiad. MAE'R gair wedi mynd allan o Lys y Brenin nad yw'r Eglwys Wladol yng Nghymru i'w datgysylltu hyd derfyn y rhyfel. Mae hyn yn hollol gyson a'r trefniant wnaed i ohirio Home Rule a Datgysylltiad pan dorrodd y rhyfel allan. Mae hefyd yn ein hatgofio o orch- fygiad y mesur cyfrwys ddygwyd i mewn yn Nhy'r Arglwyddi i ohirio'r Datgysyllt- iad hyd chwe mis ar ol y rhyfel. Pennod dywell yw honno yn hanes y Weinydd- iaeth Ryddfrydig a phan ddadlennir hi, os gwneir hynny byth, ofnwn y gwelir staeniau ar gyn-ieriad gwleidyddol cryn nifer o wyr blaenllaw. A rhaid i ni addef ein bod yn dra amheus o eiriad y myneg- iad wneir yn awr gan y Cyfrin-gyngor. Rhaid cofio mai Llywodraeth gymysg o Doriaid a Rhyddfrydwyr sydd tu ol iddo, ac ystwyth ac amhenodol ryfeddol yw yr ymadrodd terfyn y rhyfel.' Nodasom hyn allan adeg helynt Mesur yr Oediad. Gall olygu llawer o betliau, megis diwedd yr ymladd ar y maes a'r mor, dechreu neu ddiwedd y drafodaeth am heddwch, ar- wyddo'n derfynol gytundeb heddwch, neu gydnabyddiad gan y byd o'r fath gytun- deb. Hynny yw, gall olygu wythnos neu flwyddyn, a gall clerigiaid clyfer a gwancus chware cryn hafog ar fuddiannau ariannol, &c., rhwng y ddau amser yna. Gwelsom fod Esgob Llanelwy wedi ebychu allan ar unwaith y dylai'r term gael ei ddeffinio, ac am dro cytunwn ag ef. Ond ni soniodd air wed-yn am y peth, am y rheswm digonol yn ddiau ei fod wedi cael hint o gyfeiriad cyfrwysach i dewi a son. Eithr gan y byr- bwyll y ceir y gwir fynychaf, ac un felly yw'r Esgob. Mae ei ddistawrwydd lawn mor awgrymiadol a'i lef ar y mater hwn, a dylem oil fod yn wyliadwrus ac effro.