Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

BETHANIA, MERTHYR VALE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BETHANIA, MERTHYR VALE. CYFARFOD SEFYDLU. I Dydd lau, Medi 30ain, cynhaliwyd eyfarfod- ydd sefydlu y Parch J. T. Rogers, gynt o Bentrechwyth (Seisnig), Abertawe, yn weinidog ar yr eglwys uchod. Yr oedd yr hin yn braf, a blaenflas y gaeaf ar fin yr awel, a daeth lliaws o gyfeillion yr eglwys a'r gweinidognewydd i'r odfeuon. Nid yn ami y ceir cyfarfod o fath hwn yn Neheudir Cymru heddyw. Cwynir yn rhy ami fod swyn yr iaith ac eglwysi Seisnig yn denu ein gweiuidogiou ieuainc oddiwrth hen iaith eu taam. Felly amheuthun yw cael ambell un yn ddigon gwrol i adael y Saeson ac aros yng Nghymru mewn eglwys Gymraeg. Dymunwn longyfarch ein brawd ar ei ddewis- iad, Yn sicr, ni rydd Lloegr well, os cystal cyfle i weinidogion gweithgar ac ymroddedig ag a rydd Cymru iddynt. Gyda ehynnydd poblogaeth ei hardaloedd gweithfaol, cwblhad manteision addysg elfanol, cano], ac uwch- raddol, ynghyda'r problemau cymdeithasol sy'n ffynnu a Iledu eu gwraidd yn ddwfn ym mywyd y Dywysogaeth, daw galwad uwch nag erioed ar bulputl Cymru i arwain megis yn y dyddiau gynt. Gweinidogion a Ueygwyr crefyddol a fuont arweinwyr gwerin ein gwlad mewn addysg, rhyddid a moes; ac wele yn agored ger eu bron heddyw ddrysau i gylchoedd o wasanaeth mwy ac eaugach. Un o'r cylchoedd cyuhyddol hyn yw Abertan, Merthyr Vale. Hanner can mlynedd yn ol, nid oedd ond ychydig dai yn y rhau yma o'r dyffryn Saron, Troedyrhiw, oedd man cyfarfod addol- wyr y fro. Cyn hir dechreawyd achos yn Abarfan, ac nid erys ond ychydig o'r sylfaen wyr heddyw. Fffurfiwyd yr eglwys yn 1870, ac adeiladwyd festri yn 1876. Bu yma weinid- ogion gweithgar, ffyddlawn, a phregethwvr poblogaidd o bryd i bryd; yn eu plith y Parch G. Penar Griffiths, Pentre Estyll, o dan weinid- ogaeth yr hwn yr adeiladwyd y capel pres ennol; Parch B. D Davies, Gwaencaegurwen Parch D. Johns, Maesteg a'r Parch E. Aman Jones, B.A., Ceinewydd. Cynhyddodd yr eglwys yn ddirfawr o dan weinidogaeth y brodyr da uchod, nes y mae heddyw yn un o'r eglwysi mwyaf byw a chyfrifol yn y air Nodweddir hi gan ddiaconiaid doeth, unol a theyrngarol, ac hefyd Gymdeithas Ddiwyll- iadol gref a myfyrgar. Y ddeubeth hyn yn ddiau ydynt ernes o ddyfodol gwych a diogel yn ei hanes. Maes dymunol yw hwn i weinidog o aliuoedd arbennig a theithi meldwl Cymreig fel Mr Rogers. Ordeiniwyd ef chwe biynedd yn ol ym Mhentrechwyth o Goleg Caerfyrddin, a gwnaeth waith da a sylweddol yno ymhlith y SaesoD, a diau y prawf y proliad gafodd yno o'r I iaitli fain' yu fantais a gwerth digymysg iddo yn ei gylch newydd. Gadawodd yno gof- golofa ar ei 01 mewa capel eang a hardd. Brawd annwyl a ehyfaill diweniaeth a charedig yw efe, yn bregethwr da, a pharha yn fyfyriwr ymroddgar a thrwyadl. Yn sicr ca yma faes wrth fodd ei galon, a mawr hyderwn mai hir yr erys yn ein piith. Gwahoddwyd i bregethu ar yr achlysur y Parchn W. Davies, Liandeilo (o dan weinidog- aeth yr hwn y dechreuodd Mr Rogers bregethu), ac E. Aman Jones, B.A., Ceinewydd. Y bore, am 10.30 o'r gloch, pregethodd y Parch W. Davies oddiar Phil. i. 9-11. Da oedd gan bawb wrandaw ar un o gewri y pulpud Cymreig yn traddodi cenadwri mor fyw, ago ao amserol. Llywyddwyd y cyfarfod sefydlu gan y Parch Jacob Jones, Bethesda, Merthyr, Is Gadeirydd yr Undeb. Darlleoodd a gweddiodd y Parch J. Bowen Davies, Abercwmboi. Yna dywedodd y Cadeirydd mai hyfrydwch pur iddo oedd llywyddu y cyfarfod o dan am- gylchiadau mor ffifriol. Llongyfarchai eglwys Bethania ar ei dewisiad doeth, a Mr Rogers ar ei dderbyniad doeth yntau. Yr oedd i'r eglwys hanes da fel un garedig i'w gweinidogion, ac iddi safle anrhydeddus yn y Cyfundeb. Pobl wresog eu" calon a diwylifedig eu meddwl oeddynt, a haei eu hysbryd. Nid ei bai hi oedd fod y brodyr da fu yn gweinidogaethu iddi yn ymadael, ond bai—os bai hefyd— eglwysi mawrion eraill am eu denu atynt hwy Adnabyddai Mr Rogers drwy hanes ac yn bersonol fel un ag iddo air da fel pregethwr a chyfaill gan bawb. Dymunai lwyddiant a bendith iddo ef a'i briod hawddgar, ac i'r eglwys dan ei weinidogaeth. Galwyd ar Mr B. M. Thomas, ysgrifen- nydd yr eglwys, i ddarllen llythyrau o ymddi- heurad aru absenoldeb, ac yn dymuno yn dda i'r gweinidog a'r eglwys. Sonient oil am ei ragoriaethau a'i waith mawr yn ei gylch blaen- orol. O'u plith darllenwyd llythyrau oddiwrth y Parchn D. J. Thomas, Oaevfyrddin, ysgrifennydd Undeb Annihynnol Seisaig Deheu Cymru; Proff. J. Oliver Stephens, B A., B.D., Oaer. fyrddin; T. Llynfi Davies, M.A., Canaan, Abertawe, mam-eglwys Pentrechwyth; a G Penar Griffiths, Pentre Estyll, yn dangos defnyddioldeb a gwerth Mrs Rogers fel aelod gweithgar a ffyddlon o'i eglwys ef. Ar ol hyn rhoddodd Mr Benjamin Thomas, nn o ddiaconiaid hynaf yr eglwys, hanes yr alwad. Gwrandawyd Uawer yn ystod y blynyddau y bu yr eglwys yn wag. Hoffwyd rhai ond rhoddwyd galwad i Mr Rogers am iddo apelio atynt oil yn ddioithriad fel dyn a phregethwr sylweddol heb un gwastraff o'i gylch. Olrhein- iodd darddiad yr achos, ac aeth dros nodwedd- ion y gweinidogion blaenorol mewn modd diddorol. Galwyd Mr Rogers yno fel gwas Daw i'r bob!. Nid oedd yn credu mewn i eglwys feichio ei gweinidog a gofalu am ddyled, uac i'r eglwys feichio ei hun felly. Yn ddieithriad, He y ceid eglwys o dale faich trwm o ddyied, materolid ei hysbryd a thywyllid ei gweledigaetl1 ysbrydol. Daethai Mr Rogers yno i ymaftyd mewn cryman a osodwyd i lawr gan arall. Mawr hyderai na roddai efe i'r bobl ddyrnaid o wenith na wyddai efe ei hun am ei Has yn gyntaf Mr Michael Thomas, diacon arall, a ddywed- odd mai arwydd gobeithiol o hapusrwydd eu dewisiad oedd fod yr alwad yo hollol unfrydol. Ymddiriedodd yr eglwys y gwaith o ddewis i'r swyddogion; eto gwylient hwythau deimladau yr eglwys. Wedi gwrando ar Mr Rogers, amlygodd yr eglwys ei dymuniad, a symudodd y diaconiaid parthed yr alwad, a chafwyd pleidlais hollol unfrydol. Na thybied neb mai eglwys anawdd i fyw ynddi oedd Bethania Teg oedd ystyried nad oedd mewn ffordd i gystad3u a'r eglwysi cryfion a lluosog ymgeis- ient am y rhai a ddewisai hi. Nodweddid dechrenad gweinidogaeth Mr Rogers gan frwdfrydedd mawr ymhlith pob dosbarth o'r eglwys, a sicr ganddo y byddai i'r teimlad gwresog a'r caredigrwydd ymarferol hwnnw i barhau. Wedi i'r Cadeirydd ofyn am yr arwvddion arferol yn cadarnhau yr alwad gan yr eglwys a'i aerbjniad gan y gweinidog, gweddiwyd gan y Parch J. W. Price, Troedyrhiw. Estynodd y Parch W. A. Jones (M.O), Dis- gwylfa, groesaw cynnes i Mr Rogers ar ran Cyngor yr Eglwjsi Rhyddion. Credai mewn enwadaeth, ond credai hefyd mewn mwy nag enwadaeth ac os nad oeddem mewn ffordd yn bresenuol i symud ein gwahaoiaethau enwadol, yr oedd y dydd wedi gwawrio pan y gellid suddo a chladdu yr ysbryd enwadol a fu yn cadw'r muriau yn rhy uchel yn rhy hir. Safai yr Eglwysi Rhyddion am y delfryd uwch, sef uno pawb yn ddiwahan wrth y Gross, a thrwy hynny byddai yn llygad a Haw a throed i gymdeithas ac i'r byd. DioJchodd Mr Rogers yn garedig iddo am ei groesaw cynnes. Cafwyd atgofion am Mr Rogers fel myfyriwr yn y Coleg gan y Parch D. Adams, B A, B D., Gwernllwyn, Dowlais. Dyn cryf ydoedd yn y Coleg. Pregethai yn gryf a sylweddol, a gair da geid iddo gan yr holl eglwysi, ac yr oedd ei gyfeillgarwch gryfed a'i bregeth. Yna cafwyd araith ddwys a chynhwysfawr gan Mr John Owens, trysorydd eglwys Pentre- chwyth. Da. a blin iawn oedd ganddo fod yn y cyfarfod. Da ganddo allu dwyn tystiolaeth uchel i gymeriad pur a thrylwyr ei hen wein idog, a datgan ei werbhfawrogiad dyfnaf o'i lafur mawr ym Mhentrechwyth ond blin iawn ganddo ei golli. Nis gallai geiriau fynegi eu coiled hwy yno, na maint a gwerth y gwaith a gyflawnodd. Eglwys fechan a gwan oedd Pentrechwyth pan ddaeth Mr Rogers atynt o'r Coleg, ac addolid mewn festri dlawd. Rhifai yr eglwys y pryd hwnnw tua 70 o aelodau, a'r Ysgol Sul 100. Gadawodd y lie yn llawn parch a than ymdeimlad dwfn o golled, ond mewn llawer gwell cyllwr nag y cafodd hi. Heddyw mae yno gapel eang a hardd a goatiodd P,1,700, a thos hanner y ddyled wedi ei thalu. Rhifa'r aelodau 130, a'r Ysgol Sul dros 200. Yn wir, gwnaeth yr anialwch yno i flodeuo fel rhosyn. Danghosodd yr eglwys ei pharch a'i chariad ato drwy roddi iddo anrheg o roll top desk werthfawr a revolving study chair. Dymunai iddynt gofio mai dyn ydoedd Mr Rogers, ac nid angel, ond ei fod yn ddyn gwerth i'w adnabod a'i garu. Duw a'ch bendithio oil hyd byth. Mr David Jones, un o ddiaconiaid eglwys Adulam (B), Bonymaen, Abertawe, gyda'r hwn y lletyai Mr Rogers, a ddywedodd fod yn rhaid byw gyda dyn er mwyn ei adnabod nid digon ei weled ar yr heol. Gwelwn ein gilydd, ym- ddiddanwn d'n gilydd, eto heb wybod nemawr am ein gilydd. Yr oedd ef yn falch i allu dweyd iddo gae: cyfle i adnabod Mr Rogers ar yr aelwyd. Cafodd ef yno yr hyn a broffesai yn ei bulpud, yn Gristion gloyw ei gymeriad, yn gyfaill trwyadl, yn well mewn tywydd garw ac yn nes mewn adfyd nag mewn hawdd- fyd. Blin ganddo golli cyfaill annwyl a gerid ganddynt fel teulu yn fawr. Yma i helpu ein gilydd yr ydym. Dod yma i'ch cynorthwyo chwi a chwithau yntau mae Mr Rogers a'i briod. Gwnewch yn fawr ohonynt, ac ni fydd edifar gennych byth. Nid yw yn gul ei farn nac yn anghvmdeithasgar ei ysbryd. Estyna ei gydymdeimlad a'i gynhorthwy i bob achos ac enwad a ofynna am dano. Gwenau yr Arglwydd fo ar yr uniad. Yna galwyd ar y Parch E. Aman Jones, B.A., Ceinewydd. Da ganddo mai Mr Rogers oedd yn ei ddilyn ym Methania. Adwaenai ef yn dda, ac adwaenai y teulu, a tbeimlai yn hapus i weled yr eglwys yn nwylaw un a edmygai yn fawr. Mae edrych arno yn ddigon er ei hoffi nobility yn ei wen a'i wedd agored a digel. Nid oedd ganddo ond pob da i'w ddweyd am bobl Bethania. Dim ond caredigrwydd a wel- odd ar ei llaw. Ni wyddai am un He caredic- aeh, ac ni welai well lie nag a gafodd ym Methania. Er fod y Gogledd yn cael ei gynrychioli yn gryf yn yr eglwys, ni theimlodd un anfantais erioed o gyfarfyddiad De a Gogledd yno cyfarfod oeddynt bob amser, ac nid gwrthdaro Cyporthwywyr cryfion f a y diae- oniaid iddo bob amser, a thyngasent eu llw nad ai dim o flaen yr eglwys nad oeddynt yn berffaith unol arno yn y sedd fawr yn gyntaf. Byddwch gystal iddo ef ag a fuoch i mi, yna bydd gwyn ei fyd. Cynrychiolid eglwys Siloam, Pentre Estyll, mameglwys Mrs Rogers, a gofynwyd i Mr Edward Lake, un o'r diaconiaid hynaf, i ddweyd gair. Dygodd dystiolaeth uchel i'w chymeriad a'i hawddgarwch siriol. Cynorth- wyai bob adran o waith yr eglwys. Gwir bob gair oedd yr oil a ysgrifennodd ei gweinidog am dani. Gwnai yr oil yn ddiymhongar a chyda chymhwyster a gorffennedd arbennig. Bendithiwyd hi a rhieni da, a chodasant bedwar mab sydd wedi cyrraedd safleoedd anrhyd- eddus a chyfrifol mewn gwahanol gylchoedd cyhoeddus yn y wlad a'r Brifddinas. Wele eu hunig ferch eto yn cael yr anrhydedd o fod yn wraig i weinidog yr Efengyl. Gwyddai y llanwai ei chylch newydd a phwysig gydag urddas ac, anrhydedd. Yr oeddynt wedi bod yn ffodus mewn gweinidog, ond sicrhaai hwynt eu bod yn fwy ffodus mewn gwraig gweinidog. Yn ddiweddaf cafwyd gair gan y Parch W. Davies. Methai yn lan a deall paham y rhaid wrth siarad fel hyn mewn cyfarfodydd o'r fath. Ymddanghosai fel pe yn rhaid wrth dystion folly i brofi diniweidrwydd y dyn. A oedd yno rywun yn ameu teilyngdod Mr Rogers ? Yr oedd yr eglwys wedi amlygu ei hymddiriedaeth ynddo, a'i hanes yn y gor- ffennol yn ategu a chyfiawnhau hynny. Pa raid mwy wrth dystion fel hyn ? Gallai ef ddweyd llawer mwy ac yn llawer manylach na neb yno Yn unig dy wedai hyn—fod yr holl bethau da a ddywedwyd eisoes am dano, a llawer mwy, yn wir bob gair. Dymunai ddweyd yn groyw nad oedd gan ddynion foeddynt yn amddifad o grefyddolder ysbryd a chymeriad, ynghyda set at waith crefyddol, yr un bawl i geisio mynediad i'r pulpud a'r weinidogaeth. Dylaseut fod yn ffyddlon yn holl gyfarfodydd yr eglwya-y cyfarfod gweddi, y gyfeillach a'r Ysgol Sul. Mae gofynion y weinidogaeth y fath fel nas gall un ymgeisydd am dani fforddio esgeuluso ei gyfrifoldeb a'i wasanaeth yn yr holl rannau hyn o waith yr eglwys cyn ei fynediad iddi Yn hyn oil bu Mr Rogers yn ffyddlon ac ymroddgar. Llongyfarchai ef ar ei faes newydd. Deallai ei fod yn gyfoethog o dalentau amrywiol, ac yn liawn adnoddau cref- yddol gwerthfawr. Yr oedd yn eglwys o safon uchel ac iddi safle anrhydeddus yn yr Enwad. Yr oedd yn ardal a chylch prydferth ac addawol i fyw a gweithio ynddo Da ganddo glywed hanes gwych am swyddogion yr eglwys ynghyda ffyddlondeb y chwiorydd. Priodolai ef ei gysur a'i ddedwyddwch ynghyda mesur helaeth o'i lwyddiant yn y weinidogaeth am