Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

t Y WERS SABOTHOL. t i

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

t Y WERS SABOTHOL. t i 4 —— 1 Y WERS RYNQWLADWRIAETHOL I 4 Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., J | TREFFYNNON. £ HYDREF 3ydd.—Elias yng Ngwinllan Naboth, —1 Bren. xxi. 11-20. Y TESTYN EURAIDD.—' Ond os chwi lii wna fel hyn wele, pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi.'—Nuineri xxxii. 23. I RHAGARWEINIOL. WEDI i'r Syriaid gael eu gorchfygu gan Israel, gwnaethant baratoadau i ail-ymosod ar Israel. Dywedasant Duwiau y mynyddoedd yw eu duwiau, am hynny trech fuont. Ond os ym- laddwn a hwynt yn y gwastadedd, ni a'u gorth- rechwn.' Felly casglodd Benhadad fyddin mor luosog a'r fyddin o'r blaen, ac a ymosododd ar Israel. Trwy gymorth Jehofah cafodd Israel fuddugoliaeth ar y Syriaid y tro hwn eto ond oherwydd i Ahab arbed bywyd Benhadad, yn groes i air yr Arglwydd, parhaodd y Syriaid i aflonyddu ar Israel. Parhaodd eilunaddoliaeth yn y wlad, ac nid oedd eu duwiau yn alluog i'w gwaredu rhag eu gorthrymwyr. Yn y Wers cawn olwg ar ddrygioni a chreulondeb Ahab a'i wraig Jezebel. Yn hanes gwinllan Naboth daw eu cymeriad i'r golwg. Samaria ydoedd prif- ddinas Ahab, ond yr oedd ganddo balasdy pryd- ferth yn Jezreel. Yr oedd gan Naboth ddarn o dir yn agos i balas y brenin Ahab. Awyddai Ahab ei brynu er mwyn ei wneud yn ardd lysiau iddo ei hun. Ond gwrthododd Naboth ei werthu oherwydd treftadaeth ei hynafiaid ydoedd. Yr oedd hwn yn rheswm digonol, a dylasai Ahab ei dderbyn. Ond yn lie hynny, aeth i'w dy yn athrist ac yn ddigllawn. Aeth i'w wely, a gor- weddodd a'i wyneb at y pared, ac ni fwytai fara. Pan ddeallodd Jezebel beth oedd ei ofid, sicr- haodd iddo y cawsai y winllan. Aeth ati ar un- waith i drefnu mesurau i ladd Naboth ac i gy- meryd y winllan. Cafodd ddau wr o feibion y fall i gyhuddo Naboth o gabledd, a dygwyd ef allan i'w labyddio. ESBONIADOI,. Adnod 11. A gwyr ei ddinas, sef yr henur- iaid a'r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ol yr hyn a anfonasai Jezebel atynt hwy, ac yn ol yr hyn oedd ysgrif- enedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy.' A gwyr ei ddinas. Cyfeirir at y rhai oedd mewn awdurdod yn y ddinas. Yr henuriaid oeddynt gynrychiolwyr y llwythau yn y ddinas, a'r pen- aethiaid y rhai oedd mewn safle o awdurdod. Yr oedd Jezebel wedi ysgrifennu llythyrau atynt, wedi eu selio a sel y brenin, yn eu hysbyst(pa fodd i weithredu. Adnod 12.—' Cyhoeddasant ympryd, a chyfle- asant Naboth uwchben y bobl.' Cyhoeddasant ympryd. Yr oedd hyn yn golygu fod angen am ymostyngiad, naill ai oherwydd rhyw aflwydd oedd wedi disgyn ar y ddinas, neu ynte oedd ar ddisgyn. A chyfleasant Naboth uwchben y bobl. Y maent yn ei osod mewn lie amlwg, fel pan gyhuddid ef, y buasai digofaint y bobl yn gyff- redinol. Adnod 13.—'A dau wr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef a gwyr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, ger bron y bobl, gan ddy- wedyd, Naboth a gablodd Dduw a'r brenin. Yna hwy a'i dygasant ef allan o'r ddinas, ac a'i llab- yddiasant ef a meini, fel y bu efe farw.' A dau wr. Yn ol y gyfraith, yr oedd yn rhaid cael dau i wneud dystiolaeth yn safadwy. 0 feibion y fall. Neu,' feibioli Belial '-base fellows. Dyn- ion rhydd, digydwybod, i wneud unrhyw beth am elw. Naboth a gablodd Dduw a'r brenin. Eisteddasant gyferbyn a Naboth, a thystiasant ei fod wedi cablu Duw a'r brenin. Diau eu bod wedi eu dysgu pa fodd i dystio. Nid oedd gan- ddynt unrhyw brawf dros wirionedd eu tystiol- aeth. Yna hwy a'i dygasant ef allan o'r ddinas. Derbyniasant eu tystiolaeth, a gweinyddasant y ddedfryd. Yn ol y gyfraith, rhaid Uabyddio f i'r ddinas (Lef. xxiv 13-16). cablydd y tuallan i'r ddinas (Lef. xxiv. I3~I6 ) A meini, Dyma'r ffordd ordeiniedig i labyddio Yr oedd y ddau gyhuddwr i fwrw y cerryg cyntaf Adnod 14.—' Yna yr anfonasant hwy at Jeze- bel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.' Yna yr anfonasant hwy at Jezebel. Yr oedd yr henuriaid a'r penaethiaid wedi rhoddi eu hunain yn llaw Jezebel greulawn, a boddloni gwneuthur ei hewyllys. Wedi cyflawni y weith- red, danfonasant adroddiad i'r frenhines. Ynglyn a'r weithred daw i'r golwg drachwant, celwydd, anudoniaeth a llofruddiaeth, a Jezebel oedd wrth wraidd y cwbl. Daeth ei henw yn ddihareb am greulonderau. Adnod 15.—lA phan glybu Jezebel labyddio Naboth, a'i farw, Jezebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jez- reeliad, yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian canys nid byw Naboth, eithr marw yw.' A phan glybu Jezebel labyddio Naboth. Hyd yn hyn profodd ei chynllun yn llwyddiannus ac effeithiol, a diau ei bod yn ymfalchïo yneigwaith. Gorchmynnodd i Ahab fyned a pherchenogi y winllan. Yr oedd Naboth wedi marw, ac felly nid oedd rwystr ar ei ffordd. Adnod 16.—'A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jezreeliad, i gymeryd meddiant ynddi.' A phan glybtt Ahab farw Naboth, Ahab a gyf- ododd. Diau ei fod yn llawen wrth feddwl cael meddiant o'r winllan yr oedd wedi chwenychu gymaint. Ond buan trodd y llawenydd yn dristwch. Adnod 17,A gair yr Arglwydd a ddaeth at Elias y Thesbiad, gan ddywedyd.' A gair yr Arglwydd a ddaeth at Elias y Thesbiad. Yr oedd Elias wedi ei golli o Israel ar ol pen Carmel, ac hwyrach fod Ahab yn meddwl na chawsai ei aflonyddu ganddo eto. Ond yr oedd Elias wrth ei waith fel proffwyd Jehofah, ac yn barod i ufuddhau i'w alwad. Adnod 18.—' Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i'w meddiannu.' Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab. Dyma'r trydydd tro iddo gael gorchymyn mewn inodd arbennig i gyfarfod Ahab. Yr hwn sydd yn Samaria. Cyf. Diw., Yr hwn sydd yn byw yn Samaria.' Cyf- eirir ato fel brenin, a bod ei drigfa swyddogol yn Samaria. Wele efe yng ngwinllan Naboth. Rhoddir cyfarwyddiadau manwl i'r proffwyd gyda golwg ar ei genadwri, a pha le i gael Ahab Adnod 19.—' A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Pel hyn y dywed yr Arglwydd, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd ? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Pel hyn y dywed yr Arglwydd, Yn y fan lie y llyfodd y cwn waed Naboth, y llyf cwn dy waed dithau hefyd. A leddaist ti, ac a feddienaist hefyd P Cyhuddir ef o lofrudd- iaeth er mwyn meddiannu. Fel hyn y dywed yr Arglivydd. Yr oedd Ahab a Jezebel wedi gweith- redu heb unrhyw deimlad o rwymedigaeth i Je- hofah ond cant weled Ei fod yn hysbys o'u gweithredoedd, ac y cant ddioddef eu canlyn- iadau. Yn y fan lie y llyfodd y cwn waed Naboth. Ni chyflawnwyd y farn yn llythrennol yn nydd- iau Ahab, am iddo ymostwng. Eto dywedir i'r cwn lyfu ei waed pan olchwyd ei gerbyd yn llyn Samaria. Yn ei fab cyflawmvyd y farn yn llythrennol (2 Bren. ix. 25). Adnod 20.—' A dywedodd Ahab wrth Elias, A gefaist ti ii, 0 fy ngelyn ? Dywedodd yntau, Cefais oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.' A gefaist ti fi, 0 fy ngelyn ? Yr oedd y brenin o'r blaen wedi edrych ar Elias fel yr un oedd yn blino Israel. Y mae yn awr yn edrych arno fel ei elyn. Nid ydyw yn gallu gweled ynddo broff- wyd Jehofah yn ei rybuddio. Cefais oblegid i ti ymwerthu. Nid oedd dim drwg na wnai Ahab er boddloni ei chwant. Cyhuddir ef gan y proff- wyd, a chyhoeddir barnedigaeth arno ef a Jeze- bel a'i deulu. GOFYNIADAU AR Y WERS. i. Beth oedd cais Ahab i Naboth ? 2. Paham na fuasai Naboth yn caniatau cais Ahab ? 3. Pa le yr oedd cartref Naboth ? 4. Beth oedd teimladau Ahab pan y gwrth- ododd Naboth ei gais ? 5. Pa beth a wnaeth Jezebel pan ddeallodd yr hyn oedd yn blino Ahab ? 6. Nodwch bechodau Jezebel a phechodau Ahab yn yr hyn a wnaethant. I 7. Pa fodd y daeth Ahab ac L, lias i "J iad â'u gilydd yng ngwinllan Naboth 8. Beth ddywedodd Ahab wrth Elias ? Pam y galwodd ef yn elyn ? 9. Pa farnedigaeth a gyhoeddwyd ar Ahab ac ar Jezebel ?

Golygfa yn y Coleg.

Advertising