Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLANDEILO -A'R CYLCH.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDEILO A'R CYLCH. Cyfarfodydd Diolchgarwch.Nos Fercher a nos Iau, Hydref 6ed a'r 7fed, y cynhaliwyd y rhai hyn eleni mewn perthynas Ag eglwysi y Tabernael a'r Capel Newydd. Arweiniwyd y cyfarfodydd gan y gweinidog, a chynorthwy- wyd ef gan y Parchn D. Hewid Williams a W. Harris. Cafwyd cynulliadau cryno. Casglwyd at yr afiach a'r llesg. Adferiad.-Da gan bawb ohonom yng nghylchoedd y dref, yn enwedig pobl gofal y Parch W. Davies, weled ei unig ferch, Miss Myfanwy Davies, eto wedi ei hadfer o'i chystudd blin, ac yn ol drachefn ar aelwyd annwyl a pharchus y Walk. Fel y gwyr llawer, bu dan driniaeth feddygol beryglus yn ddiweddar yng Nghaerdydd. Mae ei dychwel- iad i'r Walk, ar ol absenoldeb o rai wythnosau, yn gysur a dedwyddwch mawr i'w thad. Y Diweddar Mr Isaac Jones, Grove House. -Un o heddychol ffyddloniaid Israel oedd yr ymadawedig. Hunodd prydnawn ddydd Iau, Hydref 14eg, ar ol cystudd caled. Gwnaod popeth dichonadwy er ei adferiad, ond angeu a orfu. Claddwyd yr hyn oedd farwol pryd. nawn dydd Mawrth, Hydref 19eg, yng nghladdfa y teulu yn y Tabernael. Cafodd angladd lluosog a pharchus. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan ei weinidog, y Parch W. Davies Wedi i'r Parch W. Harries fynd trwy y rhannau arweiniol, canwyd un o hoff emynau yr ymad. awedig, ac yn dilyn traddododd Mr Davies bregeth gysurlawn ar Phil. i. 23: 'Gan fod gennyf chwant i'm datod.' Dyma eiriau olaf yr ymadawedig i'w weinidog, a dymunol oedd gwrando ar Mr Davies yn traethu arnynt ddydd ei angladd. Ca eglwys y Tabernael ac ysgol y Capel Newydd golled fawr ar ei 01, gan ei fod yn un o'r ffyddloniaid. Cysured yr amddifatd yn mywyd da a fflvddlon eu tad, gan gofio am adnoddau dihysbydd y Tad Tragwyddol yn Ei Air Sanctaidd. Os eoll'som un oedd annwyl I'r achos yn ein mysg, Yr hwn a fu'n cyfrannu I ni nefolaidd ddysg; g Os gwag yw yr eisteddle, Lie gwelwyd ef mewn bri, Boed i ni ymfoddloni Ei fenthyg gawsom ni. Y Cyfarfodydd Gweddi Ymostyngol.—Teimlad cyffredinol crefyddwyr Llandeilo yw mai bendith uniongyrchol yw y rhai uchod i'n heglwysi ac i grefydd yn gyffredinol. Mynychir hwynt gan liaws mawr o aelodau y gwahanol eglwysi, sef y Tabernael, Salem (M.C), Eben- ezer (B), St. Paul (W), a'r Capel Newydd Llywyddir gan y gwahanol weinidogion. Argraffwyd yn ddiweddar lyfr hymnau at wasanaeth y cyfarfodydd, a thry y cyfryw yn hwylustod mawr i ganiadaeth pob odfa. Nos Iau, Hydref 7fed, unodd holl enwadau y dref i gynnal yr wyl ddiolchgarwch yr un dydd. Yn hwyry dydd cyrchwyd yn undebol i gapal y Methodistiaid Calflnaidd, a chaed cwrdd rhagorol o dan arweiniad y Parch Phillip Jones. Da oedd bod yno. Ein Bechgy)t.-Mae y rhyfel ofnadwy yma yn dod yn nes adref atom o ddydd i ddydd. Clywed yr ydym am ein cydaelodau eglwysig, ein cyd-drefwyr, a'n cydwladwyr yn cael eu lladd a'u hanafu ar feusydd gwaedlyd y rhyfel. Dymunwn estyn ein cydymdeimlad dwysaf a phawb sydd mewn trallodion felly y dyddiau hyn, a gweddïwn am i Dduw iwyddo ein hyrn- drechion a pheri i'r trychineb ofnadwy hwn ddod i ben yn f nan. 'Yr Arglwydd .sydd yn teyrnasu., Cyfarfodydd er Codi Gwyr ir Fyddin-Cyn haliwyd llawer o'r rhai hyn yn ddiweddar. Llawen gennym ddeall nad yw gwirfoddoliaeth hyd yn hyn yn fethiant. Trueni na bai y rhai sydd mewn awdurdod yn gallu talu ymweliad a'n cylchoedd gwledig pan fyddo rhai o'r swyddogion milwrol yn annerch ein cyfarfod- ydd. Sicr ydwyf y byddai rhai ohonynt yn fwy gwyliadwrus o'u geiriau. Gellir dweyd fod llawer o'r cyfryw yn lladd mwy' ar ysbryd ein pobl ieuainc na'u hennill i'r fyddin ohe'- wydd eu hannoethineb wrth annerch ein cyf- arfodydd. Nid ydynt eto yn eu hiaith estronol na'u hymddygiad wedi deall gwerin wledig Cymru. Diolch am areithiau dynion tebyg i Mr Llewelyn Williams, A,S.; Mr Towyn Jones, A.S.; Mr Hugh Edwards, A.(3 a'r Pitrehu W. Davies a Phillip Jones (MC), Llandeilo. Pan gynhelir cyfarfodydd cyffeiyb eto yn ein tref a'r cylch, gobeithio yr anfonir dyuion o anian- awd Cymreig i'n hannerch. TYWIFAB.

I. CYFARFODYDD. j

Family Notices