Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

HENRIETTA, ABERTAWE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HENRIETTA, ABERTAWE. Cyfarfod hwylus, ac un a gofir am daiio yn hir, oedd cwrdd sefydlu y Parch D. Eurof Walters, M.A., B.D., gynhaliwyd nos Iau, Hydref 7fed. Daeth torf liosog ynghyd o bob parth o'r dref a'r cylchoedd, ac yn arbennig o Gwmtawe, lie yr oedd Mr Walters yn adnabyddus o'i faban- dod. Cafodd pawb lawn dal am yr ymdrech, oherwydd fod pob un gymerodd ran yn siarad i bwrpas. Gwelwyd yn bresennol y Parchn D. Ffrwdwen Lewis, Felindre J. H. Hughes, Soar, Abertawe E. J. Edwards, Cwmbwrla; Jacob Jones, Mer- thyr John Matthews, Fabian's Bay D. Picton Jones, Llansamlet; James Davies, B.A., Mynydd- bach M. G. Dawkins, Treforris W. Evans, Madagascar Penar Griffiths, Pentre Estyll D. Eiddig Jones, Clydach; T. E. Davies (M.C), Cruglas (Ysgrifennydd Eglwysi Rhyddion Cym- reig Abertawe) J. T. Rhys, Rhyddings Cynon Lewis, Fleet-street D. W. Waters (B), Aber- tawe D. Morgan, Killay Jenkin Jones, Gen- dros D. Rees, Scety W. Salmon, Treforris Ellis Parry, Godre'rgraig T. Elynfi Davies, M.A., Abertawe T. Sinclair Evans, St. Helens W. Davies, Llandeilo W. James, Ebenezer; yr hen dad Charles Davies; Mri J. Williams, Waun- wen W. Williams, Y.H., Wern D. Lloyd (Cad- eirydd Cyfundeb Gorllewin Morgannwg) John Rowlands, Treforris Timothy Jones, cyfreith- iwr Thomas Jones, Y.H. W. H. Jones (ysgrif- ennydd Capel Gomer) Cynghorwr John Lewis Cynghor Evan Jones, Siloh, Glandwr T. F. Jones a R. T. Williams, Pentre Estyll Richard Walters, Alltwen W. J. Higgs, llyfrwerthwr Cook Davies a W. D. Francis, Cwmbwrla W. Morgan a Davies (gorsaf-feistr), Crynant, &c. Derbyniwyd nifer fawr o lythyrau, a darllen- un oddiwrth Ysgrifennydd y FeibI Gymdeithas, ac un arall oddiwrth ysgrifennydd eglwys Market Square, Merthyr-y ddau yn dangos y parch oedd ganddynt i Mr Walters, ac yn datgan eu gofid na fuasai y cysylltiadau yn parhau yn hirach, ac yn dymuno yn dda iddo yn y maes newydd. Yr oedd pawb yn falch o ymweliad annisgwyl- iadwy y Parch Jacob Jones, Merthyr, ac o'i glywed yn cymeryd y rhan rhagarweiniol darllen a gweddio mor effeithiol a dymunol. Cododd y cyfarfod i safon uchel ar y cychwyn- iad, a thrwy ras cadwyd ef i fyny hyd y diwedd. Cyn galw ar y gwahanol siaradwyr, cyfeiriodd y cadeirydd, y Parch E. Jenkins, at y diweddar barchus weinidog, W. Gibbon, yr hwn lafuriodd yn galed a'i holl egni yn Henrietta. Fe gadwodd i fyny urddas y weinidogaeth. Bu fyw bywyd a ddaliai ei chwilio. Yr oedd ganddo bleser mawr i groesawu y Parch D. Eurof Walters fel ei olyn- ydd. Yr oedd croesaw iddo fel gweinidog i blith gweinidogion Abertawe. Fyddai gweinidogion r Abertawe byth yn methu cyd-dynnu. Yr oedd naws grefyddol o amgylch Mr Walters, a phawb yn rhwym o deimlo hynny yn ei bresenoldeb. Proffwydai lwyddiant neilltuol yn Henrietta heb ysbeilio yr un dafad o Ebenezer na'r Scety. Yr oedd digon o Gymry ar wasgar yn y dref, a chredai y byddai gweinidogaeth Mr Walters yn atyniad iddynt. Yna galwodd ar Mr Benjamin Evans, swyddog hynaf Henrietta, i siarad dros yr eglwys. Er i Mr Evans dweyd wrth godi nad oedd wedi ei freintio a doniau siarad, nid oedd neb yn ei gredu pan eisteddodd. Ni chafwyd gwell anerchiad mewn amser byr. Wedi rhagymadroddi ychydig, dywedodd mai uchafbwynt ei anerchiad oedd ei falchter eu bod wedi sicrhau Mr Walters yn weinidog. Pwysleisiodd yr unfrydedd a'r brwd- frydedd oedd wedi bod yn yr eglwys drosto. Ni chafodd yr eglwys drafferth yn ei dewisiad, nac helbul eglwys Corinth, oblegid dim ond un oedd ar feddwl pawb—chododd neb arall i'r golwg. Yr oedd yn canmol gwelediad eglwys Henrietta yn gweled gwerth un o'u haelodau eu hunain. (Bu Mr a Mrs Walters am dros bum mlynedd yn aclodaÜ o'r eglwys.) Cafwyd mantais i adnabod Mr Walters fel aelod, fel pregethwr, ac fel arweinydd. Yr oedd adnabyddiaeth yr eglw),s,? ohono wedi ei gwneud yn hawdd iddynt ym-I drechu ymdrech deg i'w sicrhau. Soniodd Mr. Evans am y cyfarfod eglwysig ymha un y pen- derfynwyd yn ffurfiol i ddanofn galwad i Mr. Walters—cyfarfod eglwysig ar ol y Society. Aeth y Society yn uchel, ond fe aeth y cyfarfod eglwysig yn uwch fych. Nid yn anil y byddai hyn yn digwydd. Yr oedd pawb yn un a chytun, heb neb yn tynnu'n groes. Galwyd yn nesaf ar Mr Daniel Lloyd (Cad- eirydd Cyfundeb Gorllewinol Morgannwg), yr hwn a longyfarchodd Mr a Mrs Walters ar eu gwaith yn cymeryd at yr eglwys, a'r eglwys ,I ei dewisiad o weinidog. Yr oedd Mr AValters yn gymeriad glan a disglair, yn bregethwr cryf a goleuedig, ac yn ysgolhaig o'r radd flaenaf. Yr oedd yn gobeithio y caffai Mr Walters ffydd fawr ym mhosibiliadau y bobl ieuainc—y rhai sydd yn meddwl—y rhai fyddai yn gofgolofnau yn y dyfodol. Gobeithiai hefyd y caffai nerth i fod yn gryf ar faterion moesol yn y rdef yr oeddem fel eglwysi wedi colli llawer wrth fed yn wan. Siaradodd y Parch W. James, Ebenezer, ar Yr EgIwys a'r Weinidogaeth.' .Wedi llongyfarch yr eglwys a'r gweinidog, aeth ymlaen i ddangos v ffordd oreu i'r eglwys gael allan oreu y weinid- ogaeth. (r) Trwy fod yn effro i ochr ddwyfol y weinidogaeth. Edrych ar y gweinidog fel cyf- rwng i Dduw ddweyd Ei feddwl. Yr oedd dis- gwyliadau dwyfol yr eglwys yn y weinidogaeth yn rhy fach. 'Does neb all lanw lie Duw yn y pulpud. mae Duw yn creu wrth siarad. Os ydym am well a ac achub, rhaid disgwyl wrth Dduw. (2) Trwy gydweithio gyda'r gweinidog. Cynorth- wyo'r gweinidog i gael dynion i'r capel. Yr oedd llanw'r pulpud yn waith mawr, ond yr oedd llanw'r capel yn fwy. Porthi'r wyn oedd gwaith mwyaf y gweinidog, a dylai'r eglwys geisio casglu y defaid—ceisio dod o hyd i'r rhai sydd tuallan i'n heglwysi-ceisio dod o hycl. i'r rhai digrefydd. (3) Trwy galonogi'r weinidogaeth. Mae gweinid- ogion yn sensitive iawn. Hawdd eullonni, hawdd eu digalonin. Drwy ffyddlondeb i'r cyfarfodydd a phrydlondeb yn y cyfarfodydd. Mae colli y rhan gyntaf o'r gwasanaeth yn anghymwyso dyn i fwynhau y rhan arall. Drwy wrandaw yn serchog. Ni fedr y pregethwr wneud ei ran os na cha wrandawiad serchog. Credai Mr James y dylasid gosod y gwrandawyr goreu yn y ffrynt iddynt gael bod yn ysbrydiaeth i'r pulpud. Wedyn cafwyd anerchiad nerthol gan y Parch W. Davies, Llandeilo. Siaradodd yn barchus iawn am Mr a Mrs Walters. 'Doedd neb a.syuiad uwch am Mr Walters nag ef. Yr oedd yn hyf- rydwch mawr i gael ei adnabod ef a'r teulu. Yr oedd ganddo syniad uchel am ei gymeriad, ei ddoethineb, ei addysg a'i allu. Y Weinidog- aeth yn ei hwyneb at yr Eglwys' oeddei destyn. A:mcan y weinidogaeth yd.yw :-(1) Cysuro medd- yliau'r saint. Yr oedd llawer o feddyliau elw),f- edig plant treialon a gofidiau oeddem. Mae eisiau cysuro ein cYllulleidfaoedd, yn arbeimig yn y dyddiau hyn. Yr oedd eisiau calon dded- Avvdd—calon all orfoleddu mewn gorthiyniderau. Yr oedd eisiau gweinidog cariadlawn, o feddwl goleu a phen doeth i deall anghenion yr EJglwys ac i daflu goleu i'r Eglwys. Yr oedd eisiau gwein- idog mewn cynghanedd a Duw er codi'r bobl i gyduallyddiaetli a diogelwch Duw. Vr oeddeisiau pwysleisio'r ffaith fod Duw yn anfeidrol fwy na'n deall, ac egluro i'r byd, er ein bod ynghanol cynnydd gwybodaeth, fod Duw tuhwnt i'r cwbl. Mewn ychydig eiriau siaradodd Mr Walters yn bwrpasol cyn terfynu. Diolchodd i'r eglwysi oedd yn cael eu cynrychioli yno, ac i'r rhai oedd wedi cymeryd rhan am eu dymutiiadau da, Yr oedd yn falch i weld fod y Parch Jacob Jones wedi dod o Ferthyr, er yn fliu ei fod wedi gorfod dychwelyd cyn terfyn y gwasanaeth. Yr oedd symudiadau pwysig wedi bod yn ei hanes. O'r Coleg i Lanymddyfri, o Lanymddyfri i Market Square, Merthyr, ac oddiyno at awdurdodau y Feibl Gymdeithas ond y symudiad pellaf yn ei hanes oedd o'r sedd bellaf wrth y drws (sedd y teulu yn Henrietta) i'r pulpud. Nid oedd yn disgwyl gwneud gwyrthiau, ond yr oedd 3-11 credu yn yr Efengyl. Yr oedd yn gwybod ei derfynau, ond yr oedd yn mynd i wneud ei oreu —i bregethu, i gysuro, i diddanu ac i arwain. Cafwyd un o'r cyfarfodydd sefydlu goreu y bum yiiddo erioed Mae eisiau mwy o'i debyg —llai o lol a mwy o sylwedd. 1). H. M.

Advertising

Llanbedr Felffrey, Sir Benfro.

[No title]