Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
CASTELLNEDD A'R CYLCH. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CASTELLNEDD A'R CYLCH. I illaesyrhai.-Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd hanner-blynyddolJJSul a nos Lun, Medi 5ed a'r 6ed, pan y cafwyd gwasanaeth y Parch J. Lewis Williams, M.A., BSc., Aber- ystwytb, ar yr achlysur. Saron, Bryncoch.—Gwasanaethwyd yng nghyfarfodydd arbennig yr eglwys hon ar yr un dyddiad a'r uchod gan y Parchn E Afan Jenkins, Moriah, Penfro, a D. Morris, Porth- cawl. Soar, Castellnedd.—Gwahoddedig yr eglwys hon eleni yn ei chyfarfod blynyddol gynhelid Sal a nos Lun, Medi 12fed a'r 13eg, oedd y Parch W. Salmon, Treforris. Bethania, Sciiven.—Sul a nos Lun, Medi 19eg a'r 20fed, efengylwyd yn uchel-wyl y ddeadell hon gan y Parch Enoch Hughes, Abercanaid. Siloh, Melinei-ythan.-Cynhelid cyfarfod pregethu hanner-blynyddol yr eglwys hon Sul a nos Lun, Hydref 3ydd a'r 4ydd, pan y gwas- anaethwyd gan y Parch T. E. Thomas, Coed- poeth. Maria-street (S), OasteUnedd.- Yng nghyf- arfodydd diolchgarwoh yr eglwys hon pregethwyd gan y gweinidog, y Parch Tydwal R. Davies, a'r Parch R. O. Evans, Siloh, Sul, Medi 26am. GOHEBYDD. I
Rhiwmatic ac. A nhwyldeb yrI…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Rhiwmatic ac. A nhwyldeb yr I Arennau. Triniaeth Rad I Y Jllat: rhiwmatic yn gaulyuiad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymalau, eiiaith gormod o uric acid yn y cyfansoddiad, a'r acid hwn ydyw achos pennaf o boed yn y cefn, lum- bago, sciatica, gowt, annhrefn y dwfr, y garreg, grafel, dropsi, diabetes, a Bright's disease. Y mae Tabledi Estora yn driniaeth effeithiol a llwyddiannus ar gyfer hyn, ac wedi gwella llu o achosion wedi i feddvginiaethau eraill fethu, yr hyn a gyfrif am y ffaith eu bod yn cyflym gymeryd lie meddyginiaethau ar ol yr oes '— ydynt yn ami allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Y mae nifer cyfyngedig o Dabledi Estora yn cael eu CYNNYG YN RHAD er profi eu bod yn llawn warantu eu disgrifiad meddyginiaeth onest at yr arennau am bris gonest, I/I-' y bocs o 40 o dabledi, neu 6 bocs ,am 6/ Cyflenwir hwy gan y rhan fwyaf o fferyllwyr. Y mae y cynnyg hwn o un bocs llawn yn parhau mewn grym i ddarllenwyr y TYST am ddeng niwrnod o'r dyddiad hwn, ar yr amod fod y rhybudd hwn yn cael ei dorri allan a'i anfon gyda 3c. mewn stamps onide, fe anwyb- yddir y ceisiadau a'r anicali. ydyw diogelu rhag rhai nag oes arnynt angen am y cynnyg Cyfeiriad Ustora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C.
r PENYBONT, TRELECH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
r PENYBONT, TRELECH. Golygfa DIos.-Ar Saboth, Medi 5ed, cafodd yr eglwys uchod yr hyfrydwch o groesawu deuddeg o aelodau newydd i'w chymundeb. Plant yr eglwys a deiliaid yr Ysgol Sul oedd- ynt oil, a llonder i galon rhieni ac athrawon oedd eu gweled yn ymuno a'r eglwys mor fore Dyma y nifer luosocaf a ddaeth i'r ty gyda'u gilydd er's llawer biwyddyn, ac yr oedd yn olygfa galonogol a thlws. Ma,)-wolaeth. -Fore Sadwrn, Medi 4ydd, hunodd Mrs Jane Harries, Anchor Cottage, yr aelod hynaf o eglwys Penybont, yn yr angeu, a hi yn ymyl ei 89 oed. Gauwyd hi mewn ffermdy bychan yn ymyl Dinas Mawddwy, o gwmpas Nadolig, 1826, a bedyddiwyd hi pan yn taban dau ddiwrnod oed gan yr annwyl Mr Hughes, Dinas Mawddwy, oddiar ei glaf wely, a'r hwn a orffennodd ei yrfa ar y dydd olaf o'r flwyddyn honno, 1826. Pan yn 16 oed aeth ein chwaer i wasanaethu i'r Brifddinas, ac yn fuan derbyniwyd hi i gymundeb yr eglwys yn y Boro gan Mr Davies, y gweinidog, yr hwn oedd enedigol o ardal Penybont. Yn ystod ei haros- iad yn y Brifddinas unwyd hi mewn priodas & Mr Thomas Harries, dilledydd, yr hwn, fel ei gweinidog, oedd frodor o Benybont; a daeth gyda'i phriod i gartrefu i ardal ei febyd Bu eu preswyl, yr Anchor House, yn lety a chartref cysurus iawn i bregethwyr y Gair am flynyddau lawer. Pan gollodd ei phriod rhoes y fasnach heibio, a threuliodd weddill. ei dyddiau mewn bwthyn bychan, clyd, yn ymyl. Yr oedd yn gymeriad gwreiddiol a diddorol iawn, ac yn un o ffyddloniaid pennaf yr eglwys ym Mhenybont. Y dydd Mercher dilynol daeth tyrfa luosog ynghyd, er cymaint prysurdeb y cynhaeaf, i dalu iddi eu cymwynas olaf, ac i ddangos eu parch i'w choffadwriaeth. Gosod- wyd ei chorff i orifwys ym medd ei phriod ym mynwent y llan, a gweinyddwyd ar yrachlysur gan y Parchn Eynon Hughes, ficer; R. W. Jones, Pontyrhyl D. G. Williams. St Clears a J. Lewis, ei gweinidog. Yr Arglwydd a ddiddano ac a fendithio y perthyaasau a'r eglwys yn eu galar a'u colled.
Eglwys Henrietta-street, Abertawe.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Eglwys Henrietta-street, Abertawe. Cyfarfodydd Pregethu. Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfodydd pregethu blynyddol y Sul a nos Lun, Medi Igeg a'r 2ofed, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn B. Davies, D D Castellnewydd, a W. Crwys Williams, Abertawe. Cafwyd pregethau eithriadol rymus, a chynull- iadau lluosog-mewngwirionedd, ni welwyd y fath dorf er's blwyddi lawer. Yr oedd y cyfar- fodydd yn hynod hwylus ar eu hyd. Yr oeddy canu yn bur wresog o dan arweiniad medrus Mr D. Thomas. Datganwyd uuawdau gan y Fonesig May Harries a Mr J. W. Jones. Yr oedd yn hyfrydwch gennym weld yn bresennol trwy'r cyrddau yParch W. Evans. Madagascar. Cymerodd at y rhan arweiniol nos Sul. Cartrefa Mr Evans tra yn Abertawe gyda'i frawd, Mr E. Evans, Summer Court, yr hwii sydd swyddog ffyddlon yn Henrietta, Dechreuwyd y gwasan- aeth nos Lun gan y Parch Morris Morgan (M C), Abertawe. Gwelwyd yn bresennol nos Lun dros ddwsin o weinidogion y gwahanolenwadau. Ein Cyfarfod Sefydlu. Cynhelir cyfarfod safydlu y Parch D. Eurof Walters, M.A., B.D., nos Iau, Hydref 7fed. Am fanylion gweler yr hysbysiad mewn colofn arall. Cymry yn troi yn Saeson.-G-esyn na fuasai yr holl Gymry symuda i'r dref yn ymaelodi yn un o'r eglwysi Cymreig. Mae'n syndod y nifer sy'n mynd at y Saeson. Mae eisfeu diwygiad yn y cyfeiriad hyn. Chwi, weinidogion, panyn rhoi llythyrau gollyngdod i aelodau sydd yn symud i'r trefi, taer erfyniwch arnynt fynd at y Cymry. Darpara'r Cymro ar eu cyfer gvL-tal a'r Sais. D H. M.
MERTHYR YN SYNEDIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MERTHYR YN SYNEDIG. Pan gyhoeddwyd yr achos cyutaf o Fcrthyr yn y papurau Ileol, yr oedd Merthyr wedi ei synnu. Ond yn awr rhoddir achosion fel y canlyn yma bob wythnos, a chreaut ymddiried- aeth. Ebrill 25ain, 1914, Mrs M Gale, o 69, Tre- vethick-street, ger yr Electric Power Station, Penydarren, Mertbyr Tydfil, a ddywed :—' Yr oeddwn ar adegau yn cael poenau Ilym, cnoawl, ar draws yr arennau. Yr ceddwn yn wan a sal iawn am amser. Yr oedd gwaith y ty yn faich i mi. Cawn gyffyrddiadau o'r crydcymalau droswyf oil, ac yr oedd arwyddion eraill hefyd o'r anhwylder. 'Wediclywed am Doan's Backache Kidney Pills, arweiniwyd fi i roddi prawf arnynt. Da gennyf i mi wneud hynny, oblegid gwnaethant i mi les mawr. Ar ol cymeryd cwrs o belennau Doan yr oedd fy nghefn yn rhydd o boen, a theimlwn yn well a siriolach ymhob ystyr. Yr wyf wedi cymeradwyo pelenau Doan i'm cyfeill- ion oblegid y maent yn ardderchog at anhwyl- derau yr arennau. (Arwyddwyd) M. Gale.' rviehefin 18fed, 1915, dros 12 mis yn ddiweddarach, dywed Mrs Gale: Yr wyf wedi bod yn iach iawn am gryn amser bellach, fel y mae yn dda gennyf ddweyd. Gwellhaodd peiennau Doan fi o boenau y cefn a'r crydcymalau, ac nis galiaf siarad yn rhy uchel yn eu ffafr.' Pan adewir gwenwyn sur troethol yn y cyfan- soddiad oblegid arennau gwan arosa yn y cyhyrau a'r cymalau, ac achosa boenau a chwyddiadau caled y crydcymalau. Dylai poenau y crydcymaJau ar dywydd drwg eich arwain i ddrwgdybio fod yr arennau yn gadael y gwaed wedi ei orlwytho a sur troethol. Achosa Doan's Backache Kidney Pills i'r arennau a'r bledren i weithredu yn rhydd a naturiol, yna teflir y sur troethol ymaith o'r cyfansoddiad cyn iddo gael amser i aros a chrisialu. Piis 2/9 y blwch, chwe blwch 13/9, gan yr holl fasnachwyr, neu oddiwrth Foster-McClcllan Co., 8, Wells-street, Oxford-street, London, W. Peidiwch a gofyn am belennau at y cefn neu yr arennau—gofynnwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mrs Gale. 2
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENYGROES, LLANDSBIE -CyLhaliwyd cyfarfod blynyddol yr eglwys uchod Sui, Medi 19og, pryd y gwasanaethwyd gan y PriTatbraw Lewis, M.A., B.D Aborhonddu. Catwyd hill ddymul101 a phregothau rhagorol.
TREFFYNNO N. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREFFYNNO N. Mis 0 Wyliaiu—Yn ystod gwyliau haf ein gweinidog, y Parch D. Oliver, D.D., yr ydym wedi bod trwy fis Medi dan weinidogaeth Mr Robetts, Dinbych yr efengyles enwog Miss Rosina Davies, Ferry Side a'r Parch Llewelyn Williams, Llandudno. Arferir er's blynydd- oedd bellach i gynnal Cyfarfod Ysgol y Saboth olaf o'r mis, ac felly y gwnaed eloni eto. Dechreuwyd ar waith y dydd trwy gynnal cyfarfod gweddi yn y bore, ac am ddau o'r gloch y prydnawn dechreuwyd ar waith y cyfarfod ysgol. Llywydd y cyfarfod hwn oedd Mr Evan Parry, Rose Hill. Dechreuwyd trwy ganu 1 Mae lesu Grist yn derbyn.' Cafwyd adroddiad o loan iv. gan Eira Parry, Rose Hill. Yna gweddiwyd gan Mr Edward Parry, Hope House, Penymaes. Cafwyd adroddiadau gan Thomas John Williams, Evan Davies, George a J. O. Jones, Miss C. Williams. Miss Hughesf a rhan o'i dosbarth. Stenhen Rees Jones. Mav Dickinson, Emily Jones, ae Alice Jones Can wyd gan Katie Pierce, Rowena Edwards, Ann a Phoebe Pierce, Miss Hughes a rhan o'i dosbartb, Miss Lizzie Needham a'i dosbarth, Miss C. Williams a'i pharti, Emily Jones a Lizzie Lloyd. Holwyd y plant yn y bedwaredd benood o 4 Camrau'r Iesu gaa Miss Catherine Williams, Tudor Villa. Diweddwyd y cyfarfod dymunol hwn trwy weddi gaa y llywydd, Cymerwyd awenau cyfarfod yr hwyr gan y prifathraw, Mr S. Jones, Y.H. Adroddwyd Silrn ciii. gan Miss Needham, a gweddiwyd gan Mr Edmund Rees. Adroddwyd Salm c. gan Joseph Pierce, a chawd deuawd gan Misses Myfanwy a Buddug Williams. Cymerwyd cyfleustra yn y oyfArfod hwn i gyflwyno gwobrwyon i'r rhai hynny fu yn casglu tuag at Genhadaeth Gartrefol siroedd Dinbych a Fflint, a gofynwyd i Miss H Hughes, Dee View, yr bon sydd wedi bod yn ffyddlawn gyda'r Genhadaeth er's blynyddoedd bellach, i gyflwyno y gwobrwyon i'r plant, sef May Dickinson, Emily Jones, H. Charles Jones, Thomas Williams, a Thomas John Williams. Yna cafwyd can gan Miss Rosina Edwards. Wedi holi yr ysgol a chanu emyn, diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan y llywydd. Ar- weiniwyd gyda,'r canu gan Mr J. E. Pierce (loan Alaw), a gwasanaethwyd gyda'r offeryn gan Miss Blodwen Parry, A.L C.M., Hope House, Penymaes Cawd cyfarfodvdd llwydd- iannus, ac yr oedd 61 lia-fur yn arahvg yn y cyfarfodydd. Gobeithio nad anghoflr vr hvn a ddysgwyd gan bawb. J. T. W.
MERTHYR TYDFIL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
fod yn rhydd dderbyn Fi ddelfrvd Ef, ac nid ei draws-eirio. 0 gaethiwed gofynion uchel a rheolau manwl y daw rhyddid yr enaid sydd yn eyclymffurfio a hwy. Ond gyda hyn, fel yr awgrvmwyd, y mae yn ofynnol i'r enaid osod llwyr ymddiriedaeth yng ngallu cadwedigol Crist. Nid ydym yn deall yr lawn, eithr yr ydym yn ymddiried yn ei effeith- iolrwydd yng nghylch dwfn, cyfrin, llywodraeth foesol Duw i brynu ein rhyddid i ni. Yr ydym yn y 111 0 s t w n g i'w Benarglwyddiaeth Ef ■ Gwyddom pan becJiom na. ddylasem wneud liynny. Dyma'r farnedigaetll-ond y mae go- baith ynddi. Chwi, y rhai a broffesasoch Grist unwaith, ond a lygad-dynnwyd i anufuddhau i'w air, ac a adawsocli i ryw ymadrodd dieithr ddi- feru dros eich gwefusau, wjnebwch y diafol a'ch tripiodd, ac yng ngras digonol Crist eich Ceid- wad dychwelwch o'ch caethiwed i'w ryddid Ef. Trwyddo Hf y mae yr enaid crediniol yn mwyn- hau rhyddid tragwyddoldeb, beth bynnag fydd ei gyfyngderau yn y byd. Y11 ei chan dlos a syml cymhara Madame Gwion ei hun i aderyn bychan wedi esgyn uwchlaw muriau ei garchar, ac yn canu yn rhyddid ac ehangder yr wybren- nau. Dyna ragorfraint y Cristion. Yn hunan- ganolbwyntiol y mae yr enaid mewn caethiwed ond yn canolbwyntio ei hyder a'i serch yng Nglirist, y mae yn rhydd yn wir. Os y Mab gan hynny a'ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir.' [Bwriadwn roddi i ddarllenwyr y Cennad Hedd sylwedd anerchiad Dr Morgan yn yr hwyr yu un o'r rhifynnau nesaf.]