Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

+999999+1 i Y WERS SABOTHOL.…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

+999999+1 i Y WERS SABOTHOL. f —— I t ¥ WERS RYNGWLADWRIAETHOL 11 A 6 yGan y Parch. D. OLIVER, D,D., t TREFFYNNON. t TACHVVEDD 7fect.—J oas yn Adgyweirio y Demi. -2 Bren. xii. 4-15. Y TESTYX EURAIDD.—' Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded nid yn athrist, neu trwy gymell canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. 2 Cor. ix, 7. IIIIA G AR WEINIOL. TEYRNASODD Joas yn Jerusalem ddengain mlyn- edd. Enw ei fam ydoedd Sibiah o Beerseba. Am Joas dywedir ,1 Efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei holl ddydd- iau, yn y rhai y dysgodd Jehoiada yr offeiriad ef.' Bu am yn agos i dair blynedd ar hugain dan ddylanwad Jehoiada. Ond wedi marwol- aeth Jehoiada aeth dan ddylanwad tywysogion Judah, ac ymlygrodd yn ei arferion. Gwran- dawodd ar eu cais i sefydlu addoliad i Baal, a rhoddodd orchymyn i labyddio Zechariah mab Jelioiada am iddo dystiolaethu yn erbyn eilun- addoliaeth Judah. Trwy addysg Jehoiada a Joseba tyfodd i fyny yn ofn yr Arglwydd. Gan ei fod wedi treulio blynyddoedd cyntaf ei oes o fewn cynteddau y deml, yr oedd yn naturiol iddo deimlo anwyldeb mawr at y lie. Yr oedd y deml wedi ei hesgeuluso j a'i gadael i ddad- feilio. Pan gyrhaeddodd Joas oedran cyfrifol- deb, penderfynodd adgyweirio y deml. Ond oherwvdd difrawder yr archoffeiriaid a difater- web y bobl, ni wnaed dim yn effeithiol am dair blynedd ar hugain. Yna cymerodd y brenin y mater i'w ddwylaw ei hun, a threfnodd i wneud Yigwaith. Cawn hanes yn y Wers pa fodd y gwnaeth hyn. Pan na- bydd y daioni sydd mewn dyn ond effaith nwyd a, chynhyrfiad allanol, ac nid ffrwyth egwyddor y galon, nis gall sefydlogrwydd fod yn y cymeriad. Cawn enghraifft o hyn yn hanes Joas. HSBONIADOL. Adnod 4.—'A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dy yr Arglwydd, arian y gwr a gyniweirio, a-rian gwerth eneidiau pob im, a'r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dy yr Arglwydd.' A Joas a ddywedodd wrth yr afJeiriaid. Wedi iddo gyrraedd oedran i allu meddwl a batnii am ei gyfrifoldeb fel brenin. Y mae yn debygol ei fod wedi galw yr offeiriaid i gyfarfod eyhoeddus. Arnynt hwy yn bennaf yr oedd y gofal am y deml a'i gwasanaeth. Holl arian y pethau cysegredig. Nodir tri math o offrymau yr oeddynt i'w derbyn er eu galluogi i wneud vr adgyweiriadau angenrheidiol ar y demi Arian y Census, y Ilechres-dreth, yr hanner sicl oedd yn ofynnol ar bob gwr dros ugain oed pryniad addunedau (Lef. xxvii. 1-8) ac offrymau gwirfoddol. Adnod 5. Cymered yr offeiriaid liynny iddynt, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y ty, pa le bynnag y caffer adwy ynddo.' Cymered yr offeiriaid hynny iddynt, pawb gan ei gydnabod. Oddiwrth 2 Cron. xxiv. 5 yr ydym yn cael i'r brenin roddi gorchymyn iddynt fyned i holl ddinasoedd Judah er mwyn rhoddi cyf- leustra i'r holl bobl gael rhan yn y gwaith. Yr oeddynt i arfer doethineb a threfn, oblegid yr oedd pob un i fyned at ei gydnabod—pob offeir- iad i gasglu yn ei ddosbarth ei hun. A chyweir- iapit adwyau y ty. Yr oedd y rhai hyn wedi eu gwneud gan dreigliad amser, a chawn hefyd fod meibion Athaliah, y wraig ddrygionus honno, wedi itiwygo ty Dduw (2 Cron. xxiv. 7), a chy- meryd holl gysegredig bethau ty yr Arglwydd a'u rhoddi i Baalim. Adnod 6. Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y ty. Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain. Yr oedd Joas tua deg ar hugain oed. Yr oedd nifer o flynyddoedd wedi myned heibio er pan roddodd orchymyn i gasglu arian i adgyweirio y deml. Ond nid oedd yr adgyweiriadau wedi eu gwneud. Y mae yn debygol nad oeddynt yn ddigon brwdfrydig yn y gwaith. Ofnasant y draul, a syrthiasaut ddigalondid oherwydd mawredd y gwaith. Adnod 7.—' Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y ty ? yn awr gan hynny, 11a dderbyniwch arian gan eich cydnabod, ond l-hoddwch hwy at gyweirio adwyau y ty.' Yna y byettii, joas a alwodd am jehoiada. jehoiada oedd yr archoffeiriad, ac arno ef yn bennaf yr oedd y cyfrifoldeb i gario allan orchymyn y brenin. Ond y mae yn ymddangos fod yntau hefyd wedi syrthio i raddau pell i'r un ysbryd a'r offeiriaid eraill. Yr oedd tua chant oed, a diau fod ei henaint yn tueddu i'w wneud yn ddifraw. Pen- derfynodd y brenin i gymeryd yr achos yn ei law ei hun. Dywed wrth yr offeiriaid nad oeddynt mwyach i dderbyn arian gan y bobl, ond y buasai ef yn trefnu ffordd i'w casglu. Adnod 8.—' A'r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y ty.' A r offeiriaid a gydsyniasant. Boddlonodd yr offeiriaid i gynllun y brenin, a dangosasant barodrwydd i gydweithredu. Tybia rhai nad oedd y cynllun cyntaf wedi bod yn llwyddiannus i sicrhau digon o arian i fyned ymlaen a'r gwaith. Y mae eraill yn tybied fod yr offeiriaid yn defnyddio i'w gwasanaeth eu hunain yr hyn a berthynai yn briodol i r deml, ac y dylasai gael ei ddefnyddio yn hollol at adgyweirio. Adnod 9.Eithir Jehoiada yr offeiriad a oymerth gist, ac a dyllodd dwll yn ei chaead, ac a'i gosododd hi o'r tu deheu i'r allor, ffordd y delai un i mewn i dy yr Arglwydd a'r offeir- iaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i dy yr Arglwydd.' Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist. Gwnaeth Jehoiada hyn trwy orchymyn y brenin (2 Cron. xxiv. 8). Dyma oedd y trefniant newydd i gasglu. Yr oedd y brenin am ymddiried ar roddion gwirfoddol y bobl. Gosodwyd y gist oedd i dderbyn y rhoddion mewn lie amlwg a chyfleus, a rhoddwyd ar ddeall fod yr holl gyf- raniadau yn myned at adgyweirio y deml. Gwa- hoddwyd pawb i roddi eu rhoddion. Adnod xo.—'A phan welent fod llawer o arian vn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a'r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nhy yr Ar- glwydd.' A phan welent fod llawer 0 arian yn y gist. Danghosodd y bobl haelioni mawr, a chyf- ranasant yn ewyllysgar. Yr oedd llawer o arian yn y gist. Gosodwyd yr arian yng ngofal dau swyddog o ymddiried—un yn cynrychioli y brenin, a'r llall yr offeiriaid y rhai a'u gosodent mewn codau i'w rhoddi i'r goruchwylwyr i dalu y crefftwyr oedd yn adnewyddu ty yr Arglwydd. Adnod 11.—'A hwy a roddasant yr arian wedi en cyfrif, yn nwylaw gweithwyr y gwaith, gor- uchwylwyr ty yr Arglwydd a hwy a'u talasant i'r seiri pren, ac i'r adeiladwyr oedd yn gweithio -A. hwy a rorldasant yy arian wedi eu cyfrif Yr oedd yr arian yn cael eu rhoddi o'r gist yn uniongyrchol i'r gweithwyr. Y dull o evfrif arian y pryd hynny ydoedd eu pwyso a dyna ystyr y gair cyfrif yn yr adnod hon. Adnod i'r seiri meini, ac i'r naddwyr cerryg, ac i brynu coed a cherry g nadd, i gyweirio adwyau ty yr Arglwydd, ac am yr hyn oil a aethai allan i adgyweirio y ty.' Ac i'r seiri meini, ac i'r naddwyr cerryg. Yn yr adnod hon cyfeirir at y gwahanol fathau o weithwyr oedd gyda'r gwaith o adgyweirio y ty. Derbyniodd y gweith- wyr eu cyflogau yn rheolaidd, a hwythau a weith- iasant yn ddiwyd, gan orffen y gwaith oedd yn angenrheidiol er cwbl adnewyddu muriau y deml. Adnod 13. Eto ni wnaed yn nhy yr Ar- glwydd gwpanau arian, psaltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o'r arian a ddygasid i mewn i dy yr Arglwydd.' Eto ni wnaed yn nhy yr Arglwydd gwpanau arian. Yr oedd y deml dro ar ol tro wedi cael ei hysbeilio o'i llestri gwerthfawr gan frenhinoedd drygionus. Yr oedd meibion Athaliah wedi ei hysbeilio o'i phethau cysegredig. Ond er cymaint yr angen am ddodrefn cysegredig, gofalwyd yn gyntaf am ddefnyddio yr arian i adgyweirio y ty—muriau y deml. Cawn yn 01 2 Cron. xxiv. eu bod wedi defnyddio gweddill yr arian i wneud llestri i dy yr Arglwydd. Adnod 14. Eithr hwy a'i rlioddasant i weithwyr y gwaith; ac a gyweiriasant a hwynt dy yr Arglwydd.' Eithr hwy a'i rhoddasant i weithwyr y gwaith. Sef i weithwyr y gwaith o adgyweirio muriau y deml. Cawsant ddigon o arian i'w rhoddi i'r gweithwyr hyd nes y gorffennwyd y gwaith. V 1 Adnod 15.—'Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y"t-hoddasant hwy yr arian yn eu dwylaw i'w rhoddi i weithwyr y gwaith canys yr oedd- ynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlawn.' ,1 C ni cheisiasant gyfrif gan y dynion. Yr oedd gan- ddynt berffaith ymddiried yn y rhai y rhoddas- ant yr arian iddynt y caent eu defnyddio i'r pwrpas priodol. Yr oeddent uwclilaw pob aniheu- aeth am. eu gonestrwydd, ac ni chamddefnydd- iasant yr ymddiriedaeth a roddwyd ynddynt Canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffydd- lawn.' Perthyn i'r offeiriaid oedd yr arian dros gamwedd a'r arian dros bechodau (Lef. v. 15-19, vii. 7 Num. xviii. 9). Ni ddefnyddiwyd yr arian hyn i adgyweirio y deml. Pan fyddo pobl yr Arglwydd wedi eu meddiannu gan ysbryd liaelionus a ffyddiog, nid oes dim rhesymol yn ormod ganddynt wneud ac yn anil gwnant bethau y tuhwnt i'w disgwyliadau eu hunain a phawb eraill. GOFYNIADAU AR Y WERS. i. Pwy oedd Joas ? Pa bryd y gwuaed ef yn frenin ? 2. Pa fodd y cyfrifir am y diddordeb neilltuol a gymerai yn y deml ? Pa beth a wnaeth i'w hadnewyddu ? 3. Pa fodd yr oedd yr offeiriaid i sicrhau yr arian at yr adgyweiriad ? 4. Am faint o flynyddoedd yr oedwyd y gwaith ? Pa fodd y gellir cyfrif am byn ? 5. Pan ddeallodd Joas nad oedd y gwaith yn cael ei wneud, pa beth a wnaeth ? 6. Pa gynllun a drefnodd i gael yr arian angen- rheidiol ? 7. Pwy oedd yn arolygu ? Pa lwyddiant fu ar y cynll un ? 8. Pabaiii y gadawyd pethau lnewnol cysegr- edig y deml heb eu hadnewyddu ? 9. Pa beth a ddywedir am gymeriad Joas ?

I CWESTIWN 0 DYSTIOLAEJH.