Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

I SALEM, HEOLGERRYG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SALEM, HEOLGERRYG. Yn nechreu'r haf eleni ymgymerwyd a'r gorchwyl o adnewyddu tufewn i'r capel uchod. Dydd S118 Llun, Medi 26ain a'r 27ain, cynhal- iodd yr eglwys ei chyfarfodydd agoriadol. Gwasanaethwyd gan y Parch Samuel Roberts, Llanbrynmair, a'r Parch Gwilym Rees, B.A., Merthyr. Yr oedd y cenhadon ar eu goreu. Cafwyd cyrddau gwlithog, cynulliadau mawr- ion, a gwenau'r net yn helaeth. Amlygwyd yr adeg hon ymhellach fod yn yr eglwys weithgar yma bobl dduwiol eu hanian ac haelionus eu hysbryd. Ni cha un rhwystr eu lluddias rhag prydferthu teml yr Arglwydd a hyrwyddo'r achos dyrchafol. Rhoddodd un aelod buJpud newydd. Cyflwynodd un arall ddodrefn cymwys ar gyfer y pulpud a'r sedd fawr. Anrhegwyd ni gan aelod arall a. ffenestr liwiedig hardd. Breintiwyd ni gan aelod eto a Llestri Cymundeb Unigol. Llawen gennym weled fod crefydd yr Arglwydd lesu wedi ei hymgnawdoli gymaint ym mywydau'r aelodau nes eu symbylu i gyflwyno yn helaeth o'u trysorau i harddu cysegr y Goruchaf. Yn ystod y cyrddau agoriadol caed arwydd- ion amlwg fod gan y ddiadell hon yng nghesail y mynydd galon i weithio. Rhydd Duw i bob blodeuyn ei arogl ei hun, a rhydd i bob dyn ei ddawn a'i gyfle ei hun. Erbyn hyn mae amryw o olwynion yr eglwys hon wedi eu gosod ar waith. Mae yma Gym- deithas Lenyddol gref a llewyrchus. Agorwyd y tymor cos Wener cyn y diweddaf gan y bardd cadeiriol Sarnicol. Traddododd anerchiad rhagorol ar 'Y Cymro yn y Cywair Lion.' Daeth torf ynghyd, a dechreuwyd y tymhor mewn cywair dymunol. Yma hefyd y cyferfydd adran o Gymdeithas Merched y De, a gwnant waith canmoladwy o blaid dirwest a daioni. Telir sylw neilltuol i'r plant. Trefnir gwas- anaeth bore Sul yn arbennig ar eu cyfer. Daw lliaws ohonynt i fyny i'r Gobeithlu i ddysgu ymwrthod a. gelyn creulon y rhyw ddynol, a chryfhau eu camrau yn llwybrau sobrwydd a rhinwedd. Anrhegir hwynt tua'r Nadolig yn flynyddol a Pbren Nadolig gan chwaer ffyddlon. Ar ddiwedd y tymor rhydd aelod arall iddynt wledd flasus. Gwisga'r achos wledd lewyrchus o dan wein- idogaeth y Parch George Evans, B A Parhaed bendith gyfoethog y net i goroni ymdrechion ei phlant ar lethrau'r mynydd hwn a phob mynydd a dyfiryn drwy'r hollfyd.

Advertising

* ? Y WERS SABOTHOL ? /,