Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Undeb Pontypridd a'r Rhondda.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Undeb Pontypridd a'r Rhondda. Cynhaliwyd cyfarfod diweddaf yr Undeb uchod I ym Methania, Dinas, dydd Mawrth, Hydref igeg. Cafwyd Cynhadledd yn y prydnawn am 2 o'r gloch, dan lywyddiaeth Mr. loan Anwyl, Pont- I ypridd. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. J. Rhedynog Evans, Treherbert. Yn absenoldeb yr Ysgrifennydd, yr hwn fethodd fod yn bres- ennol, gofynnwyd i'r Parch. J. C. Jones, Ty- newydd, i gymeryd y cofnodion. Penderfynwyd fod pob trefuiadau ynglyn a r cyfarfod nesaf i'w gadael i'r Ysgrifennydd. Pasiwyd hefyd bleidlais o gydymdeimlad dyfnaf y cyfarfod misol a'r cyfeillion carlynol yn eu profedigaethau o golli rhai aiinwyl:Mrs. IQ,, H. Davies, Pentre Mr. loan Anwyl, Pont- ypridd Parchn. J. Williams, Hafod; T. L. Davies, Cwmparc James Williams, Wattstown J. Oldfield Davies, B.A., Ton; ac hefyd a'r Parch. E. Richards, Tonypandy, yn ei gystudd blin, gan ddymuno iddo adferiad buan. Rhoddwyd derbyniad croesawgar i'r Parch. J. Rhedynog Evans ar ei sefydliad yng Ngharmel, Treherbert, gan ddymuno iddo lwyddiant lawer yn ei faes newydd. Yn absenoldeb y Parch. T. L. Davies, Cwm- pare, yr hwn benodwyd i ddarllen papur ar Le Gweddi yn yr Argyfwng Presennol, cafwyd rhydd-ymddiddan ar y mater. Agorwyd gan y Parch. Rowland Hughes, B.D., Tylorstown, yn effeithiol a medrus. Siaradwyd ymhellach gan y brodyr canlynol:—Parchn. D. Jones, Trealaw T. G. Jenkyn, Iylwynypia D. G. Evans, Pen- ygraig E. D. Evans, Pontypridd J. C. Jones, Tynewydd; a J. R. Evans, Treherbert. Cafwyd amser da a bendithiol, a llawen oedd gennym weled nifer o frodyr a chwiorydd Beth- ania yn y cyfarfod hwn. Ar ol terfynu trwy weddi gan y Parch. James Williams, Wattstown, aed i festri y capel, lie yr oedd danteithion blasus wedi en paratoi ,ai- gyfer yr ymwelwyr. Diolchwyd yn gynnes iawn i Mr. Overton a cliyfeillion caredig y Dinas am baratoi mor rhag- orol a helacth ar ein cyfer. Pregcthwyd yn yr hwyr gan y Parch. J. Rhedynog Evans. Treherbert. J. UI,DIIIll,D DAVIES, Y$O-.

Undeb Cenediaethol Eglwysi…

Advertising

BYDDIN CYMRU.

-""- - -" _-.- -_..::....___-_-GALWADAU.…

HYN A'R LLALL 0 BABILONI FAWR.