Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

SILOH, GLANDWR.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SILOH, GLANDWR. CYFARFOD ANRHEGU. Prydnawn Sadwrn, Medi 25ain, ymgasglodd liifer luosog o gyfeillion Mr a Mrs W. Williams, Wern House, Glandwr, o bell ac agos i ysgoldy capel Siloh, pryd y mwynhawyd ychydig oriau o amgylch byrddau te lIawnion, darparedig gan chwiorydd siriol yr eglwys dan arweiniad Mrs Richards, Plas, a Mrs J. R. Davies, Bryn. Yn difyn y te cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn y capel dan lywyddiaeth y Parch S. Williams, gweinidog. Gwasanaethai Mr Ivor Owen, yr organydd, wrth yr organ, a chafwyd unawdau yn ystod y cyfarfod gan Mrs S. H. Lewis a Mri W. A. Davies a Hubert Hughes. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parchn E. J. Edwards, Cwmbwrla W. James, Abertawe J. H. Parry, IJansamlet Penar Griffiths, Pentre Ustyll G. Evans, B.A., Manselton W. Davies, Tabernacl J. Davies, B.A., Mynyddbach; J. H. Hughes, Soar; B. Thomas, Hen Siloh; D. Jones, Cwmbwrla, a'r Mri Richard Martin, Y.H.; D. M. Rees, Y.H., Whitchurch a Richard Rees, Llansamlet. Wedi gweddio gan y Parch G. H. Evans, B.A., Manselton, eglurodd y Cadeirydd amcan y cyfar- fod. Dywedai eu bod yno i ddangos eu parch a'u gwerthfawrogiad o lafur a hir wasanaeth Mr a Mrs Williams i'r achos yn y lie. Yr oedd yn eu bwriad er's hir amser i wneud hyn iddynt, ond yn aros am adeg gyfaddas. Bu Mr Williams yn enau eylioeddus, ac yn arwain cyfarfodydd yr eglwys yn absenoldeb y gweinidog am lawn 40 mlynedd, ac yn gyhoeddwr am 30 mlynedd. Dymunai er's tro gael ei ryddhau o'r cyfrifoldeb hyn, ac o'r diwedd cydsyniodd yr eglwys a'i gais, gan benodi y brawd Thomas D. Hughes, yr ysgrif- ennydd, i gymeryd ei le. Mae gwasanaeth Mr. Williams wedi bod yn faith ac yn eithriadol werthfawr i'r eglwys, i'r ardal a'r Enwad. I/lan- wodd bob swydd yn yr eglwys, cefnogai bob mudiad daionus yn y dref a'r ardal, a chafodd ei anrhydeddu a lleoedd amlwg yn yr Undeb, y Gymanfa, y Cwrdd Chwarter, a sefydliadau eraill yr L, iiivad. 7 yr Enwad. Ar ei ymddiswyddiad, cododd yr eglwys fel un gwr i'w anrhydeddu, ac ni fu erioed ysbryd mwy caredig a chydweithrediad mwy cal- onnog a'u bod y noson honno yn dwyil y gwaith i derfyniad drwy gyflwyno yr anrhegion o cheque i Mr Williams a silver tray i Mrs Williams. Yna cyflwynodd Mrs Williams, priod y gwein- idog, mewn ychydig eiriau pwi-pasol, y tray yn dwyn yr adysgrif a ganlyn Cyflwynedig i Mrs Elizabeth Williams ynglvn a thysteb eglwys Siloh, Glandwr, i'w phriod, W. Williams, Ysw., Wern House, fel cydnabyddiaeth o'i rhan bwysig hi yn ei wasanaeth gwerthfawr ef i achos Crist yn ylle. Medi, 1915.' Ar ol hynny cododd y gwr golygus, Mr David Richards, Plas, un o ddiaconiaid hynaf yr eglwys, i fyny i gyflwyno y cheque i Mr Williams. Gol- ygfa ddiddorol oedd gweld y ddau hen gyfaill yn sefyll ger bron y gynulleidfa, a'r naill a'r llall ar ymrwygo gan eu teimladau. Dywedai Mr Richards ei fod erioed yn adnabod Mr W. Williams. Pan yn hogyu y dechreuodd ef weithio yn forge y gwaith alcan, ac fod Mr Williams yn wr ieuauc yn gweithio dan y morthwyl yr adeg honno, ac yntau yn gweithio wrth y rolls. Ac ar funudau o seibiant eisteddai yn ylllylMr Williams yr hwn, ar bob eiliad geid, a ysgrifennai llith i'r Byd Cymreig neu'r Gwladgarivr, neu bwt o gan, lJ u" b' fel y digwyddai—byth yn segur. Parliaodd Mr Williams yng ngwasanaetli y Cwmui am 40 mlynedd, a bu yn weithiwr caled am lawn 50 mlynedd. Wedi rhoi heibio galedwaith, gwasan- aethodd y cyhoedd mewn amrvw gylchoedd—ar Fwrdcl y Gwareheidwaid am 12 mlynedd, ar Gyiigor Trefol Abertawe am 15 mlynedd, ac y mae yn Ynacl Heddwcli er's dros naw mlynedd. Bu yn Drysorydd Cenhadol ei Gyfundeb am 17 mlynedd, ac efe oedd yn llanw'r swydd honno pan gynhaliwyd yr Arddanghosfa Cenhadol yn Abertawe ychydig flynyddoedd yn ol, pryd y trosglwyddwyd dros £1,100 i'r Gymdeithas. Dy- wedai Mr Richards y gallai ychwanegu llawer at yr hanes, ond rhaid ymatal. Ystyriai hi yn un o freintiau mwyaf ei fywyd i gael cyflwyno y cheque ar ran yr eglwys, ac yr oedd yn falch o'r anrhydedd. Dymunai i Mr a Mrs Williams flyn- yddoedd eto o fywyd ac iechyd. Mr William Jones, ar ran y diaconiaid, a ddy- wedai am eu parch fel swyddogion i Mr Williams. Edry client ato fel eu harweinydd ymhob argyf- wng, ac ymddiriedent yn llwyr yn ei arweiniad diogel. Mr Thomas D. Hughes, ar ran yr Adran Dir- westol, a fynegodd. fod Mr Williams wedi bod yn ffyddlon i'r achos Dirwestol ymhob ffurf arno am 58 mlynedd, ac yn gefnogwr i'r United King- dom Alliance o'r cycliwyu. Yinunodd a'r Maine Law er's 60 mlynedd yn ol, ac areithiodd lawer ar Ddirwest ar hyd y blynyddoedd. Mr D. Morgan Rees, Y.H., Whitchurch, a dywedodd ei bod yn hyfrydwch ganddo gael yr anrhydedd o gynrychioli plant yr eglwys oddi- cartref. Daeth yr holl ffordd o Gaerdydd i ddangos ei barch i'r teulu. Yr oedd yn adnabod Mr Williams o'i febyd-vvedi ei eni y tu arall i'r heol, a'i gydfagu a'i blailt. Yn cofio yn dda am ei ddiwydrwydd a'i gymwynasgarwch, a'i harodnydd i helpu pawb ddelai ar ei ofyn. Llawen iawn ganddo fod yr eglwys wedi pender- fynu ei anrhydeddu. Dymunai i Mr a Mrs. Williams brydnawnddydd bywyd teg a digwmwl. Yna galwyd ar Mr Williams i gydnabod y rhoddion, yr hyn a wnaeth fel y canlyn :— Y peth cyntaf sydd gennyf i'w wneud yw diolch i chwi fel cadeirydd am y rhan amlwg a gymerasoch i ddwyn yr achos ger bron yr eglwys, i'r pwyllgor am eu cydweitlirediad, i'r ysgrifen- yddion a'r trysorydd yn arbennig felly—y mae gennyf rhyw gymaint o brofiad o anawsterau gorchwyl o'r fath. Diolch yn gynnes i chwi oil. Y mae yn llonder o'r mwyaf i mi gael ar ddeall am yr ysbryd rhagorol a'r teimladau cariadlawn oedd yn nodweddu pawb y buwyd ar eu gofyn, ac, fel y deallaf, amryw o blant ac o hen aelodau yr eglwys sydd wedi ymadael i ardaloedd eraill i weithio a byw. Yn wyneb hyn oil y mae yn briodol i mi arfer geiriau Dafydd Pwy ydwyf fi, 0 Arglwydd Dduw, a pheth yw fy nhy pan ddygit fi hyd yma ? Nis gallaf ymffrostio fy mod yma ar gyfrif dysg na dawn, gwybodaeth na thalent, cyfoetli 11a sefyllfa. Gall fy mod yma i fesur ar gyfrif ffyddlondeb a hir wasanaeth, ac nid yw y rhain wedi bod yn gyfryw ag y gallaf ymffrostio llawer ynddynt. Y mae fy serch at yr achos yn Siloh wedi ei etifeddu gennyf oddiwrth fy rhieni y mae yn y gwaed. Un o'r pethau y teimlaf falchaf ohouo yn hanes fy hynafiaid yw eu bod ymysg ffyddloniaid cyntaf yr achos. Bu fy mam, gyda merched eraill, yn cario cerryg o Nant y Cwm i adeiladn y Coleg Bach, a'm tad yr un wedd a'i law yn y gwaith. Dilynasaiit yr achos o'r Cwm i'r Gwaith Copr, ac o'r Hen Office i'r Coleg, ac o'r Coleg i'r capel cyntaf, a thrachefn i'r ail. Buont ffyddlon yn lioll wasanaeth y ty, ac ar- weinivvyd. finnau gyda'r plant eraill i holl waitli a breintiau yr achos ymlaen hyd heddyw a gallaf yn hollol fabwysiadu geL-iau y Salmydd Os anghofiaf di, Jerusalem, aughofied fy neheti- law ganu. Glyned fy nhafod- wrth daflod fy ngenau, oni cliofiaf di; oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf (cxxx\ ii. 5, 6). Teimlaf yn 11awen a diolchgar i welcd cynifer o weinidogion a chyfeillion o eglwysi ac enwadau eraill yn bresennol, ac am y geiriau caredig a lef- arwyd gauddynt Invy yn gystal a chan fy mrodyr o'r eglwys, ymysg y rhai y cefais y fraint o dreulio fy mywyd ar ei hyd. Ystyriaf hi yn un o fendithion pennaf fy mywyd fy mod wedi cael byw mewn cysylltiad ag Eglwys Dduw. Pa beth bynnag wyf, a pha beth bynnag a feddaf, yr wyf yn fwy dyledus i'r Eglwys a'r aelwyclllag i ddim na neb na phawb areill. Pobol y capel oedd pobol fy rhieni i'w plith hwy y dygwyd fi ar fvnwes fy mam, yr arweiniwyd fi yn llaw fy nhad, y cyfarwyddwyd fi atynt pan yn alluog i fynd fy hun, a chefais fy nerbyn a'm trin yn clyner yng nghwmni hen ffyddloniaid. yr achos. Derbyn- iwyd fi yn aelod pan rhwng 12 a 13 mlwydd oed yn nechreu y 50's, pan oedd llanw mawr Diwyg- iad 1849 yn troi yn ol a chefais ar un waith fy arwain at waith gyda'r canu a'r Ysgol Sul. Cad- wyd fi yn weddol dyn yn y tresi. Pan oddeutu 18 mlwydd oed rlioddwyd arnaf ofal Ysgol Plant y Coleg wedi hynny yn arweinydd y Hand of Hope, ac yn arolygydd yr Ysgol Sul. Pan gy- chwynllwycl gangen-ysgol ar Brynhyfryd yn 1862 etholwyd fi yn arolygydd, ac ymheu pedair blynedd cefais fy nhrosglw3 ddo i lanw y cyffelyb swydd i gycliwyn Ysgol Plasmarl yn 1866. Yn y flwyddyn 1863, pan yn 26 mlwydd oed, anrhydedclwyd fi drwy fy ethol yn ddiacon—yr ieuengaf o'r swyddogion ar y pryd. Bum yn y swydd am 15 mlyncdd yn yr hen gapel ac wedi cael help gan Dduw, yr wyf 311 aros hyd yr awr lion. O'r diaconiaid ddaethant i fyny o'r hen gapel, nid oes yn aros ond fy hunan o'r deg etholwyd yn y fhvyddyn 1880, nid oes yn aros ond y brodyr Thomas Davies a David Richards o'r deg etholw), cl yn 1892, nid oes ond un yn aros, sef y brawd T. D. Hughes, ein Lvvsgrifeniiydd ffyddlon. Nid oes yn aros ond pedwar o'r diacon- iaid etlxolwyd yn y ganrif ddiweddaf, ac nid oes un eto wedi marw o'r rhai etholwyd 311 y ganrif bresennol. Eich tadau, pa le y maent hwy ? y proffwydi, a 3"d3"nt hwy fyw byth ? Y mae hiraeth yn fy nghalon am danynt; teimlaf yn falch fy mod wedi cael fy rhestru yn eu mvsg. Publ ardderchog oeddynt", ac yn eu plith rhai o foneddigion natur a thywysogiol1 mewn gras. 'Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur' 'oecIdN-ut ac mae'n dda enii-N,i allu dueyd nad yelyw y diaconiaid presennol yn ol i'r hen rai mewn cyinnvysteraii, talent na chAineriad. A chofiant, gyda llaw, eu bod wedi dod i olyniaeth anrlydeddus ac i gylch y gellir ennill ynclclo radd dda a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Y11 bersonol, teimlaf hi yn fwy anrlrvdedd i fodyn perthyn i'r swydd nag i unrhyw gylch a ddaeth i'm rhan ac i sefyll ymysg swyddogion yr eglwys nag unrhyw ddosbarth o swyddogion y cefais yr hawl a'r anrhydedd o sefyll 311 eu plitli. Addefaf yn rhwydd mai hanerog ac amher- ffaith y cyfiawnais fy swydd, ond gwneuthuin fy ngoreu. Ceisiais bob amser fod yn loyal i'r gwein- idog ac i benderfyniadau yr eglwys, pa un a fyddwn yn hollol gytuno a hwy nen beidio. Ond wrth gwrs amser, nis gallaf obeithio mwynliau fy safle a'm swydd. yn hir. Tra yn diolch i'r Arghxydd am y gradd lielaeth o iechyd a nertli a roddir i mi, nid wvf heb wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio. Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fycldwyf yn Y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi trwy ddwYll ar gof i chwi rai o nodweddion yr eglwys. V mae wedi bod o'r dechreuac1 yn un o'r eglwysi mwyaf gweithgar yn yr Enwad, ac yn ffyddlon i holl syiiiudiadau a sefydliadau yr Enwad wedi bod yn ymdrechgar i fyw ar ei hadnoddau ei hun, ac hefyd i helpu eglwysi erai:l llai ffodus, ac wrth hynny wedi mwylihati heddwch a thangnefedd o'i mewn ei hun. Hycleraf y ceidw yr eglwys yn y dyfodol ei chymeriad drwy ddilyn yr un ysbryd cy ioeddus ag a wnaeth yn y gorffennol. Cyn eistedd i lawr, Mr Cadeirvdd, caniatewch i mi ar ran fy mhriod ddiolch i'r eglwys am ei chofio hi, ac i Mrs Williams am gyflwyno iddi araith mor ddoniol ac anrheg mor sylweddol. Nid rhy\v sham o rodd, ond a real article, teilwng o'r eglwys sydd yn rhoddi ac o'r lion sydd yn derbyn. Nid yw erioed wedi cymeryd 11nrhyw ran amlwg a chyhoeddlls gyda'r achos, ond hi a wnaeth yn bosibl'i mi a'r teulu i fod yma gan- noadd o weithiau, a bu yn gweini i gysitrou ugein- iau o genhadon hedd fu yn llanw pulpud Siloh. Erys yr anrheg yn y teulu i ddweyd ei stori am genedlaethau i ddod. Diolch i chwi hefyd am yr anrheg lion ddcr- by.iiais drwy law fy hen gyfaill a'm cydswyddog. Mr David Richards. Y mae y rhodd yn werth- fawr ynddi ei hun fel offrwm gwirfodd torf o gyfeillio11, ond 311 werthfawrocach fyth am ei bJd yn dod drwy law mor haelionus, a llaw mor gyfarwydd a gweini cymwynasau. Beth fydd gwaith a gwasanaeth hon nis gwn eto ceisiwn iddi fod o rhyw help a symbyliad i ieuenctyd yr eglwys. Terfynaf drwy ddatgan geiriau y Salmydd I Dymunwch heddwch Jerusalem ILvydded y rhai a'th hoffant. Heddweh fyddo o "fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau. Er mwyn fy mroclyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Hedd- weh fyddo i ti. Er mwyn ty yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.' Yna galwyd ar Mr Richard Martin, Y.H., un o hen gadfridogion Addysg a Rhycldfrydiaeth yn i Abertawe a'r cdcll. Dyweclodd ei bod yn neill- tuol dda ganddo fod 311 bresennol i weld ei hen gyfaill yn cael ei anrhydeddu gan yr eglwys yn Siloh. Daeth i adnatyddiaeth agos a Mr Williams mor bell yn ol a'r flwyddyn 1862, pan oedd ef yn wr ieuauc 3*11 sw37ddfa'r Millbrook, a Mr Williams yn y gwaith alcau yn 311131. Cofiai am y llyfr- gell unol gan weithwyr y ddau waith, a'r modd y y gweitli- Wyr yn yr lien Reading Room. Wedi hynny yn un o'r arweillwyr yn sefydliad Ysgol Frytanaidd J ar Brynhyfryd. A pha symudiad bynnag er lies a d3rrchafiad y werin fyddai eisiau cydweithred- iad yr ardal, at Mr Williams y troid am arweiu- yddiaeth a help. Gall mai nid efe fyddai yn y golwg bob amser, ond efe er hynny fyddai yn gweithio'r peiriant. > Mr Thomas W. Hughes, un arall o'r diacon- ■ iaid, a siaradai ar ran yr Ysgol Sul. Dywedai fod Mr Williams yn aelod o'r Ysgol o'i febyd, i 311 athraw er pan yn 12 mlwydd oed (ys baid o 00 lub/nedd), ac yn athraw yn awr. Yr oedd yn bresennol bob Sabotli, ac mor fyw a neb yn y lle. Siaradwyd ymhellach gan y Parchn Penar Griffiths a Walter Davies Mr Oakley Walters, Y.H., Treforns a'r Parch Ben Thomas, Hen Siloh, yr hWll a derfyuodd y cwrdd drwy weddi. Teiinlwyd Y11 arbennig ddiolchgar i'r ysgrifen- yddiou, Mr T. D. Hughes a J. J. Davies, am ddwvn yr holl waith i derfyn mor liaplis a llwyddiannus. GaHKByuo,