Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFESTINIOG. Y Fasnach Lechi. Parbau yn isel y mae y fasnach lechi yn yr ardal hon fel y rhan fwyaf o ardaloedd chwarelyddol Gogledd Cymru. Y mae y wasgfa wedi dechreu dros 10 mlynedd yn o!, ac y mae Ffestiniog wedi dioddefyn fawr o'r herwydd. Yr ydym yn coflo tua 4,000 o weithwyr yng ngwahanol chwarelau y fco, ond erbyn heddyw nid oes yma ond prin 1,000 Y mae nifer luosog o'r chwarelau wedi cau, a swn y morthwylion wedi llwyr ddistewi ynddynt. Y mae y dynion wedi gwasgaru i bob cwr o'r byd. Rhai wedi myned i'r Debeu- dir, eraill i lofeydd Gogledd Lloegr, Uu i ddociau Lerpwl, a nifer fawr wedi ymfudo i'r Taleithiau Unedig a'r Trefedigaethau Pryd- einig. Yn naturiol, y mae yr eglwysi oeddynt unwaith mor llewyrchus wedi dioddef yo fawr. Yn y blynyddoedd llewyrchus, cyfrifid aelodau y saith eglwys perthynol i'n Henwad yn y plwyf dros ddwy fit; heddyw, nid ydynt lawer lluosocach na banner y nifer hwnnw. Ond y mae y gweddill yn ymwroli i wneud eu goreu yn yr argyfwng, a disgwylir yn aiddgar am doriad gwawr ar derfyo y rhyfel sydd wedi dwyn y fath drychineb ar y gwledydd. Y Fyddin Y mae nifer fawr wedi ymuno A'r fyddin. Cyfrifir fod yn agos i 1,000 o fechgya Ffestiniog wedi ymrestru o dan faner eu gwlad, a chydnab dda yr awdurdodau ein bod wedi gwneud yn deilwng. Ymhlith y bechgyn, y mae dau fab i'r Parch John Hughes, Jerusalem, sef John W. Hughes a Trevor W. Hughes, y rhai sydd ar hyn o bryd yn Mharc Kinmel, ger Abergele, gyda'r R.W F. Y mae cryL nifer wedi myned allan i faes y gwaed yn Ffrainc a'r Dardanelles Prudd ysgrifennu fod nifer ohonynt wedi colli eu bywydau, a llawer wedi eu clwyfo. Derbynied eu perthynasau ein cydymdeimlad mwyaf didwyll yn eu trallod. Cyfarfod Pregethu yn Jerusalem—Oafwyd gwyl bregethu boblogaidd ar y dyddiau Iau a Gwener, Medi 9fed a'r lOfed, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parchn D Stanley Jones, Caer- narfon, ac 0 L Roberts, Lerpwl Rhoddwyd y Gymanfa Bregethu Flynyddol o'r neilltu y flwyddyn hon, a chynhaliwyd yr wyl hon i wneud i fyny am y golled, ac ni siomwyd neb. Caed awyddion hyfryd o bresenoldeb yr Ar- glwydd yn y weinidogaeth eithriadol rymus fwynhawyd gennym. Y Parch Thomas Griffith, Halem.— Y mae y gwr da a'r pregethwr rhagorol hwn wedi ymadael o'n p!ith,ac wedi myned i drigiannu i Colwyn Bay. Yr ydym oil yn cwvno o'i golli. Deil ei gysyiitiad Sg eglwys Salem trwy ddod yno i'w gwasanaethu un Saboth yn y mis. Mawr hyderwn y gwel ei ffordd yn glir i ddychwelyd i'w gyflawn waith yn Salem ac yn y dref. Hen Bati-iarelb.Cyfeirio yr ydym at Mr William Williams, Llys Brython, neu fel ei hadnabyddir yn well, William Williams, Beudy Mawr. Y mae efe bellach yn fab 85 mlwydd, ac wedi treulio oes faith mewn gwasanaeth ymroddgar yng ngwinllan ei Arglwydd. Treul- iodd y rhan fwyaf o'i oes yng Ngharmel, Tan- ygrisiau, ond y mae bellach er's 20 mlynedd yn ddiacon yn eglwys Brynbowydd. Bu yn cwyno yn ddiweddar, ond ilawen gennym ei weled wedi ei adfer. Eiddunwn iddo flynydd- oedd eto o fywyd ac iechyd, a phell y byddo y dydd y gelwir arno i gadw noswyl. M.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PONTMOltLAlS (M 0), MERTHYR TYDFIL. —Y Parchn J. J. Williams, Tdbernacl, Treforris, a Puleston Jones, M A., Pwllheli, fu yn gwas- anaethu yr eglwys hon gydag arddeliad mawr yn ei chyfarfod blynyddol, nos Fercher a dydd Iau, Hydref 6ed a'r 7fed.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
barn a gwelediad y cyfarwyddwyr, canys cyn pen dwy flynedd yr oedd y Coleg dra- chefn ar ei draed, yr ysgol feddygol wedi ei sefydlu, nifer y myfyrwyr wedi treblu, y drysorfa wedi chwyddo yn ddirfawr, a'r rhagolygon oil yn goleuo. Ond ynghanol y llwydd a'r helynt, wele alwad arall yn dod ato o'i wlad enedigol, ac yntau yn ymadael ynghanol gofid a siom ei gyf- eillion yn Sheffield. Penodwyd ef yn Brifathro cyntaf Coleg Cenedlaethol Caerdydd yn 1883, pan oedd yn 27ain oed. Gwyr y rhan fwyaf o'n dar- llenwyr rywbeth am ramant y Colegau, a'r Brifysgol yng Nghymru, ac nid oes ofod i fanylu arni. Ond digon anhyfryd ac ansicr oedd cyflwr pethau pan ddaeth VIRIAMU i Gaerdydd. Cythruddai llawer am fod y Llywodraeth wedi penderfynu cau Aberystwyth, neu ei symud i Fangor, ac mai mewn dwy ddinas esgobol yr oedd y Colegau Cenedlaethol i'w sefydlu. Casgl- odd cyfeillion Aberystwyth o gwmpas yr hen fam-ysgol, a phenderfynwyd nad oedd can ei drysau i fod. Credwn fod llawer o garnesbonio a chamgyhuddo wedi bod y pryd hwnnw, a chenfigen a malais wrthun wedi eu harddangos gan rai personau rhagfarnllyd. Bithr amhosibl yw cau'r llygaid i'r ffaith fod Eglwyswyr a mawrion tirol Cymru cyn hynny wedi gwawdio ac atal ymhob modd ddyhead y bobl am brifathrofa a phrifysgol, a'u bod hefyd yn tueddu i newid eu hagwedd a'u hymddyg- iad wedi gweled ohonynt fod y werin wedi concro, a'r Llywodraeth am roi grants blynyddol i'r colegau newydd. Drwg- dybiai'r bobl yr holl fusnes pan geisiwyd cloi drysau'r hen goleg yn Aberystwyth, a bu raid i'r Llywodraeth ildio, a sefydlu a helpu tri choleg yn lie dau. Yn yr holl drafodaeth hon ymddygodd VIRIAMU JONES fel gweledydd a statesman teg, craff, eangfrydig a diogel, a llwyddodd i argy- hoeddi pawb ei fod ef a'i goleg yn gyfeill- gar hollol i Aberystwyth a delfrydau'r bobl. Ni lwyddodd lawn cystal i gyfeiriad arall. Bu y Coleg yn anffodus ar y cyntaf yn un neu ddau o'i athrawon. Aeth y gair allan ei fod yn Goleg di-Dduw.^a glynodd hyn wrtho am flynyddoedd. Erbyli heddyw mae'r tri Choleg rywbeth yn debyg yn y mater hwn, ac yn fedrus ryfeddol i gael amryw athrawon ar eu staffs nad oes fawr cydymdeimlad ynddynt a. rhai o nodweddion amlycaf bywyd uchaf y genedl. Maent yn estroniaid hollol i bopeth mawr feddwn, ac yn sicr nid yw crefydd wedi bod ar ei mantais o'u trigias yn ein mysg. Er hynny dylid cofio nas gall yr un o'r Colegau oherwydd eu siarter ymyrryd a chrefydd neb, ac mai yn eu cymeriad personol yn unig y gellir dis- gwyl dim oddiwrth yr athrawon yn yr ystyr hon. Amddiffynnodd VIRIAMU gyf- ansoddiad anenwadol y Colegau gyda'i rym a'i wroldeb arferol, er fod arwyddion amlwg yn y Coliant fod y pwnc pigog hwn wedi peri poen a gofid mawr iddo ynglyn a phersonau arbennig a'u dylan- wad niweidiol ar yr Athrofa ac ar y genedl. Yr oedd ef ei hun yn wr crefyddol a defosiynol iawn, er nad oedd yn cymryd rhan amlwg mewn bywyd eglwysig. Bwr- iadai ei dad un adcg iddo fyned i'r wein- idogaeth, a bu ganddo yntau cluedd i'r cyfeiriad hwnnw. Yr oedd ei holl gyd- ymdeimlad a. chrefydd syml y Testament Newydd, a charai y CEIDWAD yn fawr. Ymdrecliodd lawer er cael yr addysg uchaf posibl i weinidogion Cymru, a mawr oedd ei lawenydd pan gymrodd Coleg Aber- honddu y cam cyntaf i gysylltu addysg myfyrwyr diwinyddol a'r Colegau Cenedl- aethol. Ymffrostiai ei fod yn Annibynnwr y pryd hwnnw, a bu yn ffyddlon i'w Enwad fel aelod eglwysig yn ystod ei holl arhos- iad yng Nghaerdydd. Yn ei anerchiadau i'r gweithwyr ac i'r myfyrwyr ceir is-don grefyddol ddigamsyniol, ac apeliai at y goreu mewn dyn yn ysbryd ac oddiar saf- bwynt Cristionogaeth. Credai mewn gwragedd a mamau diwylliedig i Gymru, ac efe oedd y cyntaf i agor drysau'r Coleg Cenedlaethol iddynt. Ymhyfrydai mewn helpu pob mudiad crefyddol ymysg y myfyrwyr, a dau o'r pethau diweddaf a wnaeth cyn ei salwch olaf oedd annerch Undeb Cristionogol y myfyrwyr, a chym- ryd y Sacrament yn eglwys Annibynnol Charles-street. Nid gormod dywedyd mai efe yw cre- awdydd a chynllunydd Prifysgol Cymru. Efe dynnodd allan ei chyfansoddiad ac a awgrymodd brif ddarbodion ei siarter. Efe roddodd iddi ei pholisi fywydol, sef ei gwneud yn]|rh,ywbeth amgen na Bwrdd Arholi o'r un natur a Phrifysgol Llundain. Gresynai wrth feddwl fel yr oedd Cymru wedi ei gorfodi yn ei holl golegau i ddilyn yn ddof raglen Blundain, heb fod gan ei cholegau air yn y gwaith o'i ffurfio. Tegid a lleddid holl ddylieadau a phriodolion arbennig y genedl gan y peiriant estronol hwn, na wnaeth ddim erioed i helpu gwir addysg fel y cyfryw. Mynnai VIRIAMU i'r Brifysgol Gymreig fod yn rhan wirion- eddol fywydol o gyfundrefn addysgol y genedl, a chanddi lais yn ffurfiad ei bywyd, gan ddiogelu rhyddid a naturioldeb i'r bywyd hwnnw. Ceisiodd gysyiltu yr Addysg Ganol yn agosach nag ydyw a'r Brifysgol, ond methodd yn hyn o beth. Bithr erbyn hyn cydnebydd llawer o brif broffwydi addysg Cymru mai efe oedd iawn. Ond llwyddodd i arbed y Brifysgol rhag llyffetheiriau Blundain, a thrwy hynny achubodd ei bywvd yn yr ystyr oreu ac uchaf. Pe caffai amser ac hamdden, diau y cyrhaeddasai binaclau uchaf byd y gwyddon. Yn ei oriau prin llwyddodd i ddarganfod ffordd sicr o fesur trydan, ac efe mewn ystyr yw gwir dad yr Ohm fel y defnyddir ef heddyw. Dyfeisiodd beir- iant rhyieddol i'r diben hwn, a gwnaed ef yn Fellow of the Royal Society fel teyrnged i'w athrylith a'i waith gwyddonol. Wedi'r cyfan, y bennod faith olaf yn y llyfr, Personal Characteristics, ddaw a'r ■ gwrthrych i'r goleu cliriaf. Yma caniateir i ni ddod yn nes ato, i fwynhau ei ymddi- ddan a'i feddyliau rhydd, i gyd-ddringo'r Alpau gydag ef ac i gyfranogi o'i gyfrinach a'i gwmni personol. Ac mae rhyw swyn rhyfedd yn ei bersonoliaeth gyfoethog. Hr ei fod yn gryf ei feddwl ac arwrol ei ysbryd, eto mae ei dynerwch a'i garedigrwydd a'i anwyldeb yn gwneud pawb yn ffrindiau calon iddo, ac yn eu denu a rheffynnau cariad. Ni welsom neb erioed yn fwy poblogaidd gyda'i fyfyrwyr, ac yn fwy parchus a hoffus gan ei Council a'i gvd- athrawou. Yr oedd gweision y Coleg yn ci hamicr addoli, a gwnai gaetliion gwir- foddol yr un pryd o'r Deon VAUGHAN ac Arglwydd ABERDAR ac Ardalydd BUTE. Yr oedd cyfaredd y dyn nid yn unig yn peri i ni ei edmygu a rhyfeddu at ei allu- oedd disglair, ond yn peri i ni hefyd luchio ein het i'r awyr a'i ddilyn i ba Ie bynnag yr elai ym myd addysg Cymru. Gwr iiiawr-ie, mawr iawn, fel y nodasom ar ddechrel1 ein hysgrif oedd VIRIAMU JONES ac er nad oedd ond 45ain oed pan fu farw ar y Sul, y iaf o Fehefin, Igor, bu fyw mor ddwys, mor intense, a gweith- iodd mor ddwfn a thrwm, fel yr erys ei 61 a'i argraff ar fywyd Cymru tra pery i ddringo i lefelau uwch o ddiwylliant ac o fywyd. Cyfrol odidog yw hon, ac ni wyr neb hanes Cymru ddiweddar heb ei darllen.