Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
-WAUNARLWYDD.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WAUNARLWYDD. Oyfarfod Ooffadwriaethol —Nos Saboth, Medi 19eg, yn Sardis, Waunarlwydd, cynhaliwyd gwasanaeth unedig gan y gwahanol enwadau er coffadwriaeth i'r diweddar Private Tom Mitchell, un o fechgyn ieuainc yr eglwys uchod gafodd ei ladd yn y rhyfel ofnadwy hon yng Ngogledd Ffraiuc. Yr oedd y capel wedi ei orlenwi gan gvfeillion yr ymadawedig a'i deulu. Gwaaanaethwyd gan y gweinidog, y Parch D. M. Davies, a'r Parch E. W. Turtle, gweinidog y Bedyddwyr Seisnig. Yr oedd yn gyfarfod dwys iawn, a gwelwyd Hawer iawn o arwyddion fod ymadawiad y gwr ieuanc yn effeithio yn drwm ar deimladau y gynulleidfa. Chwareuwyd y Dead March' wrth gychwyn y gwasanaeth ac wrth ei, orffen yn effeithiol dros ben gan Mr J. Griffith Hughes, yr organ- ydd. Dyma un o'r cyfarfodydd sydd wedi gadael y dylanwad dyfnaf ar feddwl yr ardal er's talm. Gwawried y bore pan y clywir cyhoeddi heddwch eto rhwng y gwledydd sydd mewn rhyfel a'u gilydd ac y cyd-unant i gyd- nabod leau Grist yn Frenin. AELOD. I
Rhiwmatic ac Anhwyldeb yr.1…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Rhiwmatic ac Anhwyldeb yr .1 Arennau. Triniaeth Rad Y mae rliiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansoddiad, a'r acid hwn ydyw achos pennaf o boed yn y cef 11, lum- bago, sciatica, gowt, annhrefn y dwfr, y garreg, grafel, dropsi, diabetes, a Bright's disease. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeithiol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi gwella llu o achosion wedi i feddyginiaethau eraill fethu, yr hyn a gyfrif am y ffaith eu bod yn cyflym gymeryd lie meddyginiaethau ar ol yr oes ydynt yn ami allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Y mae nifer cyfyngedig o Dabledi Estora yn cael eu CYNNYG YN RHAD er profi eu bod yn 11 awn warantu eu disgrifiad meddyginiaeth onest at yr arennau am bris gonest, l/ll y bocs o 40 o dabledi, neu 6 boes am 6/ Cyflenwir hwy gan y rhan fwyaf o fferyllwyr. Y mae y cynnyg hwn o un bocs llawn yn parhau mewn grym i ddarllenwyr y TYST am ddeng niwrnod o'r dyddiad hwn, ar yr amod fod y rhybudd hwn yn cael ei dorri allan a'i anfon gyda 3c. mewn stamps onide, fe anwyb- yddir y ceisiadau a'r amcan ydyw diogelu rhag rhai nag oes arnynt angen am y cynnyg Cyfeiriad Estora Co., 132, Charing Cross Road, 14ondon, W.C.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DAVIES'S COUGH MIXTURE PESWCH PESWCH Ni raid i neb ofni canlyniadan Anwyd a Poeswcb ond gofala fod potelaid o Davies's Cough Mixture yn y tt. Bydd pobdyn yn fddyg i'w deulu at boll anhwyl- aerau y Gwddf a'r Prest, os bydd Davies's Googh Mixture wrth law. Y mae miloedd lawer wedi oael iaohad ac yn gwueud eu goreu i'w gymell ar eraill sydd yn dioddef. Ni raid cymeryd ond UN D08B er profi ei ddylanwad union- eymeryd ond UN DOBB r Pholefi gm, yn olirio y Llsies ongyrchol er rhyddhau y Phlegm, yn clirio y Llais, yn oynhesu ac yn cryfhau y Frost, gan weithio pob &nwyd a Chrygni ymaith. DAVIES'S COUGH MIXTURE at BESWCH. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ANWYD. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ASTHMA. Os gwyddoch tm rywun yn dioddef oMiwrth Beswo a Bronchitis, anrhegwch ef a photelaid o OOUGS Ml* TrSB HUGH DAVIBS, ao fe'oh bendithio ryw ddydd. Is lie a 28 9c y botel. HUGH DAVIES, CHEMIST, MAOHYNLLETH,
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR YSBYTY CYMREIG.— Ar un o ddyddiau tecaf a chynhesaf yr hat hwn, set dydd Iau wythnos i'r diweddaf, anrhydeddwyd yr ysbyty hwn gan ymweliad oddiwrth Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Arthur o Connaught. Daeth yr ymweiydd Brenhinol, yr hon sydd yn aros yn y gymdogaeth, i'r ysbyty yn hollol answyddogol, a chyda'i cyfeiliion aeth trwy yr holl wards a :?hannau eraill yr yabyty. Ymad- awodd Ei Huchelder Brenhinol yn hwyry dydd, a datganodd ei phleser gyda'r hyn oIl a welodd
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SARON, BRYNCOCH. Gwasanaethwyd yng ugwyl hanner-blynyddol yr eglwys uchod eleui gan y Parchn D. Morris, Drefnewydd, ac E A fan Jenkins, Moriah, Penfro. Cafwyd cyfar- todydd rhagorol.
.BETH SYDD O'l LE ?I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETH SYDD O'l LE ? At Olygydd y Tyst. SYR,-Goddefwch i mi, o'r set olaf, ddweyd fy marn am yr hud marwolaeth sydd ar ein heglwysi. Gosodaf yn gyntaf anghrediniaeth yn y pulpud, neu, os mynnwch, diffyg ffydd i breg- ethu Efengyl yr Iesu. Nid wyf yn caru'r gair anghrediniaeth ychwaith. Gwell gennyf gredu fod y mwyafrif mawr yn credu yn eu calonnau yr hyn a orchmynnodd yr Iesu iddynt bregethu. Ond y mae eu ffydd naill yn rhy wan i'w gwneud yn wir dystion, neu y mae ofn arnynt y canlyn- iadau. Y mae gennyf yn fy meddwl un o wein- idogion anwylaf ein Henwad, yr hwn a daflwyd allan o'i eglwys am iddo bregethu barnedigaeth i'r anghyfiawn. Ac eto yn y lie hwnnw y mae pawb yn myned i'r cwrdd dydd Sul, a'r cyrddau gweddi, a'r gyfeillach. Ni phregethir yr ail-enedigaeth. Na ryfedda ddywedyd ohonof Fi wrthyt,' medd yr Iesu wrth Nicodemus, y mae yn rhaid eich geni chwi drachefn.' Pwy bregetha yr Efengyl hon heddyw ? Gellir eu rhifo ar bennau bysedd. Rhaid eich geni chwi drachefn.' Gofynais i weinidog beth oedd ei eglurhad ar feddwl yr Iesu. O,' meddai, y mae dyn yn cael ei ail- eni pan dderbynnir ef yn aelod.' Y fath dywyll- wch Clywsom am filoedd yn y Diwygiad yn cael eu hail-eni (converted) gwnaed hwy yn greaduriaid newydd yng ngwir ystyr y gair. Gwneir gwawd o ddyn a honna ei fod wedi ei ail-eni heddyw a phrif arweinwyr y gwawdwyr yw aelodau eglwysig. Pam ? Am na wyddant ystyr ail-enedigaeth, am na phregethwyd iddynt yr amod hanfodol o fod yn wir ganlynwyr i Grist. Eto, ni phregethir yr Efengyl ymhlith y bobl. Y mae ein capelau ni wedi cael eu troi yn fannau lie y casglwn bob Saboth i fwynhau Gair yr Arglwydd. Ai dyma orchymyn yr Arglwydd ? Na, fil o weithiau, Na 'Ewch gan hynny,' meddai, i'r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch gwahoddwch i'r briodas.' Pwy glywodd am weinidogion ac aelodau crefyddol heddyw yn cynnal cyfarfodydd ar y square lie y cwrdd at nos Sabothau yn ein pentrefi dyrfa o fechgynach i ysmocio a barnu pawb a a heibio ? A ddy- wedir gair bach am yr Iesu wrth y dyn sydd tuallan i'r eglwys ? ac a ofynnir heddyw i bech- aduriaid os ydyw eu heneidiau mewn heddwch a Duw ? Na. Y mae eithriadau lawer, ond y rheol sydd fel arall. Dylai hyn fod yn un o'r amcanion cyntaf gennym wedi cael ein dwyn o'r tywyllwch i'r goleuni. Y mae gorfoledd yr Efengyi i'r pechadur a gedwir trwy aberth y Groes yn gymaint fel na all dewi a son. Pam yr ydym mor farwaidd ? Gadewch i ni ofyn ar ein gliniau i'r Arglwydd roddi yr Ysbryd Glan i ni gyda nerth. Heb hyn, marw ydym. Nis gallwn fod yn wir dystion bob dydd, bob awr, am yr Iesu, heb gymorth y Diddanydd arall. Ymhellach, un o'n prif wendidau fel pregeth- wyr ac aelodau ydyw diffyg ffydd. Y mae yr addewidion wedi cael eu darparu i ni. Hyd faint ein ffydd y rhoddir i ni. Peidiwn a dirmygu ein brodyr sydd yn taflu eu hunain yn gyfan- gwbl ar yr Iesu, ac sydd yn cael eu bendithio yn ol eu ffydd. Gorfoleddant yn yr Arglwydd nid yn unig ar ddydd Sul, ond bob dydd gyda'u gwaith. Peidiwn a'u dirmygu. Gweddiwn am i Dduw helpu ein hanghrediniaeth ni. Yn ein golwg ni fel eglwysi y mae yn bad taste i orfol- eddu, a chedwir yr Amenau i gyd yn y set fawr. Dyna. ychydig o wendidau ein heglwysi. Ni soniaf am y New Theologians, yn y pulpud a'r seddau, sydd yn pardduo Efengyl lan ein han- nwyl Iesu. Clywais R. J. Campbell flwyddyn yn ol yn gweddio am i Dduw faddeu iddo am yr amser yr oedd yn ymdroi yn y llaid. Y mae ei ddisgyblion yn ymrolio yn y llaid o hyd. Ceis- iant yn yr Ysgol Sul a mannau eraill dynnu eraill ar eu holau. Gadewch i ni lanhau ein heglwysi o'r Phariseaid a'r ysgrifenyddion a'r Saduceaid hyn. Y mae ein Henwad ni yn honni credu yn y Drindod. Gadewch i ni wneuthur cyfiawnder a'n hegwyddorion. Nid oes le i Undodwyr yn ein plith. Gwadant bopeth sydd yn gymorth i bechadur. Hyd lies y glanheir ein pulpudau a'n seddau o'r gwenwyn hyn, hyd nes y pregethir yr Iesu yn symlrwydd y pedair efengyl, hyd nes y deuwn i gredu gyda symlrwydd plentyn bach yn holl eiriau ac addewidion ein Harglwydd, byddwn heb bresenoldeb yr Ysbryd Glan yn ein cyfar- fodydd. Ni ddaw Teyrnas Dduw byth fel yr ydym yn myned ymlaen. Yr ydym yn carlo yr Efengyl i'r paganiaid, ond yn ddifater am y baganiaeth sydd y drws nesaf i ni. Credaf y dylai pob aelod eglwysig gymryd fel arwyddair—' Beth sydd raid i mi ei wneuthur ? a Gweddiwch yn ddibaid.' Yn ffyddlon, rW. A. D.
MATERION TRAMOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MATERION TRAMOR. SVR,-Beth amser yn ol rhoddwyd imi gan gyfaill, a fU'11 rhyfela yn Ffrainc er's rhai mis- oedd, lythyr diddorol a gafodd ar gorff marwol Almaenwr yn y gwarch-ffosydd yno. Iylythyr ydyw oddiwrth wraig ieuanc at ei phriod. Y mae ynddo deimladau tyner a chysegredig nad ydwyf am eu halogi wrth eu cyfieithu. Rhed swn pryder ac ofn drwy bob llinell ohono. Hfr. aetha'r ysgrifennydd am gwmni a chyfeillach ei gwr, ac ar yr un pryd ofna na wê1 mo hono mwyach. A dyna fel y bu. Hwyrach mai dyma y llythyr olaf a basiodd rhyngddynt. Yr hyn sy'n adeiladol inni yw'r go leu a deft ar ofnau a gobeithion, ac yn enwedig ar gynildeb gwrag- edd Germani. Pa un ai gorfodaeth y ddeddf, ai ysbryd gwirfoddol y werin sy'n gyfrifol am hyn, ni wn i. Sicr yw fod y parodrwydd hwn i aberthu yr elfen gref yn nerth ein gelynion. Cyfieithaf ran ohono :—- 0 na byddai'r rhyfel erchyll hwn drosodd. Mae'r drudaniaeth yn pwyso'n drom arnom. Y mae cig moch yn costio swllt ag wyth ceiniog y pwys, ac ychydig iawn ohono sydd ar werth am fod y moch mor fach oherwydd prinder bwyd iddynt. Mae'r bara'n ddrud hefyd. Mae'r dorth (pedwar pwys) yn costio deg ceiniog. Ar brydiau mae mor wael ei rinwedd a'i ryw fel nas medrwn fwyta briwsionyn ohono. Cyn y medrwn gael torth o gwbl, rhaid inni wrth docyn o'r dref, a bery am wythnos. Os prynaf fara gwyn neu deisen galed gyda'r dorth, cymerir rhan o'r dorth ymaith. Mae byd caled ac enbyd ar y sawl na fedront gyfranogi ag eraill. Prynais ddeg pwys o flawd a lard ychydig ddyddiau cyn hyn ond heddyw ni ellir cael y nwyddau hyn heb docyn. Yn y bore yr wyf yn bwyta cucumber, ac yn mynd heb frecwast. Yr wyf yn cael ciniaw ayl- weddol, ond yn gwneud un pryd o'r ddau bryd arall, sef gwneud te a swper yn un. Rhaid i'r dorth fach wneud y tro ddwywaith neu deir- gwaith yn yr wythnos. Yfaf yn gyffredin lawer o goco. Mae'r llaeth yn costio dwy geiniog a dimai'r peint yn fuan bydd yn costio talr a dimai. Rhaid i bawb gael rhyw ychydig ohono, ac y mae'n amhosibl i neb brynu mwy na'l ran. Pan glywsom y clychau'n canu beth amser yn ol am y tro cyntaf er's llawer dydd, ein gobaith oedd fod heddwch wedi ei selio. Ysywaeth rhaid ymladd a lladd llawer eto cyn hynny.' Gadawaf y llythyr i siarad drosto'i hun. Mae gennyf air i'w ddweyd wrth Un o'r Bobl wrth derfynu. Fel y Pharisead hwnnw gynt, mae'n diolch ei fod ef yn ddyn gonest, ac nid iel myfi yn enllibaidd, yn unochrog, ac yn taflu ei lysnafedd ar ddosbarth o weithwyr '—ac felly yn y blaen. Ysgrifenna hanner colofn, ond ni. rydd enghraifft i brofi ei gyhuddiadau. Modd bynnag, mae'n dda gennyf glywed oddiwrtho ei fod yn awyddus am foddion gras, ac i uno'r i'r saint i wasanaethu't Arglwydd. Ac efe'n un o'r saint, awgrymaf yn garedig iddo ddarlkm a myfyrio Luc xviii. 9-X 5. Yr eiddoch; &c., SWRLAIS.
GORFODAETH FILWROL. 1,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ganiatau iddynt byth wasanaethu i amcanion I unbenaethol neb, a llai fyth ar yr adeg pan yr ydym yn brwydro yn erbyn gormes unbennaeth. Canys daethom allan i'r maes i ddinistrio eilun Prwsia, ac nid i'w osod ef i fyny yn ein plith ni ein lumain. Ac ni a'i dinistriwn os caniateir lie rhydd i ynni rhydd ein pobl i weithredu. Mae yn eich gallu chwi yn fwy nag yng ngallu neb arall i ddwyn ynni y bobl hyn i weithrediad canys tuhwnt i bawb dynion yr ydych yn gallu dal dust y werin, ac yn medru ei chyffroi i wneuthur gwaith mawr. Eto i gyd, ac er hyn oil, ni fyn pobl y wlad hon wrando ar genadwri Arglwydd Milner, hyd yn oed pan y daw o'ch genau chwi. Gwrandaw- sant yn llawen arnoch yn y gorffennol, canys credent mai gennych chwi y clywsant fynegiad mwyaf didwyll eu dyheadau a'u gobeithion. Dis- gwyliant atoch chwi i ddiogelu ysbryd y genedl rhag y rhwyg marwol sydd yn ei bygwth a chredaf nad yn ofer y disgwyliant. Wyf, &c., A. G. G(ARDINER).