Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
I SARZINE' BLOOD MIXTURE. ? ? CROE? IACH A GWAED PUR.- .ua yr hyn y mae ? S""n. Blood Mixture yn ei sierhau, a m.n. Md yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen a&ach, ysfa, pimples, toriad &dUau Scurvy, doluriau, penddynod, &c., yn tarddu o waed ac anmhur, mynwch botelaid o Sarzine Blood Mixture' gan y Druggist nesaf atoch, Is l?c a 25 6c y botel, "? gyda 3c at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y • erobenog, HUGH DA VUS. CHEMIST, MACHYNLLBT& V
I Eglwys Seisnig Park Mill,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Eglwys Seisnig Park Mill, Gwyr. r I CYFARFODYDD SEFYDLU. Cynhaliwyd cyfarfodydd sefydlu y Parch D T. Griffiths, Pilton Green, yn weinidog ar yr eglwys uchod dydd Iau,CMedi 16eg. Am 2 o'r gloch deehreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. Thomas, Clydach, a phregeth- wyd yn rhagorol gan y Parch Phylip Rogers, B.A., Caerdydd. Ar ol y bregeth cynhaliwyd y cwrdd sefydlu Llywyddwyd gan Mr John Picton, Y H., Llandeilo, Cadeirydd y Cyfandeb. Dywedodd ei fod yn edmygydd mawr o Mr Griffiths. Dymunai yn dda i'r eglwys, a gobeithiai y byddai llwyddiant mawr yn dilyn. Galwodd y Cadeirydd ar y Parch D. J. Thomas, Ysgrifennydd y Cyfundeb, yr hwn a eglurodd pa fodd yr enillodd Mr Griffiths yr eglwys yn Park Mill i roi galwad iddo. Cyf- eiriodd at waith gwerthfawr yr hen weinidog, Mr Edwards, yn y cylch. Llongyfarchodd yr eglwysi yn Park Mill a Pilton Green ar eu dewisiad o Mr Griffiths. I' Siaradwyd yn nesaf gan Mr Clement-un o ddiaconiaid Pilton Green-yr hwn a ddygai dystiolaeth i Mr Griffiths yn ystod y Rwyddyn ddiweddaf fel gweinidog a phregethwr da. Wedi cael ychydig eiriau yn datgan dymun- iadau da a gwerthfawrogiad o ragoriaethau Mr Griffiths gan y Parchn D. E. Harries, Aman- ford L. Berian James, B.A, Penygroes a D M. Davies, Waunarlwydd, atebwyd yn dyner a phwrpasol gan Mr Griffiths. Addawodd wneud ei oreu dros y Meistr, gan ei fod wedi ei alw yno, nid fel diwygiwr cymdeithasol neu wleidyddwr, ond fel gwasanaethwr Crist. Yna offrymwyd gweddi daer am fendith ar yr undeb gan y Parch Gilbert Rees, Abertawe. Dygwyd tystiolaeth uchel i Mr Griffiths fel cymeriad a phregethwr gan y Parch D. L, I Morgan (B) a J. E Morgan (M.C), cymdogion yng Ngwyr Mr Charles, Gendros a'r Parch J. C. Lloyd, Crwys, yr hwn hefyd bregethodd yn Park Mill y nos Sul blaenorol. Am 6 o'r gloch dechreuwyd gan y Parch D. E. Harries, a phregethwyd gan y Parchn W. Dyfodwg Davies, Treforris, a D. J. Thomas, Caerfyrddin. Cafwyd cyfarfodydd da a hin ddymunol Llongyfarchwn Mr Griffiths ar ei lwyddiant i uno y ddwy eglwys drachefn. Ymddeogys iddynt fod o dan yr un weinidogaeth am ilyn- yddoedd maith; yn awr y maent wedi eu hail- uno. Eiddunwn wenau'r Meistr Mawr i'r gweinidog a'r eglwysi i gadw'r lamp i losgi yn oleu yn Gwyr am lawer blwyddyn. Derby ni wyd llythyrau yn datgan goM am anallu i fod yn brsennol oddiwrth liaws o frodyr yn y weinidogaeth.
I RHANBARTH PENYBONT. I -…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I RHANBARTH PENYBONT. I Uchel wyliau -Y Parchn J. Tegryn Phillips, Hebron, Penfro, a T. Ogwen Griffiths, Port Talbot, fu yn gwasanaethu yn Ebenezer, Aber- cynffig, eleni, a'r Parch D. Ffrwdwen Lewis, Felindre, a Miss Rosina Davies, yr Efengyles, fu ym Mrynmenyn, a thyrtaoedd dyrrodd j'r gwleddoedd hyfryd. Y Parchn H. Elvet Lewis, M.A., LIundain, a Ben Davies, Pant teg, fu yn gwasgar had gwirionedd yn y Tabernacl, Penybont, Mawrth a Mercher, Medi 14eg a'r 15fed, a melus oedd yr wyl. Gwylimi.—Ar lethrau Bethesda y bu bugail diwyd Gilead, Coity, yn cael adnewyddiad; tra dan gronglwyd ei rieni bu gweinidog ieuane y Tabernacl, Bonybout, yn sugno mwyniant; croesi y Gogledd ac aros rai dyddiau yn Ninas Mawddwy, ei gyn-faes, wuaeth y Parch R. T. Gregory, NantymoeJ, a newid awyr wrth ymdaith, gan babellu yn Defynnog, cartref ei gymhares bwrw hiraeth ar fin mor ac yn ymyl ffynhonnau y bu'r Parch J. G. Jones, Bethania, Cwmogwy. Dysgleiria adnewyddiant ar wynebau y cenhadau byn, a dengys eu hosgo eu bod yn barod i ymroddiad adnewyddol gyda gwaith yr Arglwydd. Tabernacl, Penybont.-Mae yr hen adeilad fu yn lwyfan hyawdledd y seraff enwog W. Jones, y diwinydd enwog, Dr Gwesyn Jones, J. D. Williams, &c., yn awr dan ddwylaw seiri coed a meini er ei drawsffurio yn ystafelloedd cyf- addas at hyfforddiant yr ieuanc; a phan orffennir y gwaith bydd yn geffaeliad mawr i'r lie. Ymleded y dyhead am weliiantau cyffelyb trwy y wlad, a gwawried Brgyhoeddiad o'r angen ar farn y rhai honnant sel dros hyrwydd- iant addysgol, eto sydd yn ddall i hanlodion darpariaeth gyson a tbeithi meddyleg. Ymadawiad Giveiitidog,-Fel y crybwyllwyd yn y TYST dro yn ol, atebodd y Parch J. J. Roberts, B A, gweinidog yr Annibynwyr Seisnig yng Nghwmogwy, yr alwad gawsai o eglwys Clifton-road, Birkenhead, yn gadarn- haol; a'r roson olaf yn Awst cynullodd llu o'i edmygwyr i'r capel i ddangos eu gwarogaeth i'w gy eriad, ei alluoedd a'i wasanaeth yn ystod pedair blynedd ei lafur yn y lie. Cymet- wyd y gadair gan Mr J. Abel, trysorydd yr eglwys, a deehreuwyd trwy weddi gan y Parch M. J. Mills (M C), Nantymoel. Dygodd y cadeirydd dystiolaeth drylen i ymroad. talent, pregethau a chymeriad Mr Roberts Yna an- erehwyd y cyfarfod gan y Parch T. Davies a Mr W. Abel, diaconiaid, a Mr D. L. Jones, aelod o'r eglwys. Siaradwyd hefyd gan y Parchn L. Goronwy Lewis (B); W. T. Gruffydd, B A., B D., Treorci (cydfyfyriwr ym Mangor); W. Mollin (B), R. T. Gregory, a M. J. Mills (M.C), Nant- ymoel. Cyftwynwyd cabinet drudfawr i Mr a Mrs Roberts ar ran yr eglwys a'r gynulleidfa gan Mr W. Richards, ysgrifennydd yr eglwys, yr hwn a roddodd dystiolaeth ucbe! o allu Mr Roberts fel pregethwr a bugail Yn ystod y tri mis y bu Mrs Roberts wedi ei phriodas yn eu mysg bu yn dra gweitbgar, a lion ganddo ei chyllwyno i eglwys Clifton-road fel athrawes ragorol yn yr Ysgol Sul. Cyflwynwyd llond ysgrepan o aur-nodau i'r ddeuddyn hapus gan Mr T. Williams, yr hwn ategai y dystiolaeth am sefydlogrwydd ei weinidog hoff yn ei fywyd amrywiol, a dymunai lwyddiant y ddau yn eu maes newydd. Rhoddwyd unawdau eymeradwy gan Miss Ceinwen Kensey (ar y crwth) a Miss Lily Kensey, ac adroddiadau chwaethus gan Mrs Dobbins a Mr D. Thomas, Daeth amryw lythyrau i law oddiwrth frodyr o'r cyleh yn datgan anallu i fod yn bresannol, ac yn dymuno nawdd y nef to ar y canna.d a'i briod hawddgar. Fel prawf o boblogrwydd Mr Roberts gan wahanol enwadau y ewm, geliir nodi iddo bregethu bron yn holl bulpudau y lie o'r ddwy iaith. Bu Mr Roberts yn llywydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion am un flwyddyn. ac efe yw Uywydd C, ymdoithas y Cymrodorion y flwyddyn hon. Dychwela i'r Gogledd wedi hogi ei gryman a'i loywi yn ddiwyd ar faes gwasanaeth yr Hwn sydd wedi ei alw a'i arddel. i-leolycyt,v.-Llawonydd digymysg i boll gylch Annibynia y rhanbarth yw yr adfywiad amlwg a welir ar lafur yn y cwr hwn wedi yr ataliad adeg toriad allan y rhyfel, yr hyn barlysodd lu a ddibynnent ar y gweithfeydd am eu cynhal- iaeth. Achosodd hyn waghad tua deugain o dai. Heddyw mae pob glofa wedi ail gychwyn, a'r galw am ddynion yn cynydda yn barhaus. Yn ychwanegol at hynny, agorir glofa newydd yn ymyl dan arolygiaeth Mr J B. Hawkins, aelod haelionus o B3thel Newydd. Gobeithir am ddyddiau blodeuog i'r ardal hon yn weith faol a chrefyddol. Y Ltun cyntaf ym Medi cynhaliodd YsgoHon Sul Bethel a Heolaethog eu gwyl de flynyddol; ao megis ami ysgol arall, oberwydd uchelbris cludiad i Ian y mor oddiar ddechreu y rhyfel, trefnwyd yr adlon- iant gartref eleni, ac ni arbedwyd darpariad ar gyfer dyheadau pob oed mewn amrywiol foddau er diwallu tuedd hen ac ieuanc. Teil- ynga pobl Bethel, fel arfer, air da ar gyfrif eu haberth ynghanol prysurdeb cynhaeaf, yr hyn brofa mai eu hyfrydwch pennaf yw hyrwyddo y Deyrnas nad yw o'r byd hwn.
CYFARFODYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD. SEVERN-ROAD, CAERDYDD -Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd blynyddol Medi 19a9 a'r 20led Gwasanaethwyd yn ddymunol iawn gan Miss Rosina Davies a'r Parch D. R. Williams, Dowlais. Cynulliadau da a chasgl- iadau rhagorol. Y Saboth dilynol cawsom y pleser o weled a chlywed unwaith eto ein parchus ddiweddar weinidog, Mr Henry. Da gan bawb hefyd oedd gweled ei gydymaith hoff. SOAR, PONTYGW AITH.-CynhBliwyd cyf. arfodydd blynyddol yr eglwys uchod ar y dyddiau Sul a LIun, Medi 12?ed a'r 18eg. Gwasanaethwyd gan y Parchn R. G Berry, Gwaelodygarth, a T. M. Roderick, Cwmgors TABERNACL, PONTYCYMER.-Pregethwyd yng nghyfarfodydd blynyddol Medi yr eglwys uchod gan yr Athro Joseph Jones, M.A., B.D., Aberhonddu, a'r Parch H T Jacob, Abergwaun, Popetb yn rhagorol.
I 'GLOYWI' Y GEIRIADUR. i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nid o fwriad, mi wn, y geilw efe wr y De yn S'owthyn, a gwr y Gogledd yn North- man. Pa le y mae'r Northyn a'r Sowth- man ? Y mae geiriau yn y Geiriadur hefyd heb eu hystyr yn y De iddynt, megis sythu,' to starve with cold twt,' house- work troedig,' sickening. Ystyr 'swmpo' hefyd yng nghylch fy adnabyddiaeth i ydyw to test with the hand, ac yn ffigyrol ceisio cael allan jeddwl rhywun. Eto, lwyr (' llwrw ') llwyr ei ocbr -side foremost. Fe geir maes 0 law am allan o law y Gogledd, Yn y De eto tresbasu a geir, nid tresmasu raser, nid rasel; geir, nid gieir gwidman, nid gwidmon trwp, nid tr~wp step en, nid stepan stitfau, nid slifjio sgêm, nid sg&m pensil, nid pensel. A ddywedir yn rhywle ideol am ideal? Yn y geiriau uchod yr wyf yn meddwl mai'r De sydd debycaf i'r gwreiddiol, fel y dywed y pregethwyr. Mi welaf hefyd ei fod yn ysgrifennu geiriau Saesneg a'u sh, ch, yn groes i arfer y De, wedi eu troi yn s, sef wits am witch slas am slash mwstas am moustache siar, siort, siew am shar, sort a shew. Yr wyf yn deall fod yn anodd gan Ogleddwr ddywedyd sh eithr cym- hedrol yw'm haeriad pan ddywedaf fod mwstas a siew yn annioddefol i Ddeheuwr. Mi welaf hefyd bocs, bocsus; ras, rasus fel petynt Gymraeg diledryw. Os oes raid cael rhain, ouid gwell fyddai cael atodiad yn y Geiriadur ? A fyn Bodfan i'r non Welsh pupil' gymryd bocs, bocsus, yn gystal Cymraeg a blwch, blychau ? Dyma j hefyd wedi cael lie ymhlith yr Wyddor a jam, job, jobsus yn eiriau Cymraeg Y mae'n rhaid cael jam a jobsus efallai yn y Geiriadur, ond rhodder hwythau yn yr atodiad—gyda'r bocsus. Eto, y mae ystyron rhai geiriau i mi'n amheus. Ysgaprwth-clumsy, awkward yr ystyr a rown i iddo ydyw rough. Fe ddywedir hyd yn oed tywydd ysgaprwth am dywydd garw. A ydyw ymgeiniaith lawn mor gryf a scurrility ac abuse ? Ystyr trulio yn fy ngwlad gysefin i ydyw to reel. Ai nid quick-tempered yn hytrach na spirited ydyw naturus ? Fe geir llaprwth yma fel enw. Ansoddair ydyw gyda ni yn golygu elumsy. Ystyr dyn diffaith gyda ni ydyw knavish man, er yn ddiameu fod iddo'r ystyr o wastrel, rotter. Eto, cardy- dwyn-the last of the litter, yma. Ai nid the dwarf of the litter sydd gywiraf ? Ymhle y defnyddir gwisgon am hayrick ? Twr o ysgubau yn yr ysgubor ydyw ei ystyr yng nghanolbarth Ceredigion. Yn awr dyna ddigon o bigo, ebr rhyw- Un. Mae'n eithaf posibl rnai'm mympwy i ydyw sail llawer o'r llith hwn. Bithr hyd yn oed petai'r cyfan yn wir, ni wneid dim ond profi nad ydyw r gwaith yn ber- ffaitli ac ar y gwaethaf, brychau ydynt ar waith gorchestol. Y mae'n bleser gennyf gymeradwyo'r gwaith yn galonnog iawn i bob Cymro. FRED JONES. O.Y.—Fe lithrodd ynnof am ynof, a cyn- hennid am cynhenid, a dijfinir am diffmnir fel gwallau print i'm hysgrif y tro o'r blaen.—F. J.