Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

j MOUNTAIN ASH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

j MOUNTAIN ASH. CYFARIIODYDDSElfYDLU Ar ol 12 mlynedd o weinidogaeth lwyddiannus yng Nglandwr, Ffynnon Taf, derbyniodd y Parch D. Stanley Morgan alwad i'r ddwy eglwys Seisnig yn y lie uchod, a chynhaliwyd ei gyfar- fodydd sefydlu y Sul a'r Llun, Medi 26ain a'r 27ain Gwasanaethwyd y Saboth gan y Parch D. Eurof Walters, M.A., B D ac am 2.3oddydd Llun daeth cynhulliad da ynghyd i groesawu'r gweinidog i'w faes newydd. Dymunol oedd gweled cynrychiolaeth mor gref o'i hen eglwys yng Nglandwr, oblegid profai fod Mr Morgan yn ddwfn yn eu serch wrth ymadael & hwy. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch Pryce Evans, B.A., Caerffili, a llywydd- wyd yn fedrus gan y Parch D. G. Rees, Eglwys- newydd. Cafwyd anerchiadau byrion llawn croesawgan rai o swyddogion y ddwy eglwys :-Mri T. Williams, H. Heath, P. Close, H. Evans, J. Powell; a chan ddau o swyddogion Glandwr— Mri Jacob Davies ac Isaac Thomas. Heblaw y ddau ddiweddaf, cafwyd anerebiad pwrpasol gan Dr Thomas, y meddyg poblogaidd yn Ffynnon Taf. Yna galwyd ar y Parchn Tawelfryn Thomas, Groes Wen; Burgess a J. Phillips, Mountain Ash; Rowland Hughes, B.D., Tylorstown; Morgan Jenkins, Abercynon; R. G. Berry, Gwaelodygarth; Joseph James, B.A., Llan- dysilio; a J. Morris, Caerdydd. Dygid tystiolaeth uchel gan y siaradwyr i Mr Morgan fel cyfaill a phregethwr, ac yn sicr nid yn ami y ceir brawd mor hoff ymysg y brodyr, a thystir gan bulpudau'r sir ei fod yn gennad da a derbyniol yn yr eglwysi. Nodwedd amlwg arall yn yr anerchiadau oedd y parch a delid i Mrs Stanley Morgan gan bawb a'i hadwaenai. Gwnaeth ei lie yn ddwfn yn serch eglwys Glandwr, a r cylch, ac yn ddiameu fe enilla'r un lie iddi ei hun ym Mountain Ash. Yr oedd cyfeillion ac ewyllyswyr da eraill yn y cyfarfod y bwriedid cael gair ganddynt pe buasai amser yn caniatau, sef y Parchn Evans, Pontypridd; Jones, Efailisaf; Thomas, Llan- trisant; Penry Thomas, Ebbw Vale; Derfel Roberts, Hirwaun; Davies, Soar; Davies, Pen- rhiwceibr; Eurof Walters, M.A,, B.D.; Albert Morgan, Arfon; ac Anthony, Abercwmboi. Anfonodd amryw weinidogion a lleygwyr air i ddymufio'n dda i'r gweinidog yn ei gylch newydd Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parchn Joseph James, B.A., LlandysiJio, a Jonathan Evans, Penarth. Bendith y Pen Bugail ar yr undeb. ,+- CYIIAILI1. ——.

Advertising

Marwolaeth a Chladdedigaeth…

[No title]