Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

• --I Undeb Ysgolion Annibynwyr…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

• Undeb Ysgolion Annibynwyr Edeyrnion. ADRODt>IAD YR YMWEIvWYR, i 912-15. (Parhad o'r Rhifyn diweddar.) Y MEYSYDD LLARUR. Yr oedd yr Ysgolion oil wedi mabwysiadu Vlaes Llafur yr Undeb Cymreig. I.Safon y Plant.—Da gennym ddwyn tyst- olaeth fod y dosbarthiadau ieuengaf yn gweithio -11 rhagorol ar y cyfan, a phleser gennym ddi- ymiu y nodiadau canlynol A. Dosbarth bach cynnes a da. B. Dosbarth cyflym iawn ond mantais fyddai i rannu yn ddati. C. Athrawes dda, a dosbarth rhagorol iawii. D. eto eto eto Ond nis gallwn fyned heibio heb sylwi fod y lant mor dda, er gwaethaf anfanteisiou ynglyn threfniant y Safonau. Gwelsoiu ddosbarth a hum Safon ynddo, a phob Safon yn cael gwers :1 ei thro gan yr athraw. Meddylier am funud fath afradlonedd yw ar amser yr Ysgol. Can- taer fod amser y gwersi yn dri chwarter awt, ma naw munud o wers i bob Safon a thra y mae Safon arbennig yn cael sylw yr athraw, y inae y lleill yn segur, ac felly yn colli dros banner awr o amser prin yr Ysgol. Wele ein sylwadaeth ar rai dosbarthiadau A. Un plentyn ymhob Saion. B. Yr athraw yn teimlo anhawster gyda Saf- onau IV. a V. C. Dosbarth lluosog, yn cyimwys y pum Safon, yr athraw yn teimlo yr anhawster. D. Pum Safon yma eto ac er ei fod yn ddos- barth llewyrchus, yn athrawes a disgyblion, yr oedd yno ormod o waith i un. Dd. Athrawes dda, yn ceisio gorcntygu yi anhawster drwy drefnu i'r plant ddysgu eu gilydd, tra y rhoddai hithau sylw i'r oil yn en tro. E. Saith Y11 y dosbarth, a phedair Safon yilddo. Pan alwyd sylw at yr anhawster, gan,, awgrymu dosbarthiadau llai, yr oedd gryin yn nadl un Ysgol—fod y plant yn dysgu ac yn pasio yn dda ond priodolwn yn gyfiawn y fendith hynny i waith a gofal y cartrefi yn hytrach nag i wyrth y naw munud mewn wythnos yn yr Ysgol Sul. Ond er yr anfanteision, cawsom fwynhad mawr ymysg plant y Safonau tra at ein pererindod drwy y cylch. Diau fod pum llyfr y plant yn gattaeliad mawr yn eglwysi cryfion y wlad ond y mae'r anhaws- ter o ffurfio dosbarth heb gynnwys amryw Saf- onau yn milwrio yn eu herbyn yn yr Undeb hwn. Ac er y gall arholiadau fod yn anogaeth i gystadl- euaeth iachus, rhaid gofalu rhag iddynt droi yn rhwystr i waith y dosbarth. Credwn nad oes gan yr Undeb Cymreig fawr o ffydd yng nghyfaddas- ter y llyfrau hyn y maent yn eu cyhoeddi gyda chyflyinder ac amrywiaech bron teilwng o new- yddiaduron Northcliffe, Gresyn hefyd nad ellid cael llyfrau o wneuthuriad gwell, a llawer mwy atyniadol yr olwg arnynt. Y mae y rhai pres- ennol yn lied ddiaddurn, ac yn dryllio bron gyda eu bod yn nwvlaw y plant; a phan anfonir am nifer ychwanegol, ond odid na fydd argraffiad newydd gwahanol wedi ei drefnu, nes y ceir amrywiaeth llyfrau weithiau yn yr un Ysgol, heb son am yn yr Undeb. Ymdrecher i ffurfio dosbarthiadau fel na byddo dros ddwy Safon yn yr un dosbarth. Yna, yn hytrach na rhoddi gwers iddynt bob yn ail, cymerer gwers un Safon heddyw i'r oil, a gwers y Safon arall y Sul nesaf, er mwyn eu cadw yn unfryd wrth eu gwaith yr holl amser, a dileu cyfle diarhebol Satan o roi i'r segur swydd i'w gwneuthur.' Neu gallwn drefnu Safonau mwy cyfaddas i'r cylch na phum Safon yr Undeb Cymreig drwy wneud tri dos- barth o'r plant dan 12 neu 15 oed. Gadawn yr hyn a elwir yn Cradle Roll heibio yn y cylch gwledig hwn (er na fyddai yn anfantais i'r Ysgol- ion yn y pentrefi gadw cyfrif o'r plant ellir ddis- gwyl i mewn pan gyrhaeddant oedran cyfaddas, a rhoi rhyw sylw iddynt). Safon I., plant 0317 oed. A r rheol yw, po leiaf y plentyn, lleiaf ddylai nifer y dosbarth fod. Y mae pedwar plentyn yn ddigon i'r un athraw a'r farn gyffredin yw y gellir hepgor dysgu yr A B C, gan fod yr ysgolion dyddiol yn eu dysgu i ddarllen a gwell fyddai cyfyngu yr Ysgol Sul i wersi ac ystoriau Beiblaidd. Ac y mae 10 i 15 munud yn ddigon o wers ar y tro heb newid blina y rhai bychain hyn yn fuan ar yr un peth, ac anawdd iawn cadw y diddordeb yn hir. Safon II., o 7 i 10 oed. Dosbarth mwy, o 5 i 7, os yn angeurheidiol, a gwers oddeutu 20 i 25 munud. Safon III., o 10 i 13 oed. Yn y dosbarth hwn dylid cefnogi ymdriniaeth ar y wers, a'i rheoli yn ddoeth ac am eu nifer, dylem drefnu yn ol y gofynion lleol, gan gofio mai' goreu yr athraw, mwyaf y dosbarth ac os athraw tlawd, cadwer nifer y dosbarth i lawr. Dosbarth II.- Y maes yn gymeradwy iawn, a golwg lewyrchus ar y mwyafrif ohonynt. Dosbarth III.—Yr oedd cwyn gyffredinol yn erbyii y Maes Llafur hwn, ac nid oedd y Llaw- lyfr chwaith yn gymeradwy-í-hyw redeg yma a thraw hyd feysydd yr Ysgrythyrau weithiau darn o hanes, weithiau broffwydoliaeth anawdd oedd ennyn diddordeb yn y swyn crwydrol hwn. Gwelsom un ysgol fechan a dau ddosbarth da ynddi-un yn hwyliog iawn wedi dal yr hud ar faes Hosea ond eithriad oedd cael Dosbarth III. yn hoffi'r gwersi drefnwyd iddynt, nac yn edmygu dull y Llawlyfr o'u trin. Y mae y disgyblion hyn mor bwysig fel ag i hawlio goreu yr iiglwys ymho b man. Cwynir mai yn yr oedran yma y collir gafael ar Jiloedd, ac y dechreua y dieithrwch sydd yn dueddol o'u harwain ymhellach, bellach, nes torri yn hollol eu cysylltiad a'r Eglwys. Barna eich Ymwelwyr mai mwy diddorol ac adeiladol i'r Dosbarth hwn na'r Llawlyfr pres- ennol (yr hwn sydd am wyth Sul eleni heb nodi un gyfran o'r Ysgrythyr i'w darllen gyda'r wers) fyddai trefnu llyfrau arbennig o'r Beibl i'w has- tudio, neu gymeriadau arbennig. Y maent yn arwyr-addolwyr yn y cyfnod yma, a byddai trefnu cymeriadau goreu yr Ysgrythyr o'u blaenau yn briodol yn rhwym o ennill eu lied- mygedd ohonynt, ac mewn canlyniad gariad at eu Duw hwynt Duw Moses a Josua, Gedeon, Job, Esaiah, Daniel, Shadrach, Mesac, Abednego, &c. Ac nid anfuddiol weithiau fyddai datod clymau ambell i daflen neu reol, a thalu ychydig o sylw i Gynulleidfaoliaeth a'i harwyr-ystori weithiau am John Bunyan a phlant y cyd- ofid,' a thro i Gymru Fu at Stephen Hughes a'i gydoeswyr, gan ddod yn ol heibio y cewri i gyd ac nid drwg croesi y moroedd ambell dro gyda rhai o genhadon tramor Annibynia-gwneud i'r arwyr ail fyw o'u blaenau: fe ddeil y bechgyn a'r genethod ieuainc eu rhinwed.dau hwynt. Agorwn y trysorau yn ddigon llydan, a gadawer iddynt ddewis eu perlau o'r cyflawnder cyfoeth. Priodol hefyd, ar amser cyfaddas, fyddai ffurfio dosbarth neilltuol i'w paratoi ar gyfer aelodaeth eglwysig, a'r cyfrifoldeb mwy sydd yn perthyn i weith- garwch yng ngwinllan eu Harglwydd—i'w dysgu ym mhethau trymaf y gyfraith, diwinyddiaeth iachus, natur y bywyd Cristionogol, a'u tywys drwy wersi mwy ysbrydol, i benderfynu dros Grist. Ni chawsom ffigyrau i brofi colled rhwng yr Ysgol a'r Eglwys yn y cylch hwn. Credwn mai ymaelodi wna yr ieuenctyd fel rheol yn y rhannau mwyaf gwledig ond yn y trefydd a'r pentrefydd y mae y golled yn fawr, a'r ffordd i'r anialwch yn llydan a rhwydd iawn. Y mae anturiaeth, brwdfrydedd a gwroldeb yn Nos- barth III., fel y prawf hanes y miloedd sydd wedi ymrestru dan faner eu gwlad y dyddiau hyn. Sut i droi y gwroldeb a'r hunanaberth yma i wasanaeth y Brenin Iesu yw ein hymchwil, a gwneud o'r holl ddynoliaeth ragorol hyn nlwyr da i Iesu Grist gwneud yr ysbryd yn snactaidd, y meddwl yn gryf a chlir, a'r corff yn gadarn i gyfiawnder gwneud crefydd y Beibl a'r ganrif gyntaf yn fyw i Brydain a'r 2ofed ganrif. Dosbarth IV.-Y Maes Llafur ym Matthew yn gymeradwy iawn. Yr oedd yr Hebreaid hefyd yn dderbyniol gan y mwyafrif, er fod ambell i ddosbarth yn teimlo eu bod yn y niwl ar brydiau. Y mae y Dosbarth hwn yn rhai o'r ysgolion benodau ar ol trefn y daflen ac er fod mantais i gael weithiau wrth gadw ysgol gyfan uwchben ambell adnod dragwyddol, eto rhaid ystyried y golled o lawer o wersi bendithiol deflir o'r neilltu adeg y Gymanfa er mwyn symud ymlaen i faes y flwyddyn ddilynol. Er enghraifft, pan der- fynir blwyddyn ein hysgolion eleni, bycld llawer ysgol yn gadael penodau y croeshoeliad a'r adgyf- odiad er mwyn symud i'r wers newydd, am eu bod wedi ymdroi gormod yn y penodau cyntaf gydag adnodau neilltuol. Nid iawn, wedi r cyfan, yw amddifadu adnod drwy ei chymeryd o fysg ei chwiorydd ceir gwell gafael ar wers yn ei chysylltiadau. Astudier llyfr cyfan er mwyn rhoddi gwell cyfle i'r datguddiad. (I'w barhau).

Rhiwmatic ac Anhwyldeb yr-Arennau.

BETHANIA, MERTHYR VALE.