Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

..-.-..-. \ Y WERS SABOTHOL.…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

 Y WERS SABOTHOL. I 1  I i Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. t Gan y Parch. D. OLIVER, DD., t TREFFYNNON. g TACHWEDD 21aiii.Jonah, y Cenhadwr i Nin- efeh.—Jonah iii. 1-10. Y TESXYN EURAIDD. Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glan gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a orch- mynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf Fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. -Amen.Matt. xxviii. 19, 20. RHAGAR WEINIOL. YR oedd gan yr Arglwydd rai yn barod i wrando ar Ei lais ac i ufuddhau i'w orchmynion yn yr adegau tywyllaf yn hanes Israel, pan oedd y lliaws yn rhuthro i ddinistr trwy anghrediniaeth ac anufudd-dod. Un felly ydoedd Jonah. Mab i Amittai ydoedd, o Gath-Hepher, heb fod yn nepell o Nazareth. Felly yr ydoedd yn broffwyd a gyfododd o Galilea (loan vii. 52). Gallwn gasglu oddiwrth y cyfeiriad ato yn Llyfr y Bren- hinoedd ei fod yn proffwydo yn nyddiau Jero- boam. Danfonwyd ef i gyhoeddi dinistr Ninefeh, ond nid oedd yn foddlon myned. Gan y gwyddai fod Jehofah yn Dduw trugarog, ofnai y buasai yn madden i'r Ninefeaid ar eu hedifeirwch, ac felly ei wneud ef yn broffwyd celwyddog. Cy- merodd long yn Joppa, a phenderfynodd ffoi i Tarsis. Ar y fordaith daeth yn dymestl, a chyd- nabyddodd Jonah mai efe oedd yr achos ohoni. Ar ei gais, taflwyd ef i'r mor, a gwaredwyd ef mewn modd gwyrthiol. Derbyniwyd ef gan bysg- odyn mawr, a bu yn ei fol am dridiau a theirnos. Wedi hynny taflwyd ef i'r lan. Ar ol y waredig- aeth ryfeddol hwn, daeth gair yr Arglwydd ato yr ail waith, yn gorchymyn iddo fyned i Ninefeh -ac efe a ufuddhaodd. Tybia llawer y dylem gymeryd hanes Jonah yn ddamegol, tra y mae eraill yn barnu, ar sail y cyfeiriadau a geir ato yn yr Ysgrythyrau, y dylid cymeryd yr hanes yn llythrennol, a bod Jonah yn berson o gryn bwysigrwydd (gwel 2 Bren. xiv. 25 > Matt. xii. 30-41, xvi. 4; Luc xi. 29). Y mae y Wers yn cyfeirio at ei ail anfoniad i Ninefeh. ESBONIADOTt. Adnod i.- A gair yr Arglwydd a adaetli yr ail waith at Jonah, gan ddywedyd.' A gair yr Arglwydd a ddaeth yr ail waith at Jonah. Er ei anufudd-dod y tro cyntaf, trwy drugaredd yr Arglwydd cafodd ail gynnyg. Ufuddhaodd yntau. Ychydig iawn o hanes personol Jonah sydd gennym heblaw yr hyn a geir yn ei broffwydol- iaeth. Yr oedd yn fab i Amittai, yr hwn oedd yn byw yn y rhanbarth gogleddol o Israel. Adnod 2.—' Cyfod, dos i Ninefeh y ddinas fawr, a phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyt.' Cyfod, dos i Ninefeh y ddinas fawr. Ninefeh ydoedd prifddinas ymerodraeth Assyria. Yr oedd yn ddinas fawr, yn sefyll ar ochr ddwyr- einiol y Tigris, i'r gogledd-ddwyrain i Babilon. Y mae darganfyddiadau diweddar wedi tafiu goleuni ar hanesiaeth y ddinas hon. Yn ol un ysgrifennydd, yr oedd yn bedair-onglog, yn mesur 150 o ystadau o hyd a 90 o led, ac felly ei hamgylchedd yn 480 o ystadau, neu 60 o fill- tiroedd. Yr oedd yn amgylchynedig gan furiaii o 100 troedfedd o uchder, ac mor drwchus fel ag y gellid gyrru tri cherbyd ochr yn ochr ar eu pennau, a'u bod yn cael eu liamddiffyn gan 1,500 o dyrau 200 troedfedd o uchder. Yr oedd ei harwynebedd yn 216 o filltiroedd ysgwar.' Dylid cofio fod yr hen ddinasoedd gynt yn cyn- nwys ynddynt lawer o feysydd agored, yn gystal a phalasdai a gerddi a pherllannau, a chedwid o fewn y muriau lawer o anifeiliaid. Ar ol i Nine- feh gyrraedd anterth ei gogoniant a'i chyfoeth, ymollyngodd i foethusrwydd a phob pechod., a chyhoeddwyd ei dinistr gan Jonah. A phregetha iddi y bregeth a lefarwyf wrthyi. J ehofah oedd yn rhoddi y genadwri i'r proffwyd. Gwyddai beth fuasai yn fwyaf cffcithiol i ddylanwadu ar y Ninefeaid. Cyhoeddi y genadwri a ddcrbyn- iodd ydoedd gwaith Jonah. Adnod 3.— A Jonah a gyfododd ac a aeth i Ninefeh, yn ol gair yr Arglwydd. A Ninefeh oedd ddinas fawr iawn o daith tri diwrnod.' -_u A Jonah a gyfododd ac a aeth i Ninefeh. Ufudd- haodd i orchymyn Jehofah, ac a aeth i Ninefeh, pellter o tua chwe chant o filltiroedd. 0 daith tri diwrnod. Os cymerir ugain milltir fel taith un diwrnod, yr oedd y pellter o gwmpas y ddinas yn drigain milltir. Adnod 4.—' A Jonah a ddeclireuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Nine- feh a gwympir.' A Jonah a ddechreuodd fyned, i'r ddinas. Wedi iddo fyned i'r ddinas a dechreu teithio, dechreuodd hefyd gyhoeddi y genadwri a dderbyniasai gan Jehofah. Deugain niwrnod j fydd eto, a Ninefeh a gwympir. Diau fod ym- ddanghosiad y proffwyd dieithr o Israel a natur ei genadwri yn tynnu sylw y trigolion ar un- waith. Yr oedd cwpan digofaint ar gael ei dywallt ar y ddinas a'i thrigolion oherwydd eu pechodau. Yr oedd dydd dial yn ymyl: nid oedd ganddynt ond deugain niwrnod i ystyried eu sefyllfa. Yr oedd y ffaith nad oedd y dinistr yn disgyn ar unwaith yn rhoddi lie i obaith y caent eu gwaredu os edifarhaent. Adnod 5.A gwyr Ninefeh a gredasant i Dduw, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisg- asant sachlian, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt.' A gwyr Ninefeh a gredasant i Dduw. Effeithiodd y genadwri ar wyr Ninefeh, a dygwyd hwy i gredu yn Nuw. Oddiwrtho Ef yr oedd ymwared i'w chael. Ac a gyhoeddasant ympryd. Hyn yn brawf o'u hymostyngiad a'u hedifeirwch. Ac a wisg- asant sachlian. Dyma'r ffordd oedd ganddynt i ddangos eu galar a'u gofid. Y mae yn ymddangos fod edifeirwch y bobl wedi cymeryd lie yn fuan ar ol i Jonah gyhoeddi ei genadwri, a bod eu hedifeirwch yn gyffredinol. Adnod 6.—Canys gair a ddaeth at frenin Ninefeh, ac efe a gyfododd o'i frenhinfainc, ac a ddiosgodd oddi am dano ei frenhinwisg, ac a roddes am dano lian sach, ac a eisteddodd mewn lludw.' Canys y gair a ddaeth at frenin Ninefeh. -Clywodd y brenin genadwri y proffwyd, ac effeithiodd arno yr un fath a'i ddeiliaid. Gosod- odd ei hun ar y run safle a hwythau. Cyfododd o'i frenhinfainc, a diosgodd ei frenhinwisg, a gosododd am dano lian sach, ac eisteddodd mewn lludw. Yr oedd yr arwyddion allatiol hyn yn dangos ei edifeirwch a'i alar. Adnod 7.—'Ac efe a barodd gyhoeddi, a dy- wedyd trwy Ninefeh, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim na pliorant, ac nac yfant ddwfr.' Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd. Yr oedd y brenin yn teimlo fod y perygl mor fawr fel yr oedd yn rhaid i'r ymos- tyngiad fod yn gyffredinol ac eithriadol. Yr oedd dyn ac anifail i ymprydio. Hen ac ieuanc, gwreng a bonheddig. Nid oedd yr anifeiliaid i bori nac i yfed dwfr, ac yr oedd dyn ac anifail i gael eu gwisgo a sachlen. Adnod 8.—' Gwisger dyn ac anifail a sachlen, a galwant ar Dduw yn lew ie, dychwelant bob un oddiwrth ei ffordd ddrygionus, ac oddiwrth y trawster sydd yn eu dwylaw.' A galwant ar Dduw yn lew. Hyn yn profi dyfnder y teiiulad oedd vn eu nodweddu. Yr oedd yna wahan- iaeth hollol yn ymddygiadau y bobl. Yn lie ymroddi i lythineb a phob drygioni, galwant ar y Duw byw mewn gweddi. A dychwelant bob un oddiwrth ei ffordd ddrygionus. Y mae gweddi yn effeitliiol pan y bydd yn dangos ei hun mewn dychweliad oddiwrth ffordd ddrygionus-troi oddiwrth bechod ymhob ffurf arno. Adnod 9.—' Pwy a wyr a dry Duw ac edifar- hau, a throi oddiwrth angerdd Ei ddig, fel na ddifether ni ? Pwy a wyr a dry Duw ac edifar- hau. Yr oedd y ffaith Ei fod yn rhoddi deugain niwrnod yn sail i obaith. Dywedir fod Duw yn edifarhau pan y mae yn newid yn Ei weinydd- iadau at ddyn. Y mae Duw yn newid pan y mae dyn yn newid. Pan y mae dyn yn edifar- hau, y mae Duw yn troi angerdd Ei ddig oddi- wrtho. Adnod xo.—' A gwelodd Duw eu gweithred- oedd hwynt, droi ohonynt o'u ffyrdd drygionus ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.' A gwelodd Duw eu gweithredoedd, hwynt. Sef gweithredoedd addas i edifeirwch. Oherwydd hynny, ni ddyg- odd arnynt y farnedigaeth a fygythiwyd. New- idiodd y bobl yn eu harfcrion, ac mewn can- lyniad y mae Dnw yn newid yn Ei weinydd- iadau tuag atynt. Peidiodd a dwyn y farn arnynt. Digiodd Jonah yn fawr oherwydd na chyflawn- wyd ei ragfynegiad. Danghosodd Duw iddo ei ffolineb yn digio trwy ei deimlad ei hun yn achos ei gicaion (gwêl iv. 4-18). GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Pwy oedd Jonah ? Pa le yr oedd yn byw ? 2. Pagenhadaethneilltuolaroddoddjehofah iddo i'w chyAawni ? 3. Pa beth a wnaeth Jonah mewn canlvniad i'r gorchymyn cyntaf a gafodd ? 4. Pa beth ddigwyddodd iddo ? Pa fodd v'i gwaredwyd ? 5. Rhoddwch ddisgrifiad o fawredd Ninefeh. 6. Beth oedd sefyllfa foesol y trigolion ? 7. Beth oedd y genadwri a roddwyd i'r proff- wyd, a pha fodd y cyflawnodd ei genadwri ? 8. Pa effaith gafodd ei genadwri ar y bobl ? 9. Ymha ystyr yr ydym i gymeryd yr ymad- rodd, 'Ac edifarhaodd Duw ? 10. Paham y digiodd Jonah ? Pa fodd y dang- hosodd. Duw iddo ei ffolineb ?

.Cwestiwn Syml.

Ysgol Sul Undebol Gymreig…