Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PWYLLGOR Y GRONFA. CYNHEUR y Pwyllgor nesaf dydd Mawrth, Tachwedd 2il, yn Iylandrindod am 2.30. Anfoner pob cais neu ohebiaeth i'r Ysgrifen- yddion erbyn Hydref y 26ain y fan bellaf. 0. L. ROBERTS,? H. M. HUGHES, i CYNGOR YR UNDEB CYMREIG. YN EISIAU: Cynorthwywr i Oruchwyliwr -L y Llyfrfa. Cyflog, £ 80 y flwyddyn. Ceisiadau trwy lythyrau yn unig, ac i fod yn llaw yr isod erbyn Hydref i xeg, 1915. D. MORGAN DAVIES, Y Llyfrfa, 20, Alexandra-road, Swansea. YR UNDEB YN 1916. CYNHBLIR Cyfarfodydd yr Undeb yn 1916 ym Mrynaman ar y 12fed, 13eg, I4eg, a'r I5fed o Fehefin. JOHN WILLIAMS, Ysg. Hynaf.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. I. Williams, Glandwr-Cafodd gohebydd arall y blaen arnoch: diolch i chwi er hynny. Mewn Llaw.-Cyfarfodydd Chwarterol Cyf- undeb Meirion a Chyfundeb Cymreig Myn wy- Ffestiniog-Salem, Heolgerryg-Llanbedr Fel- ffrey, Penfro-Bethania, Merthyr Vale-Cwm- bwrla-C aerdydd-Mountain Ash—Cyfarfodydd —Marwolaethau, &c.
JOHN VIRIAMU JONES.*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JOHN VIRIAMU JONES.* OHERWYDD anfiawd fechan ni ddaeth y gylrol drwehus, brydfexth hon i'n llaw yn brydlon, a hynny sy'n eyfrif am na buasai yr erthygl hon wedi ymddangos fis yn gynt beth bynnag. Ond bydd y gyfrol hon yn newydd am amser go hir-eyhyd yn wir ag y perchir gwasanaeth a choff adwr- iaeth un o'r Cymry mwyaf gododd Duw yn ystod y ganrif ddiweddaf-fel nad yw ychydig ddiweddaxwch nac yma nac acw ynglyn ag ymddanghosiad sylw a gwerth- fawrogiad ohoni. Dyn mawr-le, mawr iawn-oedd VIRIAMU JONES, ac yr oedd yn hen bryd i gael cofiant gweddol gyflawn ohono, ynghyda disgrifiad manwl o'i waith ardderchog yn ei amryfal agweddau. Gwyddem trwy adnabyddiaeth bersonol a gradd weddol helaeth o wybodaeth am ei lafur ei fod yn wr mawr, ond mae'r gyfrol hon nid yn unig wedi dwyshau yr argraff, ond wedi profi tuhwnt i bob dadl, ac i bobl na wyddent ddim yn ei gyle]; yn llaenoxol, eilfod yn un o'r cymeriadau disgleiriaf, yn un o'r dysgedigion galluocaf, yn un o'r arweinwyr a gwladgarwyr a chymwynaswyr praffaf a diogelaf fagodd Cymru erioed. Wrth gwrs, addysg oedd ei faes arbennig ond trwy y cylch hwn dylanwadodd yn ddwfn a pharhaol ar Gynixu tra pery ei hanes. Nid dod i'r maes yn unig ay wnaeth, ond efe mewn ystyr gywir iawn a greodd y maes. Mae yn wir fod eraill wedi ei weled o'i flaen, ac wedi gwneud eu goreu i wneud llwybr iddo ac i'w gau i mewn. Ond darn o anialdir lled arw a diffaith oedd er hynny, heb ond prin lolfyn o rawn wedi ei gael o
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Life of John Viriamu Jones by Katherine Viriamu Jones. With Portraits. (Smith, Elder and Co., pp. vi. 400, 10/6 net.) gongl fechan ohono, pan ddaeth VIRIAMU iddo. Efe a'i digaregodd, efe a'i gwrteith- iodd, efe benderfynodd ar y dull o'i ffermio a'r modd goreu i'w ddosbarthu a'i drefnu i'r diben o gael y cynhaeaf cyfoethocaf ohono mewn swm a sylwedd. Daeth iddo ar yr adeg gyfyngaf yn hanes ein haddysg —nid o ran arian a chyfalaf yn gymaint ag o ran dewisiad o bolisi a delfryd oedd i benderfynu ei dynged a'i werth am byth. Yr oedd eisiau statesman o'r iawn ryw ar y pryd i roi ffurf a chyfeiriad a chynnwys i ddyfodol addysg Cymru, ac fe'i cafwyd gan Ragluniaeth ym mherson JOHN VIRIAMU JONES. Ac oherwydd y dylan- wad aruthrol mae addysg Cymru wedi gael, ac i gael fwy-fwy eto, ar holl fywyd y genedl, yn gymdeithasol, masnachol, diwydiannol, gwleidiadol, moesol a chref- yddol, beiddiwn ddywedyd fod VIRIAMU JONES wedi bod a llaw fawr yn ffurfiad a chyfeiriad Cymru ddiweddar, ac y deuir i gydnabod ei fawredd a'i wasanaeth yn ddyfnach a chliriach fel y treigla'r blyn- yddoedd ymlaen. Bu ganddo fwy o ran na neb arall yn nyfeisiad a chread y dynamo sydd i ddarpar yr ynni naturiol angenrheidiol i gadw Cymru i gerdded ymlaen a chadw ei lie yng ngorymdaith gwareiddiad a goleuni a dyrchafiad ysbrydol y byd. Teilynga gan hynny le mawr yn Hen- j yddiaeth gofiannol Cymru. Ac mae ei briod wedi cyflawni ei gwaith gyda theg- wch, lledneisrwydd, barn a doethineb rhagorol. Yr oedd ganddi'r fantais annhraethol o wybod manylion ei waith, y baich a'r dreth osodid arno gan amlder a phwysigrwydd ei orchwylion a'i wasan- aeth a'i helbulon, ynghyda'r gwroldeb a'r gobaith a'r grym, ac weithiau y siom a'r pryder a'r gofid, a'i meddiannai wrth eu hwynebu a'u trafod. Ar adegau byddai'r dasg mor galed a'r wybren mor dywell nes bod yn ddigon i lorio yn lan ddynion go ddewr o'i gylch ond anfynych y concrid VIRIAMU, a chliriai'r anawsterau weithiau mewn modd rhyfeddol dan gyf- aredd ei ysbryd siriol a'i oreuafiaeth an- orchfygol. Yr oedd gwen VIRIAMU fel rheol yn brawf fod ffordd allan' i'w chael, ac fod ei graffter ef eisoes wedi dyfalu lie y deuid o hyd iddi. Yr oedd y cfyn craffaf a chyflymaf ei welediad a welsom erioed, a cheir digonedd o enghreifftiau o hyn yn y Cofiant. Gwyddai Mrs JONES hyn i gyd, yn ogystal a'r modd yr oedd olwynion ei feddwl yn gweithio yn ei fywyd mewnol a chysegredig a rhydd hyn i gyd fantais fawr iddi wrth olrhain gyrfa ei hanwylyd. Er hynny, nid ydym heb deimlo fod hyd yn oed anwyldeb ac agosrwydd ei pherthynas a'i gwrthrych ar adegau yn anfantais iddi, ac yn ei gorfodi i lithro dros bethau fuasent yn sicr o dderbyn mwy o sylw awdnr safai mewn perthynas wahanol iddo, ac o'r ochr arall i ddyfynnu o lythyrau personol ac i aros gyda digwyddiadau lied anniddorol ■ dipyn ar y mwyaf. Buasai cyfaill cyfar- I wydd yn gallu chwynnu a dewis ac ym- helaethu weithiau yn fwy rhydd a di- dramgwydd, a chredwn y buasai o werth amhrisiadwy i'r awdures, ac weithiau i'r llyfr. Ond ar y cyfan, mae wedi cyflawni; ei gwaith yn dra gorchestol. Yn y bennod gyntaf ceir ychydig o hanes yr enwog THOMAS JONES, Abertawe, tad VIRIAMU, ac un o bregethwyf mwyaf. Cymru—a Lloegr hefyd. Efe oedd y preg- ethwr yr lioffai BROWNING eistedd yn gyson dan ei weinidogaeth, ac a edmygai yn ddiderfyn. Mae'r darlun geir yma o'r teulu, y tad a'r plant talentog o'i gylch, yr awyrgylch grefyddol a meddylgar a anedlid yn barhaus yn y cartref, yn bryd- ferth dros ben. Anodd meddwl am dad a thyaid o blant mwy disglair a galluog, a hawdd dyfalu mor fyw ac effro yr oedd pethau yn y cartref pan oedd BRYNMOR, VIRIAMU, IRVONWY, LEIF a MORLAIS yno gyda'u gilydd. Drwg gennym ganfod gwallau pwysig yn y stori a roddir o febyd a gweinidogaeth y tad, THOMAS JONES. Buasai gair am greulondeb yr Enclosure Acts ynglyn a'i hynafiaid yn ardal LIan- drindod yn ddiddorol, ac ychydig mwy o gywirdeb ynglyn a/i flynyddoedd cyntaf yn y weinidogaeth yn ddymunol iawn. Er enghraifft, mae'r cyfeiriad canlynol yn anfaddenol mewn mwy nag un ystyr Together with his friend and col- league, the Rev. Thomas Owen, he travelled at one time from place to place in Mid and North Wales, usually preaching twice a day.' Pwy fuasai'n tybio mai'r Thomas Owen yn y dyfyniad oedd y Parch John Thomas, Bwlchnewydd, sef Dr THOMAS, Liverpool, wedi hynny ? Dylasai gwr o nod Dr. THOMAS gael ei arbed rhag slipshodiaeth o'r fath yma mewn unrhyw lyfr gan un- rhyw awdur yn dal unrhyw berthynas a Chymru. Hefyd, chwith oedd gennym weled HIRAETHOG wedi mynd yn Vir- aethog. Yn sicr, mae brychau o'r fath mewn llyfr mor bwysig a gwerthfawr yn anesgusodol. Ganwyd JOHN VIRIAMU JONES yn Pen- trepoeth, Abertawe, ar yr 2il o Ionawr, 1856. Efe oedd ail fab ei rieni, a rhodd- wyd yr ail enw Viriamu arno o barch ac edmygedd y tad at y merthyr o Erro- manga.. Nis gallai'r brodorion gynhanu Williams, a'r peth nesaf at y seiniau allent ddweyd oedd Viriamu. Ac fel Viriamu, ac ymysg ei gyfeillion, Vir, yr adwaenid y gwr bach o Abertawe o'i fedydd i'w fedd. Yfai addysg gydag awel y dydd. Pasiodd y Matriculation Exam. o'r Normal College, Abertawe, ar ben y rhestr. Aeth drwy gwrs ym Mhrifysgol Ltundain, ac wedi hynny yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, gan gipio pob anrhydedd ddelai o fewn ei gyrraedd. Yr oedd yn wir yn un o ysgol- heigion disgleiriaf y Brifysgol, a phe dy- munasai gallasai dreulio'i oes fel don yno, a chyflwyno ei hunan i ymchwiliad gwydd- onol. Yr oedd dynion fel KER, VAUGHAN, PINKERTON, BULLAN, C. H. FIRTH, RIGG, REICHEL a POULTOK, yn y Brifysgol ar y pryd, ac ymysg ei gyfeillion cynhesaf ac unant oil i dystio fod unrhyw swydd a safle yn agored iddo yn y cylch gwydd- onol, pe buasai wedi aros yn Rhydychen. Ac unai gwyr hynach o fysg yr athrawon, fel JOWETT, T. H. GREEN, CLIFTON ac A YRTON i fynegi yr un peth. -ia i R l lt,, I t,.ll i aet l i. Eitlir fel arall y trefnai Rliagluuiaetli. Yr oedd Coleg yn Sheffield, gychwyiiwyd gan weinidog Annibynnol, R. S. BAYEEV, ond a godwyd ac a waddolwyd gan Mr. MARK FIRTH, mewn argyfwng ac yn prysur fynd ar y goriwaered, pan fentrodd y lfys llywodraethol benodi yn bennaeth arno y 5 Cymro ieuanc o Halliol, VIRIAMU JONES. Yr oedd hyn ym Mai, 1881, pan nad oedd VIRIAMU ond 25aiii oed-y pennaeth coleg prifathrofaol ieuengaf yn y deyrnas ar y pryd. Ond prof odd y penodiad gywirdeb