Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CAPEL CWMBWRLA. _-. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAPEL CWMBWRLA. Marwolaeth.—Dydd Saboth, Medi 26aiu, bu farw Mrs Elizabeth J ones, o Lanelli, ar ol eys. tudd blin yn nhy ei brawd, Mr LI. Williams, Brynlieulog, Cwmbwrla, a gosodwyd ei gwedd- illion i orwedd gyda'i rhieni ym mynwent Llan- vr-Newydd (St. Gwynonos), Penclawdd, dydd • Iau; Medi 3oain. Gwasanaethwyd fel elor-glud- wyr gan y Mri J. Griffiths, A. Anthony, R. Davies a W. E. Francis. Gweinyddwyd gan y Parch R J. Edwards. Yr oedd yr ymadawedig yn chwaer i drysorydd eglwys Cwijibwrla. Daeth i Ysbyty Abertawe i chwilio am iechyd, ond ymhen chwech wythnos yno dygwyd hi at ei brawd, lie y bu yn ymboeni am 11 wythnos mewn cystudd. Fe fu y teulu yn garedig iawn iddi yr holl amser, ac yn ei gwylio ddydd a nos. Y mae Mrs Williams yn un o wragedd mwyaf rhinweddol yr ardal, ac yn Imiod am ei pharod- rwydd a'i charedigrwydd, hanner nos fel hanner dydd, i weini ar bawb yn eu cyfyngderau. Y mae'r ten In yn wasanaethgar yn yr eglwys ymhob riian ohoni. Cysured yr Arglwydd y teulu a'r brodyr yn. eu galar ar ol eu chwaer ymadawcdig. Cyhawn yw yr Arglwydd yn Ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn Ei holl weithredoedd.' Heddwch i'w Uwch. Cyfarfodydd Blynyddol.Cylihaliodd yr eglwys ei chyfarfodydd eleni Sadwrn, Sul a Uun, Hydref 2il, 3ydd a'r 4ydd. Y gwahoddedigion oeddynt y Parchn O. Iyloyd Owen, Pontypridd, a'W. J. Nicholson, Porthmadog ond methodd yr olaf a llanw ei gyhoeddiad oherwydd cystudd, a daeth y Parch E. J. Rosser Evans, Gwynfryn, Amanford, ar fyr rybudd i lanw ei le. Tradd- ododd y cenhadau yr lifengyl gydag arddeliad dwyfol, a theimlwyd fod yr Arglwydd gyda'i weision. Cafwyd cynulliadau mawrion a chasgl- j iad rhagorol. Bendith y Nef a'u dilino. Ein Hoigaiiydd.Da gan bawb fod Mr Evan Walters wedi dychwelyd gartref o'r sanatorium ar ol chwe mis o amser, ac yn edrych cystal. Y mae wedi dechreu yn rhannol ar ei waith fel organydd yr eglwys. Yr Arglwydd a'i hadfero yn llwyr i'w iechyd yw dymuniad yr eglwys a'r dref. V Dosharth Gwtiio.Y mae y dosbarth hWlJ yn parhau yn ei weithgarwch o hyd tuag at y milwyr a'r morwyr sydd yn ymladd trior ddewr drosom ar Gyfandir Ewrop. Bydded i'r Ar- clwvdd gvfrvngu ar ran y rhai sydd yn ymladd dros ryddid a chyfiawnder. GOHRBYDO.

CASNEWYDD. ,,I

[No title]

Advertising