Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Eglwys Lloyd Street, Llanelli.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eglwys Lloyd Street, Llanelli. Marwolaeth Mr. David Mathias, Marble Hall. -Collo(ld yr eglwys uchocl un o'i haelodau ffydd- lonaf a mwyaf heddychol pan fu farw y brawd annwyl hwn. Genedigol o Langeler oedd Mr. Mathias, ac yr ydym yn cofio y Uawenvdd mawr oedd gan yr eglwys pan wnaeth ef a'i deulu lluosog en cartref yma er's dros ugain mlyuedd Y11 ol. Y fath nerth i eglwys ieuanc mewn tref boblog vw cael teulu crefyddol wedi eu trwytlio yng ngwasanaeth ty Dduw a pharch dwfxi i'r cysegr, ac yn wastad yn barod i gymeryc1. rhaii yn yr holl ordeiniadau. Dyna oedd teulu Mathias 1 eglwys lyloyd-street. Brawd addfwyn, fine ei ysbryd, oedd yr ymadawedig, ac yn neilltuol o fifyddlon yng nghyfarfodydd wythnosol yr eglwys. Bu yn ddosbarthwr am flynyddau, ac yn athraw ffyddlon yn yr Ysgol Sul hyd nes iddo gael ei gaethiwo 1 w dy er's clrwe mis yn ol a rhoddodd ei ddosbartli (chwiorydd) ivreath i'w osod ar ei arch yn goffadwriaeth am y parch a'r anwyldeb oedd ganddynt tuag ato. Magodd deulu lluosog, a phob un o'r plant yn troi allan yn anrhydedd i'w tad a'u inam, ac yn troi mewn cylchoedd uchel a phwysig mewn cymdeithas. Un o'r meibion yw y Parch. Evan Mathias, yr hwn sydd erbyn hyn yn gaplan ym Myddin Prydain Fawr. Bu ef allan yn y Dardanelles, ac yr oedd ei dad yn ei theimlo yn anrhydedd fawr fod ganddo fab yn pregethu Crist i'n milwyr dewr yn y trenches, Cysgododd Rhagluniaeth drosto, a chafodd y fraint o ddod yn ol i'r wlad hon, a bod yn bresennol wrth erchwyn gwely ei anll wyl dad pan oedd yn croesi adref i fyd arall. Bore dydd Iau, Hydref 2iain, oedd dydd yr angladd. Yn y ty darllenwyd gan y Parch. R. Williams (Pres.), a gwedtdiwyd gan y Parch. J. J. Jones, B.A. Yn Ramah, ger Caerfyrddin, y mae bedd y teulu, ac yno y cychwynwyc1. y bore hwn. Wedi cyrraedd man tawel ei feddrod, darllenodd y Parch. T. Orchwy Bowen, Ebenezer (yr hwn yn garedig oedd yn gofalu am y trefniadau), a siaradodd y Parch. R. Williams (Pres.); gan ddwyn tystiolaeth uchel i'r ymadawedig fel cymydog tawel a heddychlon. Siaradwyd hefyd gan y Parch. J. J. Jones, B.A., fel un oedd wedi bod yn weinidog arno am flynyddau, ac yr oedd pobl Ployd-street yn falch i wrando unwaith eto ar y gwr annwyl hwn yn rhoddi gair o gysur i'r teulu caredig ar lan bedd eu hannwyl dad. Yna gweddiodd y Parch. T. Orchwy Bowen yn afiiel- gar iawn. Daeth llawer ynghyd o bangeler i dalu Y, gymwynas olaf i un a berchid yn fawr yn y gymdogaeth dawel honno. Yr Arglwydd fyddo yn nodded i Mrs. Mathias yn ei hiraeth dwfn ar ol priod tyner, ac i'r meibion a'r merched a'u teuluoedd oedd inor ofalus o'u tad. Na throedied neb yn anystyriol ar fedd gwr DllW. Ni gawn gwrdd a'n hoff anwyliaid Aeth o'n blaen yn niwl y bedd Ni gawn eto'u gweld a'u clywed Méwn cymdeithas bur a hedd. Hapus dyrfa, t] Sydd a'u hwyneb.tlla'r wIad W. F.

HYN A'R LLALL 0 BABILONI FAWR.

I CERDDORIAETH A OHERDD-ORION.