Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

SOAR, MAESTEG.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SOAR, MAESTEG. I Anrhegu.—Nes Iau diweddaf, cynhaliwyd cyf- arfod yn y lie uchod i gydnabod gwasanaeth ffyddlawn arweinydd y gan, sef Mr Richard Davies, Nantyffyllon. Llywyddwyd gan y gweinidog, y Parch J. T. Parry, a chafwyd ganddo ef a nifer o frodyr eraill dystiolaeth uchel i wasanaeth gwerthfawr Mr Davies am flynyddoedd, yn ogystal ag i'w deyrngarwch difwlch i'r achos goreu ymhob agwedd arno Nid yn ami y ceir cymeriad mor llawn ac aml- weddog a'r eiddo ef. Nid yn unig y mae yn arweinydd ymroddgar, ond y mae hefyd yn gyfansoddwr medrus, a chenir rhai o'i donau o dro i dro yng Ngbymanfaoedd Canu y cylch. Mae hefyd yn fardd a lienor galluog, ac uwch law popeth, yn Gristion o'r iawn ryw. Cyf- lwynwyd iddo, ar ran yr eglwys, gan Mrs Richards, Plasnowydd, godaid o aur a ffon, a hyderwn yr arbedir ef eto am flynyddoedd i wneud gwasanaeth mawr yng ngwinHan ei Arglwydd.

'GLOYWI'R GYMRAEG. I 'GlOVWI…

I LLANBEDR PONTSTEPHAN.

Advertising

CERDDORIAETH A CHERDDORION.