Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

I <-<>-<>-<>-<><>-<><>-<>-"'.'<>'-<>':"<>-9-<>-<>-<>…

'-<>':"<>-9-<>-<>-<> <$> I î Y WERS SABOTHOL. 'I 20" class="col-xs-12 no-padding">
'-<>':"<>-9-<>-<>-<> <$> I î Y WERS SABOTHOL. 'I 20" class="col-xs-4 article-panel-category"> Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I <-<>-<>-<>-<><>-<><>-<><><><>-9-<>-<>-<> <$> I î Y WERS SABOTHOL. 'I ? ——— 9 ? ? WERS RYNGWLADWRIAETHOL. i t A 0 Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., ? J TREFFYNNON. Tachwedd Lteg.Daniel yn Llys y Bre 11 in.- -Dan. i. 8-16, 19, 20. Y TliSTYN EURAIDD.-—' Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ylllgryfhewch.1 Cor. xvi. 13. RlIAGARWEINIOr,, I RhiCS'i'Rik liyfr Daniel gyda'r llyfrau a elwir yn gyffredin, Llyfrau y Proffwydi lyleiaf, Dos- beithir y Ilyfr gan rai i c berthir y 11yfr gan rai i ddwy ran, sef yr hanesiol (penodau i.-vi.) a'r broffwydol (penodau vii.-xii.). Y mae eraill yn ei ddosbartbu i dair rhan y bennod gyntaf yn rhagarweiniol, penodau ii.-vii. yn rhoddi hanes cynnydd a datblygiad galluoedd y byd hwn, a phenodau viii.-xii. yn cynnwys hanes pobl yr Arglwydd ac edrychir ar eu hanes fel yn gysgodol o hanes yr Eglwys ymhob oes. Ysgrifennwyd penodau ii., iv. a vii. yn yr iaith Galdeaidd, a'r gweddill yn yr iaith Hebraeg. Nodweddir y llyfr gan symledd, eglurder a byr- dra. Y mae ei arddull yn ddiaddurn wrth ei chymharu a mawredd arddunol ac ehediadau barddonol Esaiah ac Ezeciel. Amgylchiadau Caethgludiad Judah ydynt seiliau hanesyddol proffwydoliaethau Daniel, fel y sylwir yn y ben- nod gyntaf. Dechreua gydag ymgyrch gyntaf Nebuchodonosor yn erbyn Jerusalem yn nyddiau Jehoiacim, brenin Judah. Caethgludwyd i Babi- lon Daniel, Hananiah, Misael, Azariah ac amryvv o wyr ieuainc urddasol. Dyma ddechreuad y Caethgludiad Babilonaidd, yr hwn a barhaodd am 70 mlynedd. Tybir fod Daniel tua 16 mlwydd oed pan ddygwyd ef i lys Nebuchodonosor. Yr oedd rhwysg llys brenin Babilon yr adeg yma yn nodedig, a Babilon yn enwog ymysg dinas- oedd y byd.. Rhoddodd Nebuchodonosor orch- ymyn i Aspenaz, ei brif-ystafellydd, i ddewis o'r caethion y rhai mwyaf golygus a deallgar, i'w dysgu yn iaith y Caldeaid, ac i fyw am dair blynedcl ar y danteithion a gyfrennid iddynt oddiar fwrdd y brenin, fel y byddai grym yn- ddynt i sefyll yn llys y brenin ac i weini arno. Ymhlith y rhai a ddewiswyd yr oedd Daniel, Hananiah, Misael ac Azariah. Er mwyn gosod arbenigrwydd ar eu perthynas newydd a llys Babilon, ac hwyrach gyda'r amcan iddynt anghofio eu gwlad a'u crefydd, newidiodd y pen-ystafellydd eu henwau, Galwodd Daniel yn Beltesassar Hananiah, Sadrach; Misael, Mesach; Azariah, Abednego. Yr oedd yr hen enwau yn eu cysylltu a Jehofah, ond yr oedd yr enwau newyddion yn eu cysylltu ag eilunaddoliaeth Galdeig. Hynodid llys brenin Babilon gan arfer- ion llygredig. Rhoddid y rhyddid helaethaf i deimladau iselaf y natur ddynol, a darperid yn helaeth i foddio gwyniau a nwydau ieusuctyd. 1 I i- Adnod Daniel a roddes ei iryd, nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin. na thrwy y gwin a yfai efe am hynny efe a ddy- inunodd ar y pen-ystafellydd, 11a byddai raid iddo ytnhalogi.' A Daniel a roddes ei fryd. Ych- ydig wyddoin ni am hanes boreol Daniel. Teb- ygol ydyw ei fod o'r had brenhinol. Dywed Josephus ei fod o deulu Zedeciah, yr olaf o fren- hinoedd Judah, Y mae yn amlwg ei fod wedi ei egwyddori yn fanwl yng nghrefydd ei wlad. Roddes ei fryd. Laid it on his heart.' Nad ymhalogai efe. Y mae yr ymadrodd yn golygu penderfyniad di-ildio i ymwrtliod a phob peth a ystyrrid gan y gyfraith Iddewig yn aflan. (Def. iii. 17 xi. 4-8). Y mae hefyd yn fwy na thebyg fod rhan o'r bwyd, os nad yr oil o ddognau y brenin iddynt, wedi ei gysegru yn gyntaf i eilunod a buasai iddynt hwy gyfranogi ohono yn noddi eilunaddoliaeth. Yr oedd ei gymdeithion yn cydweled a phenderfyniad Daniel, ond nodir ef fel arweinydd. Rhestrir Daniel gyda Noah a Job, y rhai ddaliasant yn ffyddlon yiiglianol cenliedlaetli drofaus a phech- ffyddloli i adurus. Na thrwy y gwin a yfai efe. Yr oedd yn rhy bur i yfed gwin, i yfed gwin yn ddirgel, i yfed gwin er ei gael am ddim, i yfed gwin ar fwrdd v brenin, i yfed gwin er fod y lliaws yn- gwneud, i yfed gwin er fod perygl digio y brenin trwy wrthod, Am hynny efe a ddymunodd ar y pen-ystafellydd, na byddai raid iddo yrnhalogi. Er ei fod wedi periderfynu, eto y mae yn ym- drechu cyrraedd ei amcan trwy addfwynder a thvnerwch. Danghosir cryn rodres a balchter ac ysbryd trahaus yn ami dan gochl ffyddlondeb i'r gwiriotiedd.. Hawddach fyeTd cad, y brofed- igaeth ymhell na'i goddef i neshau, ac yna gor- fod gosod cyllell ar ein ceg Adnod 9.—' A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda'r pen-ystafellydd.' A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb. To find kindness and compassion.' Y mae mwynder a charedigrwydd yn rhwym o ennill cymeradwyaeth. Ond yr oeddllaw yr Arglwydd i'w weled yma fel gyda Joseph. Yr Arglwydd sydd yn peri i'w bobl gael trugaredd gan y rhai oil a'tt caethiwai. Tiriondeb. Compassion. Cariad tebyg i gariad tad at ei blentyn. Yr oedd anwyldeb personol rhwng Aspenaz a Daniel. Adnod A'r pen-ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a ch diod chwi oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na'r bechgyn sydd fel chwithau ? felly y parech fy mhen yn ddyled-Lis i'r brenin. Ofni yr yawyf fi fy arglwydd y brentv. Yr oedd Aspenaz wedi derbyn gorchymyn y brenin, a pheryglai ei fywyd wrth beidio ufndd- hau. Amcan y brenin, yn ddiau, oedd rhoddi iddynt y lluniaeth hwnnw a fuasai yn fwyaf manteisiol i'w gwneud yn gryf mewn corff a meddwl. Ofnai Aspenaz gydsynio a chais Daniel rhag y buasai hynny yn effeitliio ar eu cyfan- soddiad, a'u gwneud yn drist a difywyd. Adnod 11 Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen-ystafellydd ar Daniel, Hananiah, Misael, ac Azariah.' Yna y iywedodd Daniel wrth Melsar. Ystyr Melsnr yw gorucbwyliwr,' yr un oedd yn gofalu yn union- gyichol am y hwyd-swydd yn cyfateb i butler yn ein gwlad ni. Adnod 12.—' Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i'w bwyta, a dwfr i'w yfed.' Prawf, atolwg, dy weision. Yr oeddynt yn teimlo yn berffaith hyderus yn en cynllun. Credent, am en bod hwy yn benderfynol i gadw y gyfraith, y buasai Jehofah yn eu bendithio. Ddeg diwrnod. Amser digon hir i wneud y prawf. A rhoddant i ni ffa i'w bwyta. Dcinyddir y gair a gyfieithir yma ffa i osod allan fwyd llysiau -I,guivii,iotis food. Golygir y bwyd cyffredin yr oeddynt hwy yn arfer byw arno, mewn gwrth- gyferbyniad i'r danteithion oddiar fwrdd y brenin. A dwfr i'w yfed. Danghosant eu doethineb trwy benderfynu ymwrthod a gwin, ac yfed yn unig ddwfr. Adnod 13. Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin ac fel y gwelych, gwna a'tli weision.' Yna edryeher ger dy fron di ein gwedi ni. Yr oedd yna eraill gyda bechgyn y gaethglud yn cael eu paratoi at wasanaeth y brenin. Boddlona Daniel i'r mater gael ei ben- derfynu yn ol barn Melsar wrth eu cymharu hwy a'r bechgyn oedd yn bwyta o fwyd y brenin ymhen deg niwrnod- Yr oedd Daniel yn ber- ffaith hyderus gyda golwg ar y farn. Gall dir- west ddal goleuni y dydd a sefyll pob prawf. Y mae i'w chymeradwyo ymhob cylch a than bob amgylchiad. Adnod 14. Ac efe a wraudawodd arnynt yn y peth hyn, ac a'u profodd hwynt ddeg o ddydd- iau.' Ac efe a wrandawodd arnynt. Cydsyniodd a chais Daniel a'i gyfeilliou. Yr oeddynt, trwy eu hymddygiad a'u dull o ofyn, wedi ennill ei ffafr. Gan mai am ddeg niwrnod yr oedd y prawf, teimlai nad oedd yn peryglu llawer arno ei hun. Adnod 15.—'Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na'r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin.' Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid, eu gwedd hwynt yn decach. Cymharwyd hwy a'r bechgyn eraill, ac yr oeddynt yn decach ac yn dewach o gnawd—golwg iachach a phryd- ferthach na neb o'r bechgyn eraill. Yr oedd hyn yn eflaitli naturiol eu cymedroldeb, gyda ben- dith Duw. Y mae duwioldeb yn hyrwyddo dir- west, dirwest yn hyrwyddo iechyd, ac iechyd yn hyrwyddo prydferthwch ymddangliosiad. Adnod 16.—' Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a'r gwin a yfent ac a roddes iddynt ffa.' Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt. Cydsyniodd Melsar a'u cais, a chawsant fyw ar y bwyd cyffredin yr oeddynt wedi arfer byw arno. Duw a roddes iddynt wyb- odaeth a deall ymhob dysg. Yr oeddynt yn sobr a diwyd, a myfyrient yn galed. Cafodd Daniel allu i ragori ymhob gweledigaeth a breuddwycl- ion—y peth yr oed'd doethion Caldeaidd yn ymfalchïo ynddo. Adnod Ig.A'r brenin a chwedleuodd a hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oil un fel Daniel Hananiah, Misael ac Azariah am hynnyy safas- ant hwy ger broii y brenin.' A V brenin a chwedl- euodd a hwynt. Chwedleuodd a hwynt er cael allan faint eu gwybodaeth. Diau iddo hefyd roddi iddynt gwestiynau celyd er mwyn eu profi. Adnod 20.—'Ac ymhob rhyw ddoethineb a deall a'r a ofynnai y brenin iddynt, efe a'u cafodd hwynt yn ddeg gwell na'r holl ddewin- iaid a'r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.' "Ic ymhob rhyw ddoethineb a deall a'r a ofynnai. Cafodd hwy yn rhagori ar holl ddewiniaid ac astronomyddion y wlad. Wrth ddeg gwell golygir rhagori llawer iawn. Bu Daniel ym Mabilon ar hyd blynyddoedd y gaethglud. GOFYNIADAU AR Y WERS. i. Pa fodd y rhennir Llyfr Daniel ? 2. Pwy oedd Daniel, a pha fodd y daeth i Babilon ? 3. Pwy a gaethgludwyd gydag ef, y rhai a fu yn gymdeithion iddo ? 4. Pa gais neilltuol a wnaeth Daniel, a phaliam y gwnaeth y cais hwn ? 5. Pa fodd yr edrychai Aspenaz ar y cais hwn ? Pa fodd y llwyddwyd i gael ei ganiatad ? 6. Beth oedd canlyniad y prawf am ddeg diwrnod ? 7. Paham y newidiwyd eu henwan ac y rliodd- wyd iddynt enwau Caldeaidd ? 8. Faint oedd cwrs eu haddysg i fod yn ol gorchymyn y brenin ? 9. Pa ddefnydd a wnaethant o'u haddysg, a betli oedd tystiolaetli y brenin am danynt ar ol eu profi ?

Advertising

Caerdydd.