Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

PENYGRO ES,.- ARFON,I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PENYGRO ES, ARFON, Gwasanaethu.-Llanwyd pulpud Soar yn ystod gwyliau y Parch J. M. Williams gan y Parchn T. Lloyd, Rhostryfan; Well Jones, Croesoswallt; Talwrn Jones, Brymbo; ae Henry Williams, B.A., Machynlleth—y pedwar brawd yn traethu gwirioneddau bynod o amserol. 0 Dan ei Olal.-Mae eglwys Bwlchyllyh wedi penderfynu galw y Parch R. W. Jones, Cilgwyn, yno i weinidogaethu. Bydd y ddwy eglwys, y Cilgwyn a Bwlchyllyn, o dan ei ofal. Bydd yn daith Sabothol hwylus ac ysgafn. Credwn, pan ddaw gwawr ar y fasnach lechi, y ceir achosion blodeuog yn yr ardaloedd hyn. Da gennym ddeall y dyddiau hyn fod gwell graen ar y fasnach. Cynhelir cyfarfod sefydlu ddydd Llun. Hydref neg, a gwahoddwn yn gynnes holl ddarllenwyr y TYST i'r cyrddau i dreulio diwrnod ar y mynyddoedd Hen Ddisgybl.—Ie, yn sicr, ac un ffyddlon iawn oedd yr hen ddiacon hybarch Hugh Jones, Talmigedd, Drwsycoed Yr achos yn Nrws- ycoed oedd popeth Hugh Jones. Daeth ei ddydd gwaith i'r terfyn ac efe yn agos i 86 mlwydd oed. Gweithiodd yn ddiwyd gyda'r achos; a phan ddaeth telpyn o graig i lawr gan falurio yr hen gapel, gwnaeth Hugh Jones ddefnydd o'r hen graig trwy osod blwch casglu yn rhwym wrthi. Gofalodd hefyd am ddweyd beth wuaeth y graig, a hynny yn Saesneg, er mwyn manteisio ar yr ymwelwvr. Nid oedd am i'r rhai hynny fwynhau golygfeydd digymar y fro heb dalu ychydig at yr achos goreu. Casgl- odd yn rhagorol, ac adeiladwyd capel hardd a thy cyfleus mewn man diogel. Gweithiwr egniol ydoedd Yn naear Machpelah Penygroes y gorffwys gweddillion yr hen sant, a gwasan- aethwyd yn ei angladd gan y Parchn Morris Williams (M.C), Baladeulyn; H. Davies, Aber- erch; ac EJifkmydd Caernarfou Bu Mr Davies yno yn traddodi pregeth angladdol ar destyn o eiddo Hugh Joues, sef 2 Cron. xxiv. 16. MIN MENAI.

Advertising

i CRAIGCEFNPARC.

I .CORWEN.i

[No title]

JERUSALEM, RESOLVEN.

Advertising