Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFODYDD CHWARTEROL

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFODYDD CHWARTEROL CYFUNDEB MON. g^Cynlialiwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfuudeb uchod ym Methel, Cemaes, Llun a Mawrth, Hydref neg a'r I2fed—Mr R. Williams, Bodlew, llywydd y flwyddyn, yn y gadair, Dechreuwyd trwy ddarllen rhan o Air Duw a gweddio gan Mr O. Hughes, Tregwehelyth. Yna— 1. Cadarnkawyd y cofnodion, 2. Cafwyd rhodd chwarterol yr eglwysi tuag at y Gymdeithas Gartrefol. 3. Etholwyd y Parch R. Morris, Llanerch- yiaedd, yn llywydd am y flwyddyn ddyfodol. 4. Etholwyd Mr T. Trefor Jones, Llanerch- ymedd, yn is-gadeirydd. 5. Ail-ddewiswyd y Trysorydd a'r Ysgrif-on nydd. 6. Yr Ysbytai.—Dywedodd y Parch W. Keill- ion Thomas fod yr arian o'r eglwysi yn dod i fewn yn rhagorol. Penodwyd yr iin Pwyligoi- ag o'r blaen am y flwyddyn ddyfodol, yn aelodau ac yn swyddogion, ynglyn a'r symudiad hwn. 7. Y Gymdeithas Gartrefol.-—Cafwyd math o adroddiad byr gan y Parch E. B, Jones, ysgrif- ennydd y Gymdeithas. Ail-etholwyd yr aelodau oedd yn myned allan, wedi llenwi y bylchau a wnawd gan angeu yn ystod y flwyddyn, ynghyda dwyn i fewn ychydig o enwau newyddion i gyn- rychioli gwahanol gymdogaethau. 8. Llythyr gollyngdod i'w roddi i'r Parch D. Lloyd Morgan, Beaumaris, ar ei waith yn ymsef- ydlu yn Heywood, ac yn dymuno ei lwyddiant. 9. Y Drysorfa Gynorthwyol.—Caiwyd adrodd- iad gan y Parch J. G. Jones, Cana, yr hwn a ddywedodd fod amryw o eglwysi cryfion y Cyf- undeb heb gasglu o gwbl. Eraill wedi gwneud yn dda, a'u hail gyfran yn dod i'w law. Addew- idion personol ami un wedi eu talu yn llawn. Anogai yn daer yr eglwysi oedd ar ol i wneud brys er mwyn cydgerdded a'r eglwysi sydd ar y blaen. Cafwyd gair o anogaeth i'r perwyl hwn gan Mr D. Lloyd Jones, Bodffordd, fel un o gynrychiolwyr y Cyfundeb ar Gyngor yr Undeb Cymreig. 10. Rhybudd Mr 0. Trefor Williams, LZan- gefni.—-Ar ol cael llais yr eglwysi ar y mater, dyfarnodd y Gynhadledd yn ffafr gadael y Gy- manfa Bregethu i ofalfjyr eglwysi lie y cynhelir y cyfryw o flwyddyn i flwyddyn. 11. Advoddiad y Cyngor Dirwestol.—Cafwyd hwn gan y Parch R. Morris. Pasiwyd y pender- fyniad isod :—' Ein bod fel Cynhadledd o Anni- bynwyr M611 yn dymuno datgan ein boddhad fod ynadon y sir wedi byrhau oriau ymyfed y tafarnau ymysg pob dosbarth clrwy'r Ynys, ac o'r effeithiau daionus a welir a'n bod o'r farn hefyd mai da fyddai i'r Llys Trwyddedol nesaf roddi sylw i'r cynnydd ymyfed amlwg sydd ymysg y gwragedd a'r merched. Disgwjdiwn yn aiddgar y bydd y Pwyllgor Seneddol sydd mewn grym yn awr yn estyn gallu pendant i'r ynadon i ddelio yn fwy effeithiol a'r fasnach feddwol, yn arbennig felly yn wyneb yr argyfwng dirifol sydd wedi ein goddiweddyd fel gwlad a theyrnas.' 12. Cymeradwywyd cais eglwys Siloam, Llan- fairneubwll, am arian o'r Gronfa, sef £ 90. 13. Y Cyfarfod Chwarterol riesaf, yn ol y gylchres, i'w gynnal yng Nghana, yr ail Llun a Mawrth yn Chwefror, 1916. Y Parch H. Monfa Parry, Caergybi, i ddarllen ei bapur gohiriedig yn y Gynhadledd. 14. Diolchwyd yn fawr i'r Parch R, P. Williams am ei anerchiad gallnog ac ymarferol ar Yr Ysgol Sabothol.' Trefnwyd yn._ddiatreg bwyllgor o frodyr er sicrhau arian i'w argraffu yn ddioed, a'i wasgaru ymlhith eglwysi y Cyf- undeb, er creu mwy o sel ymysg aelodau y cyfryw o blaid y sefydliad amhrisiadwy hwn. Y Parch R. Morris yn gynhullydd y Pwyllgor. 15. Cydymdeimlad a Theuluoedd Galar.—Mr O. Thomas a'r plant, Factory, Pentraeth, yn colli drwy angeu briod hawddgar, wraig dda a mam ofalus. Plant a pherthynasau y ddiweddar wraig ragorol, Mrs Jones, Cymunod, Bryngwran. Hannai hi, fel y gwyddys, o deulu enwog ac amlwg y Pandy, Bryngwran. Hefyd a theulu- oedd cystudd, sef y Parch W. Rheidol Roberts, Bryngwran, yng nghystudd ei annwyl fab, &c., a'r Parch J. G. Jones, Cana, yng nghystudd Mrs J ones-ilawenydd gan y Gynhadledd oedd cael ar ddeall fod Mrs Jones yn araf wella; a'r Parch D. Rees, Capel Mawr, yn ei lesgedd a'i unig- rwydd, 16. Diolchwyd yn gynnes iawn i'r brawd Mr R. Williams, Bodlew, Cana, am ei wasanaeth fel cadeirydd y Cyfundeb ar hyd y flwyddyn oedd yn terfynu y diwrnod hwnnw. Llanwodd y swydd anrhydeddus heb golli yr un cyfarfod. Pregethwyd yn ystod y dydd gan y Parchn IÇ, B. Jones, J. G. Jones (Cana), R. P. Williams, O. Morris (Capel Mawr), W. Keinion Thomas, D. C. Herbert, a T. Evans (Amlwch). fflj Cafwyd croesaw gwir deilwng gan eglwys Bethel a'i gweinidog siriol. Camnblai'r cynrych- iolwyr y derbyniad a gawsant yn fawr. Darpar- iaeth neuadd y pentref yn deilwng o'r brenin a'r tywysog. Bydded bendith yn dilyn, a honno yn un ysbrydol, yn llawn gras a gwirionedd. Cemaes, Mon. J. S. EVANS, Ysg. CYFUNDEB DWYRAIN MORGANNWG. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfnudeb uchod yn Salem, Llwynypia, dyddiau Mercher ac Iau, Hydref 6ed a'r 7fed, clan lywvddiaeth y Parch Thomas Hughes, A.T.S., Caerdydd, y cadeirydd am y flwyddyn .\fy Ar ol i'r Parch D. Overton weddlo, pender- fynwyd a ganlvn :— I. Fod cofnodion y cyfarfod blaenorol i-ii, cael eu cadarnhau. 2. Rhoddwyd derbyniad cynnes i'r eglwys sydd newydd ei sefydlu yn Nhredomas, gan ddy- muno iddi fendith yr ArgIwydcl ar ei Ilafur yn y lie poblog hwnnw. 3. Ar dystiolaeth yr arholwyr, derbyniwyd y Mri Thomas John Evans, Pontyrkyl, a D. G. Williams, Cilfynydd, fel dynion ieuainc sydd â'u hwyneb ar y weinidogaeth. Hefyd penodwyd arholwyr i gyfarfod a Mr D. Jones sydd wedi dechren pregethu yn Tynewydd, Treherbert. 4. Pasiwyd pleidlais dyner o gydymdeimlad a'r Parchn John Williams, Hafod E. Richards, Tonvpandy J. Williams, Wattstown T. E. Jones, Efailisaf R. T. Gregory, Nantymoel T. L. Davies, Cwmparc loan Anwyl, Pont- ypridd teuluy diweddarMr E. H. Davies, Y.H., Pentre ac a Mr W. Morgan, Tylorstown, yn eu hiraeth ar ol anwyliaid ac yn eu cystudd. 5. Cefnogwyd cais eglwys Glantaf am fenthyg arian o'r Gronfa. 6. Penodwyd Mr John Thomas, diacon yn eglwys Cathays, Caerdydd, yn gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol a'r Parchn D. Hughes, Pontycynier, E. D. Evans, Pontypridd, a T. R Jones, Efailisaf, ynghyda Mr Thomas Hodges, Canton, Caerdydd, yn aelodau o'r Pwyllgor Gweithiol am dair blynedd. 7. Pendei^niadau— (a) Cynildeb a'r Rhyfel.—' Fod y Gynhadledd hon yn llawenhau fod sefyllfa ariannol ywlad mor foddhaol yn wyneb y gofynion aruthrol sydd ami ynglyn a'r rhyfel presennol. Gelwir arnom nid yn unig i gyfarfod a'n treuliau anferth ein hunain, y rhai sydd dros £ 4,000,000 y dydd ac yn cynhyddu o hyd, ond hefyd i gynorthwyo ein cymdogion ar Gyfandir Ewrop. Sicrheir ni fod buddugoliaeth yn dibynnu, nid yn unig ar ein byddin a'n lynges, trwy gymorth Dnw, ond hefyd, a hynny i raddau helaeth, ar ein had- noddau ariannol. Oherwydd hyn, apeliwn yn ddwys ac yn daer at bob un i arfer y cynildeb mwyaf ynglyn a phopeth aireidiol i gynhaliaeth a chysur bywyd er mwyn galln cynorthwyo'r wlad yn ei hangen, darpar ar gyfer y dyddiau bliu sydd i ddod, a gwneud ei raii-ei unig ran i filoedd-i sicrhau buddugoliaeth ar y gelyn creulawn. Credwn fod cariad at wlad, edmygedd o wroldeb ein mcibion glewion, a theyrngarweh i'n Brenin ac i'n Duw, yn galw am ein cydsyniad mwyaf calonnog yn hyn o beth.' (b) Y Saboth Dirwestol. Fod cylchlythyr yn cael ei anion at yr eglwysi yn enw'r Gynhadledd yn galw sylw at y Sul Dirwestol, Tacliwedd I4eg, gan ddymuno am i Ddirwest gael sylw arbennig eleni, ac annog rhai i lwyrymwrthod a'r ddiod feddwol fel peth afraid, yn arbennig tra parhao y rhyfel, a hynny ar dir cynildeb, pe na bai un rheswm arall.' (c) Restriction of Drinking FaC'Ílities. That this Conference of the Welsh Congregational churches of East Glamorgan, meeting at Llwyn- ypia, Rhondda, begs respectfully to express its hearty appreciation of the steps taken by the Government to restrict drinking facilities, and strongly urges the adoption throughout Wales and Monmouthshire of the limited hours of opening licensed houses now imposed in certain districts under the Munitions Central Board of Control. (d) Cyftwr Truants yr Armmiaid.—•' Ein bod yn gofidio yn ddwys wrth -feddwl am gyflwr truenus presennol yr Armeniaid o dan orthrwm y Twrc. Mae hanes y creluonderau a gyflawnir, a'r miloedd lladdedigion geir 3-mhlith y Crist- ionogion diniwed hyn, yn ennyn ein cydym- deimlad llwyraf a hwynt, ac yn galw am ein gweddiau taeraf ar eu rhan. Blin gennym am anallu teyrnas Prydain Fawr i gyfryngu o'u plaid yn y cyfwng ofnadwy yma yn eu hanes, ond gwerthfawrogwn yr ymdrechion a wna Llywodraeth yr Amerig i ddadlennu'r erchyll- terau a wneir o dan luman y Tyrciaid, a dy- munwn ami wneud popeth 3-11 ei gallu i helpu'r genedl anftodus yn y cyfnod erchrysol yma yn ei hanes.' (e) Ein Milwyr. Ein bod fel Cynhadledd o eglwysi Annibynnol Dwyrain ]Morgannwg, yn cyfarfod yn Salem, Llwynypia, Iau, Hydref 7fed, 1915, yn cofnodi ein gwerthfawrogiad didwyll a'n hedmygedd diffuant o'r milwvr sydd wedi ateb y wys i'r gad yn erbyn ein gelynion, y Germauiaid, yr Awstriaid a'r Tyrciaid, yn y frwydr herfeiddiol ar y Cyfanclir, sydd yn ael- odau o'r eglwysi a'r Ysgolion Sul o dan nawdd y Cyfundeb uchod. Dyiiiiinwn ar i nawdd Duw a'i dangnef fod yn eiddo iddynt, i'w cadw yn y perygl a wynebant ac os claw i'w rhan i aberthu eu bywyd yn yr ymdrech dros gyflawn- der ac anrhydedd, gweddiwn ar iddynt gael der- byniad helaeth i galon Duw yn Ei llefoedd. Rhodded yr Arglwydd iddynt a'u perthynasau oil wroldeb a fiydd ddeil yn gryf yng tsghysuron crefydd yr Arglwydd Iesu Grist.' 8. Ymwelodd Syr W. James Thomas, Ynyshir, a'r Gyuhadledd ar ran yr Ysbyty Cymreig. a phendcrfynwyd anfon apel at holl eglwysi y Cyfundeb i wasgu am gasgliad sylweddol tnag at y mudiad. Diolchwyd yn gynnes i Syr William am ei ymweliad ac am y gwasanaeth gwerthfawr rydd i'n gwlad yn yr argyfwng presennol. 9. Hysbyswyd fod treuliau y Drysorfa Gan- olog yn y Cyfundeb i'w talu o'r Drysorfa honno. Cymhellwyd yn daer am ffyddlondeb i'r mudiad mawr a phwysig hwn. 10. Deíbyniwyd adroddiadau y Pwyllgor Gweithiol am Soar, Pontygwaith, a Thredomas. Hefyd, adroddiad Pwyllgor Pen Trebanog, 3'u cymeradwyo fod yr un trefniadau yn aros yno am flwyddyll arall. 11. Penderfymvyd nad oes enw un gweinidog i fod yn y Biwyddiadur os na bydd yn aelod mewn eglwys gydnabycldedig gan y Gynhadledd. 12. Galwodd y tyrsorydd, Mr G. T. Davies, Y.H., sylw at y casgliad bIynyddol at yr achos- ion gweiniaid a threuliau y Cwrdd Chwarter, ac awdurdodwyd ef i atgofio yr eglwysi am y cyfryw. 13. Galwyd sylw at ordeiniad Mr Idris Evans, M.A., mab y Parch Ben Evans, Barry, yn wein- idog ar eglwys Seisnig Plashet Park, Llundain, ac awgrymwyd i'r cadeirydd, y Parch Thomas Hughes, anfon llythyr yn ei gymeradwyo i Undeb Cynulleidfaol Llundain. 1 14. Gwnaeth Mr S. Nicholas, Treorci, apel ar ran Mrs Rhagfyr Jones am gymorth i werthu y cannoedd copiau o'r Llofft Fach sydd yn aros ar ei Haw. Diolchir am unrhyw gymorth i sicrhau hyn. 15. Cafwyd adroddiad calonogol gan ysgrifen- nydd Pwyllgor yr Ysgol Sul, y Parch D. R. Jones, M.A., Caerdydd, am waith y sefydliad yn y Cyfulideb. j 16. Y cyfarfod nesaf i'w gynnal yng N^ ghwW- lai. Gan y bydd. yn gyfarfod Cenhadol, penod- wyd y Parch D. Geler Jones i bregethu ar Yr j Ysbryd Cenhadol yn yr Eglwysi,' a'r Parch J. ] Williams, Wattstown, ar destyn roddir gan eglwys C\ymlai. Gan fod yr amser wedi rhedeg ymhell, ni ddarllenodd y Parch T. G. Jenkyn ei anerchiad ar hanes yr eglwys, ond addawodd. ei anfon i'r Ysgrifennydd. p Cafwyd anerchiad amserol gan y Cadeirydd ar j ddiwedd ei dymor ar Pethau y dylai yr Eglwysi ddiwygio ynddynt.' Ymlilith pethau eraill y dylid diwygio ynddynt, nododd brydlondeb yio moddion cyhoeddus y cysegr, iawn-ymddygiad wrth fyned i a dyfodiad o'r moddion, dyfnach ysbrydolrwydd meddwl ar Ddydd yr Arglwydd, ac ymdrech i gadw'n fyw yr iaith Gymraeg drwy ei harfer ar yr aelwyd. Diolchwyd i Mr Hughes am ei anerchiad rhagorol ac am ei wasanaeth fel llywydd ar hyd y flwyddyn. Gorffenllwyd drwy weddi gan y llywydd. j Pregethwyd nos Fercher gan y Parch J- Hughes, Blaengarw, ar Ddirwest.' Bore lau gan y Parch T. Gwilym Jones, B.D., Tycroes, ar Lie y Beibl ym Mywyd Teyrnas a nos Iau gan y Parch T. Bryn Thomas. Dechreuwyd y gwahanol odfeuon gan y Parchn E. Wynne Jones a J. Rhedynog Evans. Diolchwyd i'r brodyr am eu pregethau ar y pynciau, ac i'r Parch J. G. Jenkyn a'r eglwys