Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

' Y DYSGEDYDD.' I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

Y DYSGEDYDD.' I Cynhaliwyd cyfarfod Arbennig o Bwyllgor y Dysgedydd am un o'r gloch dydd Iau, Medi 16eg, yn festri eglwys Queen street, Gwrecsam, i ddewis golygydd nea oiygyddioa i'r Dysgedydd Yr oedd Dr Owen Evans, y Golygydd hynaf, wedi ymddiswyddo yn y cyfarfod btynyddol ym Mehefin diweddaf. Derbyniodd y Pwyllgor ei ymddiswyddiad gyda gofld oherwydd ei oedran mawr ond ar gais taer y Pwyllgor, addawodd barhau yn y swydd hyd ddiwedd y llwyddyn. Penderfynodd y Pwyllgor ddwy ftynedd yn ol, pan y cymerai amgylchiad fel hwn le, fod holl bwnc yr olygiaeth i gael ei ystyried. Yr oedd teimlad yn y Pwyllgor mai am dymor y dylid penodi i'r swydd o hyn allan, a rhybadd wedi ei roddi i'r perwyl hwnnw. Yr oedd holl aelodau y Pwyllgor yn bres- ennol yn y cyfarfod arbennig. Llywyddwyd gan Dr Owen Evans. Wedi ymdriniaeth faith a theg mewn ysbryd da, pasiwyd y penderfyniadau a ganlyn cyn I nominatio personau 1. Ein bod yn ethol dau olygydd. j 2, Eu hethol am dair Myaedd ] 113. Na fydd y rhai a etholir yn etholadwy am I dair blynedd ar ol i'w hamser ddod i ben. Etholwyd y Parch W. Pari Haws, B.D., Dolgellau, a Proff. D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu, yn olygyddion am y tair blynedd nesaf. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch gwresog i'r ddau olygydd prosennol--i Dr Owen Evans am ei wasanaeth ffyddlon am dair blynedd ar ddeg, ac i Dr Gwylfa Roberts am ei wasanaeth gwerthfawr am y pum mlynedd diweddaf. Taer erfynia y Pwyllgor ar yr eglwysi, y gweinidogion, y diaconiaid a'r dosbarthwyr roddi pob cefnogaeth i'r ddau Olygydd newydd. Afraid yw dweyd fod eu dysg, eu cymeriad a'u salle anrhydeddus yn yr En wad yn ddigon i hawlio y gefnogaeth wresocaf a'r ymddiried- seth lwyraf JAMES CHARLES, Ysg. I

RHANBARTH PENYBONT.

[No title]

Family Notices

[No title]

Advertising

Ebenezer, Cefncoed-y-cymer.…

I Etholaeth Merthyr Tydfil.