Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
- --I BRYNAMAN.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I BRYNAMAN. I Dewis Diaconiaid.-Bu eglwys Ebenezer wrthi yn ddiweddar yn dewis nifer o ddiacon- iaid. newydd er cynorthwyo yr hen i gario gwaith yr eglwys yn ei flaen, a chymerwyd ganddynt gynllun effeithiol a diogel i ddwyn y gwaith oddiamgylch. Gosodwyd deddf i lawr fod yn ofynnol i'r dewisolion sicrhau dwy ran o dair o'r pleidleisiau cyn y byddent yn ethol- edig. Felly bu y gwaith ar droed ychydig yn fwy nag arferol, ond yr oedd diogelwch y cynllun yn ddigon o iawn am ei hirhoedledd. Yn yr etholiad danghoswyd boddlondeb cyjfredinol yn y personau a etholwyd. Hefyd teg ydyw nodi fod nifer eraill yn yr eglwys yn llawn deilwng o'r swydd, ae wedi profi en hanain yn yr etholiad yma eu bod yn meddu ar 'ysbryd rhagorol' wedi i'r ymgyrch ddod i derfyn. A ganlyn ydyw enwau y rhai a ethol wyd:—Mri William Thomas, Bungalow; G. Morgan, ysgolfeistr; Cynghorwr Wille Da vies; D. Brynfab Thomas Thomas Peregrine; a D. E. Thomas, Shop. Nos Saboth cyn y diweddaf, traddodwyd siars i'r cyfryw gan y Parch W. D. Thomas, Gibea, fel gweinidog y fam eglwys Oymerodd yn destyn eiriau a welir yn Act vi. 5. Cyfyngodd ei sylwadau i ddau air, sef I Oyfle'r Diacon.' Cafwyd ganddo grynhodeb o gyfarwyddiadau amserol gwerth eu cofio, ac o'u cario allan ceid cymeriadau datblygedig. Cafwyd hefyd yehydig eiriau pwrpasol gan ddau o'r hen ddiaconiaid, sef Mri Thomas Davies a John James, yn cynnwys dymuniadau pur am ddyfodol o weithgarwch crefyddol yng Dgllwmni y swyddogion newydd. D. B T.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EBENEZER, ABERQ-WILI.—Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd blynyddol Medi 12fed a'r 13eg, pan y pregethwyd yn ardderchog gan y Parch D. Silyn Evans, Aberdar. Cafwyd odtenon y cofir yn hir am danynt.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
You Can Rely on Clarke's B tl Pills as a ———— Safe and Sure Remedy, in either Sex, for all Acquired or Constitutional Dis- charges from Urinary Organs, Gravel, Pains in the Back 1_! '1 'I lUlU Kinarea complaints. Uver 50 Year's Success. Of all Chemists, 4/6 per box, or sent direct, post free, for Sixty Penny Stamps by the Proprietors-The Lincoln & Midland Counties Drng Co., Ltd., Lincoln. C I arke's B41 Pills (MM PBOM MHBOTBT)
IHYN A'R LLALL 0 BABILON I…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. I ?5, GAN KYNON. ( ?k -NT I", Y -T 0 ?N }, ———- Ar y foment hon y mae rhywbeth yn debyg i heddwch yn teyrnasu tua Sant Stephan. Aeth y Gorfodwyr, o dan arwein- iad gor-selog y Capten Guest, gam yn rhy bell pan yn herio y Prifweinidog ac un canlyniad yw fod y Ty wedi cael wythnos arall o seguryd er mwyn cau safnau y llewod sydd yn rhuo mewn amser ac allan o amser am Conscription. Y gwir yw fod rhai o'r penboethiaid hyn wedi meddwi yn chwilgorn ar y pwnc. Ond y dyddiau diw- eddaf hyn y maent wedi colli tir hefyd, am fod tro ar fyd draw ar faes y rhyfel. Bu cri ydoedd mai yr unig ffordd allan o ddinistr, ydoedd eu ffordd hwy. I: Clywais ar awdurdod pur dda y dydd o'r blaen fod cynnwrf go ddifrifol yn y Cabinet ar y mater, ac fod Asquith a Bal- four a Grey yn sefyll yn gadarn dros yr egwyddor wirfoddol. Eraillac yn eu plith Lloyd George—yn gryf dros Orfod- aeth. Cas gan bawb ohonom sydd yn Radicaliaid yw y syniad o orfodi neb. Gwlad rydd ydyw hon, a chas gennym gael ein gyrru, fel pobl Prwsia, ar flaen y bidog i faes yr ymladdfa nac unrhyw faes arall. Cas gennym hefyd y syniad o ddawnsio i bibell y Times a'r Daily Mail a'r wasg felen sydd o dan lywodraeth Northcliffe. Pa hawl sydd gan hwnnw i gydio yn yr awenau ? Hyd yn hyn y mae Arglwydd Kitchener yn ddistaw. Am ei fod yn ddistaw ac yn gwrthod ymwadu a'r egwyddor wirfoddol, cynllun Northcliffe yw ei yrru ef a Syr Edward Grey ac Asquith allan i'r anialwch, er mwyn cael Curzon a Milner a Iyloyd George (meddir) i gydio yn yr awenau yn eu lie. Dadl Asquith a'i gyfeillion yw nad yw y drefn wirfoddol wedi methu etc. Eti. dadl yw, os rhaid cael rhagor o filwyr, fe'u ceir dim ond iddynt weled y perygl. Cyn- haliwyd seiat felly yr wythnos hon, pan yr oedd arweinwyr lylafur yn ymgyngliori gyda'r awdurdodau goruchel. Dywedwyd pethau plaen wrthynt gan Asquith a Kitchener, ac un canlyniad yw fod arwein- wyr lylafur i fod allan ar y maes yr wyth- nos nesaf yma yn hel rhagor o filwyr o blith eu rhengoedd hwy. Y maent yn bur ffyddiog y ceir yr hyn a ofynnir. Os felly, dyna ben ar Northcliffe a'i griw. Gresyn fod dyn fel hwn, yn rhinwedd dau bapur newydd, yn cael cymaint o sylw ac yn cael cymaint o'i ffordd. Mae yn anawdd dweyd beth yw gwir hanes lyloyd George yn y drafodaeth bres- ennol. Wiw credu pob hen stori. Pa le y saif, nis gwn yn iawn ond y mae gennyf gymaint a hyno ffydd ynddo fel Democrat na chredaf yr banner a ddywedir am dano fel Gorfodwr. Coeliaf, pe bai perygl i'r Germaniaid lanio a goresgyn ein gwlad, y buasai hynny yn gwneucl Gorfodwyr o bawb ohonom. Hyd nes y bo perygl felly wrth y drws, rhodder y syniad o orfodi heibio. Dywedaf eto, nid yw yn dda gen- nyf weled y Cymrc^enwog yn rhwyfo yn yr un bad a Curzon a Milner. Y ddau yn llawn o'r ysbryd sydd wedi damnio Ger- mani; ac nid oes raid i ni ond olrhain eu hanes hwy un ohonynt yn yr India fel viceroy, a'r Hall yn|Neheu Affrica—i weld y fath ddau failure oeddent pan yn ceisio teyrnasn rhyw dipyn dros bohl eraill. Nid oes gennyin^reny-n o ffydd yn yr un o'r ddau a dywedwn eto, da fydd gennym weled y dyn mawr o Gricieth wedi ym- ryddhau o'r dylanwadau hyn Y mae ei gwrs hyd yma wedi bod mor odidog, hoffem iddo orffen ei yrfa yn orfoleddns wedi cadw'r ffydd ddysgwyd iddo gan Thomas Gee a Michael Jones o'r Blaa. Bydd bwlch go fawr ar ol yr Aelod dros Merthyr ac Aberdar—Mr Keir Hardie. Diddorol yw darllen sylwadau y wasg Seisnig am dano. Nid oes neb yn ameu ei onestrwydd am foment, ond y mae pawb yn cydnabod ei fod yn ddyn amhosibl' fel dyn cyhoeddus. Clywais Herber, o an- farwol goffadwriaeth, yn gwneud defnydd ardderchog o'r gymhariaeth honno fod ambell ddyn anhydrin fel pren croes mewn llwyth.' lVleUm ffitio i'w le ei hun ac heblaw liynny, yn atal pawb arall i ffitio hefyd. Ismael felly fn Keir Hardie o'r dechreu i'r diwedd. Gwerth dim mewn cynhadledd oddigerth fod pawb yn rhoddi ffordd i'w fawrhydi ef ei hnn. Eto dy- wedir ei fod mor addfwyn a'r oen mewn bywyd preifat. Os felly, gwell gennym pe buasai wedi cario tipyn o'r ysbryd hwnnw i'r cylch cyhoeddus. Down with every- thing that is up ydoedd testyn mawr ei holl bregethau. Bellach mae'r tafod tan- llyd gonest wedi tewi, ond nid cyn i'w berchenadael ei 61 yn ddwfn ar fyd ac Eglwys. v 'Rw\ 'n cofio ei weled y waith gyntaf erioed yn hwylio tua'r Senedd. Safwn gyda thorf fawr o bobl yn ardal Whitehall i ddisgwyl am ddyfodiad Gladstone pan oedd y G.O.M. yn anterth ei boblogrwydd. Maes o law, tua dau o'r gloch, dacw ger- byd bychan un ceffyl (victoria) tebyg i j eiddo meddyg neu berson plwy' yn dod I allan o Downing Street a phwy oedd ynddo ond yr hen wr a'r hen wraig, Mr a Mrs Gladstone. Yr oedd hi yn gofalu am William ar bob adeg lladd mochyn,' ac yr oedd hwn yn fochyn go braf- agor y Senedd ar ol gorchfygu yn y ballot box. Pan ymddanghosodd yr hen bar urddasol, dacw fonllef fyddarol yn rhwygo yr awyr, a ffwrdd a nhw tua'r Tý Cyff- redin. Pwy ddaw nesaf ? ebe pawb. Chad- wyd neb ohonom mewn pryder yn hir iawn. Clywsem yn y pellter swn cyrn pres a drwm fawr go daranllyd. Ymhen tipyn cawsom esboniad. Keir Hardie oedd yno efo brass band a llonaid wagen o gerddor- ion a chyfeillion yn ei hebrwng tna'r Senedd. Aeth yn chwerthin mawr dros yr holl le. From the sublime to the ridiculous,' ebe ambell nn. Cap Glengari ar ei ben, a gwisg o frethyn gwlad am dano. Bu yn hir iawn cyn newid y cap am het. Pan welsom ef ddiweddaf, het plush reit ffas- iynol oedd yn ei goroni, ac yr oedd gryn lawer yn fwy trwsiadus ei ddyn oddiallan ond am y dY11 oddifewn, safodd hwnnw yn yr unfan—yn anghymodlawn ac yn rhyfelwr o'r cryd i'r bedd. Daeth y diw- edd yn bur sydyn, a bydd bwlch llydan ar ei ol. Tybed mai Ysgotyn ddaw yn olynydd iddo ? Os Robert Smillie fydd yr etholedig, fel y proffwydir, y mae efe j yn ddyn noble. Nid oes ei well yn rheng- I oedd I/lafur y^dydd^heddyw. f
0 FRYN I FRYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
syddjwedi deffro yn y rhyfel. Y mae Duw yn fwy amlwg ynddo na Iesu Grist. Eis- iau Duw rhagluniaeth, sef Duw y di- hangfaau rhag marwolaeth,' ydyw eisiau rhyfel. Y mae y cam hwn yn ddechreuad da, a gobeithiwn yn arwain i'r iachawdwr- iaeth sydd yng Nghrist Iesu. Y mae ym- berffeithiad mawr i ddilyn y weddi ryfel am gynhorthwy Duw, ac yng ngoleuni yr ymberffeithiad hwnnw y deellir yn wir y rhyfel hwn. Gwelsom dro yn ol ysgrif ar Hollalluowgrwydd Duw a'r Rhyfel.' 0 safle hollalluowgrwydd yr edrych miliynau ar y rhyfel hwn. Y mae. hynny yn eu gwneud yn dcbyg i'r Kaiser cas. I'r neb a edrych ar Dduw yn ddim ond Iwmp di- derfyn o allu, nis gellir disgwyl iddo weld goreu y rhyfel hwn. Y mae goreu y rhyfel i'w weld mewn agweddion eraill i Dduw a syniaw yn gywir am rheiny a rydd i ni barodrwydd a boddlonrwydd i ddywedyd Byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwr- iaeth.' Mor dueddol ydys i rannu'r Duw- dod,|a'i rannu yn ol ein hunanoldeb, a rhoi y rhannal1 hynny ohono yn safon i'w weithrediadau. Duw Credu yn Nuw Ymddiried yn Nuw Disgwyl wrth Dduw! Its a much more tremendous thing than most people realize to believe in God.' Gobeithioj|. ein bod yn gweld mwy yn ac o'r rhyfel hwn na hollalluowgrwydd, boed hwnnw yn hollalluowgrwydd Duw. A'r mwy hwnnw welodd Habacuc yn y diwedd, fel y dengys yn Ond yr Arglwydd sydd yn Ei deml sanctaidd y ddaear oil, gos- tega di ger Ei fron Ef.' 'A'r ddaear a lanwyd o'i fawl.'