Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Ambell i Flew-yn Glas Oddiar…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ambell i Flew-yn Glas Oddiar Lechweddau Cwm Rhondda. ,I G AN-!ERERIN. (Par had.) Cyfeiriwyd yn ein herthygl gyntaf at luos- owgrwydd tafarndai y Rhondda, eithr anghof- iwyd yn y man a'r lIe gyfeirio at luosowgrwydd yr eglwysi hefyd. Da gennym am yr adailadau heirdd a berthyn i'r gwahanol enwadau. Y maent yn dynodi parodrwydd i gadw'r lamp i losgi ar waethaf dyliliid y cannoedd tramorwyr i'r cymoedd hyn. Hyderwn mai dylanwad y capel a orfydd yn y pen draw, ac y llwydda i ennill pob newydd-ddyfodiad i goleddu'r un parch tuag at ddydd Daw a phethau'r cysegr ag a goleddid gan y tadau Cymreig Y mae'n rhaid gofalu na lygra arferion drwg foesau da hen genedl y Cymry. Ar nos Sal cefais y fraint o gydaddoli a'r saint yn Sardis, Pontypridd. Clywais ganwaith am yr eglwys hon, ond dyma'r waith gyntaf i mi fod o fewn ei phyrth. Saif y capel mewn man hynod—y drws nesaf i orsaf ac i sinima- dau beth mawr y dyddiau prysur hyn. Y gweinidog, Mr Owen, oedd yn gwasanaethu, a mawr y mwynhawyd ei sylwadau ar y pwys o aros yng nghariad leau. Llongyfarchwn yr eglwys a'r gynulleidfa ar eu hysbryd defosiynol ac ar y naws nefolaidd a dreiddiai drwy'r lie Gresyn ydoedd gweled cynifer yn ddiweddar dyna hen arfor lliaws o fynychwyr ein capeli. Paham y thaid i'r un rhai fod yn ddiweddar ymhob odfa ? Oni ellir gadael yr hen bechod parod hwn o'n heiddom? Yn ddilys ddigon fe'n cynorthwyid drwy hynny i barhau yn ysbryd y ty. Fel y mae pethau yn awr, tynnir sylw'r gynulleidfa at ddyfodiad hwn a'r Hall, ac andwyir yr holl wasanaeth i gyd. Da chwi, weinidogion a diaconiaid, lleddwch yr hen arferiad fflaidd hon. Yn hyn o beth, fel ami i beth arall, y mae eia brodyr, yr Eglwyswyr, ar y blaen. Sancteiddrwydd a wedda i'r cysegr cofier fod Daw yn ei deml, a deuod pobl yno i'w bresenoldeb mewn pryd. Gweinyddwyd Swper yr Arglwydd yn yr odfa gyntaf. Rhyfedd fel yr amrywia'r dulliau o weini'r Oymun Gwell geanyf li yn barsonol y dull hwan w o gydfwyta'r bara a chydyfed y gwin yn hytrach na chaniatau i bob un gymryd o'r bara fel y daw'r diaconiaid heibio. Hawdd eadw'r bara a'r gwin hyd y distawo pob symudiad ac hyd oni ellir cymuno mewn distawrwydd. Da gennyf hefyd am yr arferiad o ddarllen neu adrodd y geiriau hynny a ddefnyddiwyd gan lesu, ac a groniclwyd gan Paul. Teilwng ydynt o'r Cymundeb, a rhodd- ant rhyw bwyslais newydd ar yr ordinhad. Sylwais mewn mwy nag un eglwys nad hawdd yw rhoddi arwydd i'r gynulleidfa pan ddelo'r adeg i gydgyfranogi o'r bara neu i gydyfed o'r cwpan. Paham na ddefnyddid geiriau le-sa Ei Han ? Cyraerwch, bwytewch, hwn yw fy nghorff.' Yr un modd hefyd gyda'r cwpan, onid priodol ydyw'r gorchymyn ?-- Yfwch bawb o hwn.' Cymorth, yn ol fy meddwl i, yw'r cwpanau unigol i ddefosiwn a gweddeidd-dra, a dylasai pob eglwys amcanu at gyrraedd parffaithrwydd ynglya i'r ordin- had bwysig hon. Gedy'r modd y'i gweinyddir hi argraff annileadwy ar y neb a sylwo arni. Yn bersonol, hoff gennyf y dull hwnnw a ddengys rhyw gymaint o arafwch sc o dawel- wch wrth gyflwyno'r cymun i'r gynulleidfa. Gedy'r weddi ddistaw, dawel ac araf ryw ddy- lanwad nefolaidd ar fy ysbryd i Gwelais ami i weinidog go drwsgl yn gweinyddu'r ordinhad (nid felly yn Sardis, cofier); meddyliwn yr ystyriai efe y bara a'r gwin fel rhywbeth hollol gyffredin; mewn gair, fel na byddent amgen na'r bara a'r ddiod a estynnir i'r dieithr-ddyn ar fwrdd y cartref. O! am fwy o ledoeisrwydd ymadrodd ac ymddygiad mewn ambell i wein- idog. A ddarfu cynefino a'r ordinhad ei gwneuthur hi yn beth cyffredin ? Na ato Daw. Ar y cyfau, gweinyddwyd y cymun i foddlon- rwydd yn Sardis, eithr nid yn ol y cynllun a awgrymais i uchod; ni ddisgwylid liynny; rhydd i bob eglwys fabwysiadu ei dull ei hun, ond gofaied am y naws a'r ysbryd priodol, ac na wneled ddica a darta i ffwrdd Lan Ysbryd Daw. Un hawdd ei gyrru ymaith yw'r golomen nefol. Fel hyn y treuliwyd y Saboth. Ba'n ddydd o lawen chwedl i mi. Cefais adnewyddiad ysbryd drwy gydaddoli kg eglwysi eraill, a thrwy weled gwahanol ddulliau o sancteiddio'r dydd yn y cysegr. Un peth arall, a mi a adawaf fy ysgrif. Oni ellir penderfynn-materion eglwysig heblaw yn y gyfeillach nos Sul? Credaf mewn Cynull- eidfaoliaeth, ac mewn hawl pob aelod i ddatgan ei farn, eithr y perygl o droi'r gyfeillach yn 4 gwrdd busnes' yw colli'r naws netolaidd, ac i orffen dydd yr Arglwydd yn swn manylion trefniadau a chasgliadau'r eglwys. Gresyn na ellid sicrhau cwrdd eglwys cryf yn ystod yr wythnos, fel y penderfynid yr holl faterion perthynol i'r achos. Nid teg ychwaith ydyw i ddieithriaid wybod cyfrinach y frawdoliaeth. Meddylier am y pethau hyn. Oni sicrheir cyfieustra amgenaeh, wrth gwrs, rhaid troi'r Sul yn dipyn o was bach.' Pa beth yw barn arall ar y pwnc hwn ? Dyma rai o'r meddyliau a ehedai ataf wrth dreulio Sadwrn a Sal yng Nghwm Rhondda. Bendith y net a fyddo arno ef a'i filoedd bres- wylwyr Dichon y bydd ysgrif fel hon o gymorth i rywun weled ei hunan magis yr ymddengys i arall.

I Eglwys y Pare, Llanelli.I

I GOGLEDD CEREDIGION.