Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

I CERDDORIAETH A OHERDD-ORION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CERDDORIAETH A OHERDD- ORION. II. GAN Y PARCH D. C. JONES. CYMERODD diwygiad mawr le mewn caniadaeth eglwysig yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhan oedd y diwygiad cerddorol hwnnw o'r deffroad meddyliol a chrefyddol gychwynasai yn y canrifau blaenorol. Ynddo dysgwyd dyn- ion i feddwl ar gwestiynau dyfnion bywyd ac angeu arweiniwyd cymdeitbas i ym- deimlad o sylweddau mawrion byd yr ysbryd, i weled harddwch anghymharol y dwyfol, ac i brofi teimladau lifeiriant i'w natur o foroedd y Cariad dwyfol a thrag- gwyddol. Adeiladwyr, cerfwyr, lliw-wyr athronwyr, meddylegwyr, a beirdd a welsant weledigaethau, y rhai a ymdrech- asant i'w gweithio i'r golwg mewn adeiladau, cerfluniau, darluniau, deddfau, dysgeidiaethau a barddoniaeth. Teimlodd cerddorion brofiadau newyddion, a gwran- dawsant ar beroriaeth aruchel na ellid ei clesgrifio ond mewn seiniau mynedol. Y teimladau a'r cyngalledclion ddaethent yn ffrydlifoedd i'w hysbrydoedd o'r byd ysbrydol mawr sydd tuallan i ddyn, gan fyned drwy deimladau eu natnr yn ol at Dduw yr Hwn a'u rhoes. Megis y rhuthra gwynnion donnau o'r mor dros y traeth, gan lithro yn ddisyfyd yn ol i'r eigion drachefn, felly y daw teimladau a chy- nghaneddion cerddorol allan oddiwrth Dduw hyd wifrau ysbryd dynol y rhai a lithrant yn ol drachefn yn ddiaros i'w cartref yn Nuw. Miwsig sydd deimlad a chynghanedd ddaw 0 Dduw i enaid dyn, ac a ddiflanna yn ol yn union i Dduw drachefn, gan adael ar ei ol yn ei lwj br ddim y gellir ei weled yn wrthrychol ond yn unig ei ddylanwad dyrchafol yn yr enaid, ac atgof hiraethus o'i ymweliad. Erys adeilad, cerf ddelw, darlun ac odlau yn allanol weledig. Gellir eu gweled, eu cyffwrdd a'u dinystrio a llaw ddynol. Ond encilia miwsig ymaith heb adael dim ar ei ol i ddangos lie y bu. Nid yw yn y llyfr tonau. Nid yw y nodau ynddo ond yr hyn yw argraffiad i farddoniaeth. Cynhwysant ryw gynorthwyon atgofiol i'r chwareuwr neu y canwr. Nid oes angen y nodau ar bob chwareuwr. Cerddoriaeth sydd gelf breswylia gyffindiroedd daear a nefoedd. Daw ysbryd dyn i'w chwmni ac i brofiad o'i chyfrinion perorus nef-anedig pan edy ei babell o glai, ac yr eheda ymaith i fyd yr ysbrydoedd a bywyd rhydd mewn perffeithrwydd rhinweddau lie y mae cyf- iawnder yn cartrefu. 7 Miwsig yw y ddiweddaraf o'r celfau. Er hynny y mae yn hen gelf. Darllenir yn y Beibl am gan Moses, can Deborah, a chan- iadau hen eraill. Synnir ni i feddwl fod personau welsant ac a brofasant erchyll- terau echryslawn, megis Moses, Deborah a saint Duw yn gallu canu. Medda per or- iaeth allu i wisgo y prudd a'r poenus mewn bywyd yng ngwisgoedd heirddion nef. Nid yn y geiriau genir y mae y gallu. Erys y gallu symudol yn nirgelwch dat- guddiol swn, a'i allu i godi dyn gan ei osod i aros mewn cynganeddion perffaith gyrhaeddwyd drwy adferiad rheolaidd pob anghydsain ar y fFordd. Nid yn ein can- fyddiad byw ni o'r gwirionedd y mae y gallu, ond yn y swn ei hunan. Mae'r seiniau yn ddatguddiad ac yn allu i godi dyn yn ei deimladau uwchlaw pob dolur, gwendid, galar a griddfan. Symuda dyn i gyflwr nad oes boen ynddo. Gwisga oiid a dolur mewn harddwch a chariad orchuddia alar, griddfannau, a phoenau daear fel y cuddia llanw y mor greigiau geirwo? y traeth, tra ni yn llithro luewn bad ym mraich yr awel dros wyneb y gloyw for guddia y garw a'r dolurus dan ei lifeiriaint cryfion. Isel iawn oedd caniadaeth eglwysig yng Nghymru yn nechreuad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Un llais, sef yr alaw, o'r fath alaw ag ydoedd, genid. Anfynych y clywid Bass, Tenor, nac Alto yn unrhyw gynulleidfa. Brithid y tonau gan slurs, fugues, a symudiadau analawaidd ac anodd i bobl hollol amddifad o wybodaeth a diwylliant gerddorol i'w canu. Erys rhai o'r hen donau yn y llyfrau hen hyd lieddyw, ac y maent yn dra chwithig, heb nemawr o fydr, acen, diweddebau, na -chynganeddion cywir ynddynt. Ceid y rhan fwyaf o'r tonau yn dyblu rhan o linell yr emyn, ac weithiau yn torri a dyblu ar hanner gair. Cofiwyf David I Thomas (Dafi'r Cantwr), Defvnnog, yn canu yr hen dou 'Job,' gan ddyblu y linell olaf ond un yn chwerthinllyd iawn fel hyn:- Rhoi bendith Jac, Rhoi bendith Jac, Rhoi bendith Jacob i bob un.' Nid yw pob un o donau Y Caniedydd Cynulleidfaol' yn gwbl ddiberygl yn y cyfeiriad hwn. Nid pob emyn ellir gyf- adddasu i'r don 'Babel.' Clywsom cyn hyn dorfynyglu emynau yn hyll arni Dichon mai o Loegr y cafodd Cymru ei chynorthwyon cyntaf i ddysgu elfennau cerddoriaeth i'n cenedl. Cyhoeddodd Charles Dibdin, Southampton, o gylch 1745, nifer o ganeuon a llyfrau ar elfennau cerddoriaeth. Neptune, duw y mor, nid Apollo, duw y deml, a'i hysbrydolodd ef. Caneuon morwrol a gyfansoddodd fwyaf. Cyhoeddodd fil a dau gant o ganeuon morwrol. Bu ei lyfr ar reolau cerddoriaeth o gryn wasanaeth ym myd can. Gadawodd ar ei ol ddau fab, Thomas a Charles, y rhai oeddynt gerddorion galluog fel eu tad. Cyfieithwyd amryw o weithiau Charles Dibdin, i'r Gymraeg, a chyhoeddwyd hwy gan Owen Williams, Ty Hir, Mon. Ganwyd y gwr hwnnw yn y Quirt, plwyf Llan- dyfrydog, Mon. Ei dad oedd William Jones, a'i fam oedd 14, Jones, a'i fam oedd Ellen Williams, merch Owen Williams, Plas, Elangefni. Owen Williams, Ty Hir, oedd o'i bleutyndod yn llawn o dueddiadau a galluoedd cerddorol. Esgeulusodd ei waith drwy rym ei awen gerddorol. Aeth yn dlawd ei amgylchiadau bydol. Yn ei henaint yr oedd mewn am- gylchiadau bydol mor gyfyng fel y bu raid iddo adael Mon a myned i Eundain i wneud rhywbeth i ennill bywioliaeth yn y Bank of England. Cyfeillion iddo gafodd y He hwnnw iddo. Cyhoeddodd lyfr ar elfennau cerddor- iaeth a elwid yn Gamut Owen Williams. I Byr draethawd ar waith Dibdin, wedi ei Gymreigio yn ofalus gan 0. W.' Cyhoedd- wyd ef yn ddwy ran. Rheolau Cerddor- 1- iaeth Eglwysig geid yn yr ail ran. Casglodd Owen Williams wedi hynny lyfr tonau a alwodd yn Cenaniah.' Cyhoeddwyd ef yn 1816. Yn y llyfr hwnnw ceid y tonau wedi eu trefnu i ddau lais. Yn 1819 cy- hoeddodd lyfr arall yn bedair rhan, yn costio wyth swllt y rhan, neu bunt ac un swllt ar ddeg a chwecheiniog wedi ei rwymo yn un llyfr. Rhoddwn yma yr hyn oedd ar ei dudalen cyntaf' Tan dadog- aeth ddigyfrwng Ei Fawrhydi y Brenin Sior y Pedwerydd—Brenhinol Ganiadau Seion, neu Gynghanedd Ddedwydd Gym- raeg; yn cynnwys hen beroriaethau Brutanaidd, a rhai diweddar heb eu har- graffu o'r blaen. Dau gant ac un ar ddeg a thrigain o donau, salmau a hymnau a phedwar o fawl-ganiadau ateb-leisiol i ddau, tri, pedwar, chwech ac wyth o leisiau. Y geiriau ydynt gynganeddiad mesurol a chyfansoddiad y ddau brif brydydd Cymreig, gweinidogion Eglwys Loegr. Detholwyd a chyfansoddwyd at wasanaeth eglwysi ac Ysgolion Sabothol ac wythnosol y Cymry. A chyflwynwyd trwy ganiatad i'r Ardderchocaf Ardalydd Mon. Yn ddau lyfr, gan Owen Williams o Fôn. Trefnwyd i'r organ neu'r pianoforte gan S. Wesley a V. Novello. Llundain argraff- wyd dros yr awdwr, ac ar werth gan W. Mitchell, gwerthwr cerddoriaeth, 159, New Bond-street.' Dyna ddigon o deitl i lyfr, beth bynnag. Hwnna oedd dull yr oes honno ar gyhoeddi. Nid oes ddyddiad yn y llyfr. Ond ymddengys ei fod wedi ei gyhoeddi wedi 1818, oherwydd ceir ynddo gyfeiriad at Draethawd ar Gerddoriaeth gyhoeddesid yn 1818. Yn y traethawd hwnnw enwir y personau canlynol fel cyf- eillion mynwesol i Owen Williams, y rhai oeddent yn gerddorion o safie :Richard Ellis, orgallydd Beaumaris (1784-1824); R. Roberts, Caergybi; O. Williams, Pen- traeth; R. Gruffudd, Caernarfon W. Pugh a John Williams, sir Feirionydd. Awgrymir yn y traethawd mai un o'r rhai uchod ddylasai ddwyn allan Brenhinol Ganiadau Seion.' Methodd Owen Williams gael neb yn Llundain, lie yr oedd yn byw pan gyhoeddodd y Brenhinol Ganiadau,' y gallasai ymgynghori a hwy ar feirniad- aeth gerddorol; oherwydd hynny ceid y gerddoriaeth yn y llyfr yn llawn diffygion y—yr acen yn ami yn afreolaidd, y cy- nghaneddion yn anghywir, a'r diweddebau yn amherffaith. Ni roddwyd enwau y cyfansoddwyr uwchben y tonau; ond gwyddis fod amryw o'r tonau wedi eu hysgrifennu gan loan Rhagfyr, William Willson, John Jeffreys, Robert Gruffudd, John Ellis, Handel, Wheall, Luther, Dr Greene, Dr Morgan, J. Hatton, Purcell, Knapp, Tallis, ac eraill. Ceir yn niwded y rhan gyntaf o'r Brenhinol Ganiadau' ddwy hen alaw—un er cof am Dafydd, a'r Hall er cof am loan Fedyddiwr, oddiwrth yr hon y tynnodd y mynach Guido reolau ei Salmyddiaeth. Ceir yn y llyfr hefyd anthemau cerddgar, perorus, megis, Mor hawddgar yw dy bebyll,' gan John Jeffreys. Efe hefyd oedd awdur A bydd arwydd- ion.' Anthemau Seisnig yw y lleill. Ymwelai Owen Williams yn achlysurol ag Ysgolion Sabothol i siarad a rhoi gwersi ar gerddoriaeth. Yn yr anerchiadau hynny canai donau o'i waith ei hun. Gwnaeth yr hen bererin lawer o wasanaeth i gerdd- oriaeth eglwysig yng Nghymru. Ni