Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

0 FRYN IFRYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 FRYN IFRYN. Gormod o Bulpud. HYN a welsom dro yn ol yn ben i ysgrif Saesneg ac ar y pryd gwell oedd gennym y pen na'r corff. Too much Pulpit' Geill y gormod hwn fod yn ei ddefnydd, neu ei ddawn, neu ei ddynion. Gormod o ddynion yn ac ar gyfer y Pulpud aie ? Ie, os mynner. Ceir rhai dosbarth- iadau crefyddol yng Nghymrn—ie, heddyw yng Nghymru—yn bryderus, os nad yn dioddef, oherwydd prinder dynion i'r Pul- pud ac maent yn ofni'r dyfodol. Ond tra mae hyn yn wir am rai dosbarthiadau, i bob ymddanghosiad maen wir am ddos- barthiadau eraill fod ganddynt eu gor- lawnder. Betli, tybed, fydd dylanwad y rhyfel ar ad-drefniad yr eglwysi, ac ar ymgais dynion ieuainc o athrylith am y Pulpud ? Diau y gedy ei 61 amlwg yn y ddau gyfeiriad hyn, ac amlycach yw hynny am y blaenaf nag am yr olaf. Hyderwn na wel eglwysi Cymru y dydd pryd y bydd yn rhaid iddynt dderbyn a gant ac nid a fynnant. Y mae bron dod i hynny eisoes ar ambell eglwys. Ond son ydym am ormod o Bulpud yn ei ddefnydd a'i ddawn yn ogystal a'i ddynion, ac o bosibl a gor-, mod o dda ynddo hefyd. Pa nifer o eglwysi Cymru ddeil Bulpud da iawn ? Mater o chwaeth yw Pulpud fo'n goed ac yn gelf- yddyd nes bo yn scornio symledd ac yn amlycach na'r un fo ynddo. Bnasai arnom ofn Pulpud drudfawr ei addurniant, a thipyn yn drwgdybus fuasem o addoldy o'r fath hefyd. Ar yr un pryd, etyb y naill a'r llall ohonynt i'r oes lygadog hon. Hawdd yw i grefydd, hyd yn oed crefydd eglwys, yn y dyddiau hyn redeg yn wyllt i goed a cherryg. Diau y dywedir y dylasai pethau da gael eu harddangos yn dda, ac fod gwaeledd yn yr allanolion yn gwaelu y mewnolion. Boddlonir i osodiad o'r fath ond geilw am wyliadwriaeth rhag i'r allanol gymeryd lie y mewnol-rhag i'r Pulpud addurniadol fod o flaen llygad a meddwl y bobl yn fwy na'r bregeth ysbrydol. Addurniant o bwys i'r bobl, nid y pwysicaf, ydyw DAWN Y PULPUD, nid ei ddefnydd. Gair mawr yr oesau 0 ynglyn a'r pulpud ydyw ei ddawn, ac mae ei gyfaredd yn parhau i feddwi pregethwyr yn ogystal a gwrandawyr. Ac mae iddo ei angenrheidrwydd fel ei boblogrwydd. Y mae iddo berthynas agos a'r genedl Gymreig-mwy agos, ni a dybiwn, nag a'r un genedl arall a gair eglwysig a sanct- aidd ydyw hefyd. Rhydd y Beibl i ddawn gymeriad da. Ni chysylltir ef ond a gwedd- iwr ac a phregethwr. O'i boblogrwydd a'i gysegredigrwydd y cyfyd ei werth mas- nachol hefyd. Rhoddir pris mawr iawn arno. Fe'i telir yn dda ac efe, ac nid dim arall, ga'r tal hefyd. Oherwydd hyn pery y brofedigaeth i'w or-wneud o oes i oes. Y mae iddo ddoniau llai, yn weision bych- ain a mawrion ond efe yw y pen, a cheidw ei well o'r golwg. Ar ein cychwyniad allan i'r weinidog- aeth, gwelsom leygwr llengar a galluog yn beirniadu mewn wythnosolyn bregethwyr Cymanfa leol, a'i gyngor i un o'r pregeth- wyr oedd Y mae ganddo d d a w n ardderchog cyniled ef.' Yr oedd gan y pregethwr hwn ei 'ddawn ardderchog' hefyd ac ardderchog o bregethwr hefyd ydoedd ond gwastraffai ddigon ar ei ddawn i godi pregethwr poblogaidd arall a'i wastraffion. Dawn ardderchog ydyw honno fedr gynilo dawn. Bu'r ddawn hon yng Nghymru mewn canu yn cystadlu a'i bath mewn pregethu. Yr un un oedd yn y naill a'r llall, sef yn y canwr a'r pregethwr. Dy- wedodd hen gerddor deallus wrthym amser yn ol mai o'r Pulpud Cymreig y cadd y canu Cymreig ei hwyl a'i waedd. Modd bynnag, mae diwygiad y canu cynulleid- faol, mewn lliaws o fannau, yn usio y ddawn hon yn well nag y mae'r pregethu cynulleidfaol yn ei wneud. Ymddengys mai gwr rhagorol i ddefnyddio y ddawn hon ydoedd David Rees, Capel Als a chystal a hynny oedd R. Thomas, Glan- dwr, ac Emlyn Jones. Cyniler hi ar bob cyfrif. Is-wasanaethol ydyw i fod a chofier fod dylanwad cryf, os nad y cryfaf, ambell dro, nid yn yr hyn gar bobl, ond yn yr hyn wyddant sydd ar ol. Y dylan- wad anymwybodol ydyw y goreu, ac mae llawer o hwnnw fel petai yn ddiderfyn. Cyll cynulleidfa ei diddordeb gyda'i bod yn gweld y terfynau edrych allan am fyd newydd wna wedyn. Clywsom yn ein boreuddydd wahan- iaethu rhwng pregethwyr Gogledd a De drwy ddweyd mai yn y Gogledd y ceid y eyfansoddiad (o leiaf, hynny oedd ein tyb ni, a barnu oddiwrth y siarad), ac mai yn y De y ceid y traddodiad. Buom yn ddigon hygoel i gredu hyn am flynyddoedd, a chawsom le i gasglu mai hynny oedd barn y Gogleddwyr am y blaenaf hefyd, ffordd bynnag y meddylient am yr olaf. Yr oedd y fath GYFANSODDIAD 0 BREGETH,' sydd ymadrodd nad ym hyd yn hyn wedi gallu mynd i mewn i'w gyfriniaeth, os medda y fath beth ar gyfriniaeth o gwbl. Cyfansoddiad o bregeth Mor llawn o beirianiaeth ydyw y gair. Etyb yn burion i feirniad ystrydebol mewn steddfod,' ond wfft iddo i bregethwr mewn pulpud. Cyf- ansoddiad o bregeth Awn i'r nos a'r niwl gyda'r enw, a meddyliwn am Hen Gyfansoddiad' ac am Gyfansoddiad Newydd,' ac am draethawd mawr ar Greigiau a Glofeydd, ac am Bryddest y Goron neu Awdl y Gadair, ac am gorff y cawr—ie, y cawrfil. Cyfansoddiad o breg- eth Pa bryd y daeth y frawddeg hon i fod ? Pwy oedd y gweledydd hwn ? Y mae'r drychfeddwl yn ddrych i'r oesau. Os oes rhaid wrth y fath 'gyfansoddiad,' Duw gadwo'r bobl rhag gweld dim ond y cyfansoddiad.' Nid ydym yn clywed son am y gair mawr, synfawr, hwn gyda'r un edmygedd yn yr oes hon ag a glywid mewn oes cynt. Erys y son yn fawr am y breg- eth o hyd, ond ymwrthodir a'r Cyfan- soddiad.' Rhydd ein pregethwyr ieuainc fwy o bwys ar bregethu nag ar gyfansoddi. A da gennym am hyn, oblegid mae modd cyfansoddi heb bregethu, ac mae modd pregethu heb gyfansoddi. Aiff y cyfan- soddi o'r golwg yn y pregethu. Dywedid am un o bregethwyr Undeb Lloegr a Chymru eleni He is really too generous in the quantity and intellectual quality, that he crowds —a hynny yn un peth a elwir gennym yn ormod o Bulpud. Dioddefa'r bregeth ar hyn o bryd fwy oddiwrth wrandawyr nag oddiwrth breg- ethwyr. Clywsom am bregethwyr yn lladd eu pregethau wrth eu dweyd ond heddyw fe'u lleddir drwy eu gwthio gyda'u gilydd nes eu gwasgu o fod. Eir i mewn am fyr- dra pregeth, a chyda hynny eir i mewn am ddwy a thair ohonynt yn yr un odfa. Oblegid hyn aiff y gwasanaeth yn fwy o cinema nag o addoliad. Y mae mwy na hanner cynulliadau blynyddol yr enwadau yn borthiant i wane y cinema, ac yn ddi- ogelwch i'w parchusrwydd a'u parhad. Caiff y cinema heddyw ei chefnogaeth gryfaf o'r eglwysi. Ymgais yr eglwysi sydd tuagat hunanfwynhad ac mae hwnnw yn llawnach o'r cnawd nag o'r ysbryd. Gwneir gormod o ddefnydd i hynny, hyd yn oed i'r bregeth ei hun, a throir y gweddill o'r neilltu. Brawddeg ofnadwy oedd honno gan Dr. Selbie yn Leeds eleni, sef It was the first duty of the Church to admit at the present time that it had failed to leaven public opinion and to influence the policy of nations.' Y mae yn gredyd i'r Eglwys ym Mhrydain ei bod o blaid y wlad yn y rhyfel, ond cywilydd iddi yw fod yn rhaid i'r wlad wneud hyn. Yr wythnos o'r blaen cyhoeddwyd dy- wediadau o eiddo y dyn gwladgar a galluog F. M. Sabatier. Meddai y beiriniad hwnnw Y mae y rhan fwyaf o'r bobl yn meddwl am yr Eglwys pan ydys yn son am grefydd. Nid crefyd dydyw yr Eglwys, ond ei ffurf. Y mae gennym ni yn Ffrainc ddiwygiad mawr ond pan ddaeth y diwygiad i'r wlad, ni wyddai yr Eglwys am dano Etc nid ydyw 'nawr yn credu ynddo.' Nid ymadroddion i'w bychanu ydyw y rhai hyn, ac nis gellir eu hanwybyddu a twt.' Daw Beelzebub o hyd yn gyfleus i esbonio diwygiadau na bont yn union- gyrchol ac yn amlwg yn a thrwy eglwys-