Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL 0 BABILON i.-FAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL 0 BABILON i. FAWR. GAN EYNON, Cafwyd 'Arwerthiant' enwog y Parch. Keinion Thomas a'r Glanmagl Hotel' yn King's Cross nos Sadwrn, pryd y daeth nifer dda ynghyd i wrando ar Keinion yn dweyd y drefn am awdurdodau y fas- nach feddwol. Cadwodd ni am awr nid yn unig yn fyw ac effro, ond hefyd dyfn- haodd ein casineb tuag at y fasnach fell- tigedig hon sydd wedi arwain drwy'r oes- oedd ei miliynau i byrth y bedd. Nos Sadwrn rhoddwyd hoel arall yn arch Syr John Hdddyn. Keinion hefyd oedd yn efengylu yn King's Cross dros y Saboth. Mae son am ddirwest yn dwyn i'n cof fod deddf newydd Lloyd George, sydd yn gwahardd treatio ac yn cwtogi oriau'r fas- nach, yn gweithio yn dda dros ben yn y mannau hynny lie rhoddi iddi chware teg. Ni chaniateir agor y Glanmagl Hotels yma ond am ryw bum awr y dydd mewn rhai ardaloedd, a'r cinlyniad uniongyrchol yw fod sobrwydd yn ennill y dydd yn yr ardaloedd hynny. Mewn amryw fannan rhoddwyd par o fenyg gwynion i'r Eainc Ynadol. Bydd profion fel hyn yn help mawr i roddi ergyd manvol i'r eiviles hon pan ddelo heddwch unwaith eto. Un peth sydd yn hollol sicr, sef na oddefir iddi deyrnasu drosom fel yn y gorffennol. Gresyn na chawsai ein Cymro enwog ei ffordd y dydd o'r blaeil pan yn cynnyg prynu'r hen gonsarn,' ac yna wneud diwedd ar y difrod a'r galanas. Yr ydym wedi cael ein blino yn ddiw- eddar gan gnw d gwenwynnig o Glybiau Canol Nos, lie y mae puteiniaid a pliutein- wyr, a gamblers a sorrod pob dim,' yn cyfarfod i wasanaethu Satan. Hyd yn oed ar ganol y rhyfel erchyll hwn y mae yn ein plith rai Sodomiaid yn troi nos yn ddydd, a'r dydd yn nos, ac yn yinrocldi i bob trythyllwch ac anuuwioldeb. Y dydd o'r blaen dygwyel dan o swyddogion milwrol y fyddin ymlaen ar y cyhuddiad o wisgo uniform y Brenin yn un o'r lle- oedd aflan hyn. Cawsant gerydd a chosb, ond nid yn ddigon llym o'r hanner. Bellach y mae'r Senedd yn symud i roddi terfyn ar y pla newydd hwn. Gresyn eu bod mor ofnus gyda materion o'r fath. Gwroldeb moesol yw un o'r pethau prinaf ym mywyd cyhoeddus y dyddiau hyn ac am a wn i nad Seneddwyr Sant Stephan yw y prif bechaduriaid. Mae'r wasg felen yn parhau mor brysur ag erioed i hau hadau anghydfod rhwng pleidiau a'u gilydd yn y Senedd. Mae papurau Northcliffe a'r Morning Post wrthi yn ddyfal (er mawr lawenydd i'r Germaniaid) yn ceisio troi Asquith a Grey a Balfour i'r anial fel. hen fogeys wedi treulio allan. Lloyd George ar hyn o bryd yw'r eilun, ond y nefoedd wyr pwy fydd yr eilun ymhen blwyddyn. Bu adeg pan mai Grey oedd y gwr nef-anedig fel Ysgrif- ennydd Tramor, ac am Asquith nid oedd debyg iddo"n bod, Gresyn fod y wasg ddyddiol wedi syrthio i ddwylaw y Phil- istiaid dienwaededig hyn. Nid yw yn sicr fodd yn y byd fod yn dda ganddynt Lloyd George ei hunan, ond lioffent yn fawr allu ei dynnu i'w rhwyd. Braidd y mae yn gredadwy ei bod yn bosibl i George a Curzon a Milner allu hwylio yn yr un llong, sef ConscriPtion I Nid yw Kitchener eto wedi dweyd yn bendant fod yn rhaid wrth Orfodaeth ac y mae Arglwydd Derby wrthi hi ddydd a nos ar hyn o bryd yn ceisio perswadio rhyw dri chan mil arall i ymuno a'r fyddin. Os llwydda, dyna Conscription yn ddianghenraid. Os metha, dichon y daw y peth anhygoel hwnnw i ben. 'Rwyn deall mai dadl un blaid yn y Weinydd- iaeth yw nad yw'r Egwyddor Wirfoddol eto wedi cael llawn brawt. Os try gallu perswadiol Arglwydd Derby, ac Apel uniongyrchol )" Brenin, yn fethiant, wedi hyn nid oes ddadl na orfodir y dynion ieuainc sydd liyd yma wedi cadw draw i wynebu'r tan. Y fath drueni mae'r Kaiser wedi elynnn ar y byd Erys ei enw yn felltigedig byth yn hanes Ewro]) a'r byd. Bellach dau ddyn y foment, a barnu wrth y papurau, ydynt Horatio Bottomley a'r Parch R. J. Campbell. Eu darluniau hwy sydd yn britho'r parwydydd ac yn llanw colofnau'r hysbysiadau. Hwy sydd i roddi'r byd yn ei te Gwelir yn y British Weekly, mewn neges oddiwrth Esgob Bir- mingham, fod Mr. Campbell wedi eistedd ar stol edif eirweh,' a gwadu ei hen heres- iau, fel amod ei dderbyniad i gol yr Hen Fam. Mae'r New Theology, a ysgrifennwyd yn Cornwall mewn tair wythnos ac a fwr- iedid i ddymchwel diwinyddiaeth yr oes- oedd, wedi ei thraddodi i'r wadd a'r ystlumod. Bwyd i dan bellach Mae hyn yn gwireddu yr hyn ddywedodd yr hen bregethwr enwog, Dr. Cuyler o New York, pan oedd rhai pobl yn colli eu pennau yn ystod berw y Ddiwinyddiaeth Newydd. Wel,' ebe'r hen frawd, 'rwy'n hen ddyn bellach, ac wedi gweled rhyw chwech "Diwinyddiaeth N ewydd yn dod ac yn mynd. Hon yw'r seithfed, ac y mae angladd hon hefyd gerllaw—mae'r elor yn disgwyl wrth y drws.' Hen broffwyd cywir, onite ? Bellach dyma Campbell ei hun yn traddodi ei gyfrol anaddfed i'r fasged.' Tipyn yn fychanol yw gofyn i'n cyfaMl sefyll yn ei sachlian edifeiriol o flaen y byd. Ac eto y mae Eglwys Ifoegr yn llygad ei lie. Teg yw dywedyd er hynny fod diweddar weinidog y City Temple er's pum neu chwech mlynedd bellach wedi tueddu at ddychwelyd i'r ffydd a rodded unwaith i'r saint. Bellach ein gweddi yw am i Jowett ddod yn ol o'r America, ac yna bydd gogoniant y City Temple eto yr hyn oedd yn nyddiau ardderchog Joseph Parker.

Advertising

i POB OCHR I'R HEOL.