Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. I Mae'r papurau Toriaidd er's tro yn galw yn groch am atal cyllogau yr Aelodau Seneddol. Bellach dyma hen Ryddfiydwr fel Syr Henry Lucy yn uno yn y chorus. Cyfeiria at y ffaith fod Pitt ddiwedd y i8fed ganrif wedi dychwelyd y bumed ran o'i gyflog yn ystod y rhyfel a Ffrainc, a'r brenin y drydedd ran o'i gyflog yntau. Ie, ond y pwnc ydyw pa faint oedd yn weddill ganddynt ? Mae ambell i Aelod Seneddol yn ddyn tlawd, ond y mwyafrif mawr (a'r Toriaid yn enwedig) yn ddyn- ion cyfoethog. Os yw y boneddigion hyn yn teimlo euogrwydd cydwybod ar y pwnc, hawdd yw iddynt anfon eu ceiniogau yn ol. Y gwir yw, mai amcan pennaf y cynil- wyr hyn yw cadw y Senedd yn nwylaw pobl ariannog--yn close carporation-gan ei gwneiid yn amhosibl i ddyn cyffredin ennill sedd o gwbl. Os awydd cynilo sydd ar y gwladgarwyr annwyl hyn, paham na anfonant awgrym at Arglwydd George Hamilton a Henry Chaplin a'r Arglwydd Balfour o Burleigh a thlodion cv ffelyb sydd yn parhau i dYllnn pensions mor sylweddol o goffrau'r wlad er's blyiwddau lawer. Gadewch iddynt ddechreu yn Jerusalem --dechreu gartref. ^Teddylier am yr hen Arglwydd Cross yn dadleu tlodi (oblegid y mae pob pensioner yn gorfod dad leu. ei dlodi) er mwyn cael pen- sion, ac yna vn iiiarw-NTr hen bechadur gwanctis !—yn werth can mil. Ac yr oedd wedi tynnu allan hanner can mil mewn Pension Toriaid bob un yw y rhai hyn ac os yw y Toriaid am gynilo, gadewch iddynt ddechreu gyda'r pensions cywil- vddus delir i George Hamilton a'r cyffelyb. Yr oedd Esgob Tyddewi yn hoff iawn o ddannod y pedwar cant yma yn adeg brwydrau Datgysylltiad. Ond peryglus o beth yw lluchio cerryg mewn tv gwyclr. Beth am Dr. John Owen ei hun ? Yr oedd yr Esgob ar y pryd, fel yn bresennol, yn derbyn dros bedair mil-hynny yw, yr oedd yn gostyngedig hawlio ei fod ef yn gyfartal i rhyw un ar ddeg o Aelodau Seneddol-,a chiwrad dos ben Tybed a oes rhywun arall yn credu hynny ? Dadl bennaf Syr Henry Lucy ydyw fod derbyn tal yn lladd annibyniaeth yr Aelodau, ac nad ydynt yn teimlo yn rhydd i fotio yn erbyn y bobl sydd yn gofalu am eu bara a chaws. Pa faint o wir sydd yn y ddadl hon, anodd dweyd. Nis gall fod rhyw lawer iawn. Un peth sydd yn ddiffddadl, sef nas gellir cael cynllun perffaith mewn byd o bobl amherffaith fel hwn. Ar y cyfan, y mae y cynllun presennol yn un cyfiawn, oblegid teilwng i'r gweithiwr ei fwyd ac os rhaid talu y miloedd i vvyr y Front Bench a'r Llefarydd, taler hefyd eu cvflog fechan i'r rank and file. Am y Seneddwr goludog gyda'i gan mil y flwyddyn, digon rhwydcl i hwnnw anfon y cheque yn ol. Cywilyddus ar y llaw arall yw fod cyflog Syr John Simon y Ilynedd, fel Twrne Cyffredinol, yn cyrraedd dros un fil ar hugain o bunnoedd Er mai Radical yw Syr John, scandal yw peth fel hyn. Newidier y system-honno sy'n gyfrifol. Erbyn hyn y mae y Parch. R. J. Camp- bell wedi croesi'r terfyn i fynwes yr Hen Fam. Aeth i gael Cymun dydd Gwener gan yr Esgob Gore o Rydychen. Ca ei ordeinio maes o law gan Dr. Russell Wake- field o Birmingham. Y cassrliad yw nad oedd yn ordeiniedig o'r blaen Rhaid cael bysedd esgob i gwblhau'r job. Ymhen deg mlynedd eto, mwy neu lai, synnwn i ddim pe bai yn camu drosodd i Rufain. Apel- iodd at y Pab i roddi stop ar y rhyfel. Apeliodd at y Pab yn adeg dadl Home Rule, gan ei gydnabod fel arweinydd y byd Cristionogol Gwelir felly nad oedd llawer o'r stwff Piwritanaidd yn ei gyfan- soddiad. Yr wyf yn proffwydo na chlywir fawr son am dano wedi iddo groesi'r llinell derfyn, er fod y papurau yn gwneud cryn fuss am ei fynediad drosodd, I'm tyb i, nid yw'r golled yn un fawr. Os daw Jowett yn ei le bydd yn ennill mawr, nid colled. Nid yw pawb ohonom yr un farn ar y mater. Gwelaf fod fy hen gyf- aill, Gol. Celt Llundain, yn galw ymadaw- iad Mr. Campbell yn ergyd llethol.' Wel, ymhob pen y mae piniwn.' Bydd yn chwith gan lawer o ddarllen- wyr y TvsT glywed am farwolaeth y Parch. Owen Thomas o Dalston. Adnewyddodd ei adnabyddiaeth a Chymru vn ddiweddar fel cennad swyddogol Cymdeit-has Gen- hadol Llundain, ac yroedd yn dderbyuiol iawn ymhob man. Nid yn unig am ei fod yn fab i'w enwog dad, Dr. John Thomas, Lerpwl, ond hefycl ar ei deilyngdod ei hun. Yr oedd yn fwy o fab tangnefedd na'i dad, ac ni chymerai ran flaenllaw fel efe ym mywyd cyhoeddus ei Enwad. Nid oedd ychwaith yn gymaint ei ddawn preg- ethwrol, and yr oedd pawb yn ffrind i Owen Thomas, a bydd yn chwith heb ei gwmni diddan a diwenwyn yn y cylchoedd Cymreig yn y ddinas fawr hon. Y mae gennym fel gweinidogion Annibynnol Cym- reig yn Llundain glwb bychan yn ein plith ein hunain wedi ei enwi ar ol yr enwog a'r athrylithgar Caleb Morris. Byddwn rhyw uilwaith yn v mis yn ewrdd i "fed te a dal pen rheswm,' ac awr felys odiaeth yw yr awr honno. Owen Thomas oedd ein hysgrifennydd. Yn ddiweddar dyma ni wedi colli o'n c y 1 c h bychan Thomas Nicholson a Machreth, ac yn olaf oil Owen Thomas. Y tri wedi meirw nid o henaint ddim, ond wedi noswylio yn gymharol gynnar. Y mae yma hiraeth mawr ar eu hoi, ac nid y lleiaf yw ein hiraeth ar ol yr addfwyn Owen Thomas. Bydd ei goffad- wriaeth yn annwyl gan bawb ohonom am amser hir. Siomedigaeth fawr i mi oedd fy mod yn methu bod yn yr angladd ym mynwent enwog Abney Park lie y daear- wyd ei weddillion, a lie y mae llwch cynifer o anfarwolion yn gorffwys. Bu yn hir ar lan yr afon. Bellach y mae wedi glanio vn iach ar v lan biydferth draw.' Gwyn ei fvd ei fyd # Anturiais broffwvdo ychydig wythnosau yn ol mai Dr. Jowett gawsai ei alw i'r City Temple fel olynydd i'r Parch. R. J. Campbell, yr hwn sydd bellach wedi croesi y bont i'r Eglwys Wladol. Y noson cyn croesi pregethodd yng nghapel Dr. J. D. Jones yn Bournemouth. Drannoeth croes- wyd y bont. Swn odd iawn yw sydd mewn son am ordeinio ein brawd unwaith eto. Ai nid oedd wedi ei ordeinio o'r blaen ? Tipyn o ddiraddiad yw galw am ail- ordeinio gweinidog profedig sydd wedi bod ar uchel-fannau'r maes am dros ugain mlynedd. Bellach, nid a gorffennol y City Temple Y mae a fynnom, ond a'r dyfodol ac yr ydym yn llwyr gredu y bydd gogon- iant y deml hon yn fwy ardderchog nag erioed os ceir gwr cadarn fel Jowett i arwain. Mae'r alwad wedi ei hanfon dros y don, neu oleiaf o dan y don mewn cable, yr wythnos hon. Y Sul olaf cyn myned drosodd i'r America bedair btynedd yn ol, treuliodd Dr. Jowett Saboth tawel fel gwrandawr gyda ni yn Woodford ac wrth ffarwelio y nos Sul hwnnw, dywedais wrtho 'Good- bye am dair neu, efallai, bum mlynedd.' Gwenodd ar y pryd, a gofynnodd paham yr oeddwn yn ffarwelio felly. Atebais nad oedd yn ol tragwyddol briodoldeb pethau iddo ef fyned am ei oes i America. Yr oedd pawb yn teimlo yr un fath. Yn ei gynnlleiclfa draw yn Fifth Avenue y mae rhai elfennau Germanaidd i'w cael a phur gyfyng yw sefyllfa pethau pan y mae dyn gonest yn tywallt ei enaid allan mewn lie felly ar fater y rhyfel alaethus hwn. Ar hyn o bryd, am fyrdd o resymau, y mae angen Jowett arnom yn y Brif-

0 FRYN IFRYN.