Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

0 FRYN I FRYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 FRYN I FRYN. Habacuc Heddyw. Y MAF, dynion cyfnodau a deffroadau yn fyth-arhosol. Y mae iddynt ryw fath o eil- dwf yn eu heilfyw, yn y byd sydd yr awron. A hwn yw y twf goreu o ddigon hefyd. Yn nhwf yr ail fywyd, neu barhad mwy ysbrydol y bywyd cyntaf, y ceir addfedrwydd a buddiant. Dynion mawr a dynion Duw yw y rhai hyn. Daeth- ant i'r byd yn ddigon di-son am danynt, ond aethant trwy'r byd yng ngherbyd y goleuni, ac afhosant ynddo a chyda ni, o oes i oes, fel lloer y nos. A mynnant eu gweld a'u cydnabod. A hwynt-hwy eu litinaiii sydd gennym, ac nid eu drychiol- aeth neu eu hatgof. Deuant ger bron o hyd yn eu gwreiddiolder ac yn eu person- oliaeth briodol. Ni chaiff efelychedd le i roi ei bys arnynt. He is great who is what he is from nature, and who never reminds us of others.' Hawdd credu hyn, a hyfryd yw credu hyn. Y mae cymwynas-j wyr y byd ysbrydol yn llawer mwy natur- iol na chymwynaswyr y byd hwn. Mor naturiol oedd ymwelyddion pabell Abra- ham ac ymwelyddion bedd yr Iesu. Haws yw diogelu naturioldeb yn y nef nag ar y ddaear. Wrth fynd dros Lyfr HABACUC gellir yn hawdd dod i'r gred mai dyn yn byw heddyw yw yr awdwr, ac mai dis- grifiad o'r rhyfel presennol yw ei Lyfr. Nid yw darlun Harold Begbie o'r rhyfel yn well, os ydyw cystal, ag eiddo Habacuc; a rhagorach o lawer ydyw ffynonellau cysur yr olaf na'r blaenaf. Nid oes der- fynau lie nac amser i ddyn fel Habacuc, ac mae ei 11yfr yn un o'r ser sefydlog mewn hanes. Clywsom bregethwr o nod ac o dan rai blynyddoedd yn ol yn dweyd wrth ei wran- dawyr mewn gwaedd Bobol, 'rwyf wedi gwneud fy meddwl i fyny i bregethu p hyn allan, nid i ddynion ond i Dduw.' A phan gyda'r gair Duw angerddolodd ei waedd, a holltodd yn brydferth ofnadwy fel tan- belen. A chododd ochenaid o bob calon. i Ar un olwg, yr oedd y fath floedd-air yn fyrbwyll, ac iddi fwy o swn nag o synnwyr f ond ar yr olwg arall, meddai ar arucheledd gweinidogaeth gwir broffwyd. Yr ydys, mae lIe i dybio, yn ormod o ddynion dyn- r- ion, ac yn rhy fach o ddynion Duw. Siar- edir rhy fach a Duw ac wrth Dduw, am y byddys yn siarad gormod a dynion. Dy- weder a ddyweder, pulpud sieryd am ddyn- ion ac a dynion yw pulpud heddyw. Wedyn nid yw yn hollol bulpud Habacuc. Yr ydoedd y gweledydd hwn yn siarad a Duw. Gwelai ddynion wrth weled Duw, a cheis- iai eu hymwared gan Dduw. Y mae peth cwyno yn ei natur. Yr oedd yn ormod o fardd i fod yn gwynwr mawr. Cwyn awen yw ei gwyn ef. Efallai nad yw cwyn yn arwydd o'r cryfder iachaf ond os nad yw felly, mae'n arwydd o fywyd a thyfiant iddo. Y mae hyn yn wir calonogol, os, fel Habacuc, yn cwyno wrth Dduw. Braidd nad yw yn cwyno ar Dduw hefyd, ond mae yn gwneud hynny wrth Dduw ac nid wrth ddynion. Gwrandawer ar ei gwyn- ion Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder ? anrhaith a thrais sydd o'm blaen i. Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid a barn allan byth am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn am hynny cam farn a a allan. Paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun ? Ac y gwnei ddynion fel pysgod y mor ? A gant hwy gan hynny dywallt eu rhwyd ? Cwyna yn y1110ddau hyn oherwydd absen cyfiawnder a rhyddid, ac oherwydd bod anghyfiawnder a gorthrwm yn rhemp yn y tir. Y ddeuddrwg hyn a boenai ei ysbryd cyfiawn. Gwr annwyl ydoedd ef, ac un a anwylid ydoedd hefyd. Am ei fod mor dda y teimlai mor ddwys yn herwydd trais a lladrad ac eilunaddoliaeth. Meddai ar iaith gref a brawychus i osod allan bechod a phechaduriaid, ac yr oedd a fynnai cryfder ei gymeriad a chryfder ei iaith. Gwell cymeriad heb athrylith nag athrylith heb gymeriad i son am drais a drwg. Daw Hid yr oen i'r wyneb yng NGWAEAU Habacuc. Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo Gwae a elwo elw drwg i'w dv, i osod ei nyth yn uchel Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd 4 Gwae a roddo ddiod i'w gymydog Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro wrth garreg fud, Cyfod.' Goleu coch Habacuc i Nebuchodonosor yw y gwaeau hyn, yr hwn oedd wr balch, heb aros gartref, a'i feddwl yn anniwall fel angeu ac uffern, ac ar yr hwn yr ymchwel- odd cwpan yr Arglwydd, a chwydiad gwarthus fu ar ei ogoniant. Yr hyn sydd i'w ryfeddu yw fod anhawster a phetruster Habacuc yn ei Dduw yn codi o'i syniad am Dduw. Yr oedd ganddo ei ddelfryd o Dduw, ond rywsut nid oedd ffeithiau amlwg bywyd cymdeithasol yn ateb i'r Duw oedd yn ei feddwl. Yr oedd ei ffydd yn ddisigl yn Nuw. Ni feddai gysgod amheuaeth ynghylch Ei fodolaeth, ond rywsut neu gilydd aeth i addoli ei syn- iadau am Dduw yn fwy na Duw Ei Hun. Hyn fu'n achlysur i ddiwinyddiaeth ei gred fynd i wrthdarawiad a ffeithiau cym- deithsol ei fywyd. Yn nechreu y Llyl y ceir yr olwg salaf ar ffydd Habacuc. Ymbura ac ymloewa ac edrycha yn well fel yr a yn ei flaen, ac erbyn dod i ddiwedd y Llyfr y mae ar fynydd y gweddnewidiad Eto mi a law- enychaf yn yr Arglwydd. Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth, a'm traed a wna Efe fel traed ewigod.' Cawn olwg gyffelyb ar liaws o bobl dda iawn—o bobl arweiniol, yn wir-yn y dyddiau hyn. Y maent mewn caddug a rhyw fath o amheuaeth gyda'u Duw. Yn y rhyfel ysbrydol hwn y treuliant eu misoedd. Y mae amheu- aeth yn waeth yn yr Eglwys nag ydyw yn y trenches. Golwg debyg i amheuaeth yr Eglwys geir ar y dechreu yn Habacuc ond encilia yr ameu yn fuan ac yn llwyr, a daw'r sicrwydd pendant yn ei le. A ydys wedi sylwi fod argyfyngau yn rhoi bod i ddywediadau, a rheiny yn arhosol fel a b c ? Ceir y dywediadau hyn o ryf- eloedd. Felly yr ydoedd yn rhyfel amser Habacuc. Meddylier am rai ohonynt :— Ydwyt lanach Dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg Fel y rhedo yr hwn a'i darlleno Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd, fel y toa y dyfroedd y mor' Y cyfiawnja fydd byw trwy ei ffydd' Y garregfa lefa o'r mur, a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed Er i'r ffigysbren na Rodetto 'Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.' Y mae'r ymadroddion hyn mor gyfarwydd gennym a Mewn bywyd mae gwas- naethu Duw.' Egwyddorion rhai ohonynt yw fod cuddio drwg ac osgoi cosb yn amhosibl fod pobl dda mewn adegau celyd a'u cynhaliaeth yn eu ffyddlondeb i wirionedd a chyfamod a Duw fod achos Duw, er yn ddilewyrch a braidd yn an- obeithiol lawer tro, eto yn sicr o lwyddo, ac i lwyddo dros y byd fod Duw yn aros pan fo pob gallu arall yn siom. Hynny a ddarllenir allan o'r geiriau dyfynedig hyn. Moeseg Llyfr Habacuc a Habacuc ei hun heddyw yw fod ffeithiau bywyd i'w dar- llen yn ol Duw, ac nid yn ol y syniadaeth am Dduw ac am hynny dywed y Llyfr a'i awdwr fod cywirdeb yn y syniadaeth am Dduw o'r pwys mwyaf. Onid yw ym- baratoadau Germani i ryfel, a'i chreuloii- derau er Awst blwyddyn i'r diweddaf, yn sampl o hyn ? Y mae y gred yn Nuw yn gryf yn amser rhyfel—pob rhyfel, yn wir —ac yn neilltuol felly y rhyfel hwn. Cryf- ach a mwy cyffredinol yw y gred hon ar Gyfandir Ewrop yn y rhyfel nag ydoedd cyn y rhyfel. Ac os yw troedigaethau yn cymeryd lie yn awr, maent o ran eu rhif yn lluosocach yn y rhyfel nag yn yr Eglwys. Haws i anffyddiaeth heddyw gael safle yn yr Eglwys nag yn y rhyfel. Y mae gwedd- iau y trenches ac addolgarwch y milwyr yn annioddefol i anffyddiaeth. Eisoes mae y rhyfel wedi adfywio yr ymdeimlad o Dduw, a dilynnir yr adfywiad hwn gan olygiadau newyddion a moesau gwell. Safer yn ddwys uwchben moeseg Cyll- ideb McKenna. Yr ytndeimlad o Dduw personol a phresennol a rhagluniaethol