Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

'GLOYWI'R GYMRAEG.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

'GLOYWI'R GYMRAEG. Danfoner pob gofyniad a gohebiaeth ynglyn a r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.P., Rhymney. Sufau. I fyny sydd gywir, canys i fynydd,' sef to a mountain,' ydyw yn wreiddiol. Pel lliaws o eiriau eraill, fe gamsillafwyd yr y ddiacen yn u. Br enghraifft, i fynti a geir yn y Beibl oddiar amser Esgob Morgan hyd heddyw. Fe ofyn un cyfaill ynghylch yr ymad- rodd a sgrifennwyd o dro i dro yn hyd yn nod,' hyd y nod,' a hyd yn oed.' Wel, y mae'r traddodiad llenyddol yn ben- dant mai hyd yn oed yw'r ffurf gywir, Ffurfiau gwneuthur ydyw'r lleill, tan y dybiaeth fod synnwyr mewn dywedyd hyd y nod up to the tncifk. Y mae'n edrych yn dda, onid yw ? Y gwaethaf ydyw mai nid dyna sydd yn yr iaith. 0 ba le y daeth oed neu yn oed nid oes dim sicrwydd. Mewn Cymraeg Canol yr oedd iddo ddau ystyr, sef (I) Hyd at rywbeth, ond heb ei gynnwys' — er enghraifft, 'A caffael y cwbl hyd yn oed un geiniog' (Gram. J.M.J.)-' except one penny.' (2) Hyd at rywbeth, gan ei gyn- nwys '—er enghraifft, Hyd yn oed eu pechod even their s£n.' Yr ail ystyr yma'n unig sydd iddo yng Nghymraeg heddyw. Myfyriwf.—-(a) Y mae hell fel y rhyw fenywaidd o hyll, y mae'n debyg, yn ddiw- eddaraeh na'r bedwaredd ganrif ar ddeg eto fe'i harferwyd yn anil, fel mai o brin y gellir ei gondemnio. Eto hyll ydyw'r ffurf fenywaidd hyd yn oed gan amlaf mewn lien ac yn y tafodieithoedd. (b) Y mae' ch awgrym ynglyn a gadael allan y rhagenw perthynasol a yn werth sylw. Y mae, fel y dywedwch, yn dyfod yn fwy beiddgar o ddydd i ddydd.' Bfallai ei bod yn bryd atgofio'n hysgrifenwyr Cym- raeg mai rhagenw perthynasol ydyw a, cyfystyr a who, which, that, yn Saesneg. Y cyfieithiad o The man who went down' ydyw, Y dyn a aeth i lawr,' er mai Y dyn aeth i lawr' a ysgrifennai llu mawr o ysgrifenwyr talentog. Eto bai diweddar ydyw hwn, canys ni cheir dim ohono yng Nghymraeg y Beibl Par i mi glywed gorfoledd a llawenydd, fel y llawenycho r esgyrn a ddrylliaist '—hynny yw, "the bones which Thou hast broken.' Gyda llawer iawn o ofid calon y mae'n rhaid cyfaddef fod un o ysgrifenwyr amlycaf, a chymwynaswr mwyaf lien ac addysg Cymru y deng mlynedd ar hugain diw- eddaf, yn ddwfn yn y camwedd hwn. Ac un o wendidau'r cnawd ydyw efelychu beiau dynion mawr. Neu, fel y dywed un o'n poetau ni ein hunain, Pechodau athrawon ydyw athrawon pechodau. Wedi traethu'n fuddiol ar y bai hwn, fe a Myfyriwr yn ei flaen o nerth i nerth fel hyn, gan fy nghyfarch i Ceir ef yn eich ysgrif chwi (ond dim ond unwaith hyd y sylwais)—er enghraifft, "Hwy gant sylw." Chwi gofiwch Bregeth y Mynydd: Hwy a ddiddenir." Wei, er fy mod wedi fy nwyn i ymyl y mynydd teimladwy, y mae'n rhaid i mi ddywedydinai myfi sydd yn iawn yn y peth hwn. Dewch i ni gael treiglo hwy gant' yn llawn ymhob per- son mi gaf, ti gei, fe gaiff, ni gawn, chwi gewch, hwy gant. Yn awr, man- ynnau rhagferfol ydyw mi, ti,' &c., yma, ac nid rhagenwau. Yn gymharol ddiw- eddar (mewn Cymraeg Canol) y cyflewyd y rhagenw perthynasol a yn y canol, megis Mi a gaf,' &c. Fe dybia J. Morris Jones mai'r rheswm dros ei gyfleu oedd rhoddi cymorth i'r rhagenw i (ei), am fod Mi a'i caf yn gadarnach na Mi 'i caf.' Neu efallai mai effaith drysu ydyw cydrhwng mi gaf a mi a gaiff.' Ystyr mi gaf ydyw I shall have ystyr mi a gaiff ydyw, it is I who shall have' ystyr mi a gaf' ydyw, it is I who I shall have.' Felly ystyr hwy a gant' ydyw, it is they who they shall have.' Felly y mae hwy a gant' yn ddisynnwyr, a bod yn llythrennol a thrueni mawr fod cymaint o'r elfen hon yn difwyno Cymraeg yr Ysgrythyrau. Hyn, y mae'n debyg, ydyw y rheswm fod brawddegau cymysg wedi cael cymaint o le'n y Beibl-yr haint yn ymledu-lle byddai brawddegau syml gymaint'yn harddach, megis Job a ateb- odd ac a ddywedodd,' yn lle'n syml Fe atebodd a dywedodd Job.' Chwi fuoeh yn anffodus yn eich enghraifft, hwy a ddiddenir.' Gan mai amhersonol ydyw diddenir,' ni ddichon neb ysgrifennu hwy ddiddenir.' Gyda Haw, diddenir hwy fyddai gywiraf. Yn wir, wedi estyn y wers uehod i mi, chwi dorasoch eich gorchymyn eich hunan, canys yn y frawddeg nesaf oil, chwi ysgrifennweh, a hynny'n gywir, Chwi gofiwch Bregeth y Mynydd,' nid Chwi a gofimrch Y mae'eh greddf chwithau weithiau'n fwy diogel na'ch dysg. Nid wyf yn gwneuthur cam ag un a eilw ei hun yn Ffredi wrth gasglu maijYll ol ei farn ef ei hun, efe, ac nid myfi, a ddylai fod yn gofalu am y golofn hon ac y mae'r sen sydd yn ei frawddegau yn ddiameu wedi eu bwriadu er iachawdwriaeth fy enaid—felly ni achwynaf ddim. Beirniadn Cymraeg fy ysgrif gyntaf yn y TYST y mae efe pan ymostynga i ymdrin a pheth mor elfennol ag iaith. (a) V inae "ymgymryd U neu ym- gymeraf yn anghywir,' ebr ef. Yr ateb ydyw mai cymryd ydyw'r ertw berfol, eithr wrth dreiglo fe roddir e i mewn, megis cymeraf,' &c. (b) 'Ai nid amgenach sillebu na sillafu ? Cymerwch chwi'r un a fyn- noch. Y mae'n well gennyf fi sillafu.' (c) "Anghysonderau ynte anghy- sondebau ? Y cyntaf sydd fwyaf cyff- redin, onite ? Nid oes dim yn erbyn anghysondebau am a wn i. (d) Fe ddyfynna'r ymadrodd a ganlyn o'm hysgrif i Yr wyf yn addo heiyd beidio a Dyma'i feirniadaeth yntau (un o'r pethau mwyaf dof yn ei lith) :— Yn bendifaddeu, "peidio" fyddai r goreu.' Wel, y mae yna reol fach ymhob gramadeg elfennol y meddelir cydsain ar ol gair neu ymadrocld crymfachol. Fel hyn cymerer er enghraifft yr ymadrodd, gwneuthur cam.' Ni threiglir yr c yn ( cam ond tybiwch i air neu ymadrodd, ddyfod rhwng gwneuthur a'r gair di-byn- nol cam,' megis gwneuthur iddo gam,' neu gwneuthur ohono gam,' neu gwneuthur i ddyn gam.' Chwi welwch y meddelir c i g ymhob enghraifft. Felly yr wyf yn addo '/>eidio,' ond yr wyf yn addo hefyd beidio a.' Gyda llaw, peidio a sydd gywir, megis peidio a myned nid peidio mynd.' Fe wel fy meirniad hwn felly fy mod yn gwbl anedifeiriol. Fy ymddiheurad i eraill sydd yn ar05 eu I "T tro. F. J. j

I Plashet Park, East Ham.…