Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

SARON, BIRCHGROVE. i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SARON, BIRCHGROVE. i Nos Percher a dydd lau, Hydref xseg a'r I4eg' eynhaliwyd. cyfarfodydd ordeinio Mr B. P. i Davies, o Goleg Aberhonddu, yn weinidog i'r eglwys uchod. Dechreuwyd yr odfa nos Fercher gan y Parch Urias Phillips, B.A., Godrerhos a Chrynant. Pregethwyd pregeth stars i'r eglwys gan y cyn-weinidog, y Parch M. G. Dawkins, Treforris, yn rymus ac efteithiol, a phregethwyd hefyd gan y Parch D. D. Walters, Castellnewydd Emlyn, yn ei ddull nodweddiadol ef. Cafwyd cyfarfod cla iawn. Dechreuwyd odfa bore lau gan Mr D. J. Davies, B.A., o Goleg Aberhonddu, a phregeth- wyd ar Natitr Eglwvs gan y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Coleg Aberhonddu. Yn y prydnawn cynhaliwyc1 y cwrdd ordeinio, pryd y dechreuwyd gan y Parch W. J. Rees, Alltwen. Llywyddwyd gan y Parch J. H. Parry, Llansainlet. Cafwyd hanes yr alwad gan Dafydd Rees, diacon o'r eglwys. Holwyd y gofyniadau gan v Parch Gower Richards, Trebanos, ac ateb- wy(I yn fyr a chynhwysfawr gan y gweinidog ieuanc. Offrymwyd yr urdd-weddi gan y Parch J. Evans-Jones, Sciwen. Siaradwyd gan y brodyr canlynol :"Mr James Jones, o Gastellnewydd Emlyn, yr hwn a gyf- II lwynodd rodd i Mr Davies o'i fam-eglwys; Dafydd Rees, Saron, Birchgrove, a chyflwynodd yntau rodd i Mr Davies ar ran Ysgol Sul Saron, Birchgrove; Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., a Mr Martin Thomas, o Goleg Aberhonddu a Mr William Smith, Penybont. Croesawyd Mr. Davies gan weinidogion y gwahanol enwadau ar ran y Bedyddwyr gan y Parch Griffiths, Ainoii; ar ran y Methodistiaid gan y Parch T. C. Lewis, Lon Las ar ran Eglwys Loegr gan y Parch. Davies, curad, Birchgrove. Pregethwyd pregeth siars i'r gweinidog gan Dr B. Davies, Castell- newydd Emlyn. Cafwyd cyfarfod diddorol a buddiol iawn. Dechreuwyd odfa nos lau gan Mr D.J. Gregory, Birchgrove, a phregethwyd gan y Parchn B. Davies, Pant-teg, Ystalyrera, a Dr Davies, Cas- tellnewydd Emlyn. Terfynwyd y cyfarfodydd gan odfa rymus a blasus. Daeth. lliaws o bobl ynghyd i groesawu Mr Davies ar ei urddiad, ac yn eu plith gynrychiolaeth dda o weinidogion y cylch a'r Cyfund.eb. Dymunwn i Mr Davies lwvddiant mawr ar ei waith yn y clyfodol. -=-=:==:=- CvKAirj,.

Llawer yn Gyffelyb ym Merthyr.

.RHYDYBONT.

i Gogledd Gwyr.

[No title]