Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

.Undeb Ysgolion Annibynwyr…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Undeb Ysgolion Annibynwyr Edeyrnion. (Par had.) I PARATOAD A CI-IYIiWYNIAD Y GWlRSI. Da gennyin alln dweyd fod yr Ysgolion lawer gwell yn hyn nag oeddynt 20 mlynedd yn ol ond y mae gan ami i ddosbarth le i wella. Ac fel enghraifft o ddiffygion, y mae y nodiadau canlynol wrth law, er nad ydyin. am bwysleisio arnynt ar d-raul anwybyddu'r gwaith rhagorol wneir yn y mwyafrif o'r Ysgolion. Ond afraid i ni ganmol yn barliaus gwell achub cyfle i awgrymu pethau yr ydym oil yn awyddus am gael diwygiad ynd(lyiit: A. Trodd y wers yn aciun ona yiiiaaiaaan rhwng dau hawdd felly oedd colli sylw gweddill y dosbarth. Yr oedd yr ymddiddan. hynny hefyd yn dueddol i grwydro, a throi yn anfuddiol i'r dosbarth. B. Cwestiynau hen a hawdd ar ddylamvad bywyd. A ydyw bywyd yn ddylanwad, John Jones ? Ydi, siwr a rhoddi y gofyniad yna i bob un, y naill ar ol y llall. Yn ddylanwad er da ? Ydi. Ac er drwg ? Ydi. Ac yn y modd yna y treuliwyd y rhan fwyaf o'r amser. C. Dosbarth lied dda, ond treuliwyd un S-Lil yn hollol yng nghwmpasoedd y wers. Daearydd- iaeth Galilea, clisgrifiad o'r synagog, &c., fellla chaed amser i daflu hyd yn oed gipdrem ar y digwyddiadau mawr yn y lleoedd hynny. D. Offeiriad yn dragywydcl yn ol urdd Mel- chisedec oedd dan sylw. Arweiniwyd y dos- barth at Melcliisedec, yr hanes am dano, pa le y cwrddodd Abram ef, ac yinlaen i hanes y brenhinoedd a'r thyfel sydd yn y cysylltiadau hyllily, a therfynwyd yr Ysgol cyn cael gair o son am y Person mawr hwnnw oedd yn dra- gwyd'dol Ei frenhiniaeth a'i offeiriadaeth, nad oedd Melchisedec ond cysgod gwan ohono. Dd. Trafod y wers yn dda, ond yr athraw 3-11 siarad yn rhy uchel nes peri anfantais i ddos- barthiadau eraill; prin y gallent glywed en gilydd gan fod ei lais yn llanw y deml.' Sylwasom hefyd ar rai athrawon yn gadael amryw o'r plant y tu ol iddynt, a chanlyniad hyn oedd fod y plant oedd o'r golwg yn cael cyfle i chware a'u gilydd-ac mewn rhai achos- ion nid oeddynt yn fyr o ddal ar y cyfle. Y ffordd fwyaf trefnus a manteisiol i athraw yw sefyll o flaen ei ddosbarth, a'i olwg ar yr holl ddisgyblion. Y mae hogyn drwg y rhan amlaf yn troi cil ei lygad ar ei athraw cyn anturio camymddwyn, a rhyw arwydd. fach yr eiliad honno fod yr athraw yn ei weled fydd yn ffrwyno yr afiaeth ddireidus. Er hynny, balch ydym o ddweyd fod gennym nifer helaeth o athrawon ac athrawesau o'r radd oreu, a 11ewyrch eu dosbarthiadau yn tystio hynnv. Clywsom un athraw yn dweyd ei fod wedi bod 19 mlynedd gyda'i ddosbarth, ac nid oedd 3rno un arwydd ei fod wedi aros yn rhy hir; ond yr oedd am newid ar ei ugeinfed flwyddyn, Gall newid athrawon weithiau fod yn fanteisiol ond ar ol unwaith gael ieuad gymharus, nid doeth ysgar yn rhy fuan. Gwell mewn ambell i ddosbarth fyddai rhoi wahano angeu yn y* cyfainod. Hen athrawon Cymru sydd yn cyfrif am y llewyrch fu ar ei Hysgol Sul, ac y mae pwysig- rwydd y swydd yn hawlio ynidrech ncilltnol i'w chadw ymlaen ar yr oes, er cyflyined" y symuda honno ac at fod yn athraw (la: rhaid wrth lafnr. Drwg gennym fod arwydd ar ambell i athraw, ac ar lawer o ddisgyblion, nad oes paratoi wedi bod. Arwydd ddrwg yw gweled aelod o ddos- barth yn cael ei yrru i chwilio am daflen i weled pa le mae y wers. Beth feddyliem o bregethwr heb ei bregeth, neu darlithiwr heb ei ddarlith ? Yr un mor dlawd yw athraw heb wers. Ni anwyd. neb yn ddoctor, ac ni anwyd neb yn athraw, er fod gan rai fwy o dalent na'u gilydd. Y lleiaf all disgybl ddisgwyl gan athraw yw paratoi gwers iddo gofyn cwestiynau fydd yn ei arwain i linell neilltuol o feddwl, ac nid cwestiynau amwys yn golygu coll amser a choll amynedd a meddwl niwliog—cwestiynau di-les a di-lafur a atebir ag le neu nage. Y mae yn egwyddor drwy y IJywodraetli Ddwyfol nad oes dim yn fwy o werth nag y mae wedi ei gostio i ni felly nid yw gwers rad yn werth dim. D311 yn yinddiried i lwc yn ci ddosbarth, a lwc yn ei siomi, nid dysgu y mae, ond cytuno i fod yn bresennol tra bydd y dis- gyblion yn mwynhau eu hunain. Dylem fod yn ofalus iawn wrth ddewis athrawon, gan ddethol goreuon yr Ysgol, gyda gohvg-ar eu cymhwyster at y dosbarth. Rhaid cael saint i ymarfer rhai i dduwioldeb.' Awgrymwn rai ffyrdd vstvrrir 3-11 add as i'n helpu. Cael Cyfarfod Hyfforddiadol a Pharatoawl- Gellid ffurfio y ddau yn un cwrdd, os byddai y gweinidog neu rywun cymwys wrth law i'w arwain. Nid ydym 3-11 ctedu mewn amlhau cvfarfodydd a threfnu gormod o beirianwaith, am mai cael ein dal vil, ngliraiie y peiriant fydd ein diwedd felly. Gellir trefnu gorinod nes trefnu i farwolaeth, a barna rhai fod gormod o dre-fnyddiaeth yn ein mysg ar hyn o bryd, Doeth fydd rhannu y cyfarfod yn debyg i hyn Pum munud i ddechreu, ugain munud i drafod y ffordd o ddysgu a'r cynllun, hanner awr i baratoi Yllg ngwers y Sul dilynol, a munud neu ddau i orffen—C3uueiyd rhyw un cam ar y tro er mwyn cymeryd un arall, a dechreu dysgu athrawon tra maent yn ieuainc, ac nid eu hym- arfer yn unig ar ol iddynt gyrraedd maes y frwydr. Credwn hefyd mewn ambell i gynhadledd fawr, er i'n Hundeb ni fethu trefnu un y llynedd. Bu gan y Methodistiaid un, a chafwyd help neilltuol gan eu cynrychiolydd o Gwm Rhondda. Hefyel, llwyddodd Undeb Eglwysi Corwen i gael Miss Huntley i roi anercliiad hyfforddiadol, a chafwyd cyfarfodydd Uewyrclius iawn. Canwn yr utgorn j yn Seion ar dro. Gwyddom am Undeb Ysgolion lwyddodd i gael un o'r gweinidogion i fyned oddiamgylch i ddarlithio i'r athrawon. A beth am ein Pwyllgor Sirol ? Clywsom son am dano, a'i fod yn wobr- wywr i'r rhai sydd yn ei geisio mewn arhol- iadau. Oni allai drefnu rhywun cyfarwydd i roi gwersi i ni—anfon athraw 3*11 achlysurol i roi cynllun-wers, gan ddod i gyffyrddiad ncs a'r Ysgolion, a chynghori llyfrau pwrpasol i'w has- tudio ? Y mae llawlyfr y Parch D. Adams, B.A.. Lerpwl, yn ein mysg ac y mae llawer o lyfraii Seisnig digon rhad i wneud clefnycld lied gyff- redinol ohouynt. Awgryma rhai awdurdodau gael llyfrgell fellthyeiol, deithiol, o un Ysgol i r llall. Nis gellir dweyd am lyfrgelloedd ein heg- lwysi fel rheol eu bod yn dwyn allan o'u trysoral1 bethau ?c?y? a hen, ond hen groniclau, &c., wedi eu rhwymo yw y ii-lwyafrif o'r llyfrau. LIe bydd llyfrgell gyhoeddus, y mae eich Ymwelwyr o'r farn y dylai yr eglwysi ddefnyddio eu dylan- wad i gael llyfrau buddiol i'r Ysgol Sul i mewn iddynt, a rhoi hysbysiad priodol, a chefnogaeth i'w defnyddio. Ond cofiwn yr un pryd nad yw llyfrau a chynllun-wersi eraill i fod yn ddigon, j heb i ninnau roi ein heneidiau yn ein gwaith gwersi ail-law a di-eneiniad, fydd rhai felly. Cymorth yn unig ddylai yr esboniadau fod- rhyw godi cwr y lien i ddatguddio i ni y gogon- iant, a ninnau yn newydd o'r olygfa yn cynorth- I wyo eraill i'w gweled. Y mae Esboniadau swllt yr Undeb mor rhad ac mor ysgafn (yn faterol), fel y maent yn cefnogi diogi llawer athraw a disgybl, am eu bod mor hwylus i'w cario i'r Ysgol Sul ac yn lie fod dyn yn rhoi ei gwest- iynau neu ei atebion ei hun, y mae Svr Edward Anwyl, y Prifathro Rees a'r Atliro Joseph j ones yn gorfod ateb drosto. Ceisiwn wneud i ffwrdd a'r arferiad esmwyth-ddiog hon sydd mor gyff- redin yn ein Hysgolion. Diwygiadan, meddech, nis gellir eu gwneud. Gwneir hwy mewn mannau paham nad ellir yn Nyffryn Edeyrnion ? Gwyddom fod yn anawdd casglu athrawon i gyfarfodyoxl liyfiordd- iadol, ond 11a thorrwn ein calonnau yn wYlleb difaterweh-iii thorrodd Iesn Grist Li galon. Ymdrechwn ymdrech deg,' gan dynnu ar holl adnoddau yr Eglwys, nes cael y pennau goleuaf, y calonnau cyfoethocaf, a'r ysbrydoedd sand- eiddiaf i gyd i'r gwaith— Mae brodyr inni aeth ymlaen Trwy ddyfnach dwr a phoethach tân.' (I'w barhau).

Advertising

Canaan, Maesteg.

Peniel, Penrhos.

-'-__'-"i GALWADAU._  i-

CYFARFODYDD CHWARTEROL