Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y DRYSORFA GAMOLOGL1 - 1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DRYSORFA GAMOLOGL 1 GAN Y PARCH. JAMUS CHARGES, DINBYCH. AMCAN Y DRYSOREA. Cychwynwyd y Drysorfa hon dros ddwy flynedd yn ol ond y mae llawer, hyd yn oed o ddiaconiaid ein heglwysi, heb ddeall amcan y Drysorfa hyd heddyw. Dyma'r nod :—Codi Trysorfa o £ 50,000, a'r Hog oddiwrthi i'w ddefn- yddio (I) I sicrhau i eglwysi gweiniaid weinid- ogaeth sefydlog trwy eu cynorthwyo i roddi dim llai na £ 80 y flwyddyn i weinidog. (2) Cynorth- wyo eglwysi gweiniaid, a rhai newyddion anghenus, i sicrhau gweinidogaeth achlysurol. Y mae yn y Gogledd 106 o eglwysi, ac yn y De 38, nad yw rhif eu haelodau dros 50. Dyma'r eglwysi y bwriedir estyn cymorth iddynt. Y mae ein brodyr y Saeson, trwy gasglu £ 250,000, wedi sicrhau nad oes gweinidog ar eglwysi neu cglwys Seisnig trwy Doegr a Chymru, a'i gyflog yn llai na £ 120 y flwyddyn. Teimlodd dynion goreu ein Henwad ei bod yn llawn bryd i'r eglwysi Cymreig symud yn yr un cyfeiriad. Y mae ein Hellwad yn llawer gwannach yn y Gogledd nag yn y De, a hynny sydd yn cyfrif am y ffaith fod mwyafrif mawr yr eglwysi gwein- iaid yn y Gogledd. Yn yr ardaloedd gwledig y ceir y rhan fwyaf o'r eglwysi gweiniaid yn y Gogledd. Trwy ddylifiad y bobl o'r ardaloedd hyn i'r trefydd mawrion, y mae cyfLwr yr eglwysi gweiniaid yn waeth nag y bu er's blynyddoedd lawer. Mewn cyfartaledd i'r boblogaetli y niaent wedi dal eu tir yn lied dda ond gan fod y bobl- ogaeth yn llai, y mae rhifedi aelodau llawer o'r eglwysi hyn yn llai nag y bu. Ond yn yr eglwysi gweiniaid hyn y magwyd llawer o gewri y Pul- pud Cymreig, fel yr anfarwol Dr. William Rees yn Uansanan, a llawer o golofnau yr achos yn y trefydd mawrion—yn ddiaconiaid, athrawon a cherddorion. Nid hawdd prisio dyled yr Enwad. iddynt. A adewir i'r achos wywo a marw yn yr addoldai bychain, cysegredig hyn, sydd yn cyfrif am ran dda o fywyd goreu y genedl ? Ymddyg- iad yr eglwysi, yn enweaig y rhai cryfion, tuag at y Drysorfa Ganolog fydd yn penderfynu y pwnc. SEEYEEEA BRESENNOE Y DRYSORFA. I r Yn ol adtoddiad y Parch. W. James, Aber- tawe, Arolygydd y Drysorfa, yng Nghynhadledd yr Undeb ym Mertliyr ym mis Gorffennaf, y mae 160 o eglwysi (gan gynnwys addewidion personau o eglwysi eraill) wedi addaw y swni anrhydeddus o £ 15,200, a thros 800 o eglwysi Cymreig heb addaw dim Yr oedd yr addewid- ion y flwyddyn gyntaf yn £ 13,000, ond erbyn diwedd yr ail flwyddyn yn ddim ond £ 15,200 ychydig dros £ 2,000 mewn blwyddyn Cofier y bwtiedir gorffen y gwaitli mewn pum mlynedd. Yr ydyin yn awr wedi dechreu y drydedd flwyddyn Y mae llwyddiant y gwaith bendigedig hwn yn dibynnu ar yr hyn a wneir y flwyddyn hon. Y rheswm roddid yn gyffrcdin am yr esgeulus- tra v flwyddyn ddiweddaf oedd y rhyfel. Nid esgus gwag liollol ydoedd. Oedi wnai llawer o'r eglwysi, gan obeithio y byddai y rhyfel ofn- adwv drosodd ymhen y Rwyddyu. Ofer disgwyl hynllY bellach. Os arhosir nes i'r rhyfel ddarfod lieb symud, bydd y Gronfa yn fethiant. Gwyddou fod rhai eglwysi yu dioddef yn drwiii o achos y rhyfel ond y mae y mwyafrif mawr lilor dda arnynt ag erioed. Mae yr amaethwyr yn cael prisiau rhagorol am eu hanifeiliaid. a'r glowyr yu cael cyflogau da. Cael gan yr eglwysi wneud a allont yn ol eu hamgylchiadau yw yr oil a ofynnir ac os gwnant liynny bydd llwyddiant y Drysorfa wedi ei sicrhau tuhwnt i bob amheu- aeth. OWEITHIO TRWY Y CYFUNDEBAU. I Penderfynodd y Pwyllgor, mewn cyfarfod, a gynhaliwyd yn Dlaudrindod yin mis Medi, i wneud apel ar unwaith at yr 800 o eglwysi sydd heb wneud dim. hyd yn hyn. Mae'n eglur bellach mai y Cyfundebau sydd i wneud y gwaith, tra yn gadael person au unigol yn rhydd i weithio fel y barnont yn oreu. Pawb sydd a'u calon yn yilgwaith i wneud eu rhan, a sicrheir ei lwydd- iant. Mae rhai Cyfundebau eisoes yn gweithio vn dda, ond Cyfundebau eraill yn symud yn araf-rhy ural. Apelir yn daer at y Cyfundebau i drefnu fod ymwelydd neu yniwelwyr i fyned yn bersonol at bob eglwys sydd heb addaw dim. Profwyd gan- waith mai methiant yw pob apel trwy lythyr, ond yn unig i baratoi y fiordd i ymweliad per- sonol. Ofnwn fod rhai eglwysi yn tybied fod eisiau iddynt gyflawui gorchest neilltuol. Dim o gwbl. Gofynnir i'r eglwysi wneud eu rhan fel y mae Duw yn eu llwyddo—dyna'r oil. Mae ein hegiwysi yn gwneud yn dda at lawer achos, ond nid yw eglwysi Cymru yn enwog iawn am gyf- rannu. Meddylier am y ffaith hou Cyfrannodd eglwys y Parch. T. Eynon Davies fisooo at y Drysorfa Seisnig. Un eglwys Seisnig wedi cyf- rannu uxwy nag y mae yr holl eglwysi Cymreig wedi addaw at y Gronfa Ganolog Y mae llawer iawn yn dibynnu ar ffyddlondeb y gwcinidogion a'r diaconiaid. Cawsom broflon diamheuol fod y bobl yn barod i gyfrannu, os rhoddir amcan gogoneddus y Drysorfa yn oleu a theg ger eu bron. j EGWYDDORION EIN HENWAD. I Yinffrostiwn yn egwyddorion ein Henwad, am y tybiwn eu bod yn gyson a dysgeidiaeth y Testament Newydd. Cydnabyddir hyn gan ddysgedigion nad oes un berthynas rhyngddynt a'r Annibynwyr. Ond os am fod yn debyg i'r Eglwys Apostolaidd, rhaid i ni gynhyddu llawer mewn un gras, sef yn y gras o gynorthwyo ein gilydd, a'r cryf i helpu y gwan. Yr oedd Dr. Joseph Parker am y rhan fwyaf o'i oes yn Anni- bynnwr o'r Annibynwyr, ac yn Annibynnol dros ben ond cyn diwedd ei yrfa ddisglair daeth i deimlo fod yn rhaid i'r Annibynwyr "wrth fwy o organisation a mwy o gydweithrediad cyn llwyddo a bod yn deilwng o ddysgeidiaeth Crist a'i apos- tolion. Yr oedd bron hanner un o'i anerchiadau godidog o Gadair yr Undeb yn gynwysedig o ddyfyniadau o'r Epistolau am ddyledswydd yr eglwysi i gynorthwyo eu gilydd, a bod mewn undeb a'u gilydd, er mwyii bod yn fwy o allu dros Grist yn y byd, fel yr adnod hon Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyf- raith Crist.' Yr ydym o'r farn mai ffrwyth dysg- eidiaeth Dr. Joseph Parker ac eraill yw y Drys- orfa Seisnig o £ 250,000 y cyfeiriwyd ati eisoes. Nid anghofiwn mai y Cymro enwog, Dr. J. D. Jones, M.A., B.D., Bournemouth, fu y prif offervn i sicrhau llwyddiant Trysorfa y Saeson. DYEODOE EIN HENWAD YNG NGHYMRU, I Yr ydyin. yn un o'r ddau enwad liynai yng Nghvmru y .Bedyddwyr yw y llall. Yr ydym yn un o'r ddau enwad lluosocaf yug Nghymru y Methodistiaid Calfciaidd yw y llall. Yr ydym ni yn rhagori ar y Methodistiaid yn ein cyfran- iadau at y Genhadaeth Dramor, ond tra rhagora v Methodistiaid arnom ni yn eu cyfraniadau at y Genhadaeth Gartrefol. Oherwydd hyn niaent hwy yn cynhyddu yn raddol yn awr, a ninnau yn lleihau. En gogoniaiit hwy yw ein gwendid ni. Duw yn rhwvdd iddynt, ac i bob enwad arall. Mae digon o waith i bawb. Mae 700,000 o baganiaid yng Nghymru na wyddant ragor rhwng eu llaw dde a'u llaw aswy yn grefyddol. Mor ffyddlon yw aelodau cyfoethog y Methodist- iaid i'w henwad Daetli cymorth o lan y Menai ac o Landinaui i lawer eglwys o dan ei baich ac at y Forward, Movement. Pa le y mae cyf- oethogion Annibynia ? 0 am olynydd nen olyn- wyr i'r Cristion pur, yr Enwadgarwr a r tywysog- gytrannwr Thomas Williams, Gwaelodygarth. 'Y mae rhai dwsenni o weinidogiou da a ffyddlon yng ngwasanaeth Crist yn ein Henwad yn awr ar gyflog o [r yr wythnos, a rhai ar lai 11a hynny. Punt o gyflog i weinidog da yr wythnos, ar ei fwyd ci hun, ti 'i wywig a'i blant Nac adroddwch hyn yn Gath, na fynegwch yn heolydd Ascalon, rhag llawenychu gelynion Ymneilltuaeth, rhag gorfoleddu y rhai a wnaut grefydd yn wawd. Wele, daetit yr awr i symud y gwaradwydd hwn. DYMA GYEEE YR ENWAD. I Y mae i'u Henwad ei hanes, ac ni raid cywil- yddio o'i blegid. Bu ar y blaen ar hyd ei holl hanes dros rvddid a chydraddoldeb a thros iawn- clerau dyn. Pwysleisia ysbrydolrwydd crefydd, ac y mae yn deyrngarol i'r Gwaredwr. Y mae yn un o'r galluoedd pennax fedd Cymru heddyw i ddyrchafu y genedl mewn moes a chrefydd. Mae yr egwyddor Gynulleidfaol mesvn cysondeb rhyfeddol ag ysbryd gweriuol yr oes. Mae mwy- afrif mawr ein beglwysi yn hunan-gynhaliol, a'r llywodraeth yn yr eglwys ei hun. Nis gellir rhagori ar hyn. Ond byddai cynorthwyo yr eglwysi gweiniaid i gynnal eu gweinidogion yn deilwng yll lies ysbrydol i'r eglwysi cryfion. Hin hangcll mawr ydyw gwaith. Sut y siaradodd hwn ac yr areithiodd y Ilall ? Yr ydyrn wedi byw gormod yn y fan yna, yn enwedig yr Undeb. Yr ydym yn alright ar y platform. Y gwaith pennaf yw pregethu yr Kfengyl yn eglurhad yr Ysbryd a chyda nerth, Mae y symudiad hwn o Dduw, ac Ysbryd Duw yn gweithio ynddo a thrwyddo. Na ddiffoddwch yr Ysbryd.—Allan u rifyn Taohwedd o'r Cenuad Hedd.' s

I MOUNTAIN ASH.

Advertising