Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
GALWADAU.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GALWADAU. I MISKIN, MOUNTAIN ASH.—Mae'r eglwys An- nibynol yn y lie uchod wedi rhoddi gal wad daer ac unfrydol i'r Parch R W. Jones, Pontyrhyl. Mae Mr Jones yn bregethwr rhagorol ac yn frawd caredig. Nid yw oto wedi ateb, a dymuniad calon Cwmgarw yw cael ei gadw
I CAERDYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I CAERDYDD. Y Cymdeithasau Cymraeg. — Swn trefnu eu rhaglenni ar gyfer gwaith y gaeaf sydd yn holl gylchoedd y Cymdeithasau Cymraeg er gwaethaf y rhyfel. Symbylir y gwahanol Gymdeithasau i waith gan Undeb Cymdeithasau y ddinas hon. Ac i gvchwyn y tymor yn unol a threfnus mewn asbri Cymreig, fe wahoddwyd Penar i roddi y ddarlith agoriadol eleni, a gwnaeth hymn- yn ysgoldy Heol y Crwys, nos Lun, Hydref 4ydd. Cafwyd darlith ddiddorol, ddifyr ac adeiladol, a bydd gwersi y ddarlith yn sicr o fod o fudd i Gymry iettainc y dref. Hi destyn oedd Cymer- iadau Daniel Owen.' Szwz y Rhlifel.-Da-,v adseiniau'r gad i'n clust- iau, a'i heffeithiau o flaen ein 11ygaid, mewn llawer dull a modd. Daw ambell lythyr o faes y gad fel o ffiniau tragwyddoldeb, yn dweyd am ffydd, hyder a phryderon ambell fab ifanc yn yr ymdrech. Daw llawer clwyfedig adre, a channoedd lawer o glwyfedigion i'r dref yma bron yn wythnosol. Mae hanner ysgolion y ddinas wedi eu troi yn ysbytai, ac eto nid oes lie cyfaddas i'r oil sy'n dod heb wasgu mwy nag a ddylid i lawer lie. Galw i'r Gad.—Ddydd Sadwrn bu yma gyn- hulliad pobloedd lawer a milwyr lawer o bob gradd yn troi allan gyda'u seindyrf pres er denu sylw pobl ieuainc at eu dyledswydd o uno a'r fyddin. Yr oedd y troad allan yn ddatguddiad i lawer o wahanol arweddau y rhyfel a'r gwa- hanol gyfleusterau sydd i bobl wasanaethu eu gwlad yn y cyfwng hwn. Un o'r siaradwyr yn y Cathays Park ar y diwedd oedd Mrs Pank- hurst. Ni chlywais y ddynes hon erioed o'r blaen, ond wedi ei chlywed nid ydym yn synnu dim at y dylanwad gafodd yng nghroesgad yr ymdrech am bleidlais i ferched. Heddyw y mae hi a'i holl egni dros ennill milwyr i'r fyddin. Mae wedi bod yn Ffrainc yn gweled drosti ei hun, wedi bod yn siarad a (iweinidogion y, Goron am y gwaith sydd i'w wneud, ac wedi ymdaflu ati i wneud a all i ennill rhywrai ar hyd a lied y wlad i ymrestru. Mae ganddi weledig- aeth a chenadwri bendant at ein dynion ieuainc i gyd. Ac er mwyn ein hegwyddorion a'n gwlad yn y dyfodol, gobeithiwn y caiff ei hegnion hi ac eraill ddigon o ddylanwad i ddwyn digon yn wirfoddol i ymuno a'r fyddin fawr i ymladd dros gyfiawnder—ie, a thros ein bodolaeth fel gwlad a theyrnas. Cysuron yr Ele-ngyl.-Un o'r gweinidogion cyntaf i gael ei apwyntio Y11 gaplan Ymneilltuol gyda^;Byddin^Kitchener oedd 3, ,Parch Evan Mathias, o'r New Inn, Pontypool. Mae wedi cael profiad o yn agos i dri chwarter blwyddyn yn y gwersylloedd yn y wlad hon, ac yna yn y Dardanelles lie, fel y gwyddys, y mae y rhyfel yn erchyll o boeth. Gwelais lythyr oddiwrth filwr cyffredin o Gallipoli yn dweyd mor werth- fawr i'r milwyr oedd. ei wasanaeth-mor gynorth- wyol yn eu horian duaf, yn gystal a bod yn arweinydd doeth yn oriatt segur y maes. Drwg iawn gennym glywed ei fod wedi gorfod dod adref wedi ei daro gan y dwymyn. Er hynny da gennym ei fod yn gwella, ac yn awyddu eto am ddychwelyd at ei waith mawr o nerthu eneidiau pan mewn caledi. Dywedir fod swn yr hen emynau Cymraeg gyda'r 4th & 5th Welsh wedi bod yn gysur ac yn hedd i'r Saeson oedd yiio er na ddeallent yr iaith, ac wedi roddi ei gyfle i Mr Mathias i wnend ei waith yntau dros Gapten Mawr ein iachawdwriaeth. Teulu crefyddol ac ymrous i waith da yw teulu Mr Mathias. Mae ei rieni yn ffyddlon yn Lloyd-street, Llanelli, a'i frawd, Mr T. Mathias, yn un o swyddogion ffydd- 1011 Cathays, Caerdydd. DEWI VYCHAN.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENt, PRIODI, A MARW. PRIODASAU. DA VIES-THOMAs.-Hyfref 7fed, yng nghapel y Porth, gan y Parch E. C. Davies, Ynyshir, gwein- idog y briodasferch, Mr Tom Davies, Trecynon, Aberdar, a Miss Catherine Thomas, Pleasant Hill, Porth. Ar ol cyfranogi o'r darpariadau helaoth yn Pleasant Hill, a dymuno yn dda i'r par ieuanc dedwydd, ymadawodd Mr Tom Davies a'i briod ieuanc hawddgar i dreulio eu mis mel yn Abertawe a rhannau o Geredigion. MARWOLAETHAU. J ONES.-Cbwith iawn ydyw ffarwelio a mam o bawb- un y cawsom sugno ar ei bronnau a phob tynerwch dros ddyddiau maboed; ond rhaid gwneud, er ein hiraeth. Bu Mrs Ann Jones, 14, Regent-street, Aberaman, farw ar Hydref 4ydd, ar ol cystudd byr o bed war diwrnod, ar ol treulio 40 mlynedd yno. Cadwodd ei gorsedd yn y teulu hyd y diwedd, er yn 83 mlwydd oed. Symudodd y teulu i Aberdar 52 o flynyddoedd yn ol. Yr oedd Mr William Jones, ei phriod, gladdwyd 33 o flynyddau yn ol, yn ddiacon ffyddlon yn Saron, Aberaman, a chafodd hithau y fraint o fod yn ffyddlon yn Saron hyd ei bedd. Colled i deulu yw colli mam mae y- cysgod mewn ystorm, y cyfarwyddwr mown amgylchiadau dyrys, wedi ei symud. Meddai ar allu eithriadol i wynebu anhawsterau a bod yn hunanfeddiannol yn eu canol, fel y capten ynghanol yr ystorm- Ni fu yr un ddynes yn fwy teyrngarol i'w chapel ac i'r weinid- ogaeth. Gwelir ei heisieu yn y capel ar y Sul ac yn yr wythnos, ond ar yr aelwyd y teimlir y golled fwyaf. Cododd deulu Iluosog, ac y maent oil yn aelodau crefyddol. Mae un mab yn weinidog ym Methania, Tredegar. Cafodd bob tynerwch a gofal gan ei hannwyl ferch, yr hon sydd yn weddw gar- tref. Claddwyd ei gweddillion marwol Hydref 8fed. Daeth torf luosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Cymevwyd rhan yn y ty gan y Parchn T. H. Thomas, Noddfa, Godreaman, a H. P. Jenkins, Baron, ei hannwyl weinidog. Siaradwyd ar lan y bedd gan Mr Jenkins, a gweddiwyd gan y Parch D. Silyn Evans; ac oherwydd amgylchiadau terfyn- wyd y gwasanaeth drwy gann emyn roddwyd allan gan y Parch H. A. Davies (Moriah Aman gynt). Gwelsom yn yr angladd y Parchn Wern Williams, Deri'el Roberts, a M. P. Moses, Hirwaun; Lewis, Hebron; Rees, Gwawr; Llewelyn, Libanus; Jenkins, Fochriw ac Edmunds, Pontlotyn. Der- byniwyd llu o lythyrau oddiwrth weinidogion a chyfeillion yn dangos ea cydymdeimlad a ni :fe1 teulu, y rhai fu fel dyfroedd oerion i eneidiau sychedig. Dymuna y teulu gyflwyno i'r cyfryw ei ddiolchgarwch am yr amlygiadau o gydymdeimlad a hwynt yn eu trallod, a gwn y derbyniant ef yn y teimladau goreu, gan fod yn anhawdd ateb yr holl lythyrau. Ffarwel bellach am ychydig. Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd Yn Salem lan oddeutu'r bwrdd.' -———— ————.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BRYN SEION, GILFACH GOCH.-Cynhall iodd yr eglwys uchod ei chyfarfod pregethu yahydigamser yn ol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch T. Well Jones, Croesoswallt. Cafwyd cyrddau da ymhob ystyr. YENO'S uomooc COUCH CURE ?M? The Ideal family remedy. Ccnt?iat tj?t no opium, morphine. pMe?ortc. or other harmful dm.. Cu. all ages. ?OUCHS.COLM COUCHS.COLDS ?E Veno'i is the surest and speediest wB??jt cure for these winter !n<, the best pro- tection against more serious d&c?ers. HILDREN S CHILDREN'S tNt &OIJ yield to Veno>—eTen Wht»opi* £ ceu b. And there is no tfoub!e fa .l.. It, rMdttf) t<mp)y love V. i £ r ria ■ ■ 1 J Other sizes 1/3 and 3/ from Lgrge d. chemists and ?<M-M eperi/M?eM. Ref use .!M&<?M<M, they are M?StM NOT 'just as good as Verio's'
GWYLFA A'R OFKRIRIAID.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWYLFA A'R OFKRIRIAID. At Olygydd y Tyst. SYR,—Wrth ddarllen nodiadau Gwylfa ym Mhob Ochr i'r Heol yn y TYST bythefnos yn ol, ymddengys ei fod yn cael rhyw fwynhad anghyffredin yng nghwmni offeiriaid yr Eglwys Wladol y dyddiau diweddaf hyn. Sonia am y sgvvrs ddiddorol a gafodd ag un ohonynt yn y tren ynghylch y Parch R. J. Campbell, ac yna a ymlaen i ganmol rhyw ganon o Lanelli-ei fod yn wr deheuig yn adeiladu eglwys gwerth deuddeg mil neu ragor, ac wedi casglu wyth o'r deuddeg, a'i waith yn cael esgob i'r lie a llu mawr o gynffonwyr yn ei ganlyn, i daflu'r halen cysegredig. Nid oes gennym ddim yn erbyn Gwylfa i ganmol offeiriaid os yw yn cael mwyn- had wrth wneud hynny ond y gwyn sydd gennym yn ei erbyn yw ei fod yn defnyddio tudalennau y TYST i wneud hynny. Os yw yn teimlo fod eisiau canmol, paham na fuasai yn danfon i'r Llan neu ryw wythnosolyn Eglwysig arall ?-diau y buasai yn dderbyniol yno. Ai tybed y gwelir geiriau canmoliaethus yn y cylch- gronau Eglwysig am weinidogion Ymneilltnol ? Na, choelia' i fawr, oherwydd y maent wedi bod ac yn bod mor elyniaethus ag y medront tuag atom. Yn wir, ni chydnabyddant fod gan yr un enwad hawl i'w fodolaeth a chwerthin- llyd i'r eithaf yw clywed un o brif weinidogion yr Enwad yn seboni i'r bodau hyn. J. H. J. [Gadawyd allan ran olaf eich llythyr am ei fod yn cynnwys ensyniad nad oes sail iddo yn yr ysgrif feirniadwch.-GOL.
CYFARFODYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFODYDD. PENIEL, LLANHARRI.—Gwasanaethwyd yma, Medi 22ain a'r 23ain, gan y Parchn Jeremy Jones, Cwmllynfell, a J. Llewelyn (M.C), Penybont, gydag arddeliad mawr. j,MABNDY.—Pregethwyd gyda nerth la dy- lanwad, Hydref 6ed a'r 7fed, gan y Parchn D. Lloyd Morgan, D.D., Pontardulais; J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl; a'r Athro Joseph Jones, M.A., B.D Aberhonddu. SOAR, LLANTRISANT.—Pregethwyd yn effeithiol iawn gan y Parchn J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl, a W. Evans, B.A., Penybont, Hydref 5ed ar 6ed. SOAR, RHOSFAWR, MON —Gwasanaeth- wyd yng nghyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod, HydTref 12fed a'r 13eg, gan y Parchn R. Gwylfa Roberts, D.Litt., Llanelli, a J. Ogwen Griffiths, Port Talbot. Daeth torfeydd ynghyd, a chafwyd pregethau amserol a grytaus. LOWER CASTLE-STREET, BRYSTE — Oynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr eglwys uchod Sal, Hydref lOfed, pan y gwasanaethwyd yn y bore a'r hwyr gan y Parch Thomas Hughes, A.T S., Caerdydd, ac yn y prydnawn gan y Parch D J. Griffiths, M.A., Kingswood (gynt o Dreforris). Cafwyd cyrddau rhagorol iawn, a'r gwasanaethwyr ar eu huchelfannau. Hir gdir am yr odfeuon Cymreig melus. Dilyned bendith ein Duw.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y mae gan Ferthyr ei Hatebiad. Y mae gan Ferthyr ei hatebiad yn awr. Yr oedd amheuaeth unwaith pa un a oedd yr adfer- iadau i iechyd, am ba rai y siaradai preswylwyr Merthyr mor galonnog, yn adferiadau parhaus. A oedd y bobl yn parhau i fod yn iach ? Dyna oedd y cwestiwn mawr, a dyma'r atebiad- iachad yn para yn iachad-a roddir gan air preswylydd o Gefn Coed. Awst neg, 1911, Mrs E. Johnston, 75 High- street, gyferbyn a'r Llythyrdy, Cefn Coed, ger Merthyr Tydfil, a ddywedodd :—' Dioddefais boenau llym yn fy meingefn am rai wythnosau. Os plygwn byddai yn anodd i mi ymunioni drachefn. Yr oedd poen yn fy mhen a phen- ysgafnder, a theimlwn yn hollol ddiflas. Cefais Doan's Backache Kidney Pills yn foddion rhagorol at yr anhwylder. Gosodasant fy nghefn yn iawn drachefn, a gwnaethant i mi deimlo yn well ymhob ffordd. (Arwyddwyd) E. J ohnston.' Mehefin 17eg, 1915 yn agos i bedair blynedd yn ddiweddaraeh-dywedodd Mrs Johnston Da gennyf ddweyd fy mod yn holliach yn awr, ac ni ddychwelodd yr anhwylder er pan iachawyd fi bedair blynedd yn 01 gan belennau Doan.' Cyfyd cymaint o afiechydon marwol o anhwyl- derau yr arennau a'r bledren, fel y dylech ddechreu gyda Doan's Backache Kidney Pills mor fuan ag y mae unrhyw arwyddion eglur o anhwylder yr arennau, megis dyfrglwyf, cryd- cymalau, anhwylder y bledren, grafel, pen- ysgafnder, poen yn y cefn, poen yn y llwynau, &c. Pris 2/9 y blwch, chwe blwch 13/9, gan yr holl fasnachwyr, neu oddiwrth Foster-McClellan Co., 8, Wells-street, Oxford-street, London, W. Peidiwch a gofyn am belennau at y cefn neu yr arelluau-gofynllwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mrs Johnston, 3