Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

G LLE R UNDEB NESAF.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

G LLE R UNDEB NESAF. Fe gofla pob Undebwr mai Brynamman yw, gan ddyblu'r m' yn groes i bob rheol-dyna fel y sillebir ef Nid yw hynny yn awgrymu mai lie direol a didrefn yw. Holiot fel arall yw ei hanes, a phrawf hynny yn ei waith yn dechreu trefnu ar gyfer Undeb 1916. Saif wrth odre'r Mynydd Da, ar yr ochr ddeheuol- ochr Morgannwg. Gellir dod iddo gyda'r Midland o Abertawe, neu gyda'r G.W R a'r L & N.W.R. o Lanelli a Llandeilo, fel y mae'n hynod gyfleus i'w gyrraedd o Dde a Gogledd. Math o bentref mawr gwasgarog yw yn cydio yn Rhosamman a Chwmllynfell a'i law aswy, ac yng Ngwauncaegurwen a Chwmgors a'i Jaw ddeheu, ac wrth daflu trem dros y fraich honno yn gweld y Garnant a Glanamman yn gorwedd yn ei ymyl. Teimla'n annwyl at y lleoedd hyn i gyd-mor annwyl fel y mae wedi eu gwahodd gyda'u gilydd i gylch yr Undeb. Bydd felly groeso deg eglwys i Undeb 1916 Gibea (Parch W. D. Thomas), Ebenezer a Hermon (yn wâg), yr achos Saesneg (Parch D, E. Harries), Rhosamman (Parch J. Llewelyn), Cwmllynfell (Parch D. Jeremy Jones), Carmel (Parch B. D. Davies), Cwmgors (Parch T. M Roderick), Garnant (Parch J. Edryd Jones), a Glanamman (Parch Rhys J. Huws). Etholodd pob un o'r eglwysi hyn saith cynrychiolydd ar y pwyHgor Jleol, yr hwn sydd bellach wedi cwrdd deirgwaith, fel y mae swn traed pwyll gorwyr trymion yn dechreu deffro'r cylch ac arloesi ffordd yr Undeb. Dewiswyd tri ysgrif- ennyddParch J. Llewelyn; Mr Griffith Morgan (ysgolfeistr), ysgrifennydd Ebenezer a Mr Jenkin Jones (brawd Towyn), ysgrifen- nydd Gibea Dyna pob gohebiaeth mewn dwylo diogel. Etholwyd Mr Fred Hargreaves yn drysorydd, ac ni cheid gwell hwnnw. Ni bydd yn newydd i neb mai ardal y glo yw hon-glo carreg. Glo a glowyr gwahanol sydd yma i eiddo cylch Mertbyr. Arafach yw'r glo yn cynneu, ac arafach yw'r glowr i'w symud ond wedi ei gael, ni flina cynted. Os aiff yn ddifraw, aiff yn oer-galed; ond os try yn ddiwinydd, aiff yn boenus o ddiwinyddol. Ceidw ei iaith yn dda, a sieryd Gymraeg go IAn, ac erys rhai o hen briod-ddulliau'r iaith yn ei ymadroddion bob dydd Ni weiodd yr ardal hon Undeb o'r blaen ond peidier a disgwyl i'r ardalwr golli ei ben arno, ac na feddylied un siaradwr y gall ei symud a'i wefreiddio a'i synnu Ag ychydig. Na, daw glowr Brynamman i'r cyrddau, a gwrendy ar bob siaradwr yn fanwJ, ond araf y gwoa ei tarn am werth yr Undeb; ac wedi gwneud, bydd yn hwyrfrydig i'w newid. Mae'r Enwad yn gryf iawn yma, am fod annibyniaeth y mynydd ycg ngwaed y trigolion ond, ysywaeth, nid yw'r Annibynnwr yma yn hael UlWY na'r mynydd. Doed yr Undeb yma'n gryf a chalonnog; bydd yn iechyd i'w gorff a'i galon anadlu awyr y fro, a diau y bydd ei ymweliad i gynyrchu ambell don yng ngwaed llonydd y cylch. Yma y terfyn y llith cyntaf. J. [Caiff I J.' ei ffordd gyda'i w'- au y tro hwn; ond diau y bydd gan y Gol. a'r Parch Fred Jones, B.A, B.D., air ar y mater, ac wedyn bydd rhaid ymostwng i tarn yr awdurdodau goruchel —CYSOD YDD.]

WATTSTOWN. I

Advertising

Tysteb i'r Parch J. Hywel…

Advertising