Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB GORLLLWINOI, DINBYCH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB GORLLLWINOI, DINBYCH A FFLINT. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod ym Mhwllglas, ger Rhuthyn, ar y dyddiau Mercher ac Ian, Hydref 6ed a'r yfed. Yn absenol- deb y Parch. T. Henry Jones, Seion, Treffynnon, y llywydd am y flwyddyn, etholwyd Mr. H. E. Pritchard, Y.H., Abergele, i'r gadair. Agorwyd y Gynliadledd bore Ian trwy weddi gan y Parch. H. Uwchlyn Jones, Rhesycae. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyf- j arfod diweddaf a gynhaliwyd yn y Wyddgrug. Darllenwyd llythyr oddiwrth Gyfulldeb Eleyu ac E/ifionydd, yn cyflwyno y Parch. R.W. Hughes, Moeltryfan, yn aelod o'r Cyfundeb hwn ar.ei ymsefydliad yn weinidog ar eglwysi Pendref, Rhuthyn, a Bryn Seion. Dygwyd tystiolaeth uchel i gymeriad Mr. Hughes fel gweinidog da a brawd cywir a charedig, a rhoddwyd derbyn- iad croesawgar iddo i'n plith gan y frawdoliaeth. Hefyd, Uongyfarchwyd ef ar ei benodiad yn Hefyd,, i'r Fyddin Gymreig. Mae Mr. Hughes eisoes wedi dechreu ar ei waith fel caplan, a bydd yn fuan yn myned allan i'r Dardanelles. Gwnaed yn hysbys fod Mr. Stanley Jones, o eglwys Ffynnongroyw, a Mr. R. H. Lewis, eglwys Bryn Seion, wedi dechreu pregethu ac yn unol a rheolau ein Cyfundeb, dewiswyd y Parch. D. Oliver, D.D., Treffynnon, i arholi y blaenaf yn athrawiaethau ein crefydd, a'r Parch. James Charles, Dinbych, i arholi'r olaf, ynghyda rhyw weinidog arall o ddewisiad yr eglwysi lie mac'r brodyr hyn yn aelodau. Etholwyd Mr. Peter Hughes, Sar11, ger Tre- ffynnon, yn llywydd y Cyfundeb am y flwyddyn ddyfodol, ac ail-etholwyd Mr. Edward Parry, Treffynnon, yn drysorydd, a'r Parch. Ben Williams, Prestatyn, yn ysgrifennydd. Etholwyd y personau canlynol i gymeryd rhan yn y cyfarfod nesaf :Parchn. T. Roberts, Wyddgrug, ac E. Pan Jones, Ph.D., Mostyn. Etholwyd y personau canlynol ar Bwyllgor y Genhadaeth Dranior perthynol i'r Cvfundeb Parchn. T. Roberts, Wyddgrug James Charles, Dinbych; J. D. Williams, Pflint Mri. Peter Hughes, Sarn H. Edwards, Rhyl a'r ysgrifen- nydd i fod yn gynhullydd. Etholwyd y Parch. J. D. Williams, Pflint, i ymweled ag eglwysi y Cyfundeb ar ran Cym- deithas Genhadol Lluudaiii am y flwyddyn nesaf. Penderfynwyd ein bod yn datgan ein cydym- cleimlad a'r personau canlynol yn en gwahanol brofedigaethaii :—Mrs. E. P. Griffith, Rhyl Mrs. John Jones, Ffynnongroyw Mrs. Lewis Jones, Rhuthyn a'r Parch. J. D. Williams, Fflint. Darllenodd yr Ysgrifennydd lythyr oddiwrth y Parch. Ross Hughes, Borthygest, Ysgrifennydd y Drysorfa Gynorthwyol, yn hysbysu y frawdol- iaeth fod ymdrech arbennig i gael ei gwneud ymhlaid y Drysorfa o hyn i ddiwedd y flwyddyn hon, gan ddymuno ar i'r eglwysi ymgynieryd a'r gwaith hwn yn uniongyrchol. Siaradwyd hefyd ymhellach ar y Drysorfa gan y Parch. James Charles, Dinbych, a dywedodd ei fod, yn rhin- wedd ei swydd fel Cadeirydd Undeb yr Annibyn- wyr Cymreig, yn ymweled a'r eglwysi vmhob rhan o Gymru er mwyn hyrwyddo y gwiath da hwn yn ei flaen, a bod yn ei fwtiad i ymweled a phob eglwys o'r Cyfundeb hwn lie nad oeddynt wedi symud gyda'r mudiad. Penderfynwyd fod y Trysorydd i anfon tan- ysgrifiad o Drysorfa'r Cyfundeb tuagat Gym- deithas Ddirwestol Gwynedd ac etholwyd Mr. H. E. Pritchard, Abergele, a'r Parch. W Jones, Llanelwy, i gynrycholi'r Cyfundeb ar Bwyllgor y Gymdeithas lionno. Rhoddodd y Parch. E. Pan Jones, Ph.D., Mostyn, rybudd y byddai iddo yn y Gynhadledd nesaf alw sylw at y priodoldeb i'r Cyfundeb neilltuo nifer o bregethwyr cynorthwyol i weiiiyddu'r ordinliad o Swpcr yr Arglwydd yn yr eglwysi lie y byddo galwad arnynt fwncud hynny. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. Ivor Jones, Caer, yn taer ddymuno ar y personau hynny sydd wedi addaw tanysgrifiadau tuagat genhadaeth y mflwyr yn Kinniel Park i anfon y cyfryw iddo'n ddioed. Terfynwyd y Gynliadledd trwy weddi. Y MODUIOJSI' CYHOlWDVb. Pregethwyd nos Fercher yn y lie ar Y Gen- I hadaeth gan y Parch. W. James, Sarn, ac ar y pwuc gan Mr. G. J. Griffiths, Rhyl. Prydnawn Iau cafwyd cyfeillach grefyddol o dan lywyddiaeth y Parch. T. Roberts, Wydd- grng. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. Stanley Jones, Ffynnongroyw. Mater y gyfeillach oedd, Hawliau yr Ysgol Sabothol, y Cwrdd Gweddi, a'r Gyfeillach ar yr Eglwys.' Siaradwyd ar yr Ysgol Sul gan y Parchn. R. W. Hughes, Rhuthyn, a J. O. Jones, Green ar y Cwrdd Gweddi gan y Parch. James Charles ac ar y Gyfeillach gan y Parch. W. M. Jones, Llanelwy. Cafodd pob un o'r siaradwyr aniser da, a thystiolaeth y rhai oedd yn gwrandaw oedd mai da oedd bod yn bresennol. Nos Iau pregethwyd yn addoldv y Methodist- iaid yn y lie gan y Parchn. R. W. Hughes, a James Charles. Yr oedd yr oil o'r cynulliadau yn lluosog, ac er fod Pwllglas yng nghvvr eithaf y Cyfundeb, daeth y frawdoliaeth ynghyd yn lied gryno. Haedda'r cyfeillion ym Mhwllglas gaumoliaeth am eu trefniadau destlus. Darpelid lluniaeth i'r cynrychiolwyr yn yr ysgoldy perthynol i gapel y Methodistiaid yn y lie, ac yr oedd y darpar- iadau yno yn bopeth ellid ei ddymuno. Diolch- wyd iddynt am eu croesaw a'u sirioldeb gan v Parch. James Charles. Prestatyn. BEN yvhj.iams, Ysg.

CYFUNDEB MALDWYN.

......- - _- - - CYFARFODYDD.

Advertising