Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

..YR ANUNDIv B W YR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ANUNDIv B W YR. At Olygydd, y Tyst. I S'VR,-Pery'r aniindebwyr i beryglu heddwch glofeydd y Deheudir. Dydd Iau diweddaf aeth dwy fil o lowyr allan o waith am fod rhyw drigain o anundebwyr yn gweithio yn en mysg. Cyn- haliwyd cyfarfod cyffredillol gan yr undebwyr, a phenderfynwyd aros allan oni ddeuai'r afrad- oniaid i weled cyfeiliorni eu ffyrdd a dychwelyd i'r gorlan. Yn yr un modd, ychydig ddyddiau cyn hynny, bn pum cant o lowyr Killay, ger Abertawe, allan o waith ar yr un cwestiwn, er ailgychwyn ohonynt erbyn hyn. Gellid cyfeirio, pe bai angen am hynny, at gymdogaethau eraill yn gweithredu ar'yr un egwyddor. Yn ei adrodd- iad i gwrdd misol adran y Rhondda taflodd Mr W. John y cyfrifoldeb ar swyddogion a pherch- enogion y glofeydd, gan lwyr ddieuogi'r gweith- wyr eu hunain. Dywedodd fod y meistri wedi gwrthod awgrymiadau Undeb y Glowyr, ac wedi peidio rhoi cyfleusterau neilltuol i swyddogion yr Undeb. Y ffaith yw, fe ymddengys, "i'r perchen- ogion addaw rhoi cyfleusterau i'r undebwyr ar yr amod eu bod hwythau Y11 eu tro yn rhoi addewid y byddai'r glowyr yn gweithio'n gyson ac yn rhoi heibio'r streic, cyn belled o leiaf ag y mae a fynno anundebiaeth a'r streic, dros gyf- nod y rhyfel. Gwrthodwyd yr amod hwn yn bendant gan gynrychiolwyr y gweithwyr oher- wydd eu hanallu, meddent hwy, i lywodraethu gweithrediadau'r praidd. Wele enghraifit eglur arall o weudid sefyllfa arweinwyr llafur yn ci i mysg. Credwn am y mwyafrif ohonynt eu bod yn wir awyddus i sicrhau heddwch diwvdiannol yn nydd ein trybini. Ysywaeth, egwyddor lyw- odraethol y Syndicalists yw mai nid cyngor a barn yr arweinydd sydd i'w ddilyn, ond yn hytrach benderfyniad y mwyafrif ar bob cwest- iwn, bach a mawr a dyledswydd yr arweinydd yw amddiffyn y penderfyniad hwnnw, beth bynnag fo'i farn addfed ef ei hun. Yn ystod yr banner can mlynedd diweddaf mae Cymru wedi llwyddo i dynnu sylw'r Cyfan- dir ati mewn llawer modd. Pan ryddhawyd hi oddiwrth rwymau caethiwed yr arglwyddi tir ynghanol y ganrif ddiweddaf, edrychodd y wlad arni mewn syndod. Mewn byr amser wedi hynny yr oedd wedi adeiladu cyfundrefn addysg a efel- ychid ar Gyfandir Ewrop, ac a fawrygid ymhob man. Mae datblygiad rhyfedd ei chenedlaethol- deb wedi bod yn ysbrydiaeth i lawer cenedl fechan arall. Mae bri ei meibion yn y byd gwleidyddol ac mewn diwydiant wedi pentyru clod lawer ar ei phen. Heddyw mae'n enwogi ei hun mewn cyfeiriad arall. Am ryw reswm neu gilydd, mae Germani yn ymddwyn yn fwy boneddigaidd tuag at y carcharorion Cymreig sydd yn ei meddiant, tra y mae un o feirdd Ffrainc, Paul Liseron, wrth ei enw, wedi ysgrif- ennu am danom un o'r pethau llymaf a ddar- llenais er's llawer dydd. Mae'r darn o fy mlaeu pan yn ysgrifennu'r llinellau hyn. Hyderaf y caf hamdden ryw ddydd i'w gyfieithu i'r Gym- raeg, fel y gwelom beth yw barn cenedl arall am danom, a hithau ar hyn o bryd yn arllwys ei gwaed ochr yn ochr q'tl gwroniaid ar y Cyfan- dir. Mae'n dda i iii wybod ambell dro beth yw barn pobl eraill am danom. Yr eiddoch, &c., BURLAIS,

UNO.

CYFUNDEB DWYREINIOI, CAERPYRDDIN…

[No title]

Advertising

Christian Temple, Amanford.