Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
) Y GROES WEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GROES WEN. Cyrddau Diolch am y Cynhaeaf.—Cynhali wyd yr uchod yma drwy y dydd, Mawrth, Medi 28ain, pryd y gwasanaethid yn Saesneg gan y Parch J. Penry Thomas. Ebbw Vale, ac yn Gymraeg gan y Parch D Btmys James (Dewi Emrys), Pontypridd. Troes yr hin yn anffafriol, a methodd y Parch W. J. Nicholson a throi i fyny ar gyfrif afiechyd. Hyderwn y caiff efe adferiad buan a llwyr. Ond daeth y Meistr yma, fel arfer, gyda'i ddau was ieuanc, ac estynwyd inni help wrth basio gan ein hen gyfaill dawnus y Parch Joseph James, B A., Narberth. Dilyned bendith. COFNODYDD.
CYFARFODYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD. TABERNACL, GILFACH FARGOED-Cyn- haUwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod nos Fawrth a dydd Mercher, Medi 21ain a'r 22ain, Gwasanaethwyd gan y Parch Peter Price, B A., D.D, Rhos, a'r Parch D Leyshon Evans, Calfaria, Bargoed. Cafwyd tywydd braf, cynulliadau lluosog, a phregethau grymus. Yr oedd eneiniad dwyfol ar yr holl gyfar- fodydd. Dilyned bendith. Casglwyd ymhob odfa at y ddyled. EBENEZER, RHYDRI.-CYL haliodd yr eglwys uchod ei chyfartodydd blynyddol eleni nos Fawrth a dydd Mercher, Medi 21ain a'r 22ain. Pregethwyd gan y Parchn T. Morris, Senghen- ydd, ae R. E. Salmon, Caerdydd, Yr oedd y gweision yn eu hwyliau goreu, ond nid oedd y cynulliadau i fyny ag arfer, Mae yr eglwys ar hyn o bryd yn amddifad o weinidog. Gobeithio, er hynny, y bydd i'r Penbugail Mawr ofalu am Ei eiddo. SARDIS, PONTYPRIDD.-Saboth a'r Llun, Medi 26ain a'r 27ain, cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod. Gwasanaethwyd gan y Parchn J. Dyfnallt Owen, Caerfyrddin, a D. Emrys James, Pontypridd. Hir gofir y cyf- arfodydd. Pregethu da, cvnulleidfaoedd mawrion, a chasgliadau eithriadol o dda. Gorffwysed bendith y net ar y cyfan. LIBANUS, CWMGWILI.-Cynhaliodd yr eglwys hon ei chyfartod pregethu blynyddol Sal, Medi 26ain, pryd y pregethwyd gan y Parch Bryn Thomas, Tabernael, Ferndale. Cafwyd cynulliadau lluosog a phregethau rhagorol. Llywyddwyd yr holl gyfarfodydd gan y Parch Thomas Williams, gynt o Clydach Vale, yr hwn sydd er pan ddaeth i fyw i'r cylch wedi bod o help a gwasanaeth mawr i'r aebos yn Libanus. Mae gwedd lewyrchus ar yr achos yn Libanus.
GALWADAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GALWADAU. PENMAIN, MYNWY.—Atebodd Mr D. W. Edwards, BA., Coleg Coffa, Aberhonddu, yr alwad a gafodd oddiwrth yr eglwys uchod yn gadarnbaol. Bwriedir i'r urddiad gymeryd lie yn Nhachwedd nesaf, ond deil ei gysylltiad a'r Coleg hyd Feheiin y flwyddyn nesaf. Llwydd mawr i'r eglwys a'i gweinidog dewisedig. SARON, TREWILLIAN.-Mae Mr W. H. Davies (Llangennech), myfyriwr yng Ngholeg Coffa, Aberhonddu, wedi ateb yn gadarnhaol yr alwad daer ac unfrydol a dderbyniodd oddiwrth yr eglwys barchus uchod. Tebyg y bydd ein hannwyl frawd yn dechreu ar waith y weinid- ogaeth tua chanol mis Tachwedd. Ceir dydd- iad a threfaiadau yr ordeiniad yn nes ymlaen. Dymunir iddo ef a'r eglwys bob Ilwyddiant, a bydded bendith Duw ar yr uniad.—B E.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENI, PRIODI, A MARW. PRIODAdAU. HAINZ-JONES.—Medi 29,tin, ym Methel, Borthygest, y Parch W. Ross Hughes yn gweinyddu, liombardier James Newlaads liainz, o'r Royal Garrison Artillery (yn awr yn Woolivich), .a Mrs Ann Dorothy Jones, Bryoliyfryd, Borthygest. Llwydd fo iddynt. JQSES-JONES, -Medi UOaiu, yny Capel Mawr, Oricieth, y Parch W. Ross Hughes, Borthygest, yn gwein- yddn, J r Thomas Parry, hairdresser, Pwllheli, a. Miss Ellen Jones, trydedd ferch Mr a Mrs Hugh Jones, Tynewydd, Morfa Bychan. Rhoddid y briodferch ymaith gan ei thad. Arosed haul ar y fodrwy.'
iNODiON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ond mae 212 ynddo erbyn hyn. Cyn-I hwysa'r staff chwech o feddygon profiadol, matron, housekeeper, a 18 o nurses, heb son am gynorthwywyr milwrol—yn gwneud yr oil yn 92 mewn rhif Golyga hyn oil dreul- iau mawr, a rhaid cael £ 1,100 y mis i'w alluogi i dalu ei ffordd a gwneud ei waith. Mae'r drysorfa wreiddiol wedi ei sychu i fyny, ac apelir yn awr yn daer am help sylweddol oddiwrth eglwysi Cymru. Erfyn- nir ar i'r Saboth, Hydref 17eg, gael ei neill- tuo i gasglu ymhob capel ac eglwys at yr achos da hwn. Os nad yw'r Saboth uchod yn gylieus. yna ceisir yn ddwys ganddynt i roi'r Saboth dilynol neu'r un wedyn at yr amcan. Mae Syr William J. Thomas, Ynyshir, Trysorydd yr Ysbyty, wedi taflu ei hun i'r mudiad gyda'i yni arferol, ac wedi ymweled ag Undeb y Bedyddwyr a Sasiwn y Methodistiaid yn y De i ategu yr apel, a chafodd groeso mawr ganddynt. Annibynnwr selog a swyddog eglwysig yn Saron yw Syr William, a buasai wedi ym- weled a n Hundeb ninnau ym Merthyr pe buasai'r casgliad cyffredinol hwn ar droed y pryd hwnnw ond fel Annibynnwr hy- dera yn fawr y bydd ei Enwad ef ei huii yn dod allan yn anrhydeddus yn y mudiad -rhywle tua phen y rhestr. Mae ef ei hun gyda'i haelioni arferol yn mynd i roi 5 y cant at bob dimai a gesglir at yr achos rhagorol hwn. Yn sicr dylai'r fath fudiad clodwiw sicrhau haelioni a chydymdeimlad dyfnaf pawb ohonom, ac yr ydym yn hollol hyderus inai felly y bydd. Y Parch. Evan, Jones, Caernarfon. WEI^R hen wrou enwog o Gaernarfon o'r diwedd wedi ei ddwyn i'r bedd yn gyfiawn o ddyddiau ac yn llwythog o barch a serch ei gydwladwyr. Yr oedd Evan Jones yn fwy na dyn plaid ac enwad—yr oedd yn un on colofnau cenedlaethol. Enillodd ei brofiad a chyflawnodd ei brentisiaeth yn nyddiau'r cewri, a chariodd eu hysbryd a'u delfryd yn ei galon a'i feddwl hyd ei fedd. Bu yn cydweithio a chydbregethu a chydareithio a chydgynllunio a chyd- ysgrifennu ag arwyr fel Hiraethog, Lewis Edwards, Thomas Gee, Henry Richard, Dr John Thomas, S. R. a Michael Jones, a phob amser ymhlaid rhyddid a chyn- nydd a dyrchafiad uchaf y genedl. Yr oedd yn bregethwr gwych a chryf, er nad ydym yn barod i'w roi yn y rheng flaenaf o bregethwyr mawr Cymru. Yr oedd hefyd yn newyddiadurwr o'i febyd, ac ni sych- odd ei ysgrifell hyd y diwedd. Credai yn y wasg, a gwnaeth lawer, nid yn unig drwyddi, ond erddi hefyd yng Nghymru. Yr oedd yn wleidyddwr goleuedig, ac yn ystyried dyledswydd a chyfrifoldeb y din- esydd a'r diwygiwr cymdeithasol yn gyfan- gwbl o safbwynt yr Efengyl a chrefydd. Yr oedd politics Evan Jones, fel ei ethics, yn rhan o'i grefydd. Ond yn ein tyb ni, fel, dadleuydd a threfnydd ac areithiwr cyhoeddus ynglyn a rhyddid crefyddol ac addysgol Cymru y safai uchaf, a gwnaeth y maes hwn yn un arbennig iddo'i hun. Yr oedd ei feistrolaeth ar holl anhepgorion dadl, ei feddwl craff, ei ffraethineb a'i gell- weiriaeth hapus, ei lwyr gydnabyddiaeth a. holl agweddau'r pwnc o ryddid cyd- wybod, a'i argyhoeddiad dwys a chadarn, yn ei wneud yr areithydd cryfaf o blaid Datgysylltiad a Dadwaddoliad, yn ogystal a phob cynnydd meddwl a bywyd a feddai Cymru am yn agos i hanner canrif. Daeth i olwg sylweddoliad o'i obeithion ar y mater hwn, a theimlai ei fod o'r diwedd wedi cyflawni ei waith. Noswyl a gorffwys oedd y cam naturiol nesaf, a rhoddodd ei Feistr hynny iddo yn ei bryd. Cwsg yn dawel, hen arwr dewr; bydd dy enw yn i Gymru rydd bersawr tra pery Cadair Idris i wylio dy fedd Dwy Chwaer Ragorol. Bu farw Mrs. Anwyl, priod loan Anwyl, Pontypridd, wedi cryn gystudd a gwen- did. Hi oedd mam vr hy- naws ysgolor Syr Edward Anwyl, fu farw mor gynnar, a'r Parch Bodfan Anwyl, y lienor a'r geiriadurwr. Cododd ei phlant i fyny yn holl freintiau a rhagoriaethau yr aelwvd grefyddol Gymreig ar ei goreu, a gedy ar ei hoi yn eu bywyd a'u gwasan- aeth hwy goffadwriaeth fendigedig. Un o ragorolion y ddaear hefyd oedd Mrs Williams, priod y Parch J. Williams, Hafod, Pontypridd. Bu o gymorth mawr i'w phriod yn ei amrywiol gylchoedd cy- hoeddus, a chadwai ei haelwyd yn gartref annwyl a hyfryd mewn gwirionedd. Ni bu neb caredicach na siriolach yn ei thy a'i chylch, a llawer o weision yr Arglwydd a gofiant yn hir am y croeso a'r cysur estynnwyd iddynt dan ei chronglwyd. Dynes gall, ddiwyd, garedig, dduwiol oedd Mrs Williams. Bu hithau yn gystuddiol yn hir, ac erbyn hyn hoff yw meddwl am dani yng ngwlad yr iechyd tragwyddol. Mae Mr Anwyl a Mr Williams yn awr mewn dyddiau oedrannus, a gorchwyl anodd fydd Uwybro'r daith sydd yn ol mewn unigrwydd a hiraeth. Ond mae'r Meistr yn arcs, a'i fendith yn gyfoethog ac mae cydymdeimlad eu brodyr oil yn ddwys a dwfn gyda hwynt yn eu dydd blin. Crybwyllion. —MAE llyfr y Prifathro Rees, The Holy Spirit, newydd ei gyhoeddi gan JJuckwortli yn ell cytres ysblellydd Studies in Theology. Yr ydym wedi dechreu blasu y wledd eisoes, a cheir ein profiad cyn hir. —O'r un Swyddfa daw llyfr cryf arall gan ein cydwladwr dysgedig, y Prifathro Griffith Jones, D.D., o Goleg Bradford The Challenge of Christianity to a World at 117ar yw'r teitl, a chynhwysa gyfres o draethodatt penigamp ar agwedd ddifrif- olaf y rhyfel. 2/6 yw pris y ddau lyfr. -Ho,ilies Eglwys Rhosycaerau a'i Chyrner- iadau Iiynod yw enw llyfryn 6c. gan y Parch Gwyn James a'r Mri T. S. Thomas a T. G. Williams. Mae yn hynod ddi- ddorol, a rhai o'r cymeriadau yn llanw y gair i'w ymylon. Mae'r holl lyfr wedi ei ysgrifennu yn ddifyr, ac weithiau yn racy. Da gennym weled cynnydd yn y gangen hon o lenyddiaeth Enwadol. Mae yn werthfawr fel hanes, a dylai symbylu'r oes hon a'r un a ddel i fwy o ddiwydrwydd a set yng ngwasanaeth yr Arglwydd. Gellir ei gael oddiwrth yr awdur, Rhos- ycaerau, Goodwick, Pem. —Prudd oedd gennym glywed am farw'r brawd Thomas Lovell (Tudur Taf), gynt o Gaerdydd, yn Yorktown, Canada, Carai Gymru a chariad mawr, a chanai fel alltud yn barhaus ei hoffter ohoiii a'i hiraeth am dani mewn caneuon ac englynion, yn enwedig yn y cyfnodolyn cymru. Bu un- waith yn amlwg iawn ym mywyd Cym- reig Caerdydd, ac yn aelod a swydclog yn Ebenezer. Chwith yw meddwl am dano ef a Tom Roberts, y printer, Gymry pybyr fel oeddent, yn huno'u hun olaf yn naear estronol Canada bell.