Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

i POB OCHR I'R HEOL.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

i POB OCHR I'R HEOL. (1) Y mae rhifyn Hydref o'r Geninen yn cynnwys llawer o ysgrifau gan frodyr o'n Henwad, megis Mafonwy, y Parchn Fred Jones, B.A., B.D., a John Lewis Williams, M.A., B.Sc., a Mr W. IJewelyn Williams, A.S., ynghyda darnau o farddoniaeth gan Sarnicol, Pedrog, Elfed, Seymour Rees ac eraill. Rhifyn pur debyg i arfer yw o ran ei nodwedd: darllenadwy ac amrywiol iawn, ac y mae yn sicr o fod yn cyfarfod a chwaeth y werin feddylgar. Llwyddodd y Geninen ar hyd y blynyddoedd i wneud hynny. Y mae ar ei phen ei hun yn y gallu i foddhau'r lliaws, tra yn cadw ar dir uchel o ran gwerth llenyddol. (2) Ar gyfrif ei weithgarwch diarhebol haedda'r Prifathraw Thomas Rees, M.A., o Fangor, gryn deyrnged. Nid oes ball ar ei lafur, ac nid ymddengys fod blinder yn dod i'w gymdogaeth. Rhydd ei ddis- gyblion air uchel iddo fel gweithiwr difefl yn ei ddosbarthiadau. Ceidw hwy oil ar fynd, ac nis goddef na segurdod na diofal- wch na dim o'r fath. Eithr ar wahan i'w lafur athrofaol, y mae'r Prifathraw yn llwyddo i droi allan lyfrau ac ysgrifau sy'n dweyd am feddwl diorffwys. Cyfeir- iwyd yn y TYST yn ddiweddar at ei lyfr a gyhoeddwyd gan Duckworth & Co.— The Holy Spirit'—llyfr hanner coron yn y gyfres a gyfenwir Studies in Theology. Ni raid mynd i mewn i'w chynnwys na'i gwerth na dim yn y fan hon-adolygir hi fel arfer, yn ddios dim ond cyfeirio gyda boddhad at y ffaith fod un o ath- rawon ein colegau Enwadol yn cynhyrchu llyfrau o'r fath, ac mewn cyfres mor werth- fawr ac adnabyddus. Gyda Uaw, diddorol yw cofio mai cyfrol ar yr un pwnc oedd yr olaf i ddod o law blaenorydd y Prif- athraw, sef Dr. Lewis Probert—' 4erth y Goruchaf oedd teitl ei gyfrol fawr ef. Y mae gwaith darllen mawr ar hon eto- The Holy Spiiit '-a'r neb a elo drwyddi bydd ganddo syniad lied gyflawn am y pwnc a'i lenyddiaeth. (3) Mae'r Dr. Griffith Jones hefyd yn feddyliwr clir a thlws odiaeth, ac o'r un wasg daw llyfr o'r eiddo yntau ar Her Cristionogaeth i Fyd mewn Rhyfel.' Nifer o benodau hawdd en darllen a'u deall, ond pob pennod i'r pwynt ac yn dangos meddwl cyfoethog. Gall na bydd i'r darllenydd gydweld yn hollol. Y mae rhai yn ein gwlad sydd yn wrth-ryfelwyr yn yr ystyr oreu nid yw'n debyg y gallant hwy gy- modi a phopeth. Prin y gellir disgwyl hynny gydag unrhyw bwnc yn y dyddiau hyn eithr tal y gyfrol gyfoethog hon am ei darllen. Cefais flas mawr ami fy hun, fel a geir ar bopeth a gyhoeddo'r Prif- athraw E. Griffith Jones, D.D.jj|Anaml y doir ar draws meddyliwr mor glir a diamwys ag efe, a chanddo arddull ddy- munol lifeiriol sydd yn helpu'r darllenydd o gam i gam heb dywyllweh o gwbl ynglyn a hi. (4) Rhifyn iach iawn yw rhifyn Hydref o'r Traethodydd, ac ysgrifau a fwynheir yw eiddo Mr Alun Jones ar Richard Jones o'r Wern '—gwr cryf, a thipyn o flaen ei oes ar lawer ystyr-ac eiddo Dr Parry, Williams ar 'Antur Llên.' Y mae peth nerth yn yr ysgrif fer hon. Diau fod ei hawdwr wedi ei siomi o rai cyfeiriadau ynglyn a lien Cymru a'r pethau sydd o'i chylch-y parodrwydd a wel i sennu a dyrnodio y gwir fardd a llenor yn ein gwlad, ac fel y mae rhai canolig yn cefnogi eu gilydd ymhob cyfeiriad. Na hidier cyflawn anghofir hwy oil gan y genedl yn y man. Gwas yr Arglwydd. sydd yn dda iawn hefyd, a William James.' Nid hawdd gwybod beth i'w ddweyd am gerdd y Parch John Hughes ar y Corridor,' canys glyd yw i raddau. Mae'r Traethodydd yn dal ei dir fel y Geninen. (5) Gwelais gyieinad adolygiadol at Hanes Eglwys Rhosycaerau gan Mr. James, y gweinidog, ynghydag eraill. Gwaith dayw rhoddi sylw i eglwysi unigol a chofnodi hanes cylchoedd crefyddol ar wahan. Mae'r duedd hon fel pe yn magu nerth yn ddiweddar hefyd ac yn hytrach na suddo hanes eglwys mewn cyfrol fawr sy'n cynnwys hanes yr Enwad yn gyff- redinol, teimlir awydd manylu ynglyn a phob lie ar ei ben ei hun. Gellir dweyd cymaint yn rhagor wrth wneud hynny, ac y mae'r darllenwyr lleol yn teimlo cy- maint rhagor o ddiddordeb yn y cwbl. Y mae'r achos yn Rhosycaeran yn hen weithion. Daeth llawer tro ar fyd mewn ardal dawel o'r fath. Aeth cenedlaethau o dduwiolion heibio, a rhai personau amlwg a gwasanaethgar a chryfion iawn ynglyn a'r achos. Gwaith dymunol yw eu coffau. Par hyn i'r bobl sydd ar ol feddwl mwy o'r lie, a gall crybwyll am ffyddlondeb y tadau fod yn symbyliad eithriadol i'r bobl ieuainc sy'n glynu yn y lie. [ (6) Mae'r Bedyddwyr ym Morgannwg wedi deffro i'r brofedigaeth eglwysig sydd yn dod gyda chyfnewidiad yr iaith. Trefn- asant i anfon holiadau i'r holl eglwysi, II9 ohonynt, ynglyn a'u hanawsterau gyda'r Saesneg, a chyhoeddwyd adroddiad gan y Gymanfa. yn cynnwys yr atebion a gaed, ac yn dweyd pa le y mae pethau'n sefyll. Ymddengys fod cryn anhawster yn cael ei deimlo mewn llu o'r eglwysi, a bod y Gymanfa yn y pen draw mewn tipyn o benbleth yn ceisio gwneud allan pa gyfar- wyddiadau pendant i'w rhoddi. Anodd iawn yw deddfu ar fater fel hyn awgrymu yw'r oil a ellir ei wneud. Y mae cymaint o amrywiaeth barn yn dod i mewn i ateb- I ion yr eglwysi eu hunain fel nad oes modd eu tynnu oil o dan yr un rheolau. (7) Diau mai gwaith da a wna Cymanfa y Bedyddwyr yn hyn o beth. Y maent hwy, fel pob un o'r enwadau eraill, wyneb yn wyneb ag un o'r profedigaethau mwyaf dyrys, ac yn llawn sylweddoli hynny. Y mae troi'r llanw Saesneg yn ol yn fwy nas gall neb ohonom ei wneud, 'rwy'n ofni. Oddieithr cael gafael ar gartrefi Cymru, ac ennill yr aelwydydd o blaid y Gymraeg, brwyelr ofer hollol yw. Nis gall na choleg nac ysgol na gwasg achub y Gymraeg rhaid ei siarad, a hynny gan rieni a'u plant ei gwneud yn brif iaith y wlad i bob pwrpas—yn iaith marchnad, ysgol, gwaith a chartref-onite mater o amser yn unig yw na bydd mor farw a hoelen. Ddy- muna neb ohonom mo hyn. Proffwvdol- iaeth bur amhoblogaidd yw, a chyfyd oraclau dienw i wadu peth o'r fath yn y wasg, fel y ceir y dosbarth hwn yn pen- derfynu popeth yn ol eu mympwyon. Ond i'r neb sy'n craffti ar hynt Cymru, ac yn caru ei wlad a'i hiaith a'i llenyddiaeth, ing anaele yw gorfod cyffesu iddo ei hun fod dydd blin o flaen ein hiaith. Wrth gwrs/gall cyfnewidiad sydyn gymeryd lie. Y mae weithiau bethau'n digwydd yn annisgwyliadwy sydd yn chwyldroi hanes ac arferion gwlad. Pe delai rhywbeth felly, byddai gobaith eto am achub y Gym- raeg. Ar wahan i ryw gyfnewidiad ffodus fel hyn, anawdd gweld ymwared o un cyfeiriad. Gwelir fod odfeuon Saesneg yn ymwthio i gapeli Cymraeg, a bod yr iaith yn beth a esgeulusir gyda rhwyddineb mewn cyngor a phwyllgor a ffair a march- nad ac ysgol ac ymhobman arall. (8) Tymor peryglus yn yr eglwysi yw'r tymor pan fo'r gwasanaeth yn myned drosodd o un iaith i'r llall. Bydd yr ieu- ainc yn dyn dros y newydd, a'r hen, fel rheol, dros i bethau aros yn yr unfan. Dywed arweinwyr yr achosion y collant eu plant os na throant i'r Saesneg. Bydd yr hen Gymry farw allan o un i un, medd- ant, ac ni ddaw neb i'w lie ac oddieithr cadw'r plant, derfydd yr achos, a thrwv r Saesneg yn unig y gwneir hynny. Pa 1111 ai colli'r Gymraeg ynte colli'r eglwys sydd bwysicaf yn y cylch arbennig hwnnw- dyna'r pwnc. Hawdd i rai mewn cylch- oedd Cymreig cryfion feirniadu'r rhai sydd yn y llifeiriant peryglns hwn am ddodi heibio'r iaith er mwyn diogelu'r achos. Mae'n rhaid i bob lie fod yn ddeddf iddo ei hun yn hyn o beth. Gallfod gorbarod- rwydd weithiau i gofleidio'r Saesneg wedi ei ddangos. Y cwbl allwnfni^eijwneud yw ceisio atal yr angenrheidrwydd am droi o'r Gymraeg i'r Saesneg ac un ffordd y sydd