Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

-CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB LLEYN AC EIFIONYDD. Cynhaliwyd y Cyfarfod Chwarterol diweddaf yng Nghedron, Nantmor, dydd Llun, Medi 6ed. Cvfarfu Y GYNHADLEDD am I o'r gloch y prydnawn, o dan lywyddiaeth y Parch R. W. Jones, Cilgwyn, y cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr D. R. O. Prydderch, M.A., Penygroes. Am yr awr gyntaf cafwyd cyfeillach wir fendithiol. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion Cyn- hadledd Bwlchtocyn. Pasiwyd mai ym Moriah, Llanllyfni, y cyn- helir y cyfarfod nesaf, Llun, Rhagfyr 6ed. Penodwyd y Parchn R. W. Jones, W. Ross Hughes, J. Rhydderch, Mri J. R. Owen, D. R. O. Prydderch a J. Harlech Jones yn bwyllgor enwi swyddogion, pwyllgorau a chynrychiolwyr i'r Cyfundeb am 1916. Darllenodd yr Ysgrifennydd adroddiad o waith Pwyllgor y Caniedyddion,' yr hwn a ddaeth oddiwrth ein cynrychiolydd, Mr Owen Williams, Nefyn. Wedi i'r Parch W. Ross Hughes roi adroddiad o waith pwyllgor lleol achos Bwlchyllyn, ac i hwnnw gael ei dderbyn, pasiwyd ein bod fel Cyn- hadledd yn diolch yn gynnes iawn i'r eglwysi ydynt eisoes wedi gwneud casgliad at gyfarfod a'r llogau ym Mwlchyllyn, ac yn apelio yn daer a pharchus at yr eglwysi eraill i wneud casgliad neu anfon rhodd mor gynted ag y byddo yn gyfleus iddynt, a'u hanfon i Mr J. R. Owen, Ael- ygarth, Porthmadog. Rhoddir adroddiad o'r symiau a gyfrennir a'r eglwysi fydd wedi cyf- rannu yn y Daflen Ystadegol. Ar gynygiad yr Henadur J. Jones-Morris, ac eiliad Mr Robert Jones, Llithfaen, pasiwyd y penderfyniad canlynol Ein bod fel Cynhadl- edd yn dymuno galw sylw gweinidogion a swydd- ogion yr eglwysi yn y Cyfundeb, sydd hyd yn hyn heb drwyddedu eu capelau i weinyddu priod- asau, at y priodoldeb a'r angenrheidrwydd iddynt symud yn y cyfeiriad hwnnw ar unwaith, fel ag i roddi pob cefnogaeth a chynhorthwy i bawb a fyddo yn dymuno hynny i gael priodi yn y capel y byddant yn arferol ag addoli ynddo, yn lie eu gorfodi i fyned oddicartref i briodi, neu wneud hynny yn swyddfa y cofrestrydd, lie nad oes unrhyw wasanaeth crefyddol i'w gael. Hefyd, awgrymwyd y priodoldeb ar fod yr eglwysi yn gwneud defnydd o ddarpariaeth sydd yn eu cyr- raedd i allu gweinyddu priodasau yn ein capeli heb fod presenoldeb y cofrestrydd yn angen- rheidiol ar yr achlysur.' Wedi i Mr Samuel Roberts, Llanystumdwy, siarad ar Golegau yr Enwad, ac i ymdrafodaeth fywiog ddilyn, cyflwynwyd y mater i bwyllgor o dri, sef y Parch W. Ross Hughes, Mr D. R. O. Prydderch, a'r Ysgrifennydd, a dwyn adroddiad i'r cyfarfod nesaf. Cyflwynwyd hefyd i'r Pwyllgor Enwi y gen- adwri a ddaeth o Gymanfa Bangor yn dal perth- ynas ag adroddiadau y gwahanol gymdeithasau sydd gennym yn y sir hon. Pasiwyd rhoddi llythyr cyfhvyniad i'r Parch D. J. Chappell ar ei ymadawiad o Pisgah i gy- meryd gofal eglwys Seisnig Treffynnou. Galwyd sylw at Gyfarfod Diolchgarwch am y Cyiihaeaf, yr hwn, yn y rhan hon o'r wlad, a gynhelir fel arfer eleni ar y trydydd Llun yn Hydref. Mawr hyderwn y danghosir gennym bob ffyddlondeb i'r wyl, ac y deillia bendith amlwg mewn canlyniad i'w chynnal. Gwnaed cyfeiriad at farwolaeth Mr Hugh Jones, Talnjignedd, yr hwn a fu am flyiryddau meithion o wasanaeth gwerthfawr i'r eglwys yn Nrws- ycoed. Pasiwyd i anfon llythyr cydymdeimlad at ei fab, ac at y personau canlynol mewn galar- Parch Thomas Lloyd, Rhostryfan (marw brawd); Mrs Jones, Ceidio Bach, a Mrs Morris Elias, Chwilog (marw tad i'r naill a'r llall) Mr E. D. Rowlands, Chwilog (marw mam) Mri J. Griffith, 15 East-avenue, Porthmadog, a William Parry, Penmorfa (marw gwragedd i'r ddau) Mrs Jones, Pont Aberglaslyn, a Mrs Williams. Penrhyndeu- draeth (marw gwyr i'r ddwy). Amlygodd y Cadeirydd ein llawenydd o weled dieithriaid yn ein plith, megis yr Athro D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu; Parchn J. Edwards, B.A., gynt o Gapel Coffa; Thomas Williams, o'r America; Llewelyn Williams, Llan- dudno a Mr Evans, o Mynwy. Hefyd, o weled Mr W. W. Parry, yr hwn sydd yn ddiacon a phregethwr yng Nghedron, ond a fu am gyfnod yn ddiweddar yn y Deheudir. Rhoes Mr Evan Owen, un o'r diaconiaid, ad- roddiad gwir galonogol am sefyllfa yr achos yn y lie, ac am yr ymdrech lwyddiannus a wnaed i dalu y ddyled. Ar gynygiad y Cadeirydd, ac eiliad yr Henadur J. Jones-Morris, .gydag ategiad Mr R. Roberts, Pwllheli, a'r Ysgrifennydd, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch cynnes iawn i'r eglwys yng Nghed- ron am roi derbyniad i'r cyfarfod a chafodd y chwiorydd yr unryw ddiolch am ddarpar mor helaeth ar gyfer yr ymwelwyr a gweini arnynt mor garedig a siriol. Hwn oedd y tro cyntaf i'r Cwrdd Chwarter ymweled a bro Nantmor, ac nid oedd modd rhoi gwell derbyniad iddo yn unman nag a gafodd yno. Daeth cynhulliad lluosog ynghyd, a chaf- wyd amser dymunol. Terfynwyd y Gynhadledd trwy weddi gan y Parch W. Ross Hughes. Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parchn Llewelyn Williams, Llandudno, a J. M. Williams, Penygroes. Yr oedd cyfraniadau yr eglwvsi yn £ 2. 10s, 6c. HUGH DA VIES, Ysg.

ICYFUNDEB DWYREINIOL CAER-FYRDDIN.