Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Y SABOTH DIRWESTOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y SABOTH DIRWESTOL. At Olygydd y Tyst. SYR,—Yr ydym yn apelio at wladgarwyr a Christionogion i ymuno yn un corff i gydweith- redu i wneud y Saboth Dirwestol, Tachwedd 14eg, 1915, yn amgylchiad a gofir yn hir yn ein bro. Erioed ni bu cyflwr ein gwlad mor ddifrifol, ac y mae hawliau Dirwest wedi eu cyflwyno mewn modd diamwys a phwysleisiol. Beth fydd ateb ein hannwyl wlad? MORRIS MORGAN. Cymanfa Ddirwestol Deheudir Cymru, Irvonia,' Abertawe, Tachwedd 6ed, 1915.
A DDYIJD NEVID CWRS PRESENNOLI…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
A DDYIJD NEVID CWRS PRESENNOL B.D. CYMRU? At Olygydd y Tyst. SYR,—Cyhoeddi rhyfel a wna Dyledwr i Brifysgol Cymru' yn erbyn Groeg, Lladin a Hebraeg fel pynciau gorfodol yn arholiad B.D. Prifysgol Cymru. Yr wyf yn deall fod cryn deimlad mewn mannau ynglyn a'r un pwnc. Wel, yr wyf fi'n wyneb-agored yn tystio y dylai yr ieithoedd gael y lie a gant yn yr arholiad, ac mi ddywedaf paham. Mi ddechreuaf lie y gorffen ef. Fy nghri yw,' meddai, llai o sylw i iaith, a mwy i syniadau.' Atolwg, ymhle y ceir syn- iadau ond mewn iaith ? A gawsoch chwi erioed hyd yn oed yn nyfnder eich meddwl eich hun afael mewn syniad noeth ? Nid wyf yn meddwl. Nid wyf yn dywedyd dim newydd chwaith pan ddywedaf mai meddylwyr mwyaf y byd ydyw'r ieithwyr gloywaf hefyd. Ond mi gredaf mai'r ystyr a fwriadai ef i'w osodiad moel ydyw y dylai gallu darllen a deall Saesneg gario dyn drwy'r B.D. Fy niarn innau ydyw mai tlawd rhyfeddol yw gwr dwbl radd na allo ddarllen meddwl neb ond mewn Saesneg. Mwy na hynny, yr wyf yn meddwl na chyfrifir dyn yn Sais diw- ylliedig. oni bydd wedi ei rdwytho'n weddol yn yr ieithoedd clasurol. Lionel Johnson, onite, a roddes ddiffiniad o fonheddwr fel' The nian who knows Greek.' Cofier eto mai wedi graddio'n y Brifysgol y dechreuir gwaith y B.D. Cwrs llen- yddol ydyw cwrs y B.A. A chaniatau nad yw wedi llwytho'i feddwl a syniadau wrth ddysgu clasuron Rhufain, a Groeg a Chymru, &c., yn sicr fe ddylai erbyn hyn fod wedi dysgu darllen fel y gallo lwytho ei hun a syniadau heb ymdroi gormod gyda gramadeg.' Os nad yw, pa ystyr sydd i B.A. o gwbl ? Yn awr, fe ddylai gwr o B.D. fedru darllen ei Feibl yn yr iaith yr ysgrifennwyd ef. Nid wyf yn dywedyd fod hyn yn hanfodol i bob preg- ethwr. Mi wn i am frodyr annwyl sydd yn broff- wydi na allant fwynhau darllen y Testament Groeg. Eithr ni chymerant arnynt wneuthur hynny chwaith. Ond y mae'r gwr o B.D. yn honni ei fod yn ddiwinydd. Beth ydyw diwin- yddiaeth ? Gwyddoniaeth Duw,' ebr rhywun. Ie, ac y mae'r Duw hwnnw wedi llefaru drwy'r proffwyd ac yn y Mab. Cymharol ychydig ydyw geiriau'r proffwydi, ac mi addefaf yn rhwydd nad gwaith hawdd ydyw dyfod yn ddigon o Hebrewr i fwynhau'r Salmau ac Esaialx yn Heb- raeg. Eto nid wyf yn deall pa hawl sydd gan ddyn honni y gwyr am Wyddoniaeth Duw heb ddeall gair o enau Ei broffwydi. Ni adawn yr Hen Destament ar hynyna. Yr ydym yn ein cyhoeddi'n hunain yn ddilyn- wyr Iesu, ac yn cyffesu mai Efe ydyw Unig- anedig Fab y Tad—' yn wir lun Ei Berson Ef.' Mawr yw "dirgelwch duwioldeb, Duw a ym- ddanghosodd yn y cnawd '—dirgelwch, fel y dywedodd Tudno, na fedr golau gwelw'r oes ei eglurhau. Y mae'n calon yn cynhesu wrth feddwl bod ychydig—ychydig iawn, y mae'n wir—o eiriau o enau Hwn ar gael yn un o ieith- oedd y byd. Gyda llaw, onid yw'n rhyfedd mai'r Hen Destament yw'r unig len o bwys yn yr iaith Hebraeg, a'r Testament Newydd hefyd ydyw'r unig len o bwys yn ei iaith yntau—canys nid Groeg clasurol ydyw. Dyna ysbrydoliaeth wedi cael dwy o ieithoedd y ddaear iddi ci hun I Yn awr fe ddysg dyn o gyrhaeddiadau gweddol ddarllen iaith geiriau Crist a'r apostolion yinhen ryw chwe mis o amser; ac unwaith y dysg dyn ddarllen felly, nid yw byth yn fodlon ar un cyf- ieithiad wedyn. Y mae rhywbeth yn y Geiriau en hunain, a welwch chwi ? Felly, a ddylai gwr na thai gymaint o wrogaeth i'r Mab a dysgu darllen Ei Eiriau Ef Li Hun drwy mor ychydig o lafur, hysbysebu ei hun fel doethor mewn diwinyddiaeth ? Atebed a sawl a fynno. Gyda llaw, camgymeriad ydyw dywedyd fod Lladin yn un o bynciau'r B.D. Fe ddarllenir gweithiau Lladin syml, y mae'n wir. Ond fe ddarllenir mwy o rai Saesneg. Ond ni ddywedir am hynny fod Saesneg yn un o bynciau'r B.D. Ac fe ddylai unrhyw un a wnaeth flwyddyn o Ladin yng ngwaitli ei B.D. wneuthur y cwbl yn hwylus. Y mae cryn dwrw ar hyd yr amser am wneuthur y B.D. yn haws i'w hennill. Nid yw'r gri heb ei dylanwad chwaith. Er's dwy neu dair blynedd yn ol fe wnaed cyfnewidiadau pwysig yn y B.D. Yr wyf fi, fel un o'r old guard, yn naturiol yn hiraethu am ddyddiau euraidd yr arholiad. Wrth gwrs, gwneuthur y B.D. yn fwy defnyddiol a ddywedid, ond y gwir ydyw, rhy galed ydoedd yr hen B.D. i'w hennill fel yr ydoedd, ac ychydig oedd y rhai oedd yn ei chael hi. Y mae'r cyfnewidwyr en hunain rai ohonynt wedi cyffesu hynny wrthyf. Fe all gwneuthur hynny fod yn iawn, ond y gwir ydyw'r gwir er hynny. Dyrna rywbeth tebyg iawn i ymgais arall i'w gwneuthur yn haws eto. Yn ol barn Dyledwr,' ni ddylai astudio Gwyddoniaeth, er enghraifft, roddi gradd mewn diwinyddiaeth allan o gyrraedd y gwyddonydd. O'r goreu. Beth pe troem y dywediad o chwith. Felly ni ddylai astudio'r Testament Newydd roddi gradd mewn Gwyddoniaeth allan o gyrraedd y diw- inydd yntau. Cofier, ini hoffwn i 'n fawr wybod pob gwyb- odaeth.' Bywydeg ydyw un o'r pynciau, yn ol Dyledwr,' a ddylai balmantu'r ff-ordd i'r B.D. Peth digon handy, ys dywed Tomos Bartley, ydyw hwnnw fe gaffai dyn wybod y ffordd y treulia'r cylla bacon and eggs felly, ond y mae ei gysylltiad a diwinyddiaeth yn amheus. Peth digon handy i bregethwr (yn enwedig gynt) oedd bod yn dipyn o feddyg. Yr oedd yr hen Jenkins, Moriah, Rhyiniii, yn feddyg. Y mae cyffur yn y lie yma'n awr wrth yr enw eli Jenkins, eithr ni chlywais i ddim i neb oherwydd hynny ddan- fon hyd yn oed i'r Cyfandir mawr am radd ddiwinyddol iddo. Y mae'n amlwg nad oedd yr eglwys, oedd yn ei garu mor fawr, wedi cysylltu r eli a'i ddiwinyddiaeth. Yr wyf yn gallu gweled fod y gwr sydd yn rhagori mewn Gwyddoniaeth yn gorfod cadw B.D. ymhell oddiwrtho. Y mae'r un peth yn wir am Wyddoniaeth i'r Diw- inydd. Un yw safon B.D., arall ydyw safon B.Sc. A safonau i ddringo tuag atynt ydyw'r ddau, ac nid wyf yn gweled unrhyw reswm dros dynnu'r B.D. i lawr i bincio cynffon neb nad yw'n foalon talu ei phris ei hun am dani. Yr wyf, cyn gorffen, am ddywedyd yn eglur nad wyf yn dibrisio astudio'r pethau eraill y rhydd Dyledwr bwys arnynt, megis Social Science, Athroniaeth Crefydd, &c. Y maent yn bethau y rhaid eu gwybod. Pa un a ddylent fod yng nghwrs y B.D. ai peidio sy bwnc arall. Mi wn hefyd fod awdurdodau colegau diwinyddol yn goedaidd o anhyblyg yn ami wrth drefnu cwrs rhagbaratoawl y B.A. Fe ddylai'r bechgyn yn ami gael dilyn mwy o dueddfryd eu meddyliau a'u hathrylith eu hunain, yn enwedig yn y flwyddyn olaf. Byddent yn fwy gwasanaethgar i'w heglwysi a'u cenedl yti ami pe byddai'r awdurdodau y sydd yn llai deddfol, yn fwy dynol, ac yn fwy ystwyth eu cefnau. Ydwvf, Syr, yn gywir iawn, Rliymni. FRUD J ONIvS.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DAVIES'S GOUGHMIXïURE I PESWCH I PBSWCH Ni r&id i neb ofni caolyniadau Anwyd a tneswcb oLd gofalu fod potelaid o Davies's Cough Mixture yn y tf Bydd pob dyn yn foddyg i'w deula at holl anhwyl- derau y Gwddi a'r Frest, os bydd Davies's Cough Mixture wrth law. Y mae miloedd lawer wedi cael iachad ac yn gwneud eu goreu i'w gymell ar eraill sydd yn dioddef. Ni raid cymeryd ond UN D08B ar profi ei ddylan wad uuion- ongyrchol er rhyddhau y Phlegm, yn clirio y Llais, yn oynhesu ac yn oryfhau y Frest, gan weithio pob Anwyd a Chrygni ymaith. DAVIES'S COUGH MIXTURE at BESWCH. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ANWYD. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ASTHMA. Os gwyddoch am rywun yn dioddef oddiwrth Beswch a Bronchitis, anrhegwoh ef a photelaid o OOUGH MIX TrBB HUGH DAVIES, ao fe'ch bendithio ryw ddydd. la lie a 2s 9c y botel. J HUGH DAVIES, CHEMIST, MAOHYNLLETH,
IColeg Coffa Aberhonddu.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Coleg Coffa Aberhonddu. Daeth myfyrwyr y Coleg uchod ynghyd ar y 5ed o Hydref i ddechreu tymor arall. Ar yr aehlysllr traddodwyd anerchiad agoriadol iddynt gan yr Athro D. Miall Edwards, M.A. Testyn yr anerchiad oedd, Rhai Adolygiadau ar yr Argyfwng.' Derbyniol efallai gan darllenwyr y TYST fyddai cael braslun o'r hyn ddy wedwyd. Atgofiwyd ni o'r perygl i'r delfrydau uchel a feddem pan dorrodd y rliyfel allan ddirywio, oblegid tuedd ysbryd rhyfelgar yw materoli del- frydau. Onid oes perygl i'r delfrydau uchel a fu'n seinio corn y gad i gannoedd, sef sel dros ryddid ac iawnderau cenhedloedd bychain, megis Belgium a Serbia, wanliau, ac i ysbryd rhyfel er mwyn rhyfela gymeryd eu lie ? Y mae ar y wlad gymaint o angen y proffwyd heddyw ag erioed-un a ddeil o flaen y bobl y delfrydau aruchelaf—un a bwysleisia hawl yr ysbrydol ar fywyd. Pa betlx yw dyledswydd yr EgIwys a Christ- ionogaeth yn yr argyfwng ? Gelwir ami i wynebu anawsterau newydd. Gofynnir gyda difrifwch newydcl a phryder dwys y paham' a'r pa fodd o berthynas i'n credo, Ysgydwir oddiam rai hynny o gredo a fu ganddynt, gan eu gadael yn amheuwyr noeth eithr estynna eraill eu gwraidd yn ddyfnach i'r anweledig a'r digyf- newid. Wele, yute, yn yr argyfwng gyfle i'r Eglwys wneud cychwyniad newydd. Rhaid yw iddi wynebu'r byd a ffydd ehangach-ffydd a fyddo cyn lleted a bywyd. Rhaid i'w ffydd fod iddi, nid yn addurn, ond yn gyfrwng gwaith. Gweithied yn ddifefl er sicrhau heddwch cyff- redinol-heddwch yn seiliedig ar dadolaeth Duw a brawdoliaeth dyn. Boed ei hergyd at ddaros- twng ysbryd rhyfel, ac at godi baner wen heddweh a thangnefedd. Rhaid yw iddi wrth ffydd gref yn ei chenhadaeth. Os dywed fod hyn yn amhosibl, a hanner y ffordd drwy hynny i gyfiawnhau y gosodiad o'r tu arall, os dywed fod hyn yn bosibl, bydd ymhell ar y ffordd i sylweddoli ei delfrydau. Peth arall a ddylid wneud yw gweithio'n ddiwyd er sicrhau Eglwys fyd-eang—Eglwys a dyr dros derfynau enwad, cenedl a chyfandir. Dylai'r Hglwys fod yn fan cyfarfod y cenhedl- oedcl-yn gyfrwng i uno'r cenhedloedd. Yn ei sefyllfa bresennol, nis gall fod felly. Cyfyngodd arni ei hun a therfynau na ddylai fodoli. Ynghyda hyn, dylai'r Eglwys fabwysiadu yr hyn sydd oreu yn ysbryd y rhyfel, sef yr ysbryd hunanaberthol sydd amlycec1 ar faes y gad. Gedy'r masnachwr ei fasnach, y gweithiwr ei waith, yr ysgolhaig ei lyfrau yn hollol ddi- rwgnach, a wy neb ant yr anghysur a pheryglon y ffosydd yn Fflanders a lleoedd cyffelyb er mwyn eu gwlad. Oni ddylai'r Eglwys feddu r cyfryw ysbryd yn ei hymdrech ddiball yn erbyn teyrnas y tywyllwch ? Buan y gwelid cyfnew- idiad pe danghosid ym mywyd yr Eglwys yr ysbryd aberthol hwnnw a welir heddyw ar faes y gwaed. Oblegid yn ddiau, o gymhwyso geir- iau'r Esgob Butler, a lefarwyd ganddo am gyd- wybod, at yr Eglwys Pe meddai gryfder fel y medd iawnder, pe meddai allu fel y medd awdurdod amlwg, llywodraethai'r byd yn hollol.' Derbvniwyd pump o'r newydd i'r Coleg uchod eleni, sef Mri. H. O. Williams, Brynaman D. E. Evans, Mydroilyn, Aberaeron R. M. Good- field, Caerffili; R. D. Thomas, Abercrave a G. J. Evans, Castellnedd. Gorffen y myfyrwyr a ganlyn eu cwrs athrofaol eleni :-Mri. O. J. Francis, B.A., George Lewis, B.A., D. J. Davies, B.A., D. M. Thomas, R. n. Jenkins, B.A., a D. W. Edwards, B.A. Da gennym ddweyd fod yr olaf a ennwyd wedi derbyn galwad o Ben- main, sir Fynwy, ac wedi ei hateb yn gadarnhaol. Cymer yr ordeiniad le ddydd LIun, Tachwedd 15fed, 1915. Y mae'r myfyrwyr sydd yn gorffen eleni (gydag eithrio Mr. D. W. Edwards, B.A.), felly yn agored i dderbyn galwadau. Dymunwn fel myfyrwyr y Coleg Coffa ddiolch yn gynnes i'r holl eglwysi am eu cynhorthwy iddynt ymhob ystyr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, ac hyderwn y cawn eu cynhorthwy eto yn ystod y tymor sydd yn ein hwynebu. Gellir gwneud hynny yn effeithiol drwy i'r eglwysi barhau yn eu cyfraniadau at y Coleg, a thrwy roddi i ni gyfle i wasanaethu ar y Sul pan fydd angen ein gwasanaeth. Danfoner pob goheb- iaeth parthed supplies at Mr. D. Martin Thomas, ysgrifennydd y supply class, Coleg Coffa, Aber- honddu.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
PENIEL, PBNRHOS.—Hydref 14eg, pregeth- wyd gan y Parch Ogwen Griffiths Port Talbot, yng nghyrddau hanner-blynyddol yr eglwys uchod. Casglwyd dros £40