Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
'Y CANIEDYDD.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
'Y CANIEDYDD.' Cyfarfu Pwyllgor y Caniedydd yn Ivlandrindod yr wythnos ddiweddaf, a gwnaed amryw drefniadau ynglyn ag argraffu a dwyn allan yr argraffiad new- ydd. Yn ol adroddiad y golygwyr, cyn- hwysa y llyfr a ddygir allan ychydig ym fwy o emynau, a thros 400 o donau (yn lie 300 yn y llyfr presennol) a bydd ynddo adran neilltuol o emynau a thonau i blant, ond yn gymwys hefyd i'r holl gynulleidfa, gan ddisgwyl y daw emyn y plant yn rhan o'r gwasanaeth ar y Saboth, fore neu hwyr. Y mae adran y tonau a'r emynau yn cael ei pharatoi ar gyfer y wasg, a disgwylir gorffen yn fuan gyda'r corganau a'r anthemau, fel ag i ddechreu argraffu'r oil, os na ddaw rhwystr, tua dechreu'r fiwyddyn. Bwriedir i argraffiad o'r emynau yn unig fod yn barod yn gynnar—mor gynnar ag mewn unrhyw fodd y gellir heb ddyrysu'r cyfanwaith. Argreffir y geiriau yn unig gan ifrms Cym- reig.
CYNGOR YR UNDEB.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYNGOR YR UNDEB. Cyfarfyddodd Cyngor yr Undeb yn Llaudrin- dod ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Medi 21ain a'r 22aiii. Daeth nifer luosog ynghyd. Ail-etholwyd y Parch D. A. Griffith, Troed- rhiwdalar, yn gadeirydd. Pasiodd y Cyngor yn ei eisteddiad ym Merthyr adeg Cyfarfodydd yr Undeb fod anerchiad gor- euredig i'w gyflwyno i'r Henadur Iv H. Davies, Y.H., ar ei ymddiswyddiad o drysoryddiaeth yr Undeb, ac fod Mr Davies i'w waho.dd i gyfarfod y Cyngor ym Medi i'w dderbyn. Fel y gwyddys, rhwystrodd angeu i'r bwriad hwnnw gael ei roddi mewn gweithrediad. Ail-ystyriwyd y mater yn Llandrindad yr wythnos ddiweddaf, a phender- fynwyd mynd ymlaen a'r bwriad o wneud rhyw- beth i ddangos gwerthfawrogiad yr Undeb o ffyddlondeb y diweddar Henadur fel trysorydd am tua 12 mlynedd. Ymgynghorir a'r teulu pa un ai anerchiad ai cof-lech yng nghapel Siloli fyddai fwy dewisol ganddynt. Trefnwyd rhaglen Cyfarfodydd yr Undeb ym Mrynaman, yr hwn a gynhelir ar y dyddiau Mawrth, Mercher, lau a Gwener, Mehefin 13-16, 1916. Ceir y manylion hyn yn un o'r rhifynnau nesaf. Cyflwynodd Pwyllgor Llenyddiaeth a'r Ysgol SuI ei adroddiad parthed y Meysydd Llafur a'r Llawlyfrau. Cyflwynodd y Pwyllgor Ariannol ei adroddiad yntau parthed y Llyfrfa a materion eraill. Bwr- iedir apwyntio cynorthwywr i'r Parch. D. M. Davies, Goruchwyliwr y Llyfrfa. Drwy hyn galluogir Mr Davies i roddi mwy o amser i ehangu defnyddioldeb y Llyfrfa i'r Enwad a hyrwyddo gwaith yr Ysgol Sul drwy ymweliadau a Chy- manfaoedd Ysgolion a Chanu, Cyfarfodydd Chwarterol, ac Plglwysi. Mae gennym yn Mr, Davies expert ar waith yr Ysgol Sul, a theimlir y dylai fod yn rhyddach oddiwrth fanylion gwaith y Dlyfrfa i'w alluogi i roddi i Ysgolion Sul ffrwyth ei wybodaeth a'i broiiad helaeth. Penderfynodd y Cyngor symud ymlacll gyda chorfforiad yr Undeb, ac apwyntiwyd pwyllgor bychan i edrych i fewn i'r cwestiwn a dwyn adroddiad i'r cyfarted nesaf ym Mrynaman.
I-GALWADAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GALWADAU. Bglwys Pknmain, MYNWY.-Mae yr ben eglwys barchus hon wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr D. W. Edwards, B.A. (Ynysgau, Merthyr), o Goleg Coffa, Aberhonddu, i fod yn logail iddi Os cydsynia y gwp ieuanc llafurus hwn â chais yr eglwys, dymunir mawr lwydd iddo yn y maes dymunol hwn gan ei lu cyfeillion.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JERUSALEM, COED-DUON.—Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol Sul a Llun, Medi 19eg a'r 20fed. Gwasanaethwyd gan y Parchn Dr Price, Rbos, a D M. Davies, y Llyfrfa, Abertawe. Cafwyd hin ddymunol, gweinidogaeth rymus, cynulleidfaoedd Ilaosog, a chasgliad da.
NODION.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
arall, a gwarafunai hyd yn oed i Rydd- frydwyr helpu ei achos. Sosialydd cysou cydwybodol ydoedd, ac ni chaffai neb a sawyr cyfalaf ar ei wisg—pa label bynnag f'ai arno ddod yn agos i'w wersyll. Llwyddodd yn ei amcan, ond buan y prof- odd nas gallai arwain y blaid oedd wedi greu mor berffaith ar ei lun a'i ddelw ei hun. Cododd eraill ymhlith ei ddisgyblion sy'n llawer amgenach arweinwyr nag efe, a rhoddodd ffordd iddynt yn ufudd I. a pharod. A'r blaid hon yw cofgolofn Hardie, ac ar lawer ystyr un wych iawn ydyw. Yn ol pob golwg, tyfuae ehangu a wna ;ac ?'? a c mae'r mesurau Sosialaidd y bu raid i'r Llywodraeth eu Llluniokn yr argyfwng presennol wedi myned ymhell iawn i brofi, nid yn unig fod deddfwriaeth o'r fath yn ymarferol, ond yn anhepgorol a chyfiawn a rhesymol o dan rai amgylchiadau. Ac wedi ymadawiad Hardie credwn y bydd yn rhwyddach i Ryddfrydwyr a Jylafur- wyr ddod i gyd-ddealltwriaeth a chyd- weithio ar faterion y cytunant arnynt. Eithr nid adeg i bigo beiau yng ngyrfa Hardie yw heddyw gwell gennym o lawer roddi ein blodeuglwm ar ei fedd, a chyd- nabod y rhagoriaethau gwych berthynent iddo ef a'i waith. Dyn mawr, cryf, galluog a goriest oedd Hardie. Rhamant Bywyd Lloyd George. YLL YFR goreu. o ddigon ar fywyd Mr Lloyd George, o fewn ei gylch a'i faint, yw The Life Romance of David | Lloyd George gan Beriah Evans, cyhoeddedig gan Everyman, J Iylundain, am y pris o 2 mewn cas papur caled, a 3 /6,mewn llian. |,Teilynga y gan- nioliaeth uchel roddir iddo gan Dr Sarolea, golygydd dysgedig Everyman, mewn rhag- ymadrodd cryf i'r gyfrol. Dywed y Doctor fod Mr Evans wedi gallu dal rhamant bywyd y Cyn-ganghellor, a'i bortreadu mewn modd digyffelyb yn y gyfrol hon. A gwir yw ei air ymhob ystyr. Ni chyf- ynga yr awdur ei hun i gronicl o fath yn y byd, er fod prif ffeithiau'r hanes yn sefyll allan yn amlwg drwy yr holl stori. Cydia yn h y t r a c h yng ngwahanol agweddau bywyd ei wrthrych dengys eu ffynonellau a'u tyfiant a'u cysylltiad olrheinia ddatblygiad rhai ohonynt ar hyd ei holl oes nes yn y diwedd gyfleu ger ein bron un cyfanwaith organaidd byw sydd yn ein swyno a'n synnu gan ei gyffro a'i dynerwch, ei nerth a'i ledneisrwydd, ei ddisgleirdeb a'i gysgodion, ei ramant a i symlrwydd. Dyn mawr yng ngwir ystyr y gair yw Mr Lloyd Geor,-e-athrylit]-i y Celt yn ei fan disgleiriaf ar faes gwladweiniaeth a byd-arweiniad. Dywed Dr Sarolea mai oddiwrtho ef y disgwylia'r byd fwyaf pan ddeuir i drefnu heddwch wedi difrod ofn- s adwy y rhyfel presennol. Efe yw gobaith gwledydd cred-yn enwedig ein cydym- laddwyr tramorol a'r gwledydd amhartiol. Efe yw y prif factor rhyngwladol heddyw. A'r peth sydd yn syn ydyw fod Mr Beriah Evans wedi gallu dangos o ble y tyfodd y mawredd hwn, a faint sydd gan y pen- tref a'r capel a'r aelwyd a Chymru i'w roi yn y cyfrif. A gwna Mr Evans hyn heb • arbed ei wrthrych mewn un modd. Beirn- iada ef yn llym a llawn yma ac acw, a dengys ei anghysonderau gyda gonest- rwydd diwenwyn. Ond fel gwir artist cyr- haedda ei amcan ynt'well drwy hynny, a !• llwydda i roi cywirachi darlun trwy baentio y nam yn gystal a'r godidog. Mae'r llyfr drwyddo, o ran arddull, cynllun, cynnwys a medr llenyddol, ac yn arbeiinig o ran gwelediad i wir gyfrniaeth bywyd ei wrth- rych, yn un o'r cynhyrchion disgleiriaf yn y dosbarth hwn o len sydd wedi ei gy- hoeddi er's tro byd. Crybwyllion. —PARA yn wael y mae'r Parch J. Da vies, Cadle ac i wr yn ei gyfiwr o iechvd gwannaidd ef, peth difrifol yw torri clun. Ond da gennym ddeall ei fod yn daljy driniaeth yn^'dda, ac fod ei ysbryd gwrol mor sI 'riol.- -a gierioed. Arwr llawer brwydr ywefe, ac nid^ar chware bach y caiff hyd yn oed damwain mor ddifrifol a thorri clun er lorio ef. Parhaed i wella, ac i brofi cy- sllrolleiFeistr Mawr yw dymuniad pawb o'i hen gyfeillion. —Drwg iawn gennym glywed am brofed- igaeth lem y Parch W. Jones a'i briod, Handsbridge, Caer. Yr oedd eu hunig fab yn swyddog milwrol yn y Dardanelles, ac yn ymladd yn ddewr dros ei wlad. Rhestrid ef ymhlith y rhai ar goll' er's rhai wythnosau, ac yr oedd pryder ei rieni yn fawr. Erbyn hyn, mae'r awdurdodau wedi eu hysbysu fod eu hannwyl fab wedi ei ladd mewn brwydr erwin. Hawdd dirnad y shock yw hyn i'n brawd a'i briod, ond mae ganddynt un cysur—fod eu bachgen dewr wedi syrthio yng ngwasanaeth y gwladgarwch uchaf a'r egwyddorion ar- uchelaf y dioddefwyd drostynt erioed. Cysured y Ceidwad y rhieni hiraethlon, a'r perthynasau oil. —Mae Tom, mab hynaf y Parch J. Hywel Parry, Llansamlet, adref ar hyn o bryd, ar ol bod yn ffosydd Ffrainc am saith mis. Cafodd ei anafu yn ei ben dro yn ol, ond mae wedi gwella yn rhagorol. Dychwela i'r fyddin gyda commission, ar gymeradwy- aeth Colonel ei gatrawd. Well done, Lieut. Tom Parry. Y Nef a'ch arbedo eto. —Mae dau o feibion eraill Mr Parry hefyd yn y ffosydd, ac yn perthyn i'r peirianwyr, sef Emrys Parry, B.Sc., a J. H. Parry, B.Sc. Maent hwythau yn is-swyddogion, ond dylai dysg fel hyn yn sicr gael ei ddefnyddio mewn cylch uwch. Ysgrifen- nant adref mor lion a'r gog. Nid yn fynych y ceir gweinidog a'i dri mab yn y ffosydd. Cyfarchion cynnes i'r tad a'r meibion glew. —Mae Grawys Jones a Rhys J. Huws yn prysur wella o'u cystudd diweddar. Ad- feriad llwyr a buan i'r ddau frawd annwyl. —Yr unig feriniadaeth glywsom ar waith Cyngor yr Undeb yr wythnos ddiweddaf oedd eu bod trwy ryferthwy o siarad wedi sicrhau dynion rhagorol i siarad ar des- tynau symol. —Beth bynnag am hynny, da gennym ddeall mai dydd Mawrth wedi'r Sulgwyn y dechreuir cyrddau'r Undeb, ac nid y Iylungwyn. Mae hyn yn welliant pwysig. -Ar ddiwedd Awst £ 500 yn unig oedd casgliadau y Gymdeithas Genhadol yn llai nag arfer, ac mae hyn yn achos o lawenydd. Ond argoela ddiffyg pwysig yng nghyllid y Gymdeithas pan ddewir i wneud y cyfrifon ar ddiwedd y fiwyddyn ym mis Mawrth nesaf. Peidiwn ysbeilio Crist hyd yn oed i helpu y rhyfel. —Pan yn ysgrifennu mae'r Unolwyr yn Ffrainc a Rwsia wedi rhoi curfa dda i'r gelyn, ond mae yn amlwg mai camrau cyntaf rhyw fudiad mawr yw hyn, ac erbyn ein nesaf bydd y cynllun wedi ei ddadlennu.