Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

,A..I 4  ? Y WERS SABOTHOL…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

A.. 4  ? Y WERS SABOTHOL | ? t V Y t y VVER8 RYNGWLADWRIAETHOL. I Y A ? q4n y Parch. D. OLIVER, D.D., I ? TREFFYNNON. | HYDREF iofed.—Elias yn Gael ei Gymeryd i Fyny i'r Nefoedd.—2 Bren. ii. 1-12. Y TESXYN EURAIDD. Danghosi i mi lwybr bywyd digonolrwydd llawenydd sydd ger Dy fron, ar Dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dra- gywydd. '—Salm xvi. 11. RHAGARWEINIOL. CVMERWYD Elias i'r nefoedd ymhen rhyw ddeg mlynedd ar ol ei gyfarfyddiad ag Ahab yng ngwinllan Naboth. Rhoddodd Jehofah brawf amlwg o'i foddlonrwydd i Elias ac i'w waith trwy ei symudiad i'r nef mewn modd goruwchnaturiol. Yr oedd ei fywyd wedi bod yn hynod, ac yr oedd ei symudiad mewn corwynt yn hollol gydweddol a nodwedd ei fywyd fel proffwyd Jehofah. Cawn i Ahab a Jehosaphat, brenin Judah, ymuno i fyned i ryfel a brenin Syria. Yn y rhyfel hwn clwyfwyd Ahab yn angheuol, a bu farw yn ei gerbyd, a chladdwyd ef yn Samaria. Teyrnasodd Ahaziah ei fab ar ei ol. Dywedir am dano Rhodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam, mab Nebat.' Yr oedd teyrnasiad y brenin drygionus hwn wedi bod yn hynod niweidiol i Israel. Un diwrnod syrthiodd trwy ddellt o'i lofft,' ac a anafodd ei hun yn fawr. Teimlai yn bryderus rhag i'w godwm brofi yn angheuol, ac anfonodd genhadau i ym- ofyn a Baalzebub, duw Ecron, a fyddai iddo wella. Yr oedd ei ymddygiad yn profi nad oedd yn cydnabod Jehofah. Pan oedd cenhadau y brenin ar eu taith i ymofyn a Baalzebub, cyfar- fyddodd Elias a hwynt. Trodd hwynt yn eu hoi, a gorchmynnodd iddynt fynegi i'r brenin nad oedd gwellhad iddo, ac y byddai iddo farw. Pan glywodd Ahaziah hyn, ymddigiodd yn erbyn Elias. Yr oedd yn teimlo yn sicr mai Elias ydoedd yn ol y disgrifiad a gawsai gan y cen- hadau. Anfonodd dywysog gyda deg a deugain o filwyr i ddal y proffwyd. Cawsant y proffwyd ar ben rhyw fryn. Anerchwyd ef gan y tywysog mewn gwawdiaeth Ti, wr Duw, y brenin a lefarodd, Tyred i waered.' Atebwyd ef gan Elias Os gwr Duw ydwyf fi, disgynned tan o'r nef- oedd, as ysed di a'th ddeg a deugain.' Gyda hynny disgynnodd tan o'r nefoedd. Gallesid. meddwl y buasai hyn yn ddigon i argyhoeddi Ahaziah o'i ffolineb ond yn lie yinostwng, an- fonodd dywysog arall gyda deg a deugain o fil- wyr i ddal Elias. Cyfarfyddasant hwythau a'r un dynged a'r lleill. Danghosodd y brenin ystyf- nigrwydd ei ysbryd trwy anfon y drydedd waith i ddal Elias. Ond yr oedd ymddygiad y tywysog diweddaf yn wahanol i'r lleill. Yn lie gorchymyn, syrthiodd ar ei liniau ger bron gwr Duw, ac ymbiliodd am arbediad bywyd iddo ef a'i fil- wyr. Cafodd ei ddymuniad. Yna aeth Elias at y brenin, a dywedodd wrtho y buasai iddo- farw yn fuan am ei fod wedi diystyrru Jehofah trwy anfon i ymgynghori a Baalzebub. Bu y brenin farw, a theyrnasodd Jehoram yn ei le. Y mae yr amgylchiadau cysylltiol hyn yu taflu goleuni ar yr amgylchiadavi a gofnodir yn y Wers. ESBONIADOL. I Adnod x.—' A phan oedd yr Arglwydd ar gymeryd i fyny Elias mewn corwynt i'r nefoedd, aeth Elias ac Eliseus allan o Gilgal.' A phan oedd yr Arglwydd ar gymeryd i fyny Elias mewn corwynt. Symudwyd Elias, nid pan oedd efe yn ewyllysio, ond yn ol ewyllys yr Arglwydd. Yr oedd amser ei symudiad, yn gystal a'r modd ei symudwyd, wedi ei benderfynu gan yr Arglwydd. Y mae yn debygol fod Elias wedi cael hysbys- rwydd fod adeg ei symudiad yn agos. M ewn corwynt. Defnyddiwyd y corwynt mewn modd goruwchnaturiol. I'r nefoedd. Cartref y saint. Aeth Elias ac Eliseus. Wedi galwad Eliseus, cysylltodd ei hun ag Elias i wasanaethu arno (1 Bren. xix. 21). Cyflawnai bob gwasanaeth angenrheidiol i Elias, fel mab yn gwasanaethu ar ei dad (2 Bren. iii. 2). 0 Gilgal. Gilgal ym mynyddoedd Ephraim, tuag wyth milltir o Bethel. Yr oedd ysgol y profiwydi yma. Wrth gymharu yr adnodau hyn a 2 Bren. iv. 38, cawn fod Elias ac Eliseus wedi bod yn cartrefu yma am beth amser. Adnod 2.—' Ac Elias a ddywedodd wrth Elis- eus, Aros, atolwg, yma canys yr Arglwydd a'm hanfonodd i Bethel. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf a thi. Felly hwy a aethant i waered i Bethel.' Ac Elias a ddywedodd wrth Eliseus, Aros, atolwg, yma. Nis gellir penderfynu i sicrwydd beth oedd amcan Elias wrth ddymuno ar Eliseus i aros. Hwyrach ei fod am i'w symud- iad gael ei gadw yn ddirgelaidd, neu ei fod am arbed loes i deimladau Eliseus, neu gallai ei fod yn teimlo awydd i fod ar ei ben ei hun i fyfvrio. Canys yr Arglwydd a'm hanfonodd i Bethel. Cyf. Diw., Mor bell a Bethel.' Yr oedd ysgol y profi- oecl. ysgol y proff- wydi yno, ac yr oedd yn cael ei gymell i dalu ymweliad a hi. Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw. Danghosodd Eliseus trwy lw difrifol beth oedd ei benderfyniad. Beiddia omedd cais Elias. Aethant gyda'u gilydd o Gilgal i Bethel. Adnod 3.—' A meibion y profiwydi, y rhai oedd ym Methel, a ddaethant allan at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddyw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddiarnat ti ? Dywedodd yntau, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi a son.' A meibion y proffwydi, y rhai oedd ym Methel. Y disgyblion oeddynt yn ysgol y proffwydi ym Methel. Yr oeddynt wedi cael rhyw wybodaeth fod Jehofah am gymeryd Elias ato Ei Hun. Nid oedd Eliseus mewn ysbryd i ymddiddan a hwy am y peth, a gorchmynnodd iddynt dewi. Nid mewn ysbryd sarrug, ond fel un oedd yn teimlo mor ddwys fel nas gallasai ymddiddan am dano. Adnod 4.—'Ac Elias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus canys yr Arglwydd a'm hanfonodd i Jericho. Dywedodd yutau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â. thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.' Ac Elias a ddywedodd wrtho. Cynyg- iodd Elias i Eliseus aros ym Methel, gan ei fod yn myned i Jericho ond gomeddodd Eliseus fel o'r blaen. Safai Jericho tua 13 milltir o Bethel. Yr oedd yma hefyd ysgol y proffwydl. Adnod 5.—' A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywed- asant wrtho, A wyddost ti mai heddyw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddiarnat ti ? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi a son.' A meibion y proffwydi. Holwyd. Eliseus eto yn Jericho gan feibion y proffwydi am yr hyn oedd i ddigwydd i Elias. Rhoddodd yr un atebiad ag a roddodd i feibion y proffwydi ym Methel. Mai heddyw. Yr adeg yma, neu ar y daith hon. Adnod 6.—' Ac Elias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg canys yr Arglwydd a'm hanfonodd i'r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf a thi. A hwy a aethant ill dau rhag- ddynt.' Ac Elias a ddywedodd wrtho, Aros yma. Danghosodd Eliseus yr un penderfyniad am y trydydd tro i lynu wrth ei feis, hyd nes y buasai yn cael ei gymeryd oddiwrtho. Ar ol hyn bodd- Ion odd Elias i Eliseus ddyfod gydag ef. A hwy a aethant ill dau rhagddynt. Yr oedd ganddynt tua phum milltir o Jericho i'r man agosaf i'r Iorddonen. Adnod 7.—' A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.' A dengwr a deugain. 0 ysgol y proffwydi, y mae'll debygol. Ni feiddient fyned gyda hwy wedi clywed yr hyn a ddywedasai Eliseus. Eto teiml- ent awydd i'w gwylio, a gweled beth ddaethai ohonynt. Gwelsant y ddau yn sefyll wrth yr Iorddonen. Adnod 8.—'Ac Elias a gymerth ei fantell, ac a'i plygodd ynghyd, ac a darawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aeth- ant hwy trwodd ill dau ar dir sych.' Ac Elias a gymerth ei fantell. Y cloak laes a wisgai. Plyg- odd hi mewn ffurf briodol i daro y dyfroedd. Tarawodd y dyfroedd a'i fantell fel y gwnaethai Moses a'i ffon rannu y dyfroedd. Adnod 9.—'Ac wedi iddynt fyned drosodd, Elias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymeryd oddiwrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o'th ysbryd di arnaf fi.' Ac wedi iddynt fyned ?o?o?. Gwnaeth Elias ei ewyllys i Eliseus fel ei etifedd. Eneiniodd ef yn broffwyd yn ei Ie. Gorchmynnodd iddo ofyn am y fendith a ddymunasai iddo adael iddo cyn ymadael. Bydded gan hyitizy, alolwg, ddau parth o'th ysbryd di arnaf ft. Nid cymaint ddwywaith ag oedd gan Elias a olygir. Y mae yma gyfeiriad at yr arfer- iad dan y gyfraith. Yr oedd y cyntaf-anedig i dderbyn deuparth o'r hyn oil a geffer yn eiddo ei dad (Deut. xxi. 17). Dymuniad Eliseus oedd am i Elias ei ystyried ef fel ei gyntaf-anedig ymysg y proffwydi, a gadael iddo ddeuparth o'i ysbryd—ei ysbryd fel proffwyd Jehofah. Dy- munai gael ei gymhwyso yn arbennig at y gwaith oedd yn ei aros. Adnod 10.—' Dywedodd yntau, Gofynaist beth anawdd os gweli fi wrth fy nghymeryd oddi- wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd.' Dywedodd yntau, Gofynaist beth anawdd. Yr oedd yn anawdd rhoddi i Eliseus ei ddymuniad, gan mai Jehofah yn unig a allasai ei roddi; eto y mae yn amlwg fod Elias yn benderfynol o ofyn am dani iddo. Os gweli fi wrth fy nghymeryd. Edrych, disgwyl, gwylia-fel un yn awydd.us i dderbyn, fe fydd i ti. Adnod i i.Ac fel yr oeddnyt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a'u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Elias a ddyrchafodd mewn corwynt i'r nefoedd.' Ac fel yr oeddynt hwy yn myned. Tra yr oeddynt hwy yn ymddiddan daeth cwmwl tanllyd ar lun cerbyd heibio, gan gymeryd Elias i'r nef, ac felly ei wahanu oddiwrth Eliseus. Aeth trwy y cyfnewidiad angcnrheidiol i'w gyrm- hwyso i'r byd ysbrydol mewn moment, ar daraw- iad llygad. GOPY-NIADAU AR Y WERS. i. Nodwch amseriad y Wers hon. Pa fren- hinoedd oedd yn Israel a Judah ? 2. Ymha leoedd yroedd ysgolion y proffwydi ? Beth oedd perthynas Elias a hwy ? Pah am yr ymwelodd a hwy yr adeg yma ? 3. Paham yr ymofynai meibion y proffwydi ag Eliseus am ymadawiad Elias ? Beth oedd atebiad Eliseus ? 4. Paham y gwrthododd Eliseus ymadael ag Elias ? 5. Beth oedd yr achos fod Elias am groesi yr Iorddonen ? 6. Wedi iddynt groesi, beth ddywedodd Elias wrth Eliseus ? 7. Am ba beth y gofynnodd Eliseus ? Beth oedd hynny yn ei olygu ? 8. Pa fodd yr atebodd Elias ef ? 9. Disgrifiwch fynediad Elias i'r nefoedd.

ANGEN MERTHYR.