Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Yr wyf yn ceisio ysgrifennu i'r wasg weithian er's llawer blwyddyn, ond yn teimlo yn rhyw hanner of nus yn y dydd- iau clasnrol' hyn oblegid y dull newydd o ysgrifennu Cymraeg. Mae'r iaith newydd yma sydd yn hwylio o amrywiol fannau yn peri imi betrustod mawr oblegid fy anwybodaeth anfaddeuol o deithi hen iaith fy mam. Yn fyr, Mr. Gol., disgybl i'r hen Gymro iach hwnnw, Michael D. Jones o'r Bala, wyf fi yn y mater yma. Yr oedd efe yn arfer dweyd fy mod yn hwylio'r ysgrifbin ac yn sillebu yn lied gywir ar y cyfan ond yr wy'n sillebu yn anfaddeuol o bechadurus yn ol amryw safonau y dyddiau diweddaf hyn. Yn fy llith diweddaf cyfeiriais at so rod pob 'dim.' Ar ol i'm hysgrif annheilwng fyned drwy'r peiriant sillebu newydd yna sydd gennych yn y Swyddfa, yr oedd y gair sorod wedi ei gywiro (?) a'i alw yn sorrod.' Troais i fy Meibl Cymraeg i weled sut yr oedd hwnnw yn sillebu sorod,' a chefais ei fod yn gwneud hynny yn ol yr hen ffasiwn. Tybed nad sorod sydd yn iawn ? Rheol M. D. Jones ydoedd rheol Pitman, apostol y Llaw Fer, ac y mae ei llond o synnwyr cyffredin—hynny ydyw, fod pob llythyren yn y Wyddor Gymreig a chanddi ei sain benodol ei hun--fod gan bob llyth- yren felly ei fixed value, Dadl yr hen Brif- ,ttliraw- -v(loeci(lT,, bon-o,, gwnai un n, dy- weder, y tro, pa les rhoddijjhaniier dwsin yn ymyl eu gilydd ? Dyna air fel' littnan --y mae un 17 cystal a chant a gwell. 'Rwy'n methu gweld rheswm ?da dros newid yr hen ffordd o sillebu geiriau fel dyddo rol neu ditwinvdd a chyda phob dyledus barch i'r ysgol newydd, yr wyf fi, fel hen fossil, yn meddwl glynu wrth yr hen ddttll phonetic o ysgrifennu Cymraeg—pob llythyren a'i sain iddi, a sain i bob llythyren. Y gair sorod (wedi ei droi yn sorrod ') sydd yn achlysur yr ychydig sylwadau arweiniol hyn. Nid oes gennyf wrthwynebiad yn y byd i'r Swyddfa gywiro fy null o sillebu. Yr oil ddywedaf ydyw fy mod yn bechadur hollol anedi- feiriol, ac felly yn meddwl sefyll streic yn erbyn yr amryw systemau newydd sydd heddyw ar y maes yn cystadlu a'u gilydd ac yn dyrysu'r saint. Y cwestiwn mawr ydyw, Pa un o'n hathrawon sydd yn iawn ? Ile mae'r Iylys Terfynoly Final Court of Appeal ? Tybed fod yr Hen Feibl Cym- raeg wedi ei gondemnio fel back number ? Wei, dyna fi wedi dweyd fy neges, wedi esmwythau fy nghydwybod ac yn awr at ymlaen at faterion eraill yr wythnos. Da oedd gennyl weled adroddiad llawn o urddiad ein brawd ieuanc Mr. Idris Evans, M.A. (o Barry) yn Plashet Park. Drwy ryw anffawd neu gilydd (bai rhyw swyddog neu gilydd, mi wn), ni chafodd neb ohonom ni fel aelodau o'r un Undeb —ac amryvv yn Gymry, a'r Parch. W. Pierce yn gadeirydd-ei wahodd i gymeryd rhan. Dynion dwad oedd y siaradwyr bob un nes, o ddamwain, i ryw un neu ddau lanw bwlch.' Nid bai Mr. Evans oedd hyn, ond yr oedd yn fai anffodus dros ben. Buasai yn dda gennym fel aelodau Cymreig Metropolitan Essex gael dweyd gair neu ddau i groesawu ein cyd- wladwr ieuanc i'n plith er ei fwyn ei hun, ac er mwyn ei dad sydd wedi sefyll mor hir ar uchelfannau'r Enwad yng Nghyinru. Y mae Mr. Idris Evans wedi cychwyn yn gryf, a chanddo eglwys fyw, ieuanc, effro, fel efe ei hun a chyn hir gellir disgwyl pethau gwych i ddyfod. Newyddion da iawn geir hefyd o fy hen eglwys fy hun yn Finsbury Park, lie y mae Mr. Emrys James newydd ddechreu ar ei waith, ac wedi dechreu hefyd yn obeithiol dros ben. Y mae yno gymdogaeth gref o bobl ydynt fel dosbarth yn gapelwyr' yn hytrach nag eglwyswyr." Gogledd Llundain yw y darn mwyaf Piwritanaidd ac Annibynnol feddwn ni ym Mabilon Fawr, ac y mae pregethwr cryf yn sicr o dynnu cynull- eidfa. Y mae yno fri ar bregethu o hyd, a dymunaf lwyddiant mawr i'r gweinidog newydd yn ei faes ardderchog. Y mae Cymro arall—un o fechgyn Trewyddel, y Parch. E. G. Davies (o Abertillery gynt, Bryste wedyn)—wedi ei alw i Palace-road, Fulham. Felly y mae'r Welsh Brigade yn parhau i gynhyddu. Bendith arnynt oil. Rhag eu blaen yr elont. He Wel, nid oes fawr newyddion tanllyd yn y byd politicaidd. Yn wir, pan aeth y ddwy blaid Seneddol yn un yn y Coali- tion Government, fe aeth politics fel y cyf- ryw i'r anialwch.' Ac yno yr erys pethau am rai blynyddau bellach. Ac eto, wedi i'r rhyfel ofnadwy derfynu, fe agorwn ein llygaid mewn byd newydd, annhebyg iawn i'r hen, Mae hanner dwsin o gacynod yn Nhy y Cyffredin yn brysur dros ben yn ceisio ennill anfarwoldeb wrth ofyn cwestiynau cas. Llawer ohonynt yn sar- haus fel y gofyniadau ynghylch Arglwydd Haldane. Y rhyfeddod mawr i lawer ohonom yw fod papurau Northcliffe yn cael eu goddef cyhyd i hau hadau anghyd- fod ar bob Haw. Y maent fel yn gorfol- eddu os ceir newyddion drwg o faes y rhyfel, ac yn bychanu newyddion da: Pwy yw Northcliffe, wedi'r cyfan ? Beth y mae hwn wedi ei wneud mewn byd nac Eglwys fod pwys yn cael ei roddi ar ei farn ? Gwir ei fod wedi prynu'r Times a chychwyn y Daily Mail, ond nid yw hynny yn ei gymhwyso i fod yn rhyw ben-cadfridog dros bawb a phopeth. Eisiau cael Asquith o'r ffordd sydd ar hyn o bryd ac y mae impudence anghy- ffredin gan yr Arlgwyddyn hwn, na chlyw- odd neb ei lais erioed yn y Senedd nac at y llwyfan, i ymdorsythu fel pe yn ymer- awdwr. Yr anffawd yw mai papurau hwn, sef y Times a'r Daily Mail, yw y rhai a ddarllenir yn bennaf ar y Cyfandir ac y mae ein cymdogion yno yn tybio fod Northcliffe yn siarad dros gorff mawr ein pobl, pan mewn gwirionedd nid yw yn cynrychioli neb ond efe ei hun a'i 'gynffon gyflogedig, heblaw rhyw ddyrnaid o Ael- odau Seneddol allan o lobs. Ydyw, y mae Syr Edward Carson wedi gadael y Weinyddiaeth. Uongyfarchwn y Weinyddiaeth Y syndod mawr yw fod yr arch-wrthryfelwr o Ulster wedi cael ei alw i fewn o gwbl. Addefir gan bawb ei fod yn alluog yn ei le, ac yn jolly good fellow yn ei ffordd ond fel aelod o unrhyw gymdeithas y mae yn amhosibl, oddigerth iddo gael ei ffordd ei hun. Aeth allan yn herwydd anghydwelediad ar bwnc y Balkans. Wiw manylu. Digon tebyg nad oedd alar mawr am ei ymadawiad. Teimla pawb, ar yr un pryd, fod Cabinet o ddau ar hugain yn ormod o lawer a phan gofir yr hen ddiareb mai Ymhob pen y mae piniwn,' gwelir mor amhosibl yw cael per- ffaith unfrydedd. Sonnir bellach am gael is-bwyllgor o dri i ofalu afa y rhyfel, a'r tri ydynt Asquith, Kitchener a Balfour- penaethiaid y F y d d i n a'r Llynges, dynghya'r Prifweinidog yn y gadair. Beth am lyloyd George ? Mae swn newyn-, ac eisiau yn ein cyr- raedd o'r Almaen. Codwyd cri o'r fath o'r blaen fiwyddyn neu fwy yn ol, ond eddyf pawb fod mwy o sylwedd yn y en hwn. A dyna fel y terfynir y rhyfel maes o law—drwy atal supplies. Dyna lie y daw gwerth ein llynges i'r golwg. Ar hyn o bryd nid oes faner Germanaidd ar y moroedd mawrion yn un man oddigerth y Baltic. Costus iawn yw rhyfela fel hyn, ond gwell yw talu'r gost yn ddiddig, os gellir felly arbed tywallt afonydd o waed. Synnwn i fawr na cheir heddwch cyn y Nadolig. Ac fe ddywed yr holl I)ol)]-- Amen. :r Cawn fod EsgobLlanelwy eto ar y maes efo'i vstadegaeth. Profi y mae y tro hwn fod 80 o bob cant o wirfoddolwyr y Fyddin Gymreig yn Eglwyswyr Ofer dadleu a 1 Arglwyddiaeth cystal ceisio perswadio carreg filltir. Y mae rhyw foneddiges, er hynny, wedi ei ateb yn dwt ac effeithiol dros ben yn un o bapurau Lerpwl, ac y

0 FRYN I FRYN.i