Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PWYLLGOR Y GRONFA. CYNHEWR y Pwyllgor nesaf dydd Mawrth, Tachwedd ail, yn Llandrindod am 2.30. Anfoner pob cais neu ohebiaeth i'r Ysgrifen- yddion erbyn Hydref y 26ain y fan bellaf. 0, L- ROBERTS, I y H. M. HUGHI?S, ) *Sg PENIEL, TREDOMOS. QYNHELIR cyfarfodydd i agor Ysgoldy yr eglwys uchod ar ddyddiau Sadwrn, Sabotb a LInn, Hydref 30ain, 31ain, a Thachwedd laf. Cymer yr agoriad ffutflol le am 3 prydnawn dydd Sadwrn, pan y cymerir rhan gan amryw weinidogion a lleygwyr y Cyfundeb. Qwahoddir yn gynnes bawb a all i fod yn breseanol. W. WILLIAMS, Ysg. yr Eglwys. BEN EVANS, Ysg. y Cyfundeb.
AT EiN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EiN GOHEBWYR. Mewn Llaw.—<Cyfarfodydd Chwarterol Cyf- undeb Dwyreiniol Morgannwg, Cyfundeb Gor- llewinol Dinbych a Ffiint, a Chyfundeb Maldwyn-Cerddorjaeth a Cherddorion, II.— Caerdydd-- --Canaan, Maesteg—Ambell i Flewyn Glas o 14echweddau Cwm Rhondda—Gogledd Ceredigion-Ysgol Sul Undebol Gymraeg Caer- odor-Tabernacl., Pontycymer—Ebenezer, Cefn- coed —Treffynnon—Meline a'r Cylchoedd-Cyf- arfodydd, &c.
LLEN A CHAN. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLEN A CHAN. MAE yn amlwg nad yw y rliyfel wedi effeithio nemawr ar bobl liofi o lyfrau, canys pery'r cyhoeddwyr i ddwyn allan drysorau gwerthfawr o'u celloedd cudd i gyloethogi meddwl a chysuro calon y wlad. A'r hyn sy'n galonogol ydyw mai nid llyfrau ar ryfel ydynt erbyn heddyw: cafodd y cyhoedd ei syrffedu ar beth felly yn ystod ei misoedd cyntaf, a thry ei sylw yn awr at ymborth iach a chryf sydd yn sicr yn arwydd er daioni. Gwyr y cy- hoeddwyr eu busnes i'r dim, ac ni buasent yn mentro arllwys arnom lenyddiaeth o'r fath onibai fod croeso helaeth iddi a phris da am dani. Mae ger ein bron nifer o'r llyfrau galluocaf ddarllenasom er's tro, a llawenychwn yn fawr i ganfod fod eu cyhoeddi yn bosibl o gwbl, y fath fyd a'r sydd arni heddyw. Nis gall pobl sydd a'u chwaeth mor bur a hyn fod wedi dirywio i'r graddau yr ofnir yn ami, ac mae yn wystl am y dyfodol. Nis gallwn wneud cyiiawn gyfiawnder a'r arlwy fras on blaen, ond gwell gennym fodloni ar alw sylw buan at y cyfrolau nag aros am egwyl a gofod i adolygu yn-hel- aethach. f- Diwinyddiaeth y Testament Newydd.' Rhaid fod y Cymry dar- llengar yn dra lluosog cyn y cawsem gyfrol drwchus fel hon, gan y Parch James Charles, Dmbyeli, Cadeirydd ein Hundeb, o law y cyhoeddwyr, y Brodyr Hughes, Dol- gellau, ar hyn o bryd. Ac o'i barnu o unrhyw gyfeiriad—maint a meddwl—mae yn sobr o rad am 3/6 net. Gwyr pawb erbyn hyn a gymer unrhyw ddiddordeb mewn diwinyddiaeth Gymreig, fod Mr. Charles wedi hen wneud ei le yn rheng flaenaf diwinyddion Cymru. Proffwydodd y diweddar Dr. T. C. Edwards yn uchel am dano wedi ei gynnyrch cyntaf o'r wasg, ac mae'r geiriau hynny wedi eu llawn sylweddoli er's tro. Ac os amheuir hynny, wele brawf pellach, ac efallai cad- arnach,nag unrhyw lyfr blaenorol o'i eiddo, fod Mr. Charles yn un o'n meddylwyr cryfaf a dyfnaf, yn ddarllenwr mawr, ac wedi astudio ei hoff bwnc gyda tlirylwyr- edd a threfn sydd yn ei alluogi i gyfleu ei wybodaeth mewn ffordd glir a medrus. Ceir yn gyntaf ragarweiniad gweddol gryno a boddhaol ar Lenyddiaeth y Testa- ment Newydd, yn yr hwn y cawn nid yn unig sylwadau beirniadol ar ei awduraeth, &c., ond hefyd drafodaeth ar Grist fel yr awdurdod a'r safon derfynol mewn crefydd y Duw Hunan-derfynedig, Mewnfod- aeth ac Uwchfodaeth y Mab, &c. Yna rhennir cynnwys y llyfr i dair rhan y Rhan. 1. yn ymdrin am Dduw, Dyn, a Phechod y Rhan II. am y Gwaredwr— Ei ddyndod, Bi dduwdod, Ei ymwaghad a'i ogoneddiad, Ei lawn, &c. a'r Rhan III. am yr Ysbryd Glan a'i waith—Person- oliaeth yr Ysbryd, y Deyrnas a'r Eglwys, a'r athrawiaethau efengylaidd o faddeuant, eyfiawnhad, sancteiddhad, &c. Gwelir fod y maes yn eang iawn, ac wedi ei ddosbarthu yn fedrus a chlir, ac mae'r holl drafodaeth yn gyforiog o feddwl a myfyrdod a phrof- iad diwinydd sydd wedi cysegru ei oes i'w waith. Yr un pryd mae rhai pethau a ym- ddengys i ni yn ddiffygion yn y llyfr. I'n bryd ni mae yr enw yn gamarweiniol. Nid agoriad i ddiwinyddiaeth y Testament Newydd ydyw yn gymaint a llawlyfr ar ddiwinyddiaeth gyfundrefnol. Daw'r Hen Destament i mewn i'r drafodaeth lawn cymaint a'r Newydd, ac nid o'r safbwynt Beiblaidd yn unig yr edrychir ar y gwa- hanol bynciau a drafodir. Daw yr athron- iaeth ddiweddaraf dan dreth yn fynych, a chedwir ffrwyth gwyddor a dysg ddiw- eddar ymhob maes perthynasol o hyd mewn golwg. Ychwanega hyn yn ddiau at werth y llyfr, ond nid hyn a olygir fynychaf wrth ddiwinyddiaeth Feiblaidd. Er enghraifft, yn ei ragarweiniad defn- yddia'r awdur y termau mewnfodaeth ac uwchfodaeth ynglyn a'r Mab a'r Eglwys mewn ffordd newydd a hapus ond termau athroniaeth ydynt, a theimlwn fod yr holl ymdrin ag ef yn athronyddol ac nid yn Feiblaidd. Eto, nid yw'r cymesuredd a ddisgwyl- iem i'w gael yma. I'n tyb ni, mae calon diwinyddiaeth y Testament Newydd yn troi o gwmpas Person a Gwaith y Mab, a gwnaeth Mr. Charles yn dda i roi cymaint lie iddo. Ond ni theimlwn fod y bennod ar yr lawn yn foddhaol o gwbl. Mae yn iach a chref, ac yn cadw yn dda at ymad- roddion Beiblaidd, ond nid yw yn wynebu yr anawsterau meddyliol gyfyd ohonynt. I ni, lawn y Ceidwad ydyw hanfod yr Efengyl, a chamgymeriad yw rhoi'r pwys ar Ei enedigaeth wyrthiol a'i gynhanfod- iad. Dylai'r drafodaeth o'r lawn fod yn llawer helaethach, hyd yn oed pe bai raid cwtogi'r penodau blaenorol Ond mater o farn bersonol efallai yw hyn i gyd, ac ni fynnem am foment i neb feddwl fod hyn yn effeithio ar werth a chryfder a chyfoeth amrywiol cynnwys y gyfrol ragorol hon. Dylai fod yn llaw holl athrawon ein Hysgolion Sul a darllenwyr myfyrgar cant ynddi drysor o uchel bris. Nid yw'r argraffwyr wedi cyflawni eu gwaith fel y dylent ar ambell dudalen. Mae'r llinellau weithiau yn peri i ni deimlo fod y llythrennau am chware leap-frog â'u gilydd, neu wneud switchback o'r llinell. Ar wahan i hynny mae'r gyfrol yn lan a destlus. Ymwrthodir yn hollol a'r orgrafE newydd, ac mae hyn yn nam, dyweder a fynner. The Holy Spirit.' YR oedd gwir angen am gyfrol fanwl, ysgolheig- aidd, feirniadol, drylwyr, ar YrYsbryd Glân,' am bris a'i dygai o fewn cyrraedd y darllenydd a'r myfyriwr a'r gweinidog cyffredin. Ac yr ydym wedi ei chael o'r diwedd yng nghyfrol werthfawr y Prifathro T. Rees, M.A., Coleg Bala-Bangor, a gyhoeddir yn y gyfres ysblenydd, Studies in Theology, gan Duckworth & Co. Nid yw ei phris ond 2 /6, a dylai hyn ei gosod ar astell pob carwr crefydd a diwinyddiaeth o fewn y tir. Iylongyfarchwn hefyd ein cyfaill talentog ar ymddanghosiad ei gyfrol gyntaf o'r wasg Saesneg gwyddem ni y Cymry am ei nerth a'i allu disglair o'r blaen trwy ei gynhyrchion gwerthfawr yn iaith ei fam, ond dyma'r tro cyntaf iddo gyflwyno ffrwyth ei. feddwl cryf mewn diwyg ac iaith rydd chware teg iddo ym myd mawr lien ddiwinyddol y Sais. A chredwn nad yw ei lyfr ef ond un o ysgubau cyntaf blaenffrwyth rhyw gynhaeaf mawr o gyn- nyrch diwinyddiaeth nodweddiadol Gym- reig sydd i ymddangos cyn hir. Yr oedd cyfrol odidog Puleston Jones ar ysbrydol- iaeth y Gair yn awgrym cryf o hynny, ac mae'r gyfrol hon wedi ein llwyr argyhoeddi y gwelir y Cymro fel yr Ysgotyn cyn hir yn arwain yn niwinyddiaeth y byd, ac mewn iaith ddeallir ganddo. Mae'r llyfr hwn wedi ei ysgrifennu mewn Saesneg caboledig, ac arddull glir, ddeniadol, a holl gynllun a dull ei gynnwys a'i ymdriniaeth mor ddysgedig a gloyw, fel y mae'n sicr o le a sylw ymhob cylch diwinyddol o fewn ein gwlad. Y modd olrheiniol, tyfiannol (genetic), yw'r un gymer y Prifathro i drin ei fater, a chydag athrawiaeth mor gyfriniol, gy- mhlethog, ac anneffiniol, anodd fuasai cael cynllun mwy boddhaol a ffrwythlon. Cy- chwynna gydag Ysbryd Jehofa a'r Ysbryd Sanctaidd ac Ysbryd Doethineb yn yr Hen Destament a llenyddiaeth ddiweddarach yr Iddewon yna daw at Oruchwyliaeth yr Ysbryd, Ysbryd Iesu Grist, yr Ysbryd a'r Gair, yn llenyddiaeth y Testament Newydd s a'r Eglwys Foreol ac Alexandria wedyn yr athrawiaeth fel yr ymrisialodd yn y tadau dwyreiniol a gorllewinol, dan y pen- awdau, Yr Ysbryd Glan yn y Drindod, Duw Ysbryd Glan, a Gras yr Ysbryd Glan. Daw yr holl ddadleuon ynghylch ei berson a'i le yn y Drindod a'r credoau, ei berth- ynas a'r Mab ac a'r Eglwys, ei waith yng nghadwedigaeth dyn, ynghyda'r lenydd- iaeth fawreddog sydd wedi casglu o gwm- pas y pwnc oil dan sylw manwl a medrus. Ar ddiwedd yr ymdriniaeth alluog, graff, hanesiol i gyd, eddyf yr awdur fod angen mawr am ail ystyriaeth ac ail fynegiad o athrawiaeth yr Ysbryd yng ngoleuni y syniad cyfoethog personol o Dduw sydd wedi cymryd lie yr hen syniadau uchan- ianol ac athronyddol a pha rai yr ystumid gwirionedd crefydd am Ysbryd Duw i gytuno. Anodd gwella, yn nhyb yr awdur, ar syniad Paul mai Yr Arglwydd Llesti Grist] yw yr Ysbryd.' Yng Nghrist y dat- guddiodd ac y rhoddodd Duw Ei Hun i'r byd, ac yng Nghrist y trig ac y gweithia