Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
IAT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Hoffwr Emynau a Gwynros—Nid ydych wedi ymddiried i ni eich enw priodol a'ch cyfeiriad yn unol A'n rheol. Cyhoeddir wedi eu derbyn. R. W. D.—Cafodd arall y blaen arnoch. Mewn Llaw.Y Drysorfa Gauolog—Gwladwr —Pontlotyn—Cymanfa Ganu Caerfyrddin-I Undeb Pontypridd a'r Rhondda—Cyfarfod Undeb Ysgolion Gogledd Penfro—Y Tabernacl, Barry Dock-Aberdar a'r Cylch—-Eglwys Lloyd- street, Llanelli—Tabernacl, Gilfach Fargoed— Carmel, Treherbert—Tabor, Llanwrda—Salem, Rhos--Porth Eryri-Cyfatfod Cnwarterol Dwyr- einiol Dinbych a Fflint-Soar. Merthyr-Y Golofn Parddonol-Oyfarfodydd, &c.
A DDYLID NEWID CWRS PRESENNOL…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
A DDYLID NEWID CWRS PRESENNOL B.D. CYMRU? GAN DDYI/EDWR I BRIFYSGOL CYMRU. YNG nghyfarfod I/lys Prifathrofa Cymru yng Ngorffennaf diweddaf hysbyswyd fod pwyllgor wedi ei apwyntio i ystyried yrj adroddiad a wnaethpwyd ar waith ein Colegau Diwinyddol gan y tri Ymwelwr (y Prifathro T. F. ROBEBTS, y Prifathro A. E. GARVIE a'r diweddar Syr E. ANWYL), a'r hwn a osodwyd o flaen y Llys yn Nachwedd, 1914. Gan fod cryn ysgrifennu a siarad wedi bod ar natur y cwrs pres- ennol y rhaid mynd drwyddo cyn ennill gradd mewn diwinyddiaeth yng Nghymru, lioffwn osod rhai ystyriaethau ar y mater o flaen darllenwyr y TYST. 1. Yn gyntaf, ac hefyd yn bennaf, anodd iawn yw cyfiawnhau'r lie mawr iawn a roddir yng nghwrs y B.D. i'r ieithoedd meirwon, sef Lladin, Groeg a Hebraeg. Rhaid rhoddi rhan dda o ddwy flynedd o leiaf at Hebraeg a Groeg. Nid oes neb, mi dybiwn, a wrthwyneba osod y ddwy iaith hyn yn y rhaglen fel testynau y gall myfyriwr eu hastudio ar gyfer y B.D., os bydd am wneivtliur hynny. Gan mai Heb- raeg a Groeg gwahanol lyfrau'r Beibl yn bennaf a astudir, y mae'n naturiol a phriodol rhoddi lie amlwg iddynt. Ond paham y rhaid eu gwneuthur yn destynau gorfodol ? Y mae Lladin hefyd bron a. bod yn bwnc gorfodol arall, Fe gofia'r dar- llenydd ymhellach fod yn rhaid i fyfyriwr, cyn dechreu ar waith y B.D., feddiannu B.A. neu B.Sc. a chan, yn anffodus iawn, mai eithriad yw i un wedi graddio mewn gwyddoniaeth gynnyg am y B.D., drwy'r B.A. yr eir fel rheol at y B.D.—ac y mae pob B.A. wedi gorfod pasio mewn lyladiir cyn dechreu. Ond pan yr achwynir wrth gefnogwyr cwrs presennol y B.D. am yr oriau meithion a roddir at astudio geiriau, a hynny mewn tair iaith farw, dywedir weithiau nad oes raid i fyfyriwr wybod Lladin er mwyn pasio'r B.D. Y mae hyn yn llythrennol wir, ond mewn ymarferiad yn hollol gamarweiniol. Y mae o fy mlaen yn awr bapurau B.D. Cymru am 1913 a 1914, a byddai'n amhosibl ateb rhai o'r cwestiynau heb wybodaeth fanwl o'r I/ladin yn wir, y mae llyfrau Fladin yn rhan o'r gwaith mewn rhai testynau. Dylai fod gennym resymau anorchfygol 0 gryf cyn gorfodi'r ymgeisydd am y B.D. i dreulio cymaint o'i amser a'i nerth ar ddysgu geiriau a gramadeg, ac i gyfieithu o dair iaith i'r Saesneg. 2. Beth yw effaith gwneuthur Hebraeg a Groeg yn bynciau gorfodol ar y gweddill o waith y B.D. ? Tair blynedd yw hyd y cwrs a chan y treulir darnau mor helaeth ohonynt ar iaith, faint o le a adewir i feistroli syniadau ? Edrycher ar arholiad cyntaf y B.D. Yma rhaid pasio mewn pedwar pwnc, sef:-(i) Yr Ysgrythyrau Sanctaidd yn Gymraeg neu Saesneg. (2) Darnau o'r Hen Destament yn yr Hebraeg. (3) Darnau o'r Testament Newydd yn y Roeg. (4) Un o'r pedwar mater caiilynol :-(a) Athroniaeth Crefydd (b) Philosophical Theism, (c) Moeseg Grist- ionogol, (d) Diffyniad y Ffydd Gristion- ogol. Nid oes neb a gyffwrdd a r pwnc cyntaf, sef astudiaeth orfodol o'r Ysgrythyrau felly ni bydd achos ofni na bydd yr ym- geisydd am y B.D. heb gael cyfle i feistroli hanes a llenyddiaeth y Beibl. Ond yma codir gwrthwynebiad cryf. Dywedir na ellir gwneuthur hyn heb wybodaeth o'r ieithoedd yr ysgrifennwyd y gwahanol lyfrau ynddynt. Addefaf ar unwaith fod deall yr ieithoedd yr ysgrifennwyd y Beibl ynddynt yn hynod o bwysig a gwerthfawr. Ond ni fyddwn yn fy lie pe eydnabyddwn nad yw'n bosibl ennill meistrolaeth helaeth ar hanes yr Iddewon a'u prif arwyr, ar ddaearyddiaeth Canaan a'r gwledydd cylchynol, a'i lieffaith hi ar fywyd ac arferion y gwahanol lwythau, a dealltwr- iaeth clir o natur a datblygiad eu syniadau cyfreithiol, moesol a chrefyddol, a hynny heb wybod y ddwy iaith y cyfeirir atynt. Pe bai'r amser sydd gan fyfyriwr at baratoi ar gyfer y B.D. yn ddiderfyn, a phe na bai nifer y pynciau y disgwylir iddo fod yn wybodus ynddynt wedi cy- chwyn ar waith y weinidogaeth mor fawr, dywedwn gwneler a chadwer Hebraeg a Groeg yn bynciau gorfodol yn y B.D. Ond byr yw'r cwrs, a lluosog yw'r mater- ion y mae'n ddymunol i'r gweinidog eu deall. Ni thalwyd cymaint o sylw erioed ag a wneir heddyw i'r deddfau sydd yn gorwedd dan Wyddoniaeth y Bywyd Cym- deithasol, megis achosion Tlodi, Anfoesol- deb, Troseddau, &c., a'r deddfau meddyliol sydd yn llywodraethu Addysg Grefyddol plentyn, a'r cynlluniau goreu i sicrhau gwaith effeitliiolach yn yr Ysgol Sul, a materion trymion cyffelyb. A feiddia un- rhyw un ddywedyd, heb amheuaeth mawr, fod gwybodaeth o Hebraeg a Groeg yn bwysicach heddyw 11a gwybodaeth o fater- ion o'r fatli hyn ? Ac eto -rhaid astudio'r ieithoedd hyn a'r Lladin ar gyfer y B.D., ond ni wneir cymaint ag enwi y pynciau eraill. Er hynny, cynhwysir pedwar testyn mawr, sef Athroniaeth Crefydd a'r tri arall a gofnodwyd eisoes. Y mae iddynt gy- sylltiad agos iawn a Diwinyddiaeth, ac nid oes un ohonynt na byddai gwybodaeth oho no yn help annhraethol i bob B.D. a gweinidog. Ond sylwer wedi gosod dwy (os nad tair) iaith 'yn bynciau gorfodol, nid oes lie nac amser i astudio hyd yn oed dau o'r pynciau hyn. A chaniatau am funud fod Hebraeg a Groeg yn fwy o help i'r gwein- idog 11a phwnc fel Social Science, a ellir ¡ dywedyd eu bod heddyw yn fwy harifodol i nag Athroniaeth Crefydd neu Ddiffyniad y Ffydd ? Ond os penderfyna'r myfyriwr astudio, dyweder, y Foeseg Gristionogol ar gyfer yr arholiad cyntaf am y B.D., ni all astudio Athroniaeth Crefydd na Philosophical Theism, na Diffyniad y Ffydd. Felly, yr hyn ddywed cefnogwyr cwrs presennol y B.D. wrth fyfyriwr o'r fath yw: Mwy buddiol i ti yw meistroli Hebraeg a Groeg nag un o'r tri thestyn hyn Beth gyfrifa am syniad mor eith- afol ? Yn gyntaf, Traddodiad yn ail, Traddodiad; yn drydydd, Traddodiad. Gan fod y fath bwys wedi ei osod drwy'r blynyddoedd yn Rhydychen a Chaer- grawnt ar yr ieithoedd hyn, rhaid i Brif- athrofa Cymru eu dilyn yn 1915. Rhaid gofalu na chaiff neb y B.D. heb Hebraeg a Groeg, ond gall ennill y radd hon heb astudio Athroniaeth Crefydd na Moeseg Gristionogol na Datblygiad Crefyddau. Byddai'n anodd amddiffyn y fath reolau yn y flwyddyn 1500, ond heddyw y mae'n hollol glir eu bod yn rhwystr mawr ar ffordd addysg uchaf ein gweinidogion. Amser a ball i mi sylwi ar ofynion ail arholiad y B.D. Digon yw dywedyd fod Hebraeg a Groeg yn bynciau gorfodol yma eto, o leiaf am flwyddyn. 3. Beth yw'r effaith ar waith y B.A. a'r B.Sc. o wneuthur Hebraeg a Groeg yn bynciau gorfodol yn y B.D. ? Cyfeiriais yn barod at y ffaith alarus mai eithriad yw i un o'n graddedigion mewn gwyddon- iaeth geisio gradd ddiwinyddol, am y rheswm syml na chynhwysir ieithoedd yn y B.Sc. Paham y rhaid i fyfyriwr, wrth benderfynu gweithio ar gyfer gradd mewn gwyddoniaeth, fel rheol osod gradd mewn diwinyddiaeth allan o'i gyrraedd, er ei fod wedi meistroli testynau fel Bywydeg, Poli- tical Science, ac Athroniaeth ? Canys y mae rheolau Prifysgol Cymru yn caniatau iddo gymryd y rhai hyn ar gyfer y B.Sc. # megis ag y caniateir i'r ymgeisydd am y B.A. ddewis testynau o'r rhestr doreithiog ganlynol -Groeg, Ivladin, Saesneg, Cym- raeg, Ffranceg, Ellmyneg, Hebraeg, Hanes, Atbroniaeth, Mathematics, Addysg, Cyf- raith, Gwyddoniaeth Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth Naturiol (fel Bywydeg neu Ddaeareg), &c. Yn awr, gan fod dwy, os nad tair, iaith yn bynciau gorfodol yn y B.D., beth yw effaith hyn ai y dewisiad a wneir o des- tynau i'w hastudio ar gyfer y B.A. gan yr hwn a fwriada gymryd y B.D. wedi hynny ? Nid oes eisiau i mi ddywedyd mai Groeg, Hebraeg a Lladin gaiff y prif le. Os dewisir Athroniaeth, nid oes fawr achos beirniadu, gan fod y fath gysylltiad agos rhwng y pwnc hwn a Moeseg a Chrefydd. Faint o le a roddir i Hanes, Saesneg, Cymraeg a'r testynau eraill ? Er ateb y cwestiwn hwn, tybiais mai doeth fyddai chwilio rhestri y pynciau a gyn- hwyswyd yng ngwaith eu B.A. gan saith myfyriwr a enillasant eu B.D. wedi hynny. Dewisais hwynt' wrth amcan.' Cyn arch- wilio cofnodion y Brifathrofa, nid oedd gennyf unrhyw syniad penodol beth yr oeddynt wedi ei astudio, heblaw fy mod yn sicr y buasent wedi astudio dwy neu dair iaith. Sawl un o'r saith a lwyddodd yn arholiadau y B.A. mewn Saesneg (S.), Cymraeg (C.), Ffrangeg (Pf,), Ellmyneg (E.), Hanes (H.), Addysg (A.), Gwyddoll- iaeth Gwleidyddiaeth (G.G.) Mathematics (M.) Gwyddoniaeth Naturiol (G.), megis Bywydeg neu Ddaeareg ? Dengys y ffigiwr