Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PWYLLGOR Y GRONFA. "lYNHEUR y PwyUgor nesaf dydd Mawrth, \? Tachwedd 2il, yn Llandrmdod am 2.30. Anfoner pob cais neu ohebiaeth i'r Ysgrifen- yddion crbyn Hydref y 26ain v fan bellaf. 0. L. ROBERTS, J y5,°n' H. M. HUGHES, ) "°" PENIEL, TREDOMOS. QYNHELiU oyiaifuuyda i ago; x s^oldy yr egiwye rchod ar ddyddiau Sadwrn, Saboth a LIUL, Hydref 30iin, Slain, a Tfaaohwedi laf, Gymer yr agoriad ffutfiol le am 3 prydnawn dydd Sadwrn, paa y cymerir rhan gan amryw weinidogiou a lleygwyr y Cyfundeb. Gwahoddir yu gynnes bawb a all i fod yn bresennol. W. WILLIAMS, Ysg. yr Eglwys. BE:-T EVANS, Ysg. y Cyfundeb. Newid Cyfeiriad. Y PARCH D. EUROF WALTERS JL 14, Cwmdonkin-terrace, Swansea.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.—Cyfarfodydd Chwarterol Cyf- undeb Gogledd Morgannwg, Cyfundeb Cymreig Peafro, a Chyfundeb Mon—-Tabernac'l, Ynys- ybwl-Pisgah, Atfon--Tredomos--I¡landeilo a'r Cylch-Moriah, Bedlinog-Tabor, Maesycwmwr -Capel y Pare, Llanelli—Casnewydd—Saron, Birchgrove—Scranton, Pa.—Gogledd Gwyr— Rhydybont—Peniel, Penrhos--Cymauf a Lerpwl --V Drysorfa Gynorthwyol- -Rhanbatth Pen- ybont—Nazareth, Pontlotyn-Cyf atfodydd, &c.
,Y Parch. OWEN THOMAS, M A.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
,Y Parch. OWEN THOMAS, M A. GYDA gofid dwys y derbyniasom y newydd am fanvolaeth ein cyfaill lioff, y Parch. OWEN THOMAS, M.A., Dalston, Uuiidain. Yr oedd yn gystuddiol er's tro, a gwyddem am nodwedd ddifrifol ei iechyd ond pan ddaeth y newydd trist nid oeddym ryw- fodd yn barod ar ei (T fodd yn barod ar ei gyfer, a daeth ton o hiraeth a thristwch drosom wrth syl- weddoli na chaem yrna mwy gwrdd a'n hen ffrind, a mwynhau ei gwmni diddan a gwerthfawr. Un o ragorolion y ddaear oedd OWEN THOMAS mewn mwy nag un ystyr ond o ran swyn a symlrwydd ei bersonoliaeth, a hoffter a serch ei gyfeillgarwch, anodd fuasai cael neb tebyg iddo. Yr oedd ganddo rywbeth a ymylai ar genius i fod yn gyfaill, rhyw ddawn rhyfedd i orfodi pawb ddelai yn agos ato i'w hoffi, ac yr oedd yntau yn drwyadl deyrngarol i'w ffrindiau bob amser. Yr oedd mor ddi- niwed a'r golomen, ac mor siriol a'r gog ar y gainc, a llenwai'r ystafell yng nghyich cyfrin ei gyfeillion a rhyw ysmaldod difyr a'i gwnelai yn anwylyn ganddynt oil. Yr oedd llawer o'r plentyn yn ei ystyr oreu ynddo, a cherid ef yn fawr gan gylch eang. Efe oedd ail fab y diweddar Dr. JOHN THOMAS, Lerpwl, a dyga ei ymadawiad lu o atgofion tyner iawn in meddwl am y tad a'r teulu pan oedd y cylch yn weddol gyfan. Yr oedd wedi ei fagu yn awyr- gylch y Talernacl a Chymry Lerpwl, ac yr oedd ganddo stor o straeon difyr am hen saint a gweinidogion Lerpwl yn y 6o's a'r 70's. Ni bu aelwyd fwy Cymreig erioed na'r Willows, na chronglwyd erioed lIe telid mwy o barch i grefydd a chrefydd- wyr a gweision y GORUCHAF. Nid anghof- iwn byth y cwmni gasglai yn study'r DOCTOR yn y Willows pan oeddym yn weinidog ieuanc yn Grove Street—dynion fel Dr. OWEN THOMAS, WILLIAM THOMAS (brodyr Dr. THOMAS), WILLIAM ROBERTS, North End, HUGH JONES, Birkenhead, a JENKINS, Park Road, ac weithiau frodyr o Gymru fel MILES, Aberystwyth, C. R. JONES, Llanfyliin, MACHRETII, a HERBER fawr, yn taro i mewn ar dro i drafod byd ac Eglwys. Yr oedd wit, arabedd, dwys- ter, craffter, dyfnder a disgleirdeb meddwl a chalon ac ysbryd yn llenwi'r lie, a bu i ni yn rhan werthfawr o'n tipyn diwyll- iant, ac yn elfen gref yn ffurfiad a cliyf- eiriad ein bywyd. Clywsom Dr. THOMAS un tro yn treulio awr gyfan i ddisgrifio ei daith ef a THOMAS JONES, Treforris (Aber- tawe wedyn), trwy'r Gogledd i bregethu ganol y ganrif ddiweddaf, a disgynnai'r ymadroddion yn ffrydlif o faeth a nerth a goleuni i'n meddwl a'n calon, ac erys yr argraff tra byddom byw. Efengyl CRIST yn Gymraeg, a'i helyntion a'i hapostolion yng Nghymru, ei hanawsterau a'i hyfryd- wch yng nghapeli a phulpudau Gwalia- dyna stock ddihysbydd ymgom y Willows, ae un ardderchog oedd. Wrth gwrs, yr oedd eglwysi Lerpwl yn rhan hanfodol o Gymru yn y gymdeithas felys hon. Ynghanol dylanwadau uchel Cymreig fel hyn y magwyd OWEN THOMAS, a Chymro oedd yntau o'i goryn i'w sawdl, ac nid ydym eto wedi ein hargyhoeddi nad hefo'r Cymry y dylasai dreulio ei oes fel gwein- idog. Yr oedd yn debyg iawn i'w dad mewn dull a gwedd, a thuag 20 mlynedd yn ol llefarai gyda llais ac arddull tebyg iawn i'w dad. Y pryd hwnnw yr oedd aliaeth pregetliu yn ei Iwyr feddiannu, a phe buasai wedi troi at y Cymry yr adeg honno credwn y cyrhaeddasai le uehel ym mhulpud ei wlad. Cymro wedi methu cyf- lawn droi yn Sais oedd OWEN THOMAS. Nid yw hyn yn golygu na allai bregethu yn feistrolgar yn Saesneg, ond y Gymraeg oedd gwir offeryn ei anianawd. Yr oedd JOSIAH ei frawd yn meddu ar lwyrach ineistrolaeth o holl gyfrinion siarad cy- hoeddus nag ef, ond buasai OwEN wedi cael gwell scope i'w ddawn pe wedi aros gyda'r Cymry. Ond gyda'r Saeson yn Nhreffynnon y dechreuodd ei yrfa, ac aeth oddiyno am dymor byr i Poole, ae yn Dalston—lie anodd a chaled iawn-y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes weinidog- aethol. Mab ei fam oedd OWEN, tra mai mab ei dad oedd JOSIAH. lylariaidd, pwyllog, mwyn a chall oedd y fam, ac un felly oedd OWEN gwrol, cryf, eyflym, ac eto hynaws a thyner i'r eithaf, oedd y tad, a dyna JOSIAH i'r dim. Magwyd y ddau yn yr un awyrgylch a than yr un dylanwadau, ond anianawd hollol wahanol oedd iddynt yn liattiriol, ac yr oedd yr un dylanwadau felly yn gweithio yn wahanol yn y ddau. Ond yr oeddynt yn hollol gyffelyb mewn un peth, sef hoffter angherddol o bregethu a phregethwyr Cymru, ac ymlyniad di- wyro wrth draddodiadau goreu Ymneill- tuaeth. Yr oeddynt hefyd wedi etifeddu i raddau mawr ddawn llenyddol eu tad. Gallai OWEN THOMAS ysgrifennu Cymraeg a Saesneg. rhagorol, ac mae llawer o'i waith yn y Cofiant godidog gyhoeddodd ef a'i gyfaill MACHRETH i'w dad, Dr. JOHN THOMAS. Cyda Haw, mae yn amheus gennym a oes llawer rhagorach cofiant yn y Gymraeg na hwn, a byddai ei ddarllen yn wledd ac yn nerth i'n gweinidogion a'n swyddogion ieuainc yn y dyddiau hyn. Gresyn na fai modd cael argraffiad rhad ohono. Yr oedd cryn fedr hefyd yn ein cyfaill fel areithiwr ar Iwyfan, a chafodd ei gyfle droion yn y Gogledd ar lwyfan gwleidiad- aeth a dirwest. Siaradodd lawer hefyd dros y Gymdeithas Feiblaidd, a bu am ryw 2 flynedd yn gynrychiolydd Cymru yn y Ty Cenhadol. Efe hefyd oedd ysgrif- ennydd y Congregational Fund Board, i'r hwn y mae ein Colegau Enwadol Cymreig mor ddyledus am gymorth cyson gwerth- fawr iawn. Cafodd ein brawd ei ran o helyntion a stormydd y daith, ond ni laesodd ddwylo na chalon, a chadwodd fow ei long yn ddifeth i gyfeiriad dyledswydd a Duw. Bu farw ar y Sul, y iofed cyfisol, a chladd- wyd ef yn Abney Park, IJundain ond ni bu farw OWEN THOMAS yng nghof a serch ei lu cyfeillion, ac ni chleddir ef byth ym mro angof ganddynt hwy. Nawdd y Nef fo dros ei weddw a'i ferched hoff, a thros ei ddwy chwaer, Mrs. OWEN a Miss THOMAS, yr unig rai sy'n aros o deulu siriol yr hybarch Dr. THOMAS.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dnian o'r Cerddor eto. DElL y Cerddor druan i wingo oherwydd y fflan- gelliad gafodd gennym am sarnu ohono goffad- wriaeth John Ambrose Lloyd. Ei gri amddiffynnol o hyd yw ei fod wedi gwneud sylw a chyfeiriad o'r canmlwyddiant yn rhifyn Mehefin. Do siwr, gwnaeth hynny mewn nodiad tebyg i footnote o 8 llinell, heb bennawd iddo, na chyfeiriad ato yn y cynhwysiad. Os y teimla'r Cerddor fod hyn yn ddigon i gyfarfod a'r dathliad-yn enwedig gyda'r advertisement o'i weithiau ar y clawr-ac nad oedd Ambrose Lloyd yn teilyngu dim mwy o le na sylw na chyfeiriad yn yr unig gylchgrawn cerdd- orol gyhoeddir yn Gymraeg na hyn, paham na eddyf hynny yn wrol a phlaen, yn lie conach a grwgnach am ein bod ni yn dal ei drwyn ar y maen ? O'r ochr arall, os nad oedd hyn yn ddigon ar y fath achlysur, paham nad eglura sut y bu i'r fath amryf- usedd cadarn ei ddal ? Nid yw yn addef nac yn egluro, ac felly daliwn fod gennym berffaith hawl i roi'r esboniad tecaf ar y diffyg cywilyddus a rhoisom hwnnw trwy ei briodoli i gulni a rhagfarn gwarthus. Pan ymostynga y Cerddor i roi eglurhad arall 0 ryw fath, bydd yn dda gennym ei ystyried. Hyd hynny daliwn ef yn y pillory, ysgrechied ef faint a fynno. Y Cronicl Cenhadol.' RHIFYN gwych iawn yw un Hydref, a da gennym ddeall fod y cylchrediad yn cynhyddu. Yr ydym wedi dywedyd iwy nag unwaith nad oes rhagorach ceiniogwerth i'w chael mewn llenyddiaeth fisol na'r Cronicl. Brychein- iog a'r Genhadaeth gan y Parch. T. Gwynn Thomas, Aberhonddu, a Chanmlwyddiant John Williams gan Robert Griffith yw'r ddwy ysgrif Gymraeg geir ynddo, ac maent yn ddiddorol a blasus dros ben. Crybwyllion. —DRWG oedd gennym glywed am y ddamwain ddifrifol oddiwe d d o d d Mr. W. j. rarry, L-oetmor, trwy gael ei dafiu o'i gerbyd a thorri ei glun. Ond hyfrydwch i'w liaws cyfeillion fydd clywed ei fod yn gwella yn rhagorol. Adferiad buan a llwyr yw ein dymnniad- diffuant iddo.